Gosod, adeiladu, cynnal, datgysylltu a symud gwaith dros dro
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar i osod, adeiladu, cynnal a datgysylltu gwaith dros dro
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau gwaith dros dro ac yn gweithio ym maes adeiladu, a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â’r gofynion
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Meini Prawf Perfformiad 1 K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn |
Meini Prawf Perfformiad 2 K4 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso K5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb K6 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol K7 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch K9 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol |
Meini Prawf Perfformiad 3 K10 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion K11 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw K12 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio K13 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain |
Meini Prawf Perfformiad 4 K14 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu K15 pam y dylid g*waredu gwastraff* yn ddiogel a sut i wneud hyn |
Meini Prawf Perfformiad 5 K16 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau K17 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar |
Meini Prawf Perfformiad 6 K18 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser |
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Meini Prawf Perfformiad 1 1 dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud |
Meini Prawf Perfformiad 2 2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am y dilynol 2.1 dulliau gweithio 2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel 2.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel 2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel 2.5 risgiau penodol i iechyd |
Meini Prawf Perfformiad 3 3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun 3.1 deunyddiau, cydrannau a gosodiadau 3.2 offer a chyfarpar |
Meini Prawf Perfformiad 4 4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod 5 cynnal lle gweithio clir a thaclus 6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol |
Meini Prawf Perfformiad 5 7 dangos sgiliau mesur, marcio allan, alinio, addasu, cydosod, adeiladu, codi, dodi, lefelu, plymio, gosod, gwirio, monitro, addasu, atgyfnerthu, ffitio, rhoi'n sownd, sicrhau, datgysylltu a symud 8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol 9 Gosod, adeiladu, cynnal, datgysylltu a symud yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir ar gyfer o leiaf bedwar o'r canlynol fel gwaith dros dro i ganiatáu neu alluogi adeiladu parhaol 9.1 sgriniau, byrddau a gorchuddion amddiffynnol 9.2 llwybrau i mewn ac allan 9.3 offer cynnal 9.4 strwythurau cynnal 9.5 cyfarpar symud 9.6 offer gwyro 9.7 cyfleusterau safle 9.8 sefydlogi |
Meini Prawf Perfformiad 6 10 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient |
Gwybodaeth Cwmpas
Gwaredu gwastraff 1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol |
Argyfyngau 2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol 2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau 2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol |
Peryglon 3 y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol |
Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch 4 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol 4.1 mesurau diogelu ar y cyd 4.2 system awyru a gwacáu leol 4.3 cyfarpar diogelu personol 4.4 cyfarpar diogelu anadlol |
Gwybodaeth 5 lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, data electronig, cyfarwyddiadau ysgrifenedig a llafar, trwyddedau, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a rheoliadau cyfredol sy'n ymwneud ag adeiladau, strwythurau a chanllawiau swyddogol sy'n gysylltiedig â gosod, adeiladu, cynnal a chadw, datgysylltu a symud gwaith dros dro |
Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol 6 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol |
Cynnal a chadw 7 gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol |
Dulliau gweithio 8 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i 8.1 nodi gofynion ansawdd y cytunwyd arnynt 8.2 bodloni gofynion y cytunwyd arnynt 8.3 nodi rolau'r goruchwyliwr gwaith dros dro a'r cydlynydd gwaith dros dro 8.4 adnabod nodweddion, ffactorau hanfodol gwaith dros dro, a rhyngwyneb â strwythurau presennol a gwaith parhaol 8.5 nodi mecanweithiau rheoli gwaith dros dro 8.6 gwirio adnoddau o ran math, nifer a difrod ac adrodd am anghysondebau 8.7 gosod, adeiladu, cynnal a chadw, datgysylltu a symud sgriniau, byrddau a gorchuddion amddiffynnol er mwyn cyfyngu ar fynediad a chynnal cadernid yr eitemau a warchodir 8.8 gosod, adeiladu, cynnal a chadw, datgysylltu a symud llwybrau i mewn ac allan, llwybrau newydd ac addasiadau i lwybrau presennol, gan gynnwys llwybrau i gerddwyr, llwybrau cerbydau, pontydd, deciau, agoriadau, grisiau, rampiau, mannau pasio a pharcio 8.9 cydosod, adeiladu, alinio, codi, gosod adeiladwaith, datgysylltu a chael gwared ag offer sy'n cynnal llwythi 8.10 cydosod, adeiladu, alinio, codi, gosod adeiladwaith, datgysylltu a chael gwared ag offer cynnal sy'n dal pethau yn eu lle, gan gynnwys ffurfwaith, ffugwaith a systemau cefnogi cloddiadau 8.11 nodi'r meini prawf, y nodweddion a'r gwahaniaethau rhwng systemau cefnogi perchnogol a phwrpasol 8.12 archwilio a chynnal a chadw strwythurau ategol gan gynnwys sgaffaldiau, ffurfwaith, ffugwaith, propiau, offer cefnogi cloddiadau a systemau sychu 8.13 gwirio cyflwr, cymorth ac amddiffyniad cyfleustodau 8.14 nodi'r meini prawf ar gyfer gwirio, archwilio, arolygu ac ardystio gwaith dros dro parhad / 8.15 gosod offer symud gan gynnwys nenbontydd, teclynnau codi, sgipiau, cafnau llithro, cludyddion, sugnyddion, pympiau a phibellau 8.16 cynnal a chadw offer symud a dargyfeirio, gan gynnwys addasiadau drwy atgyfnerthu 8.17 nodi'r meini prawf ar gyfer datgysylltu, diogelu ac ailgysylltu cyfleustodau 8.18 ffitio, gosod, lleoli, alinio, sicrhau, datgysylltu a symud offer cynnal a systemau cario, o dan ac uwchben y ddaear, i ddargyfeirio offer cludo cyfleustodau gan gynnwys trydan, cyfathrebiadauu, dŵr (budr, rwyneb a ffres), nwy ac aer 8.19 gweithio gyda pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt 8.20 nodi'r meini prawf ar gyfer cyfarwyddo ac arwain symudiadau a gweithrediadau cerbydau, offer a pheiriannau 8.21 mesur, marcio allan, trosglwyddo, gosod allan a chynnal llinellau, plymio a lefelu 8.22 monitro traul ar waith dros dro ac adrodd ar hynny 8.23 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol ychwanegol 8.24 nodi gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol (cyn 1919) ac arwyddocâd hanesyddol 8.25 defnyddio offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar 8.26 gweithio ar uchder 8.27 defnyddio cyfarpar mynediad 9 gwaith tîm a chyfathrebu 10 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod, adeiladu, cynnal a chadw, datgymalu a symud gwaith dros dro |
Problemau 11 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio 11.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa 11.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad |
Rhaglen 12 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig 13 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith |
Diogelu gwaith 14 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw |
Adnoddau 15 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac arbenigol o 15.1 mesurau diogelu 15.2 deunyddiau 15.3 offer cynnal 15.4 cydrannau, ffitiadau a gosodiadau 15.5 offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar 16 nodi niferoedd, hyd, arwynebedd, cyfaint a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer gosod, adeiladu, cynnal a chadw, datgysylltu a symud gwaith dros dro |
Gweithdrefnau diogelwch 17 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr |
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Geirfa
Y diffiniad a ddarperir gan y Sefydliad Safonau Prydeinig BS5975. 'rhannau o'r gwaith sy'n galluogi neu'n caniatáu i'r gwaith parhaol gael ei adeiladu, ei ddiogelu a'i gefnogi neu ddarparu mynediad i'r gwaith parhaol hwnnw, ac fe allent aros yn eu lle ar ôl cwblhau'r gwaith.'
Sylwer: mae strwythurau, cyfarpar cefnogi, systemau cynnal y cefn, gwrthgloddiau a mynediadau enghreifftiau o waith dros dro.
Enghreifftiau
Sgriniau a gorchuddion amddiffyn – byrddau, ffasadau.
Llwybrau i mewn ac allan – llwybrau newydd ac addasiadau i lwybrau presennol, gan gynnwys llwybrau i gerddwyr, llwybrau i gerbydau, pontydd, deciau, agoriadau, grisiau, rampiau, mannau pasio a mannau parcio.
Cefnogi – cario llwythi, dal rhywbeth yn ei le, dargyfeirio, atal
Strwythurau cefnogi – sgaffaldiau, ffurfwaith, ffugwaith, propiau, cymorth cloddio a systemau sychu
Cyfarpar symud – nenbontydd, teclynnau codi, cafnau llithro sgipiau, cludyddion, sugnyddion, pympiau, pibellau
Cyfarpar dargyfeirio – trydan, cyfathrebiadau, dŵr (budr, arwyneb a ffres), nwy ac aer
Cyfleusterau'r safle – cabanau, llochesi, cyfleusterau lles
Sefydlogi – seilbyst, growtio, sefydlogi pridd