Dylunio gosodiad tanwydd solet sych

URN: COSVR827
Sectorau Busnes (Suites): Galwedigaethau Simneiau
Datblygwyd gan: CITB
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dylunio a gosod gwasanaethau a systemau tanwydd solet sych gydag allbwn o hyd at 50kW, sy'n gweithredu o dan wasgedd ffliw negyddol a'r offer hynny heb systemau rheoli electronig mewnol. Mae’n cynnwys dylunio’r holl systemau ffliw nad ydynt wedi’u gwneud o blastig.

Bydd hyn yn cynnwys cydymffurfio â’r dogfennau a’r manylebau, gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer perfformiad a chanlyniadau amgylcheddol yn unol â’r ardal waith ac anghenion y cwsmer.
 
 
Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol Simneiau a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
 
Mae modd gweld disgrifiad o'r termau sydd mewn testun trwm yn y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon yn yr Eirfa, y dylid ei defnyddio fel pwynt cyfeirio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Adolygu’r gofynion arfaethedig
P1 nodi ac egluro prif ofynion gweithredu a goblygiadau’r gosodiad tanwydd soled sych

P2 gwerthuso'r potensial ar gyfer addasu i ddarparu ar gyfer cyfarpar newydd lle mae system, strwythurau safle a nodweddion sy'n bodoli eisoes

P3 adolygu dichonoldeb addasiadau arfaethedig yn erbyn dogfennau a manylebau, meini prawf technegol, cyfreithiol a chost

P4 nodi'r ffactorau gweithredu perthnasol a fydd yn dylanwadu ar ddyluniad y gosodiad tanwydd solet sych ar gyfer systemau newydd

P5 sicrhau bod asesiad risg yn cael ei gynnal er mwyn ei gynnwys yn y gwaith cynllunio, amserlenni gwaith, gweithdrefnau profi a chomisiynu

P6 adolygu dogfennau a manylebau ar gyfer lleoli’r gosodiad tanwydd solet sych a’r effaith y bydd hyn yn ei chael ar y dyluniad terfynol

P7 sicrhau bod eich cynlluniau'n caniatáu mynediad ar gyfer gwasanaethu, cynnal a chadw a thrwsio i fodloni'r dogfennau a'r manylebau

P8 nodi gwahanol opsiynau dylunio ar gyfer gwerthuso sy'n bodloni dogfennau a manylebau a gweithdrefnau’r sefydliad, gan gynnwys:
• asesu’r ardal waith
• lefel yr allbwn gwres sydd ei angen
• effaith ar yr amgylchedd

P9 trafod y gwahanol opsiynau dylunio â’r holl bartïon perthnasol i gadarnhau a ydynt yn dechnegol ymarferol ac yn gost-effeithiol, gan gynnwys:
• darparu gwybodaeth lawn ac opsiynau sydd ar gael i’r holl bartïon perthnasol er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth

Dewis opsiynau dylunio ar gyfer gosod tanwydd soled sych
P10 cytuno ar gynllun gweithredu, a phennu ei gost yn llawn, gan gynnwys tynnu a gwaredu unrhyw gyfarpar neu ddeunydd a fydd yn cael ei ddisodli neu na fydd yn rhan o’r gosodiad mwyach

P11 sicrhau bod eich dyluniad yn bodloni'r prif ofynion gweithredu a nodwyd mewn adroddiadau archwilio ac arolygon safle gan gyfeirio'n benodol at ganlyniadau amgylcheddol

P12 gwneud cyfrifiadau i bennu'r allbwn gwres gofynnol, perfformiad ffliw a gofynion awyru

P13 cynnwys dull o ganfod a yw Carbon Monocsid yn cael ei ryddhau o’r gosodiad tanwydd soled sych yn y dyluniad er mwyn bodloni’r dogfennau a’r manylebau

P14 sicrhau bod digon o ddata’n cael ei adael gyda’r gosodiad tanwydd soled sych a’i fod ar gael yn barhaol i fodloni’r dogfennau a’r manylebau

P15 cyflwyno'r holl fesurau priodol ar gyfer symud a gwaredu cyfarpar presennol yn ddiogel, sy'n cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol

P16 cytuno ar y dyluniad terfynol gyda'r holl bartïon perthnasol gan sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r dogfennau a'r manylebau

P17 cael gafael ar y cytundeb ar y cynigion dylunio gan yr holl bartïon perthnasol, a’i gofnodi

P18 llunio lluniadau, manylebau, amserlenni gwaith, rhestrau cydrannau, gweithdrefnau profi a chomisiynu

P19 dewis yr holl ddeunyddiau a chyfarpar a nodwyd gan y lluniadau, manylebau, amserlenni gwaith, rhestrau cydrannau, gweithdrefnau profi a chomisiynu ynghyd ag opsiynau prynu gan gynnwys gwybodaeth am gostau ac amseroedd arwain

P20 trefnu bod yr holl ddeunyddiau a chyfarpar yn cael eu darparu i fodloni gofynion y contract a rhaglen y prosiect

P21 newid y dyluniad yn dilyn materion nad oedd modd eu rhagweld, diweddaru'r holl bartïon perthnasol, cytuno ar unrhyw newidiadau i amserlenni a diweddaru cofnodion dylunio


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

P1 Adolygu’r gofynion arfaethedig
K1 yr holl ffactorau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol perthnasol gan gynnwys sut i gynnal asesiad risg

K2 y dogfennau a'r manylebau a gweithdrefnau'r sefydliad

K3 gwahanol fathau o osodiadau tanwydd solet sych, sut maen nhw’n gweithredu ac yn cael eu defnyddio, a’u gallu amgylcheddol

K4 gwahanol fathau o offer tanwydd soled sych, eu defnydd a mathau o danwydd

K5 sut i nodi'r gofynion o adroddiadau archwilio, arolygon safle, dogfennau a manylebau a gweithdrefnau’r sefydliad

K6 yr holl feini prawf technegol ar gyfer addasu offer presennol

K7 y ffyrdd o bennu costau a threfnu addasiadau i offer

K8 ffyrdd eraill priodol o fodloni’r gofynion

K9 pwysigrwydd bod pob parti yn cytuno ar y cynigion dylunio

K10 egwyddorion hylosgi, gan gynnwys:
• ansawdd digonol y tanwydd
• tymheredd hylosgi
• digon o aer hylosgi
• effaith perfformiad hylosgi ar allyriadau

K11 egwyddorion dyluniad a drafftiau twll simnai:
• awyru mecanyddol
• drafft ffliw naturiol
• drafft ffliw wedi’i orfodi
• digon o ddrafft simnai i wacáu cynnyrch hylosgi
• uchder effeithiol i’r ffliw
• arwynebedd effeithiol i'r ffliw
• effaith plygiadau a chyfyngiadau
• effaith lleoliad allfa’r ffliw
• rhyngweithio â gorchudd yr adeilad a’r topograffi
• effeithiau meteorolegol

K12 pam ei bod yn bwysig darparu ffordd o ganfod gollyngiadau carbon monocsid (CO) o’r gosodiad tanwydd soled sych

K13 pam ei bod yn bwysig sicrhau bod digon o ddata’n cael ei adael gyda’r gosodiad tanwydd soled sych a’i fod ar gael yn barhaol

P2 Dewis opsiynau dylunio ar gyfer gosod tanwydd soled sych
K14 sut i ddehongli a defnyddio adroddiadau archwilio, arolygon safle, y dogfennau a'r manylebau a gweithdrefnau’r sefydliad er mwyn gallu dewis yr opsiynau dylunio

K15 sut mae cyfrifo perfformiad cydrannau i fodloni’r gofynion o ran allbwn gwres, perfformiad ffliw ac awyru

K16 dulliau o gyflwyno gwybodaeth ddylunio i gwsmeriaid, defnyddwyr, gosodwyr a’r holl bartïon perthnasol drwy ddefnyddio lluniadau, manylebau, amserlenni gwaith, rhestrau cydrannau, gweithdrefnau profi a chomisiynu

K17 yr ystod o wybodaeth sydd ei hangen i wneud gwaith dylunio ar draws adeiladau newydd a phresennol, domestig a masnachol

K18 gofynion lleoli ar gyfer gosodiadau tanwydd soled sych a chynlluniau systemau safonol, gan gynnwys y safle lle daw’r ffliw i ben

K19 y gofynion mynediad i ganiatáu gwasanaethu, cynnal a chadw a thrwsio gosodiadau tanwydd solet sych

K20 sut mae dewis cydrannau sydd â’r dynodiad ffliw cywir ar gyfer y defnydd

K21 sut i ynysu gwasanaethau eraill yn briodol, sy'n gysylltiedig â'r gosodiad


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gofynion y sefydliad
Y Sefydliad
Yswiriant - atebolrwydd cyflogwyr, cynnyrch a chyhoeddus, indemniad proffesiynol

Dogfennau'r cwmni
contract gwaith, cynllun rheoli diogelwch, dylunio a rheoli adeiladu, polisi amgylcheddol, gweithdrefn gwyno, polisi diogelwch a phreifatrwydd gwybodaeth, strwythur rheoli

Safle gwaith
Yr ardal lle bydd y cyfarpar yn cael eu gosod a'r holl ardaloedd y bydd y gwaith yn effeithio arnynt, gan gynnwys nodweddion topograffig ac amodau meteorolegol

Gwasanaethau a systemau
Systemau simneiau a ffliwiau, offer, systemau awyru a chyfleustodau priodol

Dogfennau a manylebau
Cyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchwyr ar gyfer yr holl gyfarpar sy’n rhan o'r gwaith
cynlluniau’r pensaer a dogfennau penodol i’r safle
rheolau a rheoliadau adeiladu lleol
Deddfwriaeth waliau cydrannol
Deddf Aer Glân
Deddf yr Amgylchedd
Parthau rheoli mwg
Datblygu a ganiateir
Ardaloedd cadwraeth
Statws treftadaeth
Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol
Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
anghenion penodol tanysgrifenwyr yswiriant
Rheoliadau adeiladu yng Nghymru a Lloegr, yn enwedig ADJ ond hefyd ADA, ADB, ADF, ADL ac AD7
Llawlyfr Technegol Safonau Adeiladu yn yr Alban
Llyfrynnau Technegol yng Ngogledd Iwerddon, yn enwedig B, D, E, F1, F2, K ac L
BSENs, yn enwedig 8303, 15287, 1856, 16510, 1251, 3376, 4834, 12815, 13229, 13240, 15250

Noder: Mae’n bosibl y bydd dogfennau technegol a BSEN yn cael eu tynnu’n ôl neu eu disodli yn ystod rhaglenni adolygu. Felly mae’n bwysig gwirio pa mor gyfredol a dilys yw pob dogfen o'r fath i sicrhau eich bod yn cyfeirio at y fersiwn gywir.

Offer
Offer llosgi tanwydd solet gydag allbwn o hyd at 50kW gan gynnwys y canlynol, ond nid y rhain yn unig:
• tanau agored
• gwresogyddion ystafelloedd sy’n sefyll ar eu pen eu hunain
• gwresogyddion ystafelloedd wedi’u mewnosod
• poptai sy’n sefyll ar eu pen eu hunain
• boeleri annibynnol
• stofiau sy’n rhyddhau gwres yn araf


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR827

Galwedigaethau Perthnasol

Crefftau Adeiladu

Cod SOC

5319

Geiriau Allweddol

Simnai; Tanwydd solet; Offer; System ffliw;