Gosod nenfydau wedi’u hymestyn

URN: COSVR783
Sectorau Busnes (Suites): Systemau Mewnol (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 01 Tach 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar a pharatoi, gosod ac atgyweirio nenfydau perchnogol wedi’u hymestyn mewn sefyllfaoedd domestig, masnachol a diwydiannol.

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol Systemau Mewnol a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
  2. cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
  3. dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio
  4. cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas
  5. cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion
  6. cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1

Dehongli gwybodaeth

K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu

K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli

K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn

*
Meini Prawf Perfformiad 2
*

Arferion gwaith diogel

K4 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso

K5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb

K6 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol

K7 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

K9 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r *ddeddfwriaeth* gyfredol a chanllawiau swyddogol

Meini Prawf Perfformiad 3

Dewis adnoddau

K10 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion

K11 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw

K12 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio

K13 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain

Meini Prawf Perfformiad 4

Lleihau'r risg o ddifrod

K14 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu

K15 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Meini Prawf Perfformiad 5

Bodloni gofynion y contract

K16 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau

K17 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 6

Amser a neilltuwyd

K18 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

**Meini Prawf Perfformiad 1** 1      dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud
** ** **Meini Prawf Perfformiad 2** 2      osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am y dilynol
        2.1  dulliau gweithio
        2.2  defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel         2.3  defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
        2.4  defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar 
               yn ddiogel
        2.5  risgiau penodol i iechyd
**Meini Prawf Perfformiad 3** 3      dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun         3.1  deunyddiau, cydrannau a gosodiadau         3.2  offer a chyfarpar
**Meini Prawf Perfformiad 4** 4      diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod 5      cynnal lle gweithio glân 6      gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** **Meini Prawf Perfformiad 5** 7      dangos sgiliau mesur, marcio allan, ffitio, gorffen, gosod a sicrhau 8      defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol 9      gosod a symud tri o'r partisiynau gwydr/sgriniau mewnol dilynol sy'n gwrthsefyll tân a/neu nad ydynt yn gwrthsefyll tân, gan gynnwys gwydr, trimiau, mowldinau, setiau drysau a gwaith haearn, yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir         9.1  partisiynau gwydr di-ffrâm         9.2  partisiynau gwydr fframiog         9.3  partisiynau ffatri ffabrigedig         9.4  llenwaliau mewnol 10   defnyddio deunyddiau selio 11   trin cydrannau fframiog a chwarelau gwydr mawr yn ddiogel
**Meini Prawf Perfformiad 6** 12   cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient

Gwybodaeth Cwmpas

**Gwaredu gwastraff** 1      cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
** ** **Argyfyngau** 2      ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol         2.1  tanau, gollyngiadau ac anafiadau         2.2  argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
**Peryglon** 3      y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
** ** **Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch** 4      y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol         4.1  mesurau diogelu ar y cyd         4.2  system awyru a gwacáu leol         4.3  cyfarpar diogelu personol         4.4  cyfarpar diogelu anadlol
**Gwybodaeth** 5      lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chanllawiau swyddogol/rheoliadau sy'n ymwneud ag adeiladau ac yn gysylltiedig â gosod a symud partisiynau gwydr
** ** **Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol** 6      mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud/storio deunyddiau, codi a chario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
** ** **Cynnal a chadw** 7      gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol
**Dulliau gweithio** 8      cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i         8.1   nodi a bodloni gofynion ansawdd ar gyfer gosod         8.2   cadarnhau datwm fertigol a llorweddol
        8.3   cadarnhau bod y profion tân, acwstig a strwythurol priodol
                wedi'u gwneud
        8.4   sicrhau bod yr is-haen bresennol yn addas         8.5   sicrhau bod system osod addas yn cael ei defnyddio
        8.6   nodi lleoliad gwasanaethau mecanyddol a thrydanol 
                a gweithio  o'u cwmpas
        8.7   gosod partisiynau gwydr di-ffrâm, partisiynau gwydr fframiog, 
                partisiynau ffatri ffabrigedig a llenwaliau mewnol sy'n 
                gwrthsefyll tân a/neu nad ydynt yn gwrthsefyll tân
        8.8   gosod gwydr gwydn, gwydr laminedig, gwydr sy'n 
                gwrthsefyll tân ac unedau gwydr dwbl
        8.9   gosod trimiau, mowldinau, setiau drysau, fframiau 
                alwminiwm a gwaith haearn
        8.10  gosod cysgodlenni ac addurnwaith         8.11  defnyddio deunydd selio         8.12  gwneud gwaith atgyweirio         8.13  datgysylltu a symud partisiynau gwydr/sgriniau mewnol         8.14  deall gofynion trin paneli mawr a thrwm
        8.15  trin gwydr gwydn, gwydr laminedig, gwydr sy'n 
                 gwrthsefyll tân ac unedau gwydr dwbl
        8.16  defnyddio cyfarpar mecanyddol ac anfecanyddol 
                 defnyddiol wrth drin paneli mawr a thrwm
        8.17  nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen 
                 sgiliau a gwybodaeth arbenigol
        8.18  gweithio gyda pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos 
                 iawn atynt
        8.19  cyfarwyddo ac arwain peiriannau wrth iddynt symud 
                 a chael eu gweithredu
        8.20  defnyddio offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar         8.21  gweithio ar uchder         8.22  defnyddio cyfarpar mynediad         8.23  defnyddio systemau stopio cwymp 9      gwaith tîm a chyfathrebu 10   anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod a symud partisiynau gwydr/sgriniau mewnol
** ** **Problemau** 11   y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio         11.1  eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa         11.2  gweithdrefnau adrodd y sefydliad
**Rhaglen** 12   mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig 13   gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith
** ** **Diogelu gwaith** 14   diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw
** ** **Adnoddau** 15   deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu arbenigol o
        15.1  paneli, fframiau, traciau, gwydr, drysau, gwaith haearn, 
                trimiau, deunyddiau selio, ffitiadau a gosodiadau
        15.2  offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar 16   dewis yr adnoddau a'r deunyddiau cywir i fodloni'r gofynion 17   dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn ar gyfer gosod a symud partisiynau gwydr/sgriniau mewnol
** ** ** ** ** ** **Gweithdrefnau diogelwch** 18   safle, gweithle, cwmni a gweithiwr

Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Tach 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR770

Galwedigaethau Perthnasol

Adeiladu

Cod SOC

8149

Geiriau Allweddol

Partisiynau gwydr di-ffrâm; Partisiynau gwydr fframiog; Partisiynau ffatri ffabrigedig; Llenwaliau; Yn gwrthsefyll tân; Nad ydynt yn gwrthsefyll tân; Setiau drysau; Gwaith haearn