Gosod a symud partisiynau gwydr/sgriniau mewnol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar a gosod a symud partisiynau gwydr/sgriniau mewnol.
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol Systemau Mewnol a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
- cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
- dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio
- cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas
- cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion
- cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth
K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu
K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli
K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn
*
Meini Prawf Perfformiad 2*
Arferion gwaith diogel
K4 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso
K5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K6 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
K7 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
K9 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r *ddeddfwriaeth* gyfredol a chanllawiau swyddogol
Meini Prawf Perfformiad 3
Dewis adnoddau
K10 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K11 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw
K12 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio
K13 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain
Meini Prawf Perfformiad 4
Lleihau'r risg o ddifrod
K14 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K15 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn
Meini Prawf Perfformiad 5
Bodloni gofynion y contract
K16 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau
K17 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar
Meini Prawf Perfformiad 6
Amser a neilltuwyd
K18 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
**Meini Prawf Perfformiad 1** 1 dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud |
**
**
**Meini Prawf Perfformiad 2**
2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am y dilynol
2.1 dulliau gweithio
2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
2.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd
|
**Meini Prawf Perfformiad 3**
3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
3.1 deunyddiau, cydrannau a gosodiadau
3.2 offer a chyfarpar
|
**Meini Prawf Perfformiad 4** 4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod 5 cynnal lle gweithio glân 6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol |
**
**
**
**
**
**
**
**
**
**
**
**
**
**
**
**
**
**
**
**
**
**
**
**
**
**
**
**
**
**
**Meini Prawf Perfformiad 5**
7 dangos sgiliau mesur, marcio allan, ffitio, gorffen, gosod a sicrhau
8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol
9 gosod a symud tri o'r partisiynau gwydr/sgriniau mewnol dilynol sy'n gwrthsefyll tân a/neu nad ydynt yn gwrthsefyll tân, gan gynnwys gwydr, trimiau, mowldinau, setiau drysau a gwaith haearn, yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir
9.1 partisiynau gwydr di-ffrâm
9.2 partisiynau gwydr fframiog
9.3 partisiynau ffatri ffabrigedig
9.4 llenwaliau mewnol
10 defnyddio deunyddiau selio
11 trin cydrannau fframiog a chwarelau gwydr mawr yn ddiogel
|
**Meini Prawf Perfformiad 6** 12 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient |
Gwybodaeth Cwmpas
**Gwaredu gwastraff** 1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol |
**
**
**Argyfyngau**
2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol
2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau
2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
|
**Peryglon** 3 y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol |
**
**
**Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch**
4 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol
4.1 mesurau diogelu ar y cyd
4.2 system awyru a gwacáu leol
4.3 cyfarpar diogelu personol
4.4 cyfarpar diogelu anadlol |
**
** **Gwybodaeth**
5 lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chanllawiau swyddogol/rheoliadau sy'n ymwneud ag adeiladau ac yn gysylltiedig â gosod a symud partisiynau gwydr
|
** ** **Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol** 6 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud/storio deunyddiau, codi a chario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol |
** ** **Cynnal a chadw** 7 gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol |
**Dulliau gweithio**
8 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i
8.1 nodi a bodloni gofynion ansawdd ar gyfer gosod
8.2 cadarnhau datwm fertigol a llorweddol
8.3 cadarnhau bod y profion tân, acwstig a strwythurol priodol wedi' u gwneud
8.4 sicrhau bod yr is-haen bresennol yn addas
8.5 sicrhau bod system osod addas yn cael ei defnyddio
8.6 nodi lleoliad gwasanaethau mecanyddol a thrydanol a gweithio o'u cwmpas
8.7 gosod partisiynau gwydr di-ffrâm, partisiynau gwydr fframiog, partisiynau ffatri ffabrigedig a llenwaliau mewnol sy'n gwrthsefyll tân a/neu nad ydynt yn gwrthsefyll tân
8.8 gosod gwydr gwydn, gwydr laminedig, gwydr sy'n gwrthsefyll tân ac unedau gwydr dwbl
8.9 gosod trimiau, mowldinau, setiau drysau, fframiau alwminiwm a gwaith haearn
8.10 gosod cysgodlenni ac addurnwaith
8.11 defnyddio deunydd selio
8.12 gwneud gwaith atgyweirio
8.13 datgysylltu a symud partisiynau gwydr/sgriniau mewnol
8.14 deall gofynion trin paneli mawr a thrwm
8.15 trin gwydr gwydn, gwydr laminedig, gwydr sy'n gwrthsefyll tân ac unedau gwydr dwbl
8.16 defnyddio cyfarpar mecanyddol ac anfecanyddol defnyddiol wrth drin paneli mawr a thrwm
8.17 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol
8.18 gweithio gyda pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt
8.19 cyfarwyddo ac arwain peiriannau wrth iddynt symud a chael eu gweithredu
8.20 defnyddio offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar
8.21 gweithio ar uchder
8.22 defnyddio cyfarpar mynediad
8.23 defnyddio systemau stopio cwymp
9 gwaith tîm a chyfathrebu
10 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod a symud partisiynau gwydr/sgriniau mewnol
|
**
**
**Problemau**
11 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
11.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
11.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad
|
**Rhaglen** 12 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig 13 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith |
** ** **Diogelu gwaith** 14 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw |
**
**
**Adnoddau**
15 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu arbenigol o
15.1 paneli, fframiau, traciau, gwydr, drysau, gwaith haearn, trimiau, deunyddiau selio, ffitiadau a gosodiadau
15.2 offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar
16 dewis yr adnoddau a'r deunyddiau cywir i fodloni'r gofynion
17 dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn ar gyfer gosod a symud partisiynau gwydr/sgriniau mewnol
|
** ** ** ** ** ** **Gweithdrefnau diogelwch** 18 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr |