Atgyweirio cydrannau plastr ffibrog addurnol cymhleth
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dethol a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar ac atgyweirio cydrannau plastr ffibrog addurnol
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol plastro a gall gweithwyr adeiladu, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dehongli'r wybodaeth a roddir sy'n ymwneud â'r gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
- cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a roddir a'r canllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
- dethol y nifer a'r ansawdd gofynnol o adnoddau ar gyfer y dulliau gweithio
- cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal gyfagos
cydymffurfio â'r wybodaeth gontract a roddir i gyflawni'r gwaith yn effeithlon yn ôl y fanyleb ofynnol
cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd, yn unol â'r rhaglen waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth
K1 y gweithdrefnau sefydliadol a ddatblygwyd i adrodd a chywiro gwybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, a sut y cânt eu gweithredu
K2 y mathau o wybodaeth, eu ffynhonnell a sut y cânt eu dehongli
K3 y gweithdrefnau sefydliadol i ddatrys problemau â'r wybodaeth a pham ei fod yn bwysig eu bod yn cael eu dilyn
*
*Meini Prawf Perfformiad 2
Arferion gwaith diogel
K4 lefel y ddealltwriaeth y mae'n rhaid i weithredwyr ei chael o wybodaeth ar gyfer deddfwriaeth berthnasol, gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut y caiff ei gweithredu
K5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K6 y gweithdrefnau diogelwch sefydliadol ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
K7 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer riportio damweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud yr adroddiad
K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
K9 sut i gydymffurfio ag arferion gweithio sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn diwallu deddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol
**
Meini Prawf Perfformiad 3
Dethol adnoddau
K10 y nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K11 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut yr adroddir am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau
K12 y gweithdrefnau sefydliadol i ddethol adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut y cânt eu defnyddio
K13 y peryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut y cânt eu goresgyn
Meini Prawf Perfformiad 4
Lleihau'r risg o ddifrod
K14 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K15 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut y caiff ei gyflawni
Meini Prawf Perfformiad 5
Diwallu manyleb y contract
K16 sut mae dulliau gweithio, i ddiwallu'r fanyleb, yn cael eu cyflawni a sut y dylid adrodd am broblemau
K17 sut mae gwaith cynnal a chadw offer a chyfarpar yn cael ei wneud
Meini Prawf Perfformiad 6
Amser wedi'i ddyrannu
K18 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud yn yr amser amcangyfrifedig, dyranedig a pham y dylid cadw at derfynau amser
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Meini Prawf Perfformiad 1
1 dehongli lluniadau, manylebau, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud
Meini Prawf Perfformiad 2
2 osgoi risg trwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir sy'n ymwneud â'r dilynol
2.1 dulliau gweithio
2.2 defnydd diogel o gyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
2.3 defnydd diogel o gyfarpar mynediad/platfformau gweithio
2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd
Meini Prawf Perfformiad 3
3 dethol adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
3.1 deunyddiau, cydrannau a ffitiadau
3.2 offer a chyfarpar
Meini Prawf Perfformiad 4
4 diogelu'r gwaith a'r ardal gyfagos rhag difrod
5 lleihau difrod a chynnal lle gweithio glân
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
Meini Prawf Perfformiad 5
7 arddangos sgiliau gwaith i arolygu, mesur, amlinellu, tynnu, atgynhyrchu, gosod, lleoli, sicrhau a gorffen
8 defnyddio a chynnal offer llaw, offer pŵer cludadwy ac offer ategol
9 paratoi arwynebau cefndirol, cymysgu plastr castio, cymryd gwasgfa thicsotropig (argraff) ac atgyweirio un o'r cydrannau gwaith plastr ffibrog addurnol cymhleth dilynol hyd at gyfarwyddiadau gweithio penodol
9.1 cornisiau
9.2 dadoau
9.3 sgertins
9.4 paneli
10 clymu cydrannau plastr ffibrog yn ôl i'r strwythur
Meini Prawf Perfformiad 6
11 cwblhau eich gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig, dyranedig i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill ac/neu y cleient
Gwybodaeth Cwmpas
Gwaredu gwastraff
1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau sefydliadol, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Argyfyngau
2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol wrth ymwneud â
2.1 thanau, colledion, anafiadau
2.2 argyfyngau'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
Peryglon
3 y rhai hynny a nodir trwy asesiad risg, dull gweithio, gwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
4 a nodir gan egwyddorion diogelu ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith ac amgylchedd gwaith cyffredinol
4.1 mesurau amddiffynnol ar y cyd
4.2 offer diogelu personol (PPE)
4.3 offer diogelu anadlol (RPE)
4.4 gwyntyllu egsôst lleol (LEV)
Gwybodaeth
5 lluniadau, manylebau, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a rheoliadau cyfredol sy'n rheoli adeiladau
Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
6 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr ynghylch damweiniau posibl, peryglon iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, islaw lefel y ddaear, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar, â deunyddiau a sylweddau, â symud/storio deunyddiau a thrwy trin â llaw a chodi mecanyddol
Cynnal a Chadw
7 gofal gweithredol o offer llaw, offer pŵer cludadwy ac offer ategol
Dulliau gweithio
8 cymhwyso gwybodaeth ar gyfer arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach sy'n ymwneud â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir
8.1 paratoi arwynebau cefndirol
8.2 cymysgu plasteri castio
8.3 cymryd argraffiadau, gan gynnwys gwasgfeydd thicsotropig
8.4 atgyweirio cydrannau plastr ffibrog addurnol cymhleth
8.5 clymu cydrannau plastr ffibrog yn ôl i'r strwythur
8.6 atgynhyrchu mowldiadau
8.7 atgyfnerthu o amgylch ardaloedd sydd wedi'u difrodi
8.8 cydnabod a phenderfynu pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol ac adrodd yn unol â hynny
8.9 deall gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol (cyn 1919) ac arwyddocâd hanesyddol
8.10 defnyddio offer llaw, offer pŵer cludadwy ac offer ategol
8.11 gweithio ar uchder
8.12 defnyddio cyfarpar mynediad/platfformau gweithio
9 gwaith tîm a chyfathrebu
10 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â phlastro ffibrog
Problemau
11 y rhai hynny sy'n deillio o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
11.1 eich awdurdod eich hun i unioni
11.2 gweithdrefnau adrodd sefydliadol
Rhaglen
12 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig
13 gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith
Diogelu gwaith
14 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw
Adnoddau
15 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar sy'n ymwneud â mathau, nifer, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd
15.1 plasteri castio, deunydd atgyfnerthu, pren, a gosodiadau
15.2 cyfryngau rhyddhau
15.3 rwber thicsotropic
15.4 dŵr glân
15.5 offer llaw, offer pŵer cludadwy ac offer ategol
16 dulliau cyfrifo nifer, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn i atgyweirio cydrannau plastr ffibrog addurnol cymhleth
Gweithdrefnau diogelwch
17 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr