Dod o hyd i wasanaethau cyfleustodau wedi eu claddu a’u cloddio
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, dod o hyd i wasanaethau cyfleustodau wedi eu claddu a’u datgelu drwy gloddio
Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol adeiladu a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
**Meini Prawf Perfformiad 1** **Dehongli gwybodaeth** K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am **wybodaeth** amhriodol ac **adnoddau** anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu K2 pa fathau o **wybodaeth** sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys **problemau** â'r **wybodaeth** a pham mae'n bwysig eu dilyn | ||||
**Meini Prawf Perfformiad 2**
**Arferion gwaith diogel**
K4 faint o **wybodaeth** y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r **ddeddfwriaeth** berthnasol a chyfredol **a chanllawiau swyddogol** a sut i'w chymhwyso
K5 pa fathau o **ddiffoddwyr tân** sydd ar gael a sut a phryd i'w defnyddio
K6 sut y dylid ymateb i **argyfyngau** a phwy ddylai ymateb
K7 beth yw **gweithdrefnau diogelwch** y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
K8 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K9 pam, pryd a sut y dylid defnyddio **cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch**
K10 sut i gydymffurfio ag arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni'r **ddeddfwriaeth** gyfredol a **chanllawiau swyddogol**
|
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
**Meini Prawf Perfformiad 1** 1 dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, asesiadau risg, datganiadau dull, arolwg a gwybodaeth y cwmni cyfleustodau sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud |
**Meini Prawf Perfformiad 2** 2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am y dilynol 2.1 dulliau gweithio 2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel 2.3 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel 2.4 risgiau penodol i iechyd 2.5 gweithio gyda gwasanaethau cyfleustodau ac o'u cwmpas, gan gynnwys treiddio'r tir 2.6 gweithio mewn cloddiadau 2.7 pobl eraill y mae'r gwaith yn effeithio arnynt |
**Meini Prawf Perfformiad 3** 3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun 3.1 deunyddiau a chydrannau 3.2 offer a chyfarpar 3.3 offerynnau lleoli electronig |
**Meini Prawf Perfformiad 4** 4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod 5 cynnal lle gweithio clir a thaclus 6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol |
**Meini Prawf Perfformiad 5** 7 dangos sgiliau mesur, canfod, datgelu, marcio allan, lleoli, amddiffyn a sicrhau 8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer, cyfarpar ategol ac offerynnau electronig 9 dod o hyd i wasanaethau cyfleustodau wedi eu claddu a'u cloddio yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir 10 rhoi mesurau diogelu ar waith ar gyfer gwasanaethau cyfleustodau |
**Meini Prawf Perfformiad 6** 11 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient |
Gwybodaeth Cwmpas
Gwaredu gwastraff 1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol |
Argyfyngau 2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol 2.1 tanau, gollyngiadau, anafiadau, difrod i gyfarpar ac isadeileddau'r cyfleustodau 2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol |
Diffoddwyr tân 3 dŵr, CO2, ewyn a phowdr a'u defnyddiau |
Peryglon 4 y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol |
Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch 5 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol 5.1 mesurau diogelu ar y cyd 5.2 cyfarpar diogelu personol 5.3 cyfarpar diogelu anadlol |
Gwybodaeth 6 lluniadau, gofynion, amserlenni, asesiadau risg, datganiadau dull, trwyddedau, cyfarwyddiadau llafar a graffigol, gwybodaeth y sefydliad a gweithgynhyrchwyr, rheoliadau cyfredol a chanllawiau swyddogol sy'n ymwneud â gwasanaethau cyfleustodau |
Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol 7 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol |
Cynnal a chadw 8 gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer cludadwy, cyfarpar ategol ac offerynnau electronig |
Dulliau gweithio 9 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i 9.1 cadarnhau ardal a lleoliad y gwaith, y gweithrediadau, y gofynion diogelwch, gan gynnwys rheoli traffig dros dro a diogelu'r ardal ar unwaith 9.2 sicrhau bod cyfarpar electronig yn cael ei raddnodi 9.3 cydymffurfio â'r fanyleb y cytunwyd arni a gofynion darparwyr gwasanaethau cyfleustodau lleol 9.4 canfod gwasanaethau cyfleustodau drwy ddefnyddio dyfeisiau lleoli electronig, tyllau prawf ac yn weledol 9.5 nodi'r meini prawf ar gyfer defnyddio cyfarpar lleoli a'u cyfyngiadau 9.6 cadarnhau'r math o wasanaeth gan gynnwys: nwy, tanwydd, trydan, cyfathrebiadau, dŵr, carthffosiaeth 9.7 cysylltu â sefydliadau gwasanaethau cyfleustodau 9.8 nodi marcwyr adnabod ar gyfer mathau o gyfleustodau 9.9 cloddio â llaw a gyda chymorth offer neu beiriannau 9.10 gweithio gydag offer a pheiriannau, yn agos atynt ac o'u cwmpas 9.11 nodi'r gofynion ar gyfer cyfarwyddo ac arwain gweithrediadau a symudiadau offer a pheiriannau 9.12 gweithio o gwmpas dodrefn stryd a gwaith haearn 9.13 gweithio mewn cloddiadau, gan gynnwys yr angen am gymhorthion cloddio, diogelu ymylon a chyfarpar mynediad 9.14 sicrhau bod sylw'n cael ei roi i nodi a diogelu'r gwasanaethau cyfleustodau, yr isadeiledd a'r amgylchedd naturiol yn ystod gweithgareddau gweithredol 9.15 gosod cyfarpar cymorth ar gyfer gwasanaethau cyfleustodau sydd yn y golwg 9.16 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol 9.17 defnyddio offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar, gan gynnwys cyfarpar arbenigol 9.18 defnyddio cyfarpar mynediad 9.19 gweithio ar uchder 10 gwaith tîm a chyfathrebu 11 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â dod o hyd i wasanaethau cyfleustodau wedi eu claddu a'u cloddio |
Problemau 12 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio 12.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa 12.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad |
Rhaglen 13 mathau o dargedau cynhyrchiant ac amserlenni 14 y ffordd y mae amseroedd yn cael eu hamcangyfrif 15 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith |
Diogelu gwaith 16 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw |
Adnoddau 17 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac arbenigol o'r canlynol 17.1 offerynnau electronig 17.2 deunyddiau marcio ac amddiffyn 17.3 offer a pheiriannau cloddio 17.4 offer llaw, offer pŵer a chyfarpar, gan gynnwys offer arbenigol (offer wedi'i ynysu a ddim yn tanio) 17.5 cyfarpar ategol 18 drwy gyfrifo, nodi niferoedd, hyd, cyfaint ac arwynebedd sy'n gysylltiedig â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer dod o hyd i wasanaethau cyfleustodau wedi eu claddu a'u cloddio Gweithdrefnau diogelwch 19 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr |