Gosod dur atgyfnerthu yn ei briod le ar ddyluniadau cymhleth
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gosod dur atgyfnerthu yn ei briod le ar ddyluniadau cymhleth a fyddai'n cynnwys strwythurau wedi'u gwneud o ddur atgyfnerthu dwysedd uchel (bylchau o lai na 100mm) ac o leiaf bedair haen o ddur atgyfnerthu lle mae bwlch o lai na 100mm rhyngddynt, siapiau afreolaidd a gosodiadau wedi'u castio i mewn, creffynnu rhannau parod o ddur atgyfnerthu a pharatoi i'w codi er mwyn eu gosod yn eu priod leoedd, nodi a dehongli gwybodaeth o wahanol ffynonellau, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol a nodi, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar.
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol gosod dur a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
P2 cydymffurfio â deddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â’r gofynion
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
**Meini Prawf Perfformiad 1** **Dehongli gwybodaeth** K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am **wybodaeth** amhriodol ac **adnoddau** anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu K2 pa fathau o **wybodaeth** sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad i ddatrys **problemau** â'r **wybodaeth** a pham mae'n bwysig eu dilyn |
** ** **Meini Prawf Perfformiad 2** **Arferion gwaith diogel** K4 faint o'r **canllawiau swyddogol a'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol** y mae'n rhaid i weithwyr eu deall, a sut i'w cymhwyso K5 sut y dylid ymateb i **argyfyngau** a phwy ddylai ymateb K6 beth yw **gweithdrefnau diogelwch** y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol K7 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio **cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch** K9 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â **gweithdrefnau cyfredol y sefydliad a chanllawiau swyddogol** |
** ** **Meini Prawf Perfformiad 3** **Dewis adnoddau** K10 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr **adnoddau** a sut y dylid cywiro diffygion K11 sut y dylid defnyddio'r **adnoddau** a sut i adrodd am unrhyw **broblemau** sy'n gysylltiedig â nhw K12 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad i ddewis **adnoddau**, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio K13 pa **beryglon** sy'n gysylltiedig â'r **adnoddau** a'r **dulliau gweithio** a sut i ddelio â'r rhain |
** ** **Meini Prawf Perfformiad 4** **Lleihau'r risg o ddifrod** K14 sut i **ddiogelu gwaith** rhag difrod a phwrpas diogelu K15 pam y dylid **gwaredu gwastraff** yn ddiogel a sut i wneud hyn |
** ** **Meini Prawf Perfformiad 5** **Bodloni gofynion y contract** K16 sut i ymgymryd â **dulliau gweithio** i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am **broblemau** K17 sut i **gynnal a chadw** offer a chyfarpar |
** ** **Meini Prawf Perfformiad 6** **Amser a neilltuwyd** K18 beth yw'r **rhaglen** i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser |
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
** **
|
Gwybodaeth Cwmpas
**Gwaredu gwastraff** 1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, gweithdrefnau cyfredol y sefydliad a chanllawiau swyddogol |
** ** **Argyfyngau** 2 ymateb i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol 2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau 2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol |
** ** **Peryglon** 3 y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol |
** ** **Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch** 4 nodi'r egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol 4.1 mesurau diogelu ar y cyd 4.2 system awyru a gwacáu leol 4.3 cyfarpar diogelu personol 4.4 cyfarpar diogelu anadlol |
** ** **Gwybodaeth** 5 gwybodaeth o luniadau cymhleth gan gynnwys lluniadau o systemau digidol, cyfarwyddiadau'r safle, manylebau, rhestrau, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau cyfredol y sefydliad a chanllawiau swyddogol sy'n gysylltiedig â gosod dur atgyfnerthu yn ei briod le ar ddyluniadau cymhleth |
** ** **Gweithdrefnau'r sefydliad a chanllawiau swyddogol** 6 cyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol |
** ** **Cynnal a chadw** 7 gofalu am offer a chyfarpar a'u cynnal a chadw |
** ** **Dulliau gweithio** 8 cymhwyso gwybodaeth am arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull gweithio, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i 8.1 cydgysylltu ac arwain y gwaith o osod dur atgyfnerthu yn ei briod le ar ddyluniadau cymhleth 8.2 tynnu manylion o restrau a lluniadau gosod dur (copïau caled neu systemau digidol) a chyfleu'r wybodaeth i eraill 8.3 nodi, cyfleu a bodloni gofynion ansawdd ar gyfer gosod 8.4 cynllunio a threfnu'r gwaith gosod dur a chastio i mewn ar gyfer dyluniadau cymhleth 8.5 paratoi barrau dur ac adnoddau i'w gosod yn eu priod leoedd 8.6 gosod dur yn ei briod le ar y dyluniadau cymhleth dilynol 8.6.1 strwythurau wedi'u gwneud o ddur atgyfnerthu dwysedd uchel (lle mae bwlch o lai na 100mm rhwng y barrau dur ar draws yr holl blanau llorweddol, fertigol neu ar oleddf) ac o leiaf dair haen o farrau dur (lle mae bwlch o lai na 100mm rhwng yr haenau) 8.6.2 seiliau, slabiau neu waliau wedi'u gwneud o ddur atgyfnerthu lle nad yw o leiaf un cyswllt ongl yn 90 gradd a siapiau cymhleth (crwn, eliptigol, conigol a heligol) 8.7 dehongli gwybodaeth o wahanol ffynonellau ac ar y cyd â chrefftwyr eraill er mwyn bodloni'r gofynion y cytunwyd arnynt wrth gastio gosodiadau i mewn 8.8 nodi'r creffyn priodol ar gyfer rhannau cymhleth o ddur atgyfnerthu a'i osod a'i sicrhau er mwyn eu symud 8.8.1 barrau adeiladu dros dro 8.8.2 barrau cynnal parhaol neu atodblatiau 8.8.3 pwyntiau codi 8.8.4 cryfhad ac ategion ogwydd 8.9 ymgorffori cysylltyddion atgyfnerthu a systemau atgyfnerthiad parhaus 8.10 rhoi gwybodaeth ar gyfer systemau digidol 8.11 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol 8.12 gweithio gyda pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt 8.13 defnyddio offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar 8.14 gweithio ar uchder 8.15 defnyddio cyfarpar mynediad 9 pwysigrwydd cydlynu tîm a chyfathrebu'n effeithiol 10 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod dur atgyfnerthu yn ei briod le ar ddyluniadau cymhleth |
** ** **Problemau** 11 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio 11.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa 11.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad |
** ** **Rhaglen** 12 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig 13 gweithdrefnau'r sefydliad i adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith |
** ** **Diogelu gwaith** 14 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw |
** ** **Adnoddau** 15 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu arbenigol o 15.1 dur atgyfnerthu gan gynnwys rhannau o ddur atgyfnerthu wedi'u torri a'u plygu ymlaen llaw 15.2 clymau gwifren, darnau gwahanu, gosodiadau a ffitiadau 15.3 offer llaw, offer pŵer cludadwy, cyfarpar a pheiriannau 16 enwi aelodau o'r tîm i gwblhau tasgau cymhleth 17 cadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n bodloni'r gofynion 18 dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd ac arwynebedd a'r gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull gweithio a'r weithdrefn ar gyfer gosod dur atgyfnerthu yn ei briod le ar ddyluniadau cymhleth |
** ** ** ** **Gweithdrefnau diogelwch** 19 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr |