Gweithredu peiriant cludo rwbel ar y wyneb
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gweithredu peiriant cludo rwbel ar y wyneb i dynnu’r rwbel sydd wedi cael ei gloddio o weithrediadau twnelu i leoliadau storio, echdynnu neu gludiant. Mae’n cynnwys gweithredu’r peiriant cludo, ei osod a’i ddatgymalu, gwaith archwilio a chynnal a chadw arferol o ddydd i ddydd, er mwyn sicrhau bod y peiriant cludo’n ddiogel i’w weithredu a’i fonitro’n barhaus tra’i fod yn cael ei ddefnyddio.
Bydd gweithwyr sy’n gweithio i’r safon hon yn gallu dangos a deall arferion gwaith diogel, iach, ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, yn unol â gofynion y sefydliad sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth a safonau cyfredol.
Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol gweithrediadau peiriannau cludo ar y wyneb a gall gweithwyr, goruchwylwyr, a rheolwyr ei defnyddio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Dehongli gwybodaeth
P1 dehongli’r wybodaeth am y gwaith a’r adnoddau i gadarnhau ei bod yn berthnasol ar gyfer y canlynol:
• lluniadau
• cyfarfod briffio ynghylch tasgau
• asesiadau risg
• datganiadau dull
• gwybodaeth y gwneuthurwr
Arferion gwaith diogel
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth bresennol a'r safonau i wneud y gwaith, a chynnal systemau gwaith diogel yn ymwneud â’r canlynol:
• dulliau gweithio
• defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
• defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
• defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer, peiriannau a chyfarpar yn ddiogel
• risgiau penodol i iechyd a lles galwedigaethol gan gynnwys iechyd meddwl
Dewis adnoddau
P3 dewis y maint cywir o adnoddau ac ansawdd gofynnol yr adnoddau canlynol ar gyfer y dulliau gweithio:
• deunyddiau, cydrannau a gosodiadau
• peiriannau, offer a chyfarpar
Lleihau'r risg o ddifrod
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r amgylchedd drwy wneud y canlynol:
• diogelu’r gwaith
• cadw'r ardal waith yn ddiogel, yn glir ac yn daclus
• gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
• defnyddio dulliau atal llwch
• defnyddio dulliau lleihau sŵn
Cyflawni dulliau gweithio
P5 cydymffurfio â’r datganiad dull i weithredu peiriant cludo rwbel ar y wyneb yn unol â’r fanyleb ofynnol drwy wneud y canlynol:
• dangos sgiliau gwaith i wneud y canlynol:
- mesur
- archwilio
- gosod
- addasu
- gweithredu
- monitro
- cychwyn
- diffodd
- ynysu mecanyddol diogel
- datgymalu
- glanhau
• defnyddio a chynnal a chadw peiriannau, offer a chyfarpar
• cynnal archwiliadau cyn cychwyn
• cynnal archwiliadau gweledol rheolaidd dyddiol a rhoi gwybod am broblemau neu ddiffygion posibl
• cynnal gweithgareddau cynnal a chadw rheolaidd dyddiol (glanhau, clirio, iro, tynhau)
• gweithredu a monitro peiriant cludo rwbel yn unol â’r cyfarwyddiadau gweithio
• diffodd ar ddiwedd y diwrnod gwaith
Amser a neilltuwyd
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad, y rhaglen waith ac i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill ac anghenion y cleient
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
P1 Dehongli gwybodaeth
K1 pam mae gweithdrefnau’r sefydliad wedi cael eu datblygu a sut maent yn cael eu rhoi ar waith
K2 pwysigrwydd rhoi gwybod am wybodaeth amhriodol a'i chywiro
K3 mathau o wybodaeth, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli mewn perthynas â:
• lluniadau
• cyfarfod briffio ynghylch tasgau
• asesiadau risg
• datganiadau dull
• gwybodaeth y gwneuthurwr
• safonau
• gweithdrefnau’r sefydliad
P2 Arferion gwaith diogel
K4 gwybodaeth ar gyfer deddfwriaeth gyfredol a safonau a sut mae’n cael ei chymhwyso
K5 y gwahanol fathau o gyfarpar diogelwch tân
K6 risgiau ac achosion tanau, yn y peiriant cludo rwbel ac o'i gwmpas
K7 sut i seinio’r larwm os bydd tân neu fwg yn cael ei weld o gwmpas y cyfarpar cludo rwbel
K8 sut dylid ymateb i argyfyngau yn unol ag awdurdodiad y sefydliad a sgiliau personol, gan gynnwys ond heb fod wedi’u cyfyngu i’r canlynol:
• tanau, gollyngiadau ac anafiadau
• argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
• nodi ac adrodd ar sylweddau peryglus
K9 y gweithdrefnau sy’n ymwneud â diogelwch peiriannau, cyfarpar ac eiddo personol, mewn perthynas â’r canlynol:
• y gweithlu
• safle
• gweithle
• cwmni
• cerbydau
• y cyhoedd
K10 sut mae rhoi gwybod am risgiau a pheryglon sy’n ymwneud â’r canlynol:
• dulliau gweithio
• asesiad risg
• asesiadau risg personol
• delio â sefyllfaoedd anniogel
• gwybodaeth dechnegol gwneuthurwyr
• sgyrsiau ynghylch blwch tasgau ac offer
• rheoliadau statudol
• safonau
K11 y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddigwyddiadau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K12 pam, pryd, a sut dylid defnyddio’r cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch a nodir gan egwyddorion atal mewn perthynas â’r canlynol:
• mesurau diogelu ar y cyd
• cyfarpar diogelu personol (PPE)
• cyfarpar diogelu anadlol (RPE)
K13 sut mae cydymffurfio ag arferion gweithio sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni deddfwriaeth a safonau cyfredol
K14 gweithdrefnau’r sefydliad wrth ddelio â damweiniau, digwyddiadau, perygl i ddiogelwch, peryglon iechyd posibl a’r effaith ar yr amgylchedd wrth weithio:
• yn y gweithle
• mewn mannau cyfyng
• mewn mannau uchel
• gyda gwaith dros dro
• gyda pheiriannau, offer a chyfarpar
• gyda deunyddiau a sylweddau
• gyda symud a chodi deunyddiau a chyfarpar drwy ddulliau mecanyddol a gyda llaw
• i drin a storio deunyddiau’n ddiogel
P3 Dewis adnoddau
K15 pam mae cyfyngiadau, ansawdd a chynaliadwyedd adnoddau’n bwysig, a sut dylid cywiro diffygion
K16 pam dewiswyd yr adnoddau a sut maen nhw’n cael eu defnyddio
K17 sut mae cadarnhau bod yr adnoddau’n cyd-fynd â’r dasg benodol
K18 sut dylid defnyddio’r adnoddau a sut mae rhoi gwybod am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau mewn perthynas â’r canlynol:
• systemau tynnu rwbel
• dyfeisiau diogelwch clywadwy a gweledol
• systemau pwyso
• gosodiadau
• ffitiadau
• peiriannau, offer a chyfarpar
K19 sut mae nodi’r peryglon sy'n gysylltiedig â’r adnoddau, a'r dulliau gweithio a sut mae rheoli’r rhain
P4 Lleihau'r risg o ddifrod
K20 sut mae diogelu gwaith a’r amgylchedd rhag difrod, a phwrpas diogelu rhag gweithgareddau cyffredinol yn y gweithle, a galwedigaethau eraill
K21 pam a sut mae’n rhaid gwaredu gwastraff yn ddiogel yn unol â’r canlynol:
• cyfrifoldebau amgylcheddol
• gweithdrefnau’r sefydliad
• gwybodaeth y gwneuthurwr
• rheoliadau statudol
• safonau
K22 pam ei bod yn bwysig cynnal ardal waith ddiogel, glir a thaclus
K23 pwysigrwydd rheoli sŵn cyfarpar cludo, gan gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:
• risgiau i weithredwyr
• achosion lle mae cyfarpar cludo yn cynhyrchu gormod o sŵn
• niwsans sŵn i'r rhai sy'n byw neu'n gweithio'n agos at y cyfarpar cludo
• lliniaru’r risg o sŵn
• cofnodi ac adrodd ar faterion yn ymwneud â sŵn
K24 pwysigrwydd rheoli risgiau llwch o amgylch cyfarpar cludo, gan gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:
• risgiau i weithredwyr
• achosion lle mae cyfarpar cludo yn cynhyrchu gormod o lwch
• niwsans llwch i'r rhai sy'n byw neu'n gweithio'n agos at y cyfarpar cludo
• lliniaru’r llwch sy’n cael ei gynhyrchu gan y cyfarpar cludo
• cofnodi ac adrodd ar faterion llwch
P5 Cyflawni dulliau gweithio
K25 sut mae cydymffurfio â'r datganiad dull mewn perthynas â'r canlynol:
• sut mae archwilio a nodi diffygion
• sut mae gweithredu a monitro peiriant cludo rwbel
• sut mae gwneud gwaith cynnal a chadw ataliol wedi’i gynllunio
• sut mae ynysu systemau peiriant cludo rwbel yn fecanyddol
• pam ei bod yn bwysig rhoi gwybod am broblemau gyda systemau peiriannau cludo rwbel
• sut mae cynnal gweithdrefnau cychwyn a diffodd
• sut mae cynnal gweithdrefnau diffodd ac ailgychwyn mewn argyfwng
• sut mae glanhau’r peiriant cludo rwbel a’r cyfarpar i sicrhau ei fod yn gweithio’n iawn
• sut mae monitro a rhoi gwybod am broblemau gydag uniadau mecanyddol a rhai wedi eu fwlcaneiddio
• sut mae delio â ffynonellau ynni peryglus gan gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:
- trydan
- aer cywasgedig
- hydroleg
- hylifau dan bwysedd
- offer tensiwn uchel
• pam ei bod yn bwysig nodi a phenderfynu pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol, ac adrodd yn briodol ynghylch hyn
• terfynau eich awdurdod eich hun
• sut mae gweithio gyda pheiriannau ac offer, o’u cwmpas ac yn agos iawn atynt
• y risgiau sy'n gysylltiedig â gweithio mewn mannau uchel a sut maen nhw'n cael eu rheoli
• sut mae defnyddio peiriannau, offer a chyfarpar
• sut a pham y mae’r gweithiwr yn gofalu am yr holl beiriannau, offer a chyfarpar ac yn eu cynnal a’u cadw
K26 pwysigrwydd gwaith tîm a chyfathrebu, a defnyddio systemau cyfathrebu
K27 pwysigrwydd iechyd a lles galwedigaethol, gan gynnwys iechyd meddwl
K28 pwysigrwydd defnyddio Tegwch, Cynhwysiant a Pharch wrth ddelio ag eraill
P6 Amser a neilltuwyd
K29 y rhaglen ar gyfer gwneud y gwaith, gan gynnwys yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd, a pham y dylid cadw at derfynau amser