Cadw, adfer neu ôl-osod strwythurau pridd

URN: COSVR828
Sectorau Busnes (Suites): Sgiliau Treftadaeth (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 30 Meh 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â chadw, adfer neu ôl-osod strwythurau pridd, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, yn unol â gofynion y sefydliad sy’n cyfateb i’r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu’n rhagori arnynt
 
Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol sgiliau treftadaeth a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


Dehongli gwybodaeth
P1  dehongli’r wybodaeth am y gwaith a’r adnoddau fel sy’n berthnasol i leoliad daearyddol a’r amodau hinsawdd i gadarnhau ei bod yn berthnasol ar gyfer y canlynol:

  • lluniadau
  • manylebau
  • rhestrau
  • datganiadau dull
  • asesiadau risg
  • gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr
  • cyfarwyddiadau llafar, ysgrifenedig neu electronig
  • rheoliadau, deddfwriaeth, canllawiau swyddogol a thrwyddedau cyfredol

Arferion gwaith diogel
P2  cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol berthnasol a chanllawiau swyddogol i wneud y gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach am y canlynol:

  • dulliau gweithio
  • defnyddio cyfarpar diogelu personol priodol yn ddiogel 
  • defnyddio cyfarpar mynediad neu godi yn ddiogel
  • defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
  • defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
  • risgiau penodol i iechyd a diogelwch galwedigaethol gan gynnwys ymwybyddiaeth o iechyd meddwl
  • risgiau penodol sy’n gysylltiedig â deunyddiau peryglus neu rai sy’n cynnwys asbestos

Dewis adnoddau
P3* * dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio ar gyfer y canlynol:

  • deunyddiau a chydrannau
  • offer a chyfarpar

Lleihau'r risg o ddifrod
P4  cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas drwy:

  • gymryd camau perthnasol i ddiogelu’r mannau gwaith rhag difrod damweiniol neu anfwriadol
  • gweithio gydag ymwybyddiaeth o’r amgylchedd mewn cysylltiad â galwedigaethau eraill
  • cadw'r man gwaith yn lân ac yn daclus
  • gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

*
Bodloni gofynion y contract
*P5  cydymffurfio â’r wybodaeth gontract i warchod, adfer neu ôl-osod strwythurau pridd yn effeithlon yn unol â’r fanyleb ofynnol drwy:

  • ddangos sgiliau gwaith adeiladu pridd a thywyrch i wneud y canlynol:

    • dethol
    • mesur
    • uchaf
    • cymysgu
    • ffitio
    • gorffeniad
    • torri
    • gosod
    • lleoli
    • gosod
  • defnyddio a chynnal a chadw offer llaw ac offer pŵer a chyfarpar ategol

  • gwarchod, adfer, atgyweirio, cynnal a chadw neu ôl-osod strwythurau pridd drwy wneud y canlynol:

    • arsylwi, cofnodi ac adrodd ar gyflwr y strwythur ac unrhyw ddiffygion
    • gosod gorchuddion dros dro
    • arsylwi ar waliau gwlyb yn sychu
    • rhoi cleddau llorweddol ar waith
    • creu agoriadau newydd:

    • mewnosod a ffitio linteli

    • platiau

    • llenwi tyllau a chraciau gyda deunydd pridd, gwaith maen

    • cysylltu hen strwythurau pridd a deunyddiau gyda rhai newydd
    • cysylltu gwaith coed a phridd
    • rhoi gorffeniadau arwyneb
  • ac o leiaf ddau o’r canlynol:

    • diogelu neu bropio strwythur 
    • atgyweirio o dan neu atgyfnerthu’r strwythur presennol
    • ailadeiladu systemau gwaith maen neu fonolithig
    • gosod plastrau aberthol i gael gwared ag ewlychiad
    • mynd ar ôl neu ymgorffori gwasanaethau (pibelli, blychau, gosodiadau)
    • gosod deunyddiau insiwleiddio (pridd ysgafn)

    • â llaw neu

    • â pheiriant


Amser a neilltuwyd
P6  cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd, gan ystyried yr amodau hinsawdd, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad, y rhaglen waith ac i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


P1 Dehongli gwybodaeth
K1  pam mae gweithdrefnau’r sefydliad wedi cael eu datblygu a sut maent yn cael eu rhoi ar waith

K2  mathau o wybodaeth, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli mewn perthynas â:

  • lluniadau
  • manylebau
  • rhestrau
  • datganiadau dull
  • asesiadau risg
  • gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr
  • gwybodaeth gytundebol
  • deddfwriaeth, rheoliadau, canllawiau swyddogol a thrwyddedau cyfredol, gan gynnwys adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt
  • cynlluniau ac adroddiadau cadwraeth
  • cyfarwyddiadau llafar, ysgrifenedig neu electronig

K3  pwysigrwydd gweithdrefnau sefydliadol o ran datrys problemau â gwybodaeth a pham mae’n bwysig eu dilyn

K4  gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol, gyfredol, canllawiau swyddogol a gofynion penodol i safle a sut mae’n cael ei rhoi ar waith

P2 Arferion gwaith diogel
K5  sut dylid ymateb i argyfyngau yn unol ag awdurdodiad y sefydliad a sgiliau personol o ran y canlynol:

  • tanau a’r mathau o gyfarpar diffodd tân a sut a phryd y cânt eu defnyddio o ran dŵr, CO2, ewyn a phowdr
  • gollyngiadau ac anafiadau
  • argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
  • nodi ac adrodd am sylweddau peryglus gan gynnwys deunyddiau sy’n cynnwys asbestos a charbonad plwm, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny

K6  y gweithdrefnau diogelwch sefydliadol a phenodol i safle ar gyfer offer, peiriannau a chyfarpar mewn perthynas â’r canlynol:

  • safle
  • gweithle
  • cerbydau
  • cwmni
  • gweithwyr
  • cleientiaid
  • y cyhoedd

K7  sut mae rhoi gwybod am risgiau a pheryglon a nodwyd gan y canlynol:

  • dulliau gweithio
  • asesiadau risg
  • asesiad personol
  • gwybodaeth dechnegol gwneuthurwyr
  • rheoliadau statudol
  • canllawiau swyddogol
  • Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

K8  y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K9  pam, pryd a sut y dylid defnyddio’r cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch a nodir gan egwyddorion atal mewn perthynas â’r canlynol:

  • mesurau diogelu ar y cyd
  • cyfarpar diogelu personol (PPE)
  • cyfarpar diogelu anadlol (RPE)
  • awyru lleol sy'n gwacáu mygdarth (LEV)

K10  sut mae cydymffurfio ag arferion gwaith sy’n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni’r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol wrth ddelio â damweiniau posibl, peryglon i iechyd a’r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle mewn perthynas â’r canlynol:

  • dan lefel y ddaear
  • lleoedd cyfyng
  • gweithio mewn mannau uchel
  • offer, peiriannau a chyfarpar
  • deunyddiau a sylweddau
  • symud a storio deunyddiau drwy eu codi a’u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

P3 Dewis adnoddau
K11  pam mae nodweddion, ansawdd, defnydd, cynaliadwyedd, addasrwydd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau yn bwysig, a sut dylid rhoi gwybod am ddiffygion

K12  pam y dylid mabwysiadu arferion gwaith a deunyddiau cynaliadwy a moesegol

K13  y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer dewis adnoddau, pam maen nhw wedi cael eu datblygu a sut mae eu defnyddio

K14  sut mae cadarnhau bod yr adnoddau a’r deunyddiau’n cydymffurfio â’r fanyleb

K15  sut dylid defnyddio'r adnoddau a sut mae rhoi gwybod am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau ynglŷn â'r canlynol:

  • agregau, bio agregau, ffibrau, pridd, deunyddiau rhwymo, deunyddiau gorffeniad, tywyrch, elfennau gwaith maen, cymysgeddau adeiladu
  • geo grid a rhwyll wifrog
  • linteli, platiau, systemau rhyngwyneb a deunyddiau eraill
  • ffitiadau
  • offer llaw ac offer pŵer a chyfarpar ategol i wneud y canlynol:

    • cymysgu
    • torri
    • codi
    • gosod
    • gosod pethau yn eu lle
    • cywasgu
  • cyfarpar digidol

  • canfod a defnyddio cynhyrchion pridd mewn ffordd gyfrifol
  • pren, deunydd dalennog wedi'i weithgynhyrchu, calch
  • dewis deunyddiau hydraidd anweddol i gynnwys paent a mathau eraill o gladin (gorffeniadau wyneb)
  • plastrau aberthol

K16  sut mae nodi ac adrodd ar y peryglon sy'n gysylltiedig â’r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut maent yn cael eu rheoli mewn perthynas â datganiadau dull ac asesiadau risg

K17  dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a
gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a’r weithdrefn ar gyfer cadw, adfer neu
ôl-osod strwythurau pridd


P4 Lleihau'r risg o ddifrod
K18  sut mae diogelu gwaith a’r ardal o’i gwmpas rhag difrod a phwrpas diogelu rhag gweithgareddau cyffredinol yn y gweithle, gweithrediadau eraill a thywydd garw a sut mae lleihau difrod

K19  pa mor bwysig yw gwaredu gwastraff yn ddiogel, a sut mae gwneud hynny, yn unol â’r canlynol:

  • cyfrifoldebau amgylcheddol
  • gweithdrefnau’r sefydliad
  • gwybodaeth gwneuthurwyr
  • gwybodaeth cyflenwyr
  • rheoliadau statudol
  • canllawiau swyddogol

K20  pam mae’n bwysig cynnal ardal waith ddiogel, glir a thaclus

P5 Bodloni manyleb y contract

*
*
K21  sut mae’r dulliau gweithio i fodloni’r fanyleb yn cael eu cyflawni a sut mae problemau’n cael eu nodi a’u hadrodd drwy ddefnyddio gwybodaeth ar gyfer arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel, iach ac amgylcheddol sy’n ymwneud â’r canlynol:

  • hyblygrwydd a gwahanol rinweddau gwahanol fathau o adeiladau:

    • más
    • ffrâm
    • cywasgedig
    • ysgafn
    • gwaith maen
    • pridd
    • tywyrch
  • dwysedd amrywiol a’i effaith ar ddargludedd thermol

  • y materion sy’n effeithio ar dechnegau traddodiadol a modern: ar gyfer adeiladu â phridd:

    • daearegol
    • daearyddol
    • diwylliannol
  • sut mae dewisiadau o orchuddion ar gyfer diogelu cyn, yn ystod ac ar ôl adeiladu yn helpu neu'n atal y broses sychu

  • ffiseg adeiladu ac ymddygiad strwythurol:

    • sut mae lleithder a gwres yn symud drwy wahanol ddeunyddiau (hydredd anweddol)
    • sut mae adeiladau â waliau solet yn gweithio
    • cydnawsedd ychwanegiadau gyda'r strwythur presennol
    • ffactorau sy’n effeithio ar ansawdd aer dan do, fel:

    • lleithder

    • CO2
    • cyfansoddion organig anweddol (VOCs)
  • amhriodoldeb a chanlyniadau defnyddio rendradau sment ar ddeunyddiau hydraidd anweddol

  • pryd i symud deunyddiau sydd wedi dirywio a rhai amhriodol
  • pa mor amhriodol yw defnyddio insiwleiddiad hydraidd an-anweddol ar ddeunyddiau hydraidd anweddol, a chanlyniadau gwneud hynny
  • pam ei bod yn bwysig arsylwi, cofnodi ac adrodd ar y canlynol:

    • cyflwr y strwythur
    • sychu waliau gwlyb
    • diffygion, prolemau ac amodau a phatholegau sylfaenol
  • pam fod angen atgyweirio o dan strwythurau presennol neu eu hatgyfnerthu

  • sut mae creu gorffeniadau arwyneb a gwneud a rhoi triniaethau ac atgyweiriadau ar arwynebau
  • y gwahaniaeth rhwng effeithlonrwydd ynni a chynaliadwyedd mewn strwythurau pridd
  • pryd i ddefnyddio plastrau aberthol i gael gwared ag ewlychiad
  • pryd i roi cleddau llorweddol ar waith
  • cymhareb uchder a lled (meinder) yn y cyflyrau llaith a sych, i gynnwys pa mor uchel i adeiladu yn unol â’r dechneg ranbarthol, y tywydd ac amodau’r safle
  • effaith dŵr daear ar sylfeini strwythurau pridd, a sylfeini waliau
  • materion sy’n ymwneud â sgaffaldiau, gan gynnwys:

    • gosod
    • dŵr yn ôl-dasgu
  • y gwahanol ddulliau o gysylltu hen strwythurau pridd, deunyddiau a gwaith coed gyda rhai newydd

  • dyma rai o’r gwahanol fathau o agoriadau:

    • fframiau
    • linteli
    • siliau
  • sut mae creu a ffurfio agoriadau i gynnwys:

    • mewnosod a ffitio linteli
    • platiau
  • sut mae adnabod diffygion, arwyddion o anffurfiad a chwympau neu gylchlithro,

  • sut mae atal diffygion, arwyddion o anffurfiad a chwympo neu gylchlithro
  • effaith sychu ar gyflymder gwaith adeiladu
  • dulliau o brofi a rheoli cynnwys lleithder (ar y safle neu’r labordy)
  • y broses sychu a chrebachu
  • difrod i strwythurau pridd gan gynnwys:

    • craciau
    • colli deunydd
    • diraddiad
    • anffurfio
    • gwyro
  • pryd i gael cyngor gan beiriannydd strwythurol

  • sut i atal difrod dŵr a sgraffinio
  • technegau atgyweirio neu ailadeiladu, gan gynnwys:

    • gwaith maen
    • systemau monolithig
    • eraill
  • atgyweirio deunyddiau gan gynnwys:

    • brics wedi’u llosgi a brics heb eu tanio
    • cerrig
    • morterau
    • ffibrau
    • clymau
    • bar wedi’i edafu
    • rhwyll
  • adeiladu ffurfwaith a fframiau

  • gorffeniadau, insiwleiddiad thermol, aerglosrwydd a diogelu rhag lleithder
  • trin y canlynol:

    • agoriadau
    • lloriau
    • ymylon
    • pennau waliau
  • sut mae diogelu a phropio strwythurau sydd wedi’u difrodi a gorchuddion dros dro

  • pam ei bod yn bwysig cynnal treftadaeth a chyfanrwydd archaeolegol
  • pam bod angen cynnal egwyddorion ymyrraeth sylfaenol a newidiadau gwrthdroadwy
  • pam fod angen cofnodi gwaith a wneir (mewn fformat ysgrifenedig a digidol)
  • pam ei bod yn bwysig adnabod planhigion ac anifeiliaid a warchodir a rhoi gwybod amdanynt (gwenyn mortar)
  • pam ei bod yn bwysig storio ffabrigau, deunyddiau a chydrannau strwythurol y gellir eu hachub
  • pam ei bod yn bwysig nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol, ac adrodd yn briodol ynghylch hyn
  • perthnasedd asesiad o arwyddocâd
  • pam ei bod yn bwysig pennu gofynion penodol ar gyfer y canlynol:

    • strwythurau o ddiddordeb arbennig
    • adeiladu traddodiadol (cyn 1919)
    • arwyddocâd hanesyddol
  • sut i ddefnyddio pob math o offer llaw ac offer wedi'i bweru a chyfarpar ategol

  • sut a pham mae angen i'r gweithiwr sicrhau bod yr holl offer llaw a phŵer a chyfarpar ategol yn cael eu cynnal a’u cadw
  • sut mae gweithio mewn mannau uchel gan ddefnyddio cyfarpar mynediad
  • sut mae gweithio gyda pheiriannau ac offer, o’u cwmpas ac yn agos iawn atynt

K22  gweithdrefnau’r sefydliad o ran ymddygiad ar y safle, a chydnabod a sicrhau tegwch, cynhwysiant a pharch o fewn yr amgylchedd gwaith, a sut i roi sylw i ymddygiad amhriodol ar y safle a rhoi gwybod amdano

K23  pwysigrwydd dulliau gweithio, cysylltiadau rhyngbersonol a chyfathrebu ac anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â pharatoi ac adeiladu neu gadw, adfer neu ôl-osod strwythurau pridd

P6 Amser a n*eilltuwyd*
K24  y rhaglen ar gyfer gwneud y gwaith, gan gynnwys yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd, a pham y dylid cadw at derfynau amser neu roi gwybod os ydych yn debygol o fethu cadw atynt

K25  y mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd a amcangyfrifwyd, a gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Meh 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR828

Galwedigaethau Perthnasol

Adeiladwr Strwythurau Pridd

Cod SOC

1234

Geiriau Allweddol

Calchau; Pridd; Tywyrch; Cob; Pridd cywasgedig; Llaid; Gwaith maen pridd gyda morter; Pridd caled; Pridd ysgafn; Brics a blociau pridd wedi’u mowldio