Cynhyrchu gorffeniadau plastr arbenigol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dethol a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, archwilio a pharatoi arwynebau a chynhyrchu gorffeniadau terraso, mosaig, sgaliola, caboledig a micro-sment
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol plastro a gall gweithwyr adeiladu, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dehongli'r wybodaeth a roddir sy'n ymwneud â'r gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
 - cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a roddir a'r canllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
 - dethol y nifer a'r ansawdd gofynnol o adnoddau ar gyfer y dulliau gweithio
 - cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal gyfagos
 cydymffurfio â'r wybodaeth gontract a roddir i gyflawni'r gwaith yn effeithlon yn ôl y fanyleb ofynnol
cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd, yn unol â'r rhaglen waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
  
Meini Prawf Perfformiad 1  
Dehongli gwybodaeth  
K1 y gweithdrefnau sefydliadol a ddatblygwyd i adrodd a chywiro gwybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, a sut y cânt eu gweithredu  
K2 y mathau o wybodaeth, eu ffynhonnell a sut y cânt eu dehongli  
K3 y gweithdrefnau sefydliadol i ddatrys problemau â'r wybodaeth a pham ei fod yn bwysig eu bod yn cael eu dilyn
*   
*Meini Prawf Perfformiad 2  
Arferion gwaith diogel  
K4 lefel y ddealltwriaeth y mae'n rhaid i weithredwyr ei chael o wybodaeth ar gyfer deddfwriaeth berthnasol, gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut y caiff ei gweithredu  
K5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb  
K6 y gweithdrefnau diogelwch sefydliadol ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol  
K7 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer riportio damweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud yr adroddiad  
K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch  
K9 sut i gydymffurfio ag arferion gweithio sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn diwallu deddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol
**
Meini Prawf Perfformiad 3  
Dethol adnoddau  
K10 y nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion  
K11 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut yr adroddir am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau  
K12 y gweithdrefnau sefydliadol i ddethol adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut y cânt eu defnyddio  
K13 y peryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut y cânt eu goresgyn  
Meini Prawf Perfformiad 4  
Lleihau'r risg o ddifrod  
K14 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu  
K15 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut y caiff ei gyflawni  
Meini Prawf Perfformiad 5  
Diwallu manyleb y contract  
K16 sut mae dulliau gweithio, i ddiwallu'r fanyleb, yn cael eu cyflawni a sut y dylid adrodd am broblemau  
K17 sut mae gwaith cynnal a chadw offer a chyfarpar yn cael ei wneud  
Meini Prawf Perfformiad 6  
Amser wedi'i ddyrannu  
K18 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud yn yr amser amcangyfrifedig, dyranedig a pham y dylid cadw at derfynau amser
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Meini Prawf Perfformiad 1  
1 dehongli lluniadau, manylebau, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud  
Meini Prawf Perfformiad 2  
2 osgoi risg trwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir sy'n ymwneud â'r dilynol  
2.1 dulliau gweithio  
2.2 defnydd diogel o offer rheoli iechyd a diogelwch  
2.3 defnydd diogel o gyfarpar mynediad/platfformau gweithio   
2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel  
2.5 risgiau penodol i iechyd  
Meini Prawf Perfformiad 3  
3 dethol adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun  
3.1 deunyddiau, cydrannau a ffitiadau   
3.2 offer a chyfarpar   
Meini Prawf Perfformiad 4  
4 diogelu'r gwaith a'r ardal gyfagos rhag difrod  
5 lleihau difrod a chynnal lle gweithio glân  
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol  
Meini Prawf Perfformiad 5  
7 arddangos sgiliau gwaith i fesur, amlinellu, gosod a gorffen   
8 defnyddio a chynnal offer llaw, offer pŵer cludadwy ac offer ategol  
9 archwilio a pharatoi cefndiroedd, cymysgu deunyddiau a chynhyrchu o leiaf un o'r gorffeniadau plastr arbenigol dilynol hyd at gyfarwyddiadau gweithio penodol  
9.1 terraso  
9.2 mosaig  
9.3 sgaliola   
9.4 caboledig   
9.5 micro-sment  
Meini Prawf Perfformiad 6  
10 cwblhau eich gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig, dyranedig i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill ac/neu y cleient
Gwybodaeth Cwmpas
Gwaredu gwastraff  
1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau sefydliadol, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol  
Argyfyngau  
2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol wrth ymwneud â  
2.1 thanau, colledion, anafiadau  
2.2 argyfyngau'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol  
Peryglon  
3 y rhai hynny a nodir trwy asesiad risg, dull gweithio, gwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol  
Offer rheoli iechyd a diogelwch  
4 a nodir gan egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith ac amgylchedd gwaith cyffredinol  
4.1 mesurau amddiffynnol ar y cyd  
4.2 offer diogelu personol (PPE)  
4.3 offer diogelu anadlol (RPE)  
4.4 gwyntyllu egsôst lleol (LEV)  
Gwybodaeth  
5 lluniadau, manylebau, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a rheoliadau cyfredol sy'n rheoli adeiladau   
Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol  
6 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr ynghylch damweiniau posibl, peryglon iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, islaw lefel y ddaear, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar, â deunyddiau a sylweddau, â symud/storio deunyddiau a thrwy trin â llaw a chodi mecanyddol   
Cynnal a Chadw  
7 gofal gweithredol o offer llaw, offer pŵer cludadwy ac offer ategol  
Dulliau gweithio  
8 cymhwyso gwybodaeth ar gyfer arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach sy'n ymwneud â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir  
8.1 archwilio a pharatoi cefndiroedd  
8.2 cymysgu deunyddiau  
8.3 paratoi a gosod plastr i gynhyrchu gorffeniadau terraso, mosaig, sgaliola, micro-sment a phlastr caboledig  
8.4 cydnabod a phenderfynu pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol ac adrodd yn unol â hynny   
8.5 deall gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol (cyn 1919) ac arwyddocâd hanesyddol   
8.6 defnyddio offer llaw, offer pŵer cludadwy ac offer ategol   
8.7 gweithio ar uchder   
8.8 defnyddio cyfarpar mynediad/platfformau gweithio  
9 gwaith tîm a chyfathrebu  
10 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gorffeniadau plastr arbenigol   
Problemau  
11 y rhai hynny sy'n deillio o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio  
11.1 eich awdurdod eich hun i unioni  
11.2 gweithdrefnau adrodd sefydliadol  
Rhaglen  
12 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig   
13 gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith  
Diogelu gwaith  
14 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw  
Adnoddau  
15 deunyddiau, cydrannau ac offer sy'n ymwneud â mathau, nifer, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd  
15.1 cerrig, agregau, mosaig, sment, plastr, pigmentau a chydrannau wedi'u castio ymlaen llaw  
15.2 ychwanegion, gosodiadau, cyfryngau rhwymo  
15.3 dŵr glân  
15.4 offer llaw, offer pŵer cludadwy ac offer ategol  
16 dulliau cyfrifo nifer, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn i gynhyrchu gorffeniadau plastr arbenigol  
Gweithdrefnau diogelwch  
17 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr