Archwilio ac adrodd ar gyflwr simneiau ac offer
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag archwilio ac adrodd ar offer, gwasanaethau a systemau simneiau a thanwydd solet gydag allbwn o hyd at 50kW, sy'n gweithredu o dan wasgedd ffliw negyddol a'r rhai heb systemau rheoli electronig mewnol. Mae’n cynnwys archwilio’r holl systemau ffliw nad ydynt wedi’u gwneud o blastig.
Bydd hyn yn cynnwys dehongli dogfennau a manylebau a dilyn arferion a chanlyniadau gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol. Gwneir hyn yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad sy’n cyfateb i’r dogfennau a’r manylebau statudol a deddfwriaethol cyfredol neu’n rhagori arnynt
Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol Simneiau a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Mae modd gweld disgrifiad o'r termau sydd mewn testun trwm yn y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon yn yr Eirfa, y dylid ei defnyddio fel pwynt cyfeirio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynllunio a pharatoi gweithgareddau gwaith
P1 nodi, cofnodi a chytuno ar ofynion gwaith y cleient yn unol â dogfennau a manylebau a gweithdrefnau'r sefydliad
P2 edrych ar y safle gwaith a bwrw golwg dros y dogfennau a’r manylebau am unrhyw nodweddion strwythurol allweddol a diffygion presennol a allai effeithio ar ddefnyddio’r gosodiad yn ddiogel neu ar ei berfformiad, a’u cofnodi er mwyn rhoi gwybod i’r holl bartïon sydd â diddordeb am y canfyddiadau hyn
P3 gwneud yn siŵr bod cyflwr, maint, lleoliad ac argaeledd yr holl wasanaethau a systemau yn bodloni'r dogfennau a'r manylebau ar gyfer gofynion y gosodiad
P4 gweithio yn unol ag asesiad risg a datganiad dull a’u diwygio yn ôl yr angen, gan gynnwys y canlynol, ond nid y rhain yn unig:
• gweithio mewn mannau uchel
• llithro, baglu a chwympo
• taro gan wrthrychau sy’n disgyn neu’n symud
• codi a chario
• materion iechyd
• peryglon uwchben
• ffynonellau pŵer
• sylweddau peryglus
• cael eich dal gan rywbeth sy’n cwympo neu’n troi drosodd
• lleoedd cyfyng
• tân
• rhwystrau
• cerbydau sy'n symud
• dŵr
• diogelwch ar y safle
• diogelu eiddo’r cleient
• diogelu’r ardal waith
• galwedigaethau a chleientiaid eraill y mae’r gwaith yn effeithio arnynt
• cyfleusterau lles
• gwarchodaeth 3ydd parti
P5 diogelu safle’r gwaith ac adeiledd yr adeilad rhag difrod posibl a achosir yn ystod yr archwiliad
P6 gwirio a chadarnhau bod yr holl ddeunyddiau, offer a chyfarpar a allai fod yn angenrheidiol ar gyfer yr archwiliad y cytunwyd arno ar gael yn ôl yr angen, o fewn y graddnodau iawn ac yn gweithio’n iawn
P7 cynnal yr archwiliad gan leihau'r difrod i'r adeilad a'r hyn sydd o'i gwmpas
P8 gwirio lleoliad y system ffliw a'r offer i gadarnhau eu bod yn y lleoliad iawn ac yn bodloni’r cliriadau sy'n ofynnol gan y dogfennau a'r manylebau
P9 gwneud yn siŵr bod digon o awyru i sicrhau bod digon o aer hylosgi ar gael i fodloni’r perfformiad a’r canlyniadau amgylcheddol sy’n ofynnol gan y dogfennau a’r manylebau
P10 defnyddio’r gweithdrefnau cywir i gadarnhau bod cyfanrwydd y system ffliw a’r offer yn bodloni’r dogfennau a’r manylebau
P11 cynnal y profion canlynol i sicrhau bod perfformiad y system ffliw a'r offer yn bodloni'r dogfennau a'r manylebau cyfredol
• prawf mwg I
• prawf mwg II
• prawf gollyngiadau
• archwiliad ffliw mewnol
• archwiliad allanol
P12 gwirio bod y gosodiad cyflawn yn cydymffurfio â'r dogfennau a'r manylebau a chadarnhau bod gweithgynhyrchwyr wedi’u cymeradwyo’n ysgrifenedig os oes angen
P13 gwneud yn siŵr bod digon o ddata ar gael yn barhaol gyda'r gosodiad a'i fod yn gyfredol ac wedi'i leoli'n gywir
P14 gwneud yn siŵr bod y system ffliw a'r offer yn gweithio yn unol â'r bwriad o ran hylosgi a pherfformiad amgylcheddol fel sy'n ofynnol gan y dogfennau a'r manylebau
P15 gwirio bod dull o ganfod gollyngiadau Carbon Monocsid (CO) wedi’i ddarparu sy’n bodloni’r dogfennau a’r manylebau, gan gynnwys y canlynol:
• lleoliad a dyddiad dod i ben
• ei brofi yn ôl cyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchydd
Defnyddio a chyfleu data a gwybodaeth
P16 cysylltu â phreswyliwr yr eiddo a phartïon eraill y bydd y gwaith yn effeithio arnynt yn ystod y prosesau cynllunio ac arolygu
P17 defnyddio’r dogfennau a’r manylebau i sicrhau bod yr archwiliad yn cael ei wneud yn unol â gofynion y contract
P18 rhoi gwybod am unrhyw oedi i'r gwaith, sefyllfaoedd anniogel a chamau unioni gofynnol i'r rhai y mae angen yr wybodaeth arnynt
P19 cwblhau'r holl gofnodion a dogfennau i fodloni gweithdrefnau'r sefydliad
P20 gwirio a yw'r corff cofrestru perthnasol wedi cael gwybod am y gosodiad ac a oes digon o wybodaeth ar gael ar y safle am y system ffliw a'r offer fel sy’n ofynnol gan y dogfennau a'r manylebau
P21 llunio adroddiad i gofnodi’r broses archwilio, canlyniadau’r archwiliad, y profion ac unrhyw argymhellion ar gyfer gwaith adfer, er mwyn bodloni gweithdrefnau’r sefydliad a’r dogfennau a’r manylebau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
P1 Cynllunio a pharatoi gweithgareddau gwaith
K1 y rheoliadau a'r canllawiau sy'n rheoli iechyd a diogelwch yn y gweithle, diogelu'r amgylchedd a defnyddio asesiadau risg
K2 sut i gael gafael ar yr wybodaeth ofynnol a'i dehongli'n gywir i sicrhau bod yr arolygiad yn bodloni gofynion y dogfennau a'r manylebau
K3 terfynau eich annibyniaeth, eich gallu a'ch cyfrifoldeb eich hun a phryd mae angen cydweithredu a chysylltu ag eraill
K4 pam ei bod yn bwysig a sut mae archwilio a phrofi gosodiadau presennol gan gyfeirio at yr ardal waith, yr offer a’r systemau ffliw
K5 pam ei bod yn bwysig a sut mae cynnwys ffactorau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol yn yr asesiad risg a’r datganiad dull ar gyfer archwilio ac adrodd ar systemau ffliwiau ac offer
K6 y dulliau gweithio sy'n diogelu addurn yr adeilad, eiddo cwsmeriaid a systemau a chydrannau presennol
K7 yr offer a'r cyfarpar sydd eu hangen i ddarparu mynediad diogel at waith mewn mannau uchel, neu mewn mannau cyfyng
K8 gofynion gofal a chynnal a chadw offer a chyfarpar, a threfniadau gwirio i sicrhau eu bod yn ddiogel
K9 y gweithdrefnau archebu, cyflenwi, cynghori, gwirio a danfon ar gyfer yr offer, y cyfarpar, y deunyddiau a’r cydrannau sydd eu hangen i gynnal yr archwiliad
K10 sut i gael gafael ar y dogfennau a’r manylebau a’u dehongli i sicrhau bod yr archwiliad yn cael ei gynnal i fodloni’r gofynion canlynol:
• y sefydliad
• cwmni
• contract
K11 sut mae archwilio, profi a chofnodi manylion y gosodiad er mwyn bodloni’r dogfennau a’r manylebau, yn enwedig bod y dynodiadau ffliw ar gyfer y cydrannau a ddefnyddir yn gywir ar gyfer y defnydd
K12 pwysigrwydd dulliau ynysu diogel, profion a gweithdrefnau i archwilio'r ardal waith, yr offer, y systemau neu’r cydrannau
K13 pam ei bod yn bwysig a sut mae labelu gosodiadau neu systemau diffygiol yn briodol er mwyn tynnu sylw darpar ddefnyddwyr a phobl gyfrifol at eu diffygion
P2 Defnyddio a chyfleu data a gwybodaeth
K14 yr angen i gysylltu ag eraill y gellid effeithio ar eu gweithgareddau neu eu harferion a lle gallai fod angen cydweithredu â gwasanaethau eraill
K15 arferion a safonau gwaith y diwydiant ar gyfer archwilio ac adrodd ar offer a systemau ffliw yn unol â'r dogfennau a'r manylebau
K16 y gofynion lleoli a gosod ar gyfer systemau ac offer ffliw i gydymffurfio â'r dogfennau a'r manylebau
K17 y gweithdrefnau a’r dulliau gweithio ar gyfer archwilio a phrofi systemau ffliwiau ac offer yn erbyn y dogfennau a’r manylebau i wirio’r canlynol:
• bod awyru yn gallu darparu digon o aer hylosgi i’r offer
• bod modd cyflawni perfformiad hylosgi effeithlon ac effeithiol
• bod perfformiad y system ffliw yn ddigonol i gael gwared ar gynhyrchion hylosgi
• nad oes gormod o ollyngiadau o offer caeedig pan fo'r drws ar agor
• na fydd y deunydd llosgadwy yn cyrraedd tymheredd sy’n ddigon i ddirywio
• bod mesurau rhybuddio am ryddhau CO yn effeithiol wedi’u lleoli yn y mannau cywir a’u bod yn gweithio yn ôl y bwriad
• bod dogfennau gosod a data digonol sy’n ymwneud â’r system ffliw a’r offer ar gael yn barhaol ar y safle
K18 egwyddorion drafft ffliw simnai a’r dyluniad gan gynnwys y canlynol, ond nid y rhain yn unig:
• awyru mecanyddol
• drafft ffliw naturiol
• drafft ffliw wedi’i orfodi
• digon o ddrafft simnai i wacáu cynnyrch hylosgi
• uchder effeithiol i’r ffliw
• arwynebedd effeithiol i'r ffliw
• effaith plygiadau a chyfyngiadau
• effaith lleoliad allfa’r ffliw
• y rhyngweithio â gorchudd yr adeilad a’r topograffi
• effeithiau meteorolegol
K19 egwyddorion hylosgi gan gynnwys y canlynol, ond nid y rhain yn unig:
• ansawdd digonol y tanwydd
• tymheredd hylosgi
• digon o aer hylosgi
• effaith perfformiad hylosgi ar allyriadau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gweithdrefnau’r sefydliad
Y Sefydliad
Yswiriant - atebolrwydd cyflogwyr, cynnyrch a chyhoeddus, indemniad proffesiynol
Dogfennau'r cwmni
contract gwaith, cynllun rheoli diogelwch, rheoliadau Dylunio a Rheoli Adeiladu, polisi amgylcheddol, gweithdrefn gwyno, polisi diogelwch a phreifatrwydd gwybodaeth, strwythur rheoli
Safle gwaith
Yr ardal lle bydd y cyfarpar yn cael eu gosod a'r holl ardaloedd y bydd y gwaith yn effeithio arnynt, gan gynnwys nodweddion topograffig ac amodau meteorolegol
Gwasanaethau a systemau
Systemau simneiau a ffliwiau, offer, systemau awyru a
chyfleustodau priodol
Dogfennau a manylebau
Cyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchwyr ar gyfer yr holl gyfarpar sy’n rhan o'r gwaith
cynlluniau’r pensaer a dogfennau penodol i’r safle
rheolau a rheoliadau adeiladu lleol
Deddfwriaeth waliau cydrannol
Deddf Aer Glân
Deddf yr Amgylchedd
Parthau rheoli mwg
Datblygu a ganiateir
Ardaloedd cadwraeth
Statws treftadaeth
Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol
Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
anghenion penodol tanysgrifenwyr yswiriant
Rheoliadau adeiladu yng Nghymru a Lloegr, yn enwedig ADJ ond hefyd ADA, ADB, ADF, ADL ac AD7
Llawlyfr Technegol Safonau Adeiladu yn yr Alban
Llyfrynnau Technegol yng Ngogledd Iwerddon, yn enwedig B, D, E, F1, F2, K ac L
BSENs, yn enwedig 8303, 15287, 1856, 16510, 1251, 3376, 4834, 12815, 13229, 13240, 15250
Noder: Mae’n bosibl y bydd dogfennau technegol a BSEN yn cael eu tynnu’n ôl neu eu disodli yn ystod rhaglenni adolygu. Felly mae’n bwysig gwirio pa mor gyfredol a dilys yw pob dogfen o'r fath i sicrhau eich bod yn cyfeirio at y fersiwn gywir.
Offer
Offer llosgi tanwydd solet gydag allbwn o hyd at 50kW gan gynnwys y canlynol, ond nid y rhain yn unig:
• tanau agored
• gwresogyddion ystafelloedd sy’n sefyll ar eu pen eu hunain
• gwresogyddion ystafelloedd wedi’u mewnosod
• poptai sy’n sefyll ar eu pen eu hunain
• boeleri annibynnol
• stofiau sy’n rhyddhau gwres yn araf