Cysylltu offer tanwydd solet â system ffliw

URN: COSVR825
Sectorau Busnes (Suites): Galwedigaethau Simneiau
Datblygwyd gan: CITB
Cymeradwy ar: 31 Rhag 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud ag archwilio, paratoi a chysylltu offer tanwydd solet o hyd at 50kW â gwasanaethau a systemau simneiau neu ffliwiau domestig neu fasnachol, sydd wedi’u dylunio i weithio o dan wasgedd ffliw negyddol, y rhai heb systemau rheoli electronig mewnol a’r rhai na fwriedir iddynt gael eu cysylltu â systemau ffliw plastig
Bydd hyn yn cynnwys dehongli safonau statudol perthnasol cyfredol, gwybodaeth a mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, yn unol â’r ardal waith a gweithdrefnau’r sefydliad sy’n cyfateb i’r dogfennau a’r manylebau statudol a deddfwriaethol presennol neu’n rhagori arnynt
Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol Simneiau a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
 
Mae modd gweld disgrifiad o'r termau sydd mewn testun trwm yn y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon yn yr Eirfa, y dylid ei defnyddio fel pwynt cyfeirio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Dehongli gwybodaeth
P1 dehongli’r wybodaeth am y gwaith a’r adnoddau i gadarnhau ei bod yn berthnasol ar gyfer y canlynol:
dogfennau a manylebau
• lluniadau
• rhestrau
• gwybodaeth y contract
• arolygon cyn gosod
• asesiadau risg
• datganiadau dull

Arferion gwaith diogel
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chanllawiau swyddogol a/neu weithdrefnau’r sefydliad i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol am y canlynol:
• dulliau gweithio
• defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel, sy’n berthnasol i’r dasg sy’n cael ei chyflawni a’r amgylchedd gwaith
• defnyddio cyfarpar mynediad a phlatfformau gweithio’n ddiogel
• defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
• risgiau penodol i iechyd gan gynnwys iechyd meddwl
• risgiau penodol sy’n gysylltiedig â deunyddiau sy’n cynnwys asbestos
• risgiau penodol sy’n gysylltiedig â llwch silica, morterau a deunyddiau selio

Dewis adnoddau
P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd angenrheidiol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio:
• deunyddiau, cydrannau a gosodiadau
• offer a chyfarpar
• cyfarpar mynediad

Lleihau'r risg o ddifrod
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas drwy:
• diogelu'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas rhag difrod
• cadw’r ardal waith yn ddiogel, yn glir ac yn daclus
• gwaredu gwastraff yn unol â’r ddeddfwriaeth gyfredol ac arferion gorau’r diwydiant

Bodloni manyleb y contract
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â’r gofynion drwy’r canlynol:
• dangos sgiliau gwaith o ran mesur, torri, lleoli, diogelu, profi a chysylltu offer tanwydd solet â system ffliw
• defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
• archwilio a pharatoi ardaloedd gwaith a gweithgareddau gwaith ar gyfer cysylltu offer â system ffliw,
• archwilio a phrofi’r lleoliad a gosod offer tanwydd solet yn unol â gofynion statudol a gofynion y gweithgynhyrchydd, gan gynnwys tanau agored ac wedi’u mewnosod
• nodi system awyru addas i gefnogi perfformiad cywir
• rhoi gwybod i’r parti priodol am unrhyw ddiffygion a nodir
• cynnal yr holl brofion addas i sicrhau’r swyddogaeth a'r hylosgi arfaethedig
• rhoi cyngor i ddefnyddwyr am ba danwyddau i’w defnyddio, defnyddio offer yn effeithlon a phwysigrwydd gwasanaethu a chynnal a chadw’n rheolaidd

Amser a neilltuwyd
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad, y rhaglen waith ac i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

P1 Dehongli gwybodaeth
K1 pam mae gweithdrefnau statudol, gweithdrefnau'r diwydiant a gweithdrefnau’r sefydliad wedi cael eu datblygu i roi gwybod am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas a’u cywiro, a sut mae'r rhain yn cael eu rhoi ar waith

K2 mathau o wybodaeth, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli mewn perthynas â:
dogfennau a manylebau
• lluniadau
• rhestrau
• gwybodaeth y contract
• arolwg cyn gosod
• asesiadau risg
• datganiadau dull

K3 yr amrywiaeth o wasanaethau, offer a systemau digidol perthnasol a sut maent yn cael eu defnyddio

K4 pwysigrwydd gweithdrefnau’r sefydliad o ran cofnodi problemau, rhoi gwybod amdanynt a’u datrys â’r wybodaeth a pham mae’n bwysig eu dilyn

P2 Arferion gwaith diogel
K5 gwybodaeth ar gyfer deddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut mae’n cael ei chymhwyso

K6 y mathau o gyfarpar diffodd tân a sut a phryd y cânt eu defnyddio o ran dŵr, CO2, ewyn, powdr

K7 sut dylid ymateb i argyfyngau yn unol ag awdurdodiad y sefydliad a sgiliau personol o ran y canlynol:
• tanau, gollyngiadau ac anafiadau
• argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
• nodi deunyddiau sy’n cynnwys asbestos a rhoi gwybod amdanynt

K8 gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol, mewn perthynas â’r canlynol:
• gweithiwr
• safle
• gweithle
• cerbydau
• cwmni
• cwsmer
• y cyhoedd
• galwedigaethau eraill yn y gweithle

K9 sut mae rhoi gwybod am risgiau a pheryglon a nodwyd gan y canlynol:
• dulliau gweithio
• asesiad risg
• asesiad personol
• gwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr
• rheoliadau statudol
• canllawiau swyddogol
• Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

K10 y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K11 pam, pryd a sut dylid defnyddio’r cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch a nodir gan egwyddorion atal mewn perthynas â’r canlynol:
• mesurau diogelu ar y cyd
• cyfarpar diogelu personol (PPE)
• cyfarpar diogelu anadlol (RPE)
• awyru lleol sy'n gwacáu mygdarth (LEV)

K12 sut mae cydymffurfio ag arferion gwaith sy’n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni’r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol wrth ddelio â damweiniau posibl, peryglon i iechyd a’r amgylchedd o ran gweithio:
• yn y gweithle
• dan lefel y ddaear
• mewn mannau cyfyng
• mewn mannau uchel
• gydag offer a chyfarpar
• gyda deunyddiau a sylweddau
• wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a’u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
• wrth osod offer tanwydd solet

P3 Dewis adnoddau
K13 pam mae nodweddion, ansawdd, defnydd, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau yn bwysig, a sut dylid cofnodi diffygion a’u cywiro

K14 gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam maen nhw wedi cael eu datblygu a sut mae eu defnyddio

K15 sut mae cadarnhau bod yr adnoddau a’r deunyddiau’n cydymffurfio â’r fanyleb

K16 sut dylid defnyddio’r adnoddau a sut mae rhoi gwybod am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau mewn perthynas â’r canlynol:
• cyfarpar a sgriniau diogelu
• cysylltu addaswyr a pheipiau ffliw
• sgriniau gwres
• gosodiadau a ffitiadau
• sment tân
• morterau
• deunydd selio
• deunyddiau inswleiddio
• offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol

K17 sut mae nodi’r peryglon sy'n gysylltiedig â’r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut mae goresgyn y rhain

K18 sut mae cyfrifo nifer, hyd ac arwynebedd sy’n gysylltiedig â’r dull a’r weithdrefn i gysylltu offer tanwydd solet â system ffliw

P4 Lleihau'r risg o ddifrod
K19 sut mae diogelu gwaith a’r ardal o’i gwmpas rhag difrod a phwrpas diogelu rhag gweithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw a sut mae lleihau difrod i adeiledd presennol yr adeilad

K20 pam a sut mae’n rhaid gwaredu gwastraff yn ddiogel yn unol â’r canlynol
• cyfrifoldebau amgylcheddol
gweithdrefnau’r sefydliad
• gwybodaeth gweithgynhyrchwyr
• rheoliadau statudol
• canllawiau swyddogol

K21 pam mae’n bwysig cynnal ardal waith ddiogel, glir a thaclus

P5 Bodloni manyleb y contract
K22 sut mae’r dulliau gweithio i fodloni’r fanyleb yn cael eu cyflawni a sut mae problemau’n cael eu nodi a’u hadrodd drwy ddefnyddio gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol sy’n ymwneud â’r dull a’r maes gwaith
• perthnasedd asesiad a sut i adnabod gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol, adeiladau anodd eu trin ac arwyddocâd hanesyddol
• sut mae archwilio, paratoi a chysylltu offer tanwydd solet caeedig ac agored o hyd at 50kW â system ffliw, yn unol â chyfarwyddiadau statudol a chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchydd
• sut mae nodi’r allbwn gwres cywir o offer i fodloni'r gofynion
• pam ei bod yn bwysig archwilio a phrofi perfformiad offer a simneiau a chadarnhau bod popeth yn bodloni'r gofynion statudol, a safonau’r diwydiant a’r gweithgynhyrchwyr
• pam ei bod yn bwysig sicrhau bod modd cael mynediad i lanhau ac archwilio
• pwysigrwydd dynodiad y ffliw a sut mae gwneud yn siŵr bod y ffliw yn gydnaws â’r offer a sut bwriedir ei ddefnyddio
• pam ei bod yn bwysig cadarnhau bod y gofynion awyru yn bodloni’r safonau statudol a safonau'r diwydiant ar gyfer y gosodiad
• pam ei bod yn bwysig darparu, yn unol â chyfarwyddiadau statudol a chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchydd, rhybudd ynghylch carbon monocsid yn cael ei ryddhau
• pam ei bod yn bwysig sicrhau bod mynediad ar gael at y data gosod bob amser
• pam ei bod yn bwysig gwarchod yr ardal o gwmpas y gwaith
• sut mae gweithio’n ddiogel gyda pheiriannau ac offer, o’u cwmpas ac yn agos iawn atynt
• sut i ddefnyddio offer gwaith a chyfarpar
• sut mae gweithio mewn mannau uchel gan ddefnyddio cyfarpar mynediad
• sut a pham mae angen i'r gweithiwr sicrhau bod yr offer gwaith a’r offer pŵer a’r cyfarpar yn cael eu cynnal a’u cadw
• pam ei bod yn bwysig sicrhau bod y defnyddiwr yn deall sut mae defnyddio’r offer yn gywir ac yn ddiogel yn unol â chyfarwyddiadau statudol a chyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchydd
• sut mae sicrhau arferion gweithredu da gydag offer tanwydd solet a hylosgi effeithlon
• sut mae dewis tanwydd coed a mwynau solet addas a’i storio yn unol â chyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchydd
• sut mae nodi ac adrodd am broblemau a allai effeithio ar y broses osod, a sut mae eu datrys
• sut mae cwblhau'r holl gofnodion a dogfennau yn unol â gofynion statudol a gofynion y sefydliad
• sut mae gweithio’n ddiogel gyda pheiriannau ac offer, o’u cwmpas ac yn agos iawn atynt

K23 egwyddorion hylosgi, gan gynnwys:
• ansawdd digonol y tanwydd
• tymheredd hylosgi
• digon o aer hylosgi
• effaith perfformiad hylosgi ar allyriadau

K24 egwyddorion dyluniad a drafftiau twll simnai
• awyru mecanyddol
• drafft ffliw naturiol (darfudo)
• drafft ffliw wedi’i orfodi (mecanyddol)
• uchder effeithiol i’r ffliw
• arwynebedd effeithiol i'r ffliw
• effaith plygiadau a chyfyngiadau
• rhyngweithio â gorchudd yr adeilad a’r topograffi
• effeithiau meteorolegol

K25 pwysigrwydd gwaith tîm a chyfathrebu, gweithdrefnau’r sefydliad o ran ymddygiad ar y safle a sut mae herio ymddygiad amhriodol ar y safle

K26 anghenion galwedigaethau eraill sy’n gysylltiedig â chysylltu offer tanwydd solet â systemau ffliw

P6 Amser a neilltuwyd
K27 y rhaglen ar gyfer gwneud y gwaith, gan gynnwys yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser

K28 y mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd a amcangyfrifwyd, a gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gweithdrefnau’r sefydliad
Yswiriant - atebolrwydd cyflogwyr, cynnyrch a chyhoeddus, indemniad proffesiynol

Dogfennau'r cwmni - contract gwaith, cynllun rheoli diogelwch, dylunio a rheoli adeiladu, polisi amgylcheddol, gweithdrefn gwyno, polisi diogelwch a phreifatrwydd gwybodaeth, strwythur rheoli

Ardal waith
Yr ardal lle bydd y cyfarpar yn cael eu gosod a'r holl ardaloedd y bydd y gwaith yn effeithio arnynt, gan gynnwys nodweddion topograffig ac amodau meteorolegol

Gwasanaethau a systemau
Systemau simneiau a ffliwiau, offer, systemau awyru a chyfleustodau priodol

Dogfennau a manylebau
Cyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchwyr ar gyfer yr holl gyfarpar sy’n rhan o'r gwaith
cynlluniau’r pensaer a dogfennau penodol i’r safle
rheolau a rheoliadau adeiladu lleol
Deddfwriaeth waliau cydrannol
Deddf Aer Glân
Deddf yr Amgylchedd
Parthau rheoli mwg
Datblygu a ganiateir
Ardaloedd cadwraeth
Statws treftadaeth
Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol
Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
Anghenion penodol tanysgrifenwyr yswiriant
Rheoliadau adeiladu yng Nghymru a Lloegr, yn enwedig ADJ ond hefyd ADA, ADB, ADF, ADL ac AD7
Llawlyfr Technegol Safonau Adeiladu yn yr Alban
Llyfrynnau Technegol yng Ngogledd Iwerddon, yn enwedig B, D, E, F1, F2, K ac L
BSENs, yn enwedig 8303, 15287, 1856, 16510, 1251, 3376, 4834, 12815, 13229, 13240, 15250

Noder: Mae’n bosibl y bydd dogfennau technegol a BSEN yn cael eu tynnu’n ôl neu eu disodli yn ystod rhaglenni adolygu. Felly mae’n bwysig gwirio pa mor gyfredol a dilys yw pob dogfen o'r fath i sicrhau eich bod yn cyfeirio at y fersiwn gywir.

Offer
Offer llosgi tanwydd solet gydag allbwn o hyd at 50kW gan gynnwys y canlynol, ond nid y rhain yn unig:
• tanau agored
• gwresogyddion ystafelloedd sy’n sefyll ar eu pen eu hunain
• gwresogyddion ystafelloedd wedi’u mewnosod
• poptai sy’n sefyll ar eu pen eu hunain
• boeleri annibynnol
• stofiau sy’n rhyddhau gwres yn araf


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Rhag 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR825

Galwedigaethau Perthnasol

Crefftau Adeiladu

Cod SOC

5319

Geiriau Allweddol

Sgriniau gwres; Sment tân; Carbon monocsid; Tanwydd solet; Dynodi ffliw