Paratoi a chymysgu deunyddiau, plastrau neu rendradau pridd i’w defnyddio ar strwythurau pridd
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi a chymysgu deunyddiau pridd ar gyfer strwythurau, plastrau neu rendradau, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, yn unol â gofynion y sefydliad sy’n cyfateb i’r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu’n rhagori arnynt
Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol sgiliau treftadaeth a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Dehongli gwybodaethP1 dehongli’r wybodaeth am y gwaith a’r adnoddau fel sy’n berthnasol i leoliad daearyddol a’r amodau hinsawdd i gadarnhau ei bod yn berthnasol ar gyfer y canlynol:
- lluniadau
- manylebau
- rhestrau
- datganiadau dull
- asesiadau risg
- gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr
- cyfarwyddiadau llafar, ysgrifenedig neu electronig
- rheoliadau, deddfwriaeth, canllawiau swyddogol a thrwyddedau cyfredol
Arferion gwaith diogel
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol berthnasol a chanllawiau swyddogol i wneud y gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach am y canlynol:
- dulliau gweithio
- defnyddio cyfarpar diogelu personol priodol yn ddiogel
- defnyddio cyfarpar mynediad neu godi yn ddiogel
- defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
- defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
- risgiau penodol i iechyd a diogelwch galwedigaethol gan gynnwys ymwybyddiaeth o iechyd meddwl
- risgiau penodol sy’n gysylltiedig â deunyddiau peryglus neu rai sy’n cynnwys asbestos
Dewis adnoddau
P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio ar gyfer y canlynol:
- deunyddiau a chydrannau
- offer a chyfarpar
Lleihau'r risg o ddifrod
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas drwy:
- gymryd camau perthnasol i ddiogelu’r mannau gwaith rhag difrod damweiniol neu anfwriadol
- gweithio gydag ymwybyddiaeth o’r amgylchedd mewn cysylltiad â galwedigaethau eraill
- cadw'r man gwaith yn lân ac yn daclus
- gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion drwy'r canlynol:
- dangos sgiliau gwaith i wneud y canlynol:
- echdynnu
- mesur
- samplu
- graddio
- gwirio
- sypynnu
- tymheru
- cymysgu
- ychwanegu
- codi
- storio
- defnyddio a chynnal a chadw offer llaw ac offer pŵer a chyfarpar ategol:
- dewis a defnyddio'r offer a'r peiriannau cywir ar gyfer y canlynol:
- echdynnu
- cludiant
- paratoi
- cymysgu deunyddiau
- glanhau, cynnal a chadw a storio cymysgwyr ac offer eraill
- dod o hyd i ddeunyddiau crai, eu profi a'u prosesu ar gyfer paratoi deunyddiau pridd ar gyfer strwythurau, plastrau neu rendradau:
- echdynnu samplau cynrychioliadol o bridd gan sicrhau rheolaeth barhaus dros unrhyw echdynnu
- cynnal profion maes
- gwneud samplau i bennu cymysgedd priodol ar gyfer un o'r canlynol:
- samplau morter
- waliau profi
- ciwbiau
- plastrau
- asesu cryfder ac addasrwydd y samplau
- cyfrifo'r deunyddiau:
- meintiau
- cyfeintiau
- cyfrannau
- paratoi'r deunyddiau crai:
- sychu
- malu
- rhidyllu
- meddalu mewn dŵr
- storio
- cludo
- cynhyrchu'r gymysgedd ar gyfer deunyddiau pridd ar gyfer strwythurau, plastrau neu rendradau:
- asesu a dewis y dechneg gymysgu
- cymysgu i sicrhau bod yr holl ddeunyddiau'n cael eu dosbarthu'n gyfartal
- monitro a rheoli cynnwys lleithder y gymysgedd
- osgoi dadgyfuno wrth gludo a storio
- addasu cyfansoddiad y gymysgedd:
- gosod tasgau
- tywydd
- cyfarpar
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd, gan ystyried yr amodau hinsawdd, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad, y rhaglen waith ac i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
P1 Dehongli gwybodaeth
K1 pam mae gweithdrefnau’r sefydliad wedi cael eu datblygu a sut maent yn cael eu rhoi ar waith
K2 mathau o wybodaeth, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli mewn perthynas â:
- lluniadau
- manylebau
- rhestrau
- datganiadau dull
- asesiadau risg
- gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr
- gwybodaeth gytundebol
- deddfwriaeth, rheoliadau, canllawiau swyddogol a thrwyddedau cyfredol, gan gynnwys adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt
- cynlluniau ac adroddiadau cadwraeth
- cyfarwyddiadau llafar, ysgrifenedig neu electronig
K3 pwysigrwydd gweithdrefnau sefydliadol o ran datrys problemau â gwybodaeth a pham mae’n bwysig eu dilyn
K4 gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol, gyfredol, canllawiau swyddogol a gofynion penodol i safle a sut mae’n cael ei rhoi ar waith
P2 Arferion gwaith diogel
K5 sut dylid ymateb i argyfyngau yn unol ag awdurdodiad y sefydliad a sgiliau personol o ran y canlynol:
- tanau a’r mathau o gyfarpar diffodd tân a sut a phryd y cânt eu defnyddio o ran dŵr, CO2, ewyn a phowdr
- gollyngiadau ac anafiadau
- argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
- nodi ac adrodd am sylweddau peryglus gan gynnwys deunyddiau sy’n cynnwys asbestos a charbonad plwm, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny
K6 y gweithdrefnau diogelwch sefydliadol a phenodol i safle ar gyfer offer, peiriannau a chyfarpar mewn perthynas â’r canlynol:
- safle
- gweithle
- cerbydau
- cwmni
- gweithwyr
- cleientiaid
- y cyhoedd
K7 sut mae rhoi gwybod am risgiau a pheryglon a nodwyd gan y canlynol:
- dulliau gweithio
- asesiadau risg
- asesiad personol
- gwybodaeth dechnegol gwneuthurwyr
- rheoliadau statudol
- canllawiau swyddogol
- Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
K8 y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K9 pam, pryd a sut y dylid defnyddio’r cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch a nodir gan egwyddorion atal mewn perthynas â’r canlynol:
- mesurau diogelu ar y cyd
- cyfarpar diogelu personol (PPE)
- cyfarpar diogelu anadlol (RPE)
- awyru lleol sy'n gwacáu mygdarth (LEV)
K10 sut mae cydymffurfio ag arferion gwaith sy’n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni’r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol wrth ddelio â damweiniau posibl, peryglon i iechyd a’r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle mewn perthynas â’r canlynol:
- dan lefel y ddaear
- lleoedd cyfyng
- gweithio mewn mannau uchel
- offer, peiriannau a chyfarpar
- deunyddiau a sylweddau
- symud a storio deunyddiau drwy eu codi a’u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
P3 Dewis adnoddau
K11 pam mae nodweddion, ansawdd, defnydd, cynaliadwyedd, addasrwydd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau yn bwysig, a sut dylid rhoi gwybod am ddiffygion
K12 pam y dylid mabwysiadu arferion gwaith a deunyddiau cynaliadwy a moesegol
K13 y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer dewis adnoddau, pam maen nhw wedi cael eu datblygu a sut mae eu defnyddio
K14 sut mae cadarnhau bod yr adnoddau a’r deunyddiau’n cydymffurfio â’r fanyleb
K15 sut dylid dod o hyd i'r adnoddau, a'u dewis, a sut mae rhoi gwybod am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau ynglŷn â'r canlynol:
- clai, pridd (isbridd), sialc, marl, lôm, ffibrau naturiol, agregau, ychwanegion, pigmentau, calch
- ffitiadau a gosodiadau
- offer llaw, offer pŵer, peiriannau a chyfarpar ategol
- cyfarpar digidol
K17 dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer paratoi a chymysgu deunyddiau pridd ar gyfer strwythurau, plastrau neu rendradau
P4 Lleihau'r risg o ddifrod
K18 sut mae diogelu gwaith a’r ardal o’i gwmpas rhag difrod a phwrpas diogelu rhag gweithgareddau cyffredinol yn y gweithle, gweithrediadau eraill a thywydd garw a sut mae lleihau difrod
K19 pa mor bwysig yw gwaredu gwastraff yn ddiogel, a sut mae gwneud hynny, yn unol â’r canlynol:
- cyfrifoldebau amgylcheddol
- gweithdrefnau’r sefydliad
- gwybodaeth gwneuthurwyr
- gwybodaeth cyflenwyr
- rheoliadau statudol
- canllawiau swyddogol
K20 pam mae’n bwysig cynnal ardal waith ddiogel, glir a thaclus
P5 Bodloni manyleb y contract
*
sut i:
- echdynnu
- mesur
- samplu
- graddio
- gwirio
- sypynnu
- tymheru
- cymysgu
- ychwanegu
- codi
- storio
pam fod angen:
- echdynnu
- mesur
- samplu
- graddio
- gwirio
- sypynnu
- tymheru
- cymysgu
- ychwanegu
- codi
- storio
y dulliau ar gyfer sicrhau cyfrannau cymysgeddau:
- samplau
- waliau profi
sut mae gwneud samplau i bennu cymysgedd priodol, gan gynnwys:
- samplau morter
- waliau profi
- ciwbiau
- plastrau
pam ei bod yn bwysig gwneud samplau i bennu cymysgedd priodol, gan gynnwys y canlynol:
- samplau morter
- waliau profi
- ciwbiau
- plastrau
ffynonellau gwybodaeth rhanbarthol am ddeunyddiau crai:
- defnyddio mapiau pridd
- adeiladau presennol
- ymchwilio’r safle
- adroddiadau
- arsylwi ar y dirwedd
- gwybodaeth leol
sut i ddod o hyd i ddeunyddiau crai heb eu gweithgynhyrchu, eu profi a’u prosesu ar gyfer paratoi deunyddiau pridd ar gyfer strwythurau, plastrau a rendradau
- pam mae angen canfod, profi a phrosesu deunyddiau crai heb eu gweithgynhyrchu gan nodi goblygiadau o ran cynaliadwyedd a chostau
- pam mae angen echdynnu samplau cynrychioliadol o bridd
- beth yw sampl gynrychiadol o bridd
- sut mae sicrhau rheolaeth barhaus dros echdynnu
- pam mae angen sicrhau rheolaeth barhaus dros echdynnu
- sut mae cynnal profion maes ar gyfer pridd ac asesu’r canlyniadau
- profion labordy ar gyfer adnabod pridd sy’n berthnasol i’r gwaith sy’n cael ei wneud
sut i brofi cryfder ac addasrwydd samplau:
- yn y maes
- yn y labordy
pam ei bod yn bwysig asesu cryfder ac addasrwydd y samplau
sut mae cyfrifo deunyddiau pridd ar gyfer strwythurau, plastrau a rendradau, gan gynnwys y canlynol:
- meintiau
- cyfrolau
- cyfrannau
pam ei bod yn bwysig cyfrifo deunyddiau pridd ar gyfer strwythurau, plastrau a rendradau:
- meintiau
- cyfrolau
- cyfrannau
y dulliau a ddefnyddir i baratoi’r deunyddiau crai:
- sychu
- malu
- rhidyllu
- meddalu mewn dŵr
- storio
- cludiant
y dulliau sydd eu hangen i asesu a dewis technegau cymysgu
- y broses echdynnu i sicrhau cymysgedd homogenaidd heb ei lygru
- sut i fonitro a rheoli cynnwys lleithder y gymysgedd
- pam mae angen monitro a rheoli cynnwys lleithder y gymysgedd
- pam ei bod yn bwysig osgoi dadgyfuno wrth gludo a storio
y dulliau er mwyn gallu addasu cyfansoddiad y gymysgedd yn ôl:
- y dasg
- tywydd
- cyfarpar
rheolaethau cyfreithiol ac amgylcheddol dros echdynnu pridd
cyfansoddion a phriodweddau’r pridd:
- cydlyniad
- dosbarthiad maint gronynnau
- plastigedd
- cynnwys lleithder gorau (OMC)
- lliw
y gwahanol fwynau clai a’u priodweddau
cyfansoddiad y gymysgedd:
- dosbarthiad maint gronynnau
- cydlyniad
wal neu blastr gorffenedig:
- technegau
- cryfderau
- gwydnwch
- wynebau
y berthynas rhwng cyfansoddiad y gymysgedd a wal orffenedig neu blastr
egwyddorion sefydlogi:
- corfforol
- cemegol
rôl y ffeibrau yn strwythur y pridd
- sut a phryd i ddefnyddio cynhyrchion wedi’u gweithgynhyrchu
effeithiau’r drefn ac amseru ar y canlynol:
- echdynnu
- storio
- cymysgu
effeithiau amodau storio ar ddeunyddiau crai a’r gymysgedd:
- tywydd
- cynnwys lleithder
- y gallu i weithio ag o
- diraddiad ffibrau
technegau cymysgu:
- â llaw
- mecanyddol
sut mae mesur a samplu deunyddiau pridd ar gyfer strwythurau, plastrau a rendradau
- pam mae mannau dan do sydd wedi’u hawyru’n dda yn hanfodol wrth weithio gyda deunyddiau, plastrau a rendradau pridd
- pam ei bod yn bwysig defnyddio deunyddiau a dulliau iach a chynaliadwy
- pam ei bod yn bwysig nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol, ac adrodd yn briodol ynghylch hyn
- perthnasedd asesiad o arwyddocâd
pam fod angen pennu gofynion penodol ar gyfer y canlynol:
- strwythurau o ddiddordeb arbennig
- adeiladu traddodiadol (cyn 1919)
- arwyddocâd hanesyddol
sut i ddefnyddio pob math o offer llaw ac offer pŵer, cyfarpar a pheiriannau cysylltiol ar gyfer y canlynol:
- echdynnu
- cludiant
- paratoi
- cymysgu deunyddiau
sut a pham mae angen i'r gweithiwr sicrhau bod yr holl offer llaw a phŵer a chyfarpar ategol yn cael eu cynnal a’u cadw
- sut mae gweithio mewn mannau uchel gan ddefnyddio cyfarpar mynediad
- sut mae gweithio gyda pheiriannau ac offer, o’u cwmpas ac yn agos iawn atynt
K22 gweithdrefnau’r sefydliad o ran ymddygiad ar y safle, a chydnabod a sicrhau tegwch, cynhwysiant a pharch o fewn yr amgylchedd gwaith, a sut i roi sylw i ymddygiad amhriodol ar y safle a rhoi gwybod amdano
K23 pwysigrwydd dulliau gweithio, cysylltiadau
rhyngbersonol a chyfathrebu ac anghenion galwedigaethau eraill sy'n
gysylltiedig â pharatoi a chymysgu deunyddiau pridd ar gyfer strwythurau,
plastrau neu rendradau
P6 Amser a n*eilltuwyd*
K24 y rhaglen ar gyfer gwneud y gwaith, gan gynnwys yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd, a pham y dylid cadw at derfynau amser neu roi gwybod os ydych yn debygol o fethu cadw atynt
K25 y mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd a amcangyfrifwyd, a gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith