Adeiladu twneli drwy weithredu peiriannau tyllu twneli
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag adeiladu twneli drwy weithredu peiriannau tyllu twneli.
Bydd gweithwyr sy’n gweithio i’r safon hon yn gallu dangos a deall arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, yn unol â gofynion y sefydliad sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth a safonau cyfredol.
Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol gweithrediadau twnelu a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Dehongli gwybodaeth
P1 dehongli’r wybodaeth am y gwaith a’r adnoddau i gadarnhau ei bod yn berthnasol ar gyfer y canlynol:
• lluniadau
• data a gynhyrchir gan gyfrifiadur
• cyfarfod briffio ynghylch tasgau
• asesiadau risg
• datganiadau dull
• gwybodaeth y gwneuthurwr
Trefnu a chyfathrebu
P2 gosod trefn y gwaith sy’n ymwneud â’r canlynol:
• trefnu’ch gwaith eich hun
• cyfleu gwybodaeth am weithredu peiriannau a’r gwaith sydd i'w wneud i aelodau'r tîm a galwedigaethau cysylltiedig eraill
Arferion gwaith diogel
P3 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth bresennol a safonau i wneud y gwaith a chynnal systemau gwaith diogel yn ymwneud â’r canlynol:
• dulliau gweithio
• defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
• defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
• defnyddio systemau diogel i fynd i mewn ac allan o’r twnnel
• defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a pheiriannau yn ddiogel
• risgiau penodol i iechyd a lles galwedigaethol gan gynnwys iechyd meddwl
Dewis adnoddau
P4 dewis y maint cywir o adnoddau ac ansawdd gofynnol yr adnoddau canlynol ar gyfer y dulliau gweithio:
• offer a chyfarpar
• offer neu beiriannau
• defnyddiau traul a deunyddiau eraill
Lleihau'r risg o ddifrod
P5 cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r amgylchedd, drwy wneud y canlynol:
• diogelu’r gwaith
• cadw'r ardal waith yn ddiogel, yn glir ac yn daclus
• gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
Cyflawni dulliau gweithio
P6 cydymffurfio â’r datganiad dull i adeiladu twneli drwy weithredu peiriannau tyllu twneli (TBM) yn unol â’r fanyleb ofynnol drwy wneud y canlynol:
• dangos sgiliau gwaith i wneud y canlynol:
- gwirio
- gwerthuso
- addasu
- cyfathrebu
- alinio
- symud
- lleoli
- adeiladu
• defnyddio a chynnal a chadw peiriannau, offer a chyfarpar
• paratoi a gweithredu peiriannau tyllu twneli i adeiladu twneli yn unol â’r cyfarwyddiadau gweithio
• dadansoddi a phrosesu data a gynhyrchir gan gyfrifiadur
• ynysu, diffodd a diogelu’r peiriant
Amser a neilltuwyd
P7 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad, y rhaglen waith ac i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill ac anghenion y cleient
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
P1 Dehongli gwybodaeth
K1 pam mae gweithdrefnau’r sefydliad wedi cael eu datblygu a sut maent yn cael eu rhoi ar waith
K2 pwysigrwydd rhoi gwybod am wybodaeth amhriodol a'i chywiro
K3 mathau o wybodaeth, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli mewn perthynas â:
• lluniadau
• data a gynhyrchir gan gyfrifiadur
• cyfarfod briffio ynghylch tasgau
• asesiadau risg
• datganiadau dull
• gwybodaeth y gwneuthurwr
• gwybodaeth lafar ac ysgrifenedig
• safonau
• gweithdrefnau’r sefydliad
• deddfwriaeth gyfredol
K4 yr amrywiaeth o wasanaethau digidol perthnasol a sut maen nhw’n cael eu defnyddio gan gynnwys:
• offer digidol
• systemau digidol
P2 Trefnu a chyfathrebu
K5 pam ei bod yn bwysig trafod a chyfleu trefn y gwaith sy’n ymwneud â’r canlynol:
• trefnu’ch gwaith eich hun
• cyfleu gwybodaeth i aelodau'r tîm a galwedigaethau eraill am weithredu peiriannau a’r gwaith sydd i'w wneud, gan gynnwys y canlynol:
- data electronig
- briffio
P3 Arferion gwaith diogel
K6 gwybodaeth ar gyfer deddfwriaeth gyfredol a safonau a sut mae’n cael ei chymhwyso
K7 y gwahanol fathau o gyfarpar diogelwch tân
K8 sut dylid ymateb i argyfyngau yn unol ag awdurdodiad y sefydliad, a sgiliau personol gan gynnwys ond heb fod wedi’u cyfyngu i’r canlynol:
• tanau, gollyngiadau ac anafiadau
• nwyon ac awyru
• argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
• nodi ac adrodd ar sylweddau peryglus
K9 gweithdrefnau’r sefydliad sy’n ymwneud â diogelwch peiriannau, offer, cyfarpar ac eiddo personol mewn perthynas â’r canlynol:
• y gweithlu
• safle
• gweithle
• cwmni
• cerbydau
• y cyhoedd
K10 sut mae rhoi gwybod am risgiau a pheryglon sy’n ymwneud â’r canlynol:
• dulliau gweithio
• asesiad risg
• asesiadau risg personol
• delio â sefyllfaoedd anniogel
• gwybodaeth dechnegol gwneuthurwyr
• sgyrsiau ynghylch blwch tasgau ac offer
• rheoliadau statudol
• safonau
K11 y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddigwyddiadau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K12 pam, pryd, a sut dylid defnyddio’r cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch a nodir gan egwyddorion atal mewn perthynas â’r canlynol:
• mesurau diogelu ar y cyd
• cyfarpar diogelu personol (PPE)
• cyfarpar diogelu anadlol (RPE)
• awyru
K13 sut mae cydymffurfio ag arferion gweithio sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni deddfwriaeth a safonau cyfredol
K14 gweithdrefnau’r sefydliad wrth ddelio â damweiniau, digwyddiadau, perygl i ddiogelwch, peryglon iechyd posibl a’r effaith ar yr amgylchedd, wrth weithio:
• yn y gweithle
• dan lefel y ddaear
• mewn mannau cyfyng
• mewn mannau uchel
• gyda gwaith dros dro
• mewn amgylchedd ag aer cywasgedig
• gyda pheiriannau, offer a chyfarpar
• gyda deunyddiau a sylweddau
• gyda symud a chodi deunyddiau a chyfarpar drwy ddulliau mecanyddol a gyda llaw
• i drin a storio deunyddiau’n ddiogel, gan gynnwys ffrwydron
P4 Dewis adnoddau
K15 pam mae cyfyngiadau, ansawdd a chynaliadwyedd adnoddau’n bwysig, a sut dylid cywiro diffygion
K16 pam dewiswyd yr adnoddau a sut maen nhw’n cael eu defnyddio
K17 sut mae cadarnhau bod yr adnoddau’n cyd-fynd â’r dasg benodol
K18 sut dylid defnyddio’r adnoddau a sut mae rhoi gwybod am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau mewn perthynas â’r canlynol:
• nwyddau traul, iriadau, atodion a chymhorthion ar gyfer gwaith adeiladu
• peiriannau, offer a chyfarpar
K19 sut mae nodi’r peryglon sy'n gysylltiedig â’r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut mae rheoli’r rhain
P5 Lleihau'r risg o ddifrod
K20 sut mae diogelu gwaith, a’r amgylchedd rhag difrod, a phwrpas diogelu rhag gweithgareddau cyffredinol yn y gweithle a galwedigaethau eraill
K21 pam a sut mae’n rhaid gwaredu gwastraff yn ddiogel yn unol â’r canlynol:
• cyfrifoldebau amgylcheddol
• gweithdrefnau’r sefydliad
• gwybodaeth y gwneuthurwr
• rheoliadau statudol
• safonau
K22 pam ei bod yn bwysig cynnal ardal waith ddiogel, glir a thaclus
P6 Cyflawni dulliau gweithio
K23 sut mae cydymffurfio â'r datganiad dull mewn perthynas â'r canlynol:
• sut mae nodi nodweddion y peiriannau tyllu twneli a ddefnyddir er mwyn adeiladu twneli
• sut mae nodi ac adrodd ar newidiadau daearegol, amgylcheddol a materol
• sut mae cynnal archwiliadau cyn gweithredu ar rwystrau, sefydlogrwydd, diogelwch a sicrwydd y gwaith
• sut mae gwirio systemau gweithredu ar y peiriannau tyllu twneli a systemau wrth gefn cysylltiedig
• sut mae defnyddio peiriannau tyllu twneli i gynnal gweithrediadau twnelu
• sut mae nodi problemau gyda deunyddiau traul, gweithgareddau adeiladu, a defnyddio offer perthnasol
• sut mae gwirio i osgoi difrod i strwythurau a chyfarpar gwasanaeth cyfleustodau
• pam ei bod yn bwysig bod yn ymwybodol o’r posibilrwydd o strwythurau ac eitemau wedi’u claddu (gan gynnwys ordnans heb ffrwydro a chladdfeydd)
• sut mae gweithredu systemau hydrolig
• sut mae dehongli, dadansoddi a phrosesu'r dangosydd gweledol a systemau data cyfrifiadurol i ddatblygu gweithrediad y peiriant
• sut mae gweithredu’r peiriant o fewn y paramedrau a roddwyd
• pam ei bod yn bwysig nodi paramedrau gweithio (pwysedd y ddaear a newidiadau i’r strata)
• sut mae delio ag amodau niweidiol ar y tir
• sut mae nodi a rheoli aliniad a chyfradd datblygu
• sut mae addasu gosodiadau’r peiriant yn ôl yr angen er mwyn cynnal aliniad
• pam ei bod yn bwysig nodi a dilyn gofynion ansawdd y gosodiad
• pam ei bod yn bwysig cofnodi ac adrodd gwybodaeth yn ôl
• pam ei bod yn bwysig nodi a phenderfynu pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol, ac adrodd yn briodol ynghylch hyn
• sut mae ynysu, diffodd a diogelu’r peiriant tyllu twneli
• pam ei bod yn bwysig rhoi’r peiriant tyllu twneli mewn modd diogel er mwyn gweithio arno
• sut mae dilyn y system waith ddiogel i roi’r peiriant tyllu twneli mewn modd diogel er mwyn gweithio arno
• sut mae diffodd y peiriant tyllu twneli am gyfnod hir
• sut mae delio â ffynonellau ynni peryglus gan gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:
- trydan
- aer cywasgedig
- hydroleg
- hylifau dan bwysedd
- offer tensiwn uchel
- • terfynau eich awdurdod eich hun
• sut mae defnyddio peiriannau, offer a chyfarpar
• sut mae gweithio gyda pheiriannau ac offer, o’u cwmpas ac yn agos iawn atynt
• sut mae gweithio mewn mannau uchel
• beth yw'r gofynion ar gyfer gweithio mewn lle cyfyng
• sut mae defnyddio cyfarpar mynediad
• sut a pham y mae’r gweithiwr yn gofalu am yr holl beiriannau, offer a chyfarpar ac yn eu cynnal a’u cadw
K24 pwysigrwydd iechyd a lles galwedigaethol, gan gynnwys iechyd meddwl
K25 pwysigrwydd defnyddio Tegwch, Cynhwysiant a Pharch wrth ddelio ag eraill
K26 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig ag adeiladu twneli drwy weithredu peiriannau tyllu twneli
P7 Amser a neilltuwyd
K27 y rhaglen ar gyfer gwneud y gwaith, gan gynnwys yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd, a pham y dylid cadw at derfynau amser