Defnyddio offer neu beiriannau i sgubo, glanhau neu glirio

URN: COSVR761
Sectorau Busnes (Cyfresi): Adeiladu a Chynnal a Chadw Ffyrdd ,Gweithrediadau Peiriannau (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar i osod, gweithredu a diffodd offer neu beiriannau i sgubo, glanhau a chlirio.

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio'n annibynnol neu fel rhan o dîm i weithredu offer neu beiriannau sy'n sgubo, glanhau a chlirio, a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1  dehongli'r wybodaeth a roddir am ddefnyddio peiriannau
      a chadarnhau ei pherthnasedd

P2  trefnu gydag eraill ym mha drefn y dylid gwneud y gwaith

P3  cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol,
      dogfennau statws cyfreithiol arbennig, canllawiau swyddogol
      a gweithdrefnau'r sefydliad i gynnal arferion gwaith diogel
      ac iach

P4  gofyn am adnoddau i gynnal gweithrediadau peiriannau neu
      offer er mwyn cwblhau'r rhaglen waith

P5  dewis adnoddau peirianyddol ar gyfer y dulliau gweithio
      a'r gweithrediadau i'w cyflawni

P6  cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o
      ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas

P7  cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud
      y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion

P8  cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r
      rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth 

K1        pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am
            wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u
            cywiro, a sut i'w gweithredu

K2        pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell
            a sut i'w dehongli

K3        beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau 
           * â'r *wybodaeth
a pham mae'n bwysig eu dilyn

Meini Prawf Perfformiad 2
Trefnu gydag eraill 

K4        sut mae aelodau'r tîm yn cyfleu syniadau i'w gilydd

K5        sut mae adnoddau'n cael eu trefnu i gyd-fynd â'r cynnydd
            a wnaed yn y gwaith

K6        pa sgiliau sydd eu hangen i wneud y gwaith

Meini Prawf Perfformiad 3
Arferion gwaith diogel 

K7        faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i 
            gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol,
            Codau Ymarfer cymeradwy a chanllawiau swyddogol a sut
             i'w chymhwyso

K8        sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb

K9        beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer 
            peiriannau, offer, cyfarpar ac eiddo personol

K10      beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a
            phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K11      pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a
*            diogelwch*

K12      sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er
            mwyn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth gyfredol a 
            **chanllawiau swyddogol

**

Meini Prawf Perfformiad 4
Gwneud cais am adnoddau 

K13      gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer gwneud cais am nwyddau
            traul ac adnoddau eraill

Meini Prawf Perfformiad 5
Dewis adnoddau 

K14        beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, 
              cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro 
              diffygion

K15        sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw
              broblemau sy'n gysylltiedig â nhw

K16        beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau
              pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio

K17        pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau
              gweithio
a sut i ddelio â'r rhain

Meini Prawf Perfformiad 6
Lleihau'r risg o ddifrod 

K18        sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu

K19        pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Meini Prawf Perfformiad 7
Bodloni gofynion y contract 

K20       sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut
             i adrodd am broblemau

K21       sut i gynnal a chadw peiriannau, offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 8
Amser a neilltuwyd 

K22      beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser 
            amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau
            amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Meini Prawf Perfformiad 1
1      dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull,
        asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n ymwneud
        â'r gweithrediadau peirianyddol a'r gwaith sydd i'w wneud

Meini Prawf Perfformiad 2
2      trefnu'ch gwaith eich hun
3      cyfleu'r gweithrediadau peirianyddol a'r gwaith sydd i'w wneud
        i aelodau'r tîm a galwedigaethau cysylltiedig eraill

Meini Prawf Perfformiad 3
4      osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am
        ddiogelwch sy'n ymwneud ag o leiaf bump o'r dilynol
4.1 dulliau gweithio
4.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
4.3 defnyddio a storio offer neu beiriannau yn ddiogel
4.4 defnyddio a storio offer a chyfarpar yn ddiogel
4.5 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
4.6 risgiau penodol i iechyd 

Meini Prawf Perfformiad 4
5      dilyn gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer gwneud cais am
        nwyddau traul, deunyddiau ac adnoddau eraill

Meini Prawf Perfformiad 5
6      dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
6.1 offer llaw, cyfarpar ategol ac ategolion

Meini Prawf Perfformiad 6
7      diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod
8      atal difrod a chynnal lle gweithio glân
9      gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Meini Prawf Perfformiad 7
10     dangos sgiliau gwirio, paratoi, ail-lenwi, ailgyflenwi, gosod,
         alinio, ymgysylltu, addasu, symud, gwagio, golchi allan, clirio
         a glanhau
11     defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, cyfarpar ategol
12     defnyddio offer neu beiriannau yn unol â'r cyfarwyddiadau
         gweithio a roddir i sgubo a gwneud o leiaf ddau o'r canlynol
12.1 tipio deunyddiau a godir
12.2 sgrwbio'n lân
12.3 glanhau â phibell ddŵr, sgubo gwlyb
12.4 glanhau â golchwr gwasgedd
12.5 sugno'n wag neu'n glir
12.6 chwythu'n glir
13      diffodd a diogelu offer neu beiriannau

Meini Prawf Perfformiad 8
14      cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig
          a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r
          cleient


Gwybodaeth Cwmpas

**Cyfathrebu** 1      trafodaethau, brasluniau, data electronig a sesiynau briffio
**Gwaredu gwastraff** 2      cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad,         gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a         chanllawiau swyddogol
**Argyfyngau** 3      ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad          sefydliadol a sgiliau personol 3.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau 3.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
**Peryglon** 4     y rhai hynny a nodir fel rhan o ddull gweithio, mewn asesiadau        risg/Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd, yng         ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau        statudol a chanllawiau swyddogol
**Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch** 5      y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion diogelu ar gyfer defnydd         galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math,          sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol 5.1 mesurau diogelu ar y cyd 5.2 system awyru a gwacáu leol 5.3 cyfarpar diogelu personol 5.4 cyfarpar diogelu anadlol
** ** **Gwybodaeth** 6      lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg,         cyfarwyddiadau gwaith, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, cofrestr         cludyddion gwastraff a rheoliadau cyfredol sy'n ymwneud â          gweithredu offer neu beiriannau 
**Deddfwriaeth, Codau Ymarfer cymeradwy a chanllawiau swyddogol** 7      mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am         ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth         weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng,         ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac         wrth symud/storio deunyddiau, codi a chario a defnyddio cyfarpar         codi mecanyddol
**Cynnal a chadw** 8      gofal y gweithiwr am offer neu beiriannau, offer llaw, cyfarpar         ategol ac ategolion 

Dulliau gweithio

9     cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau
       gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r 
       deunyddiau a ddefnyddir i

9.1   adnabod nodweddion yr offer, y peiriannau a'r cyfarpar a 
        ddefnyddir i sgubo, glanhau a chlirio

9.2    cysylltu â chynrychiolydd y safle

9.3    cwblhau gwiriadau cyn ac ar ôl stopio ar gyfer offer sgubo, 

         glanhau a chlirio, a chyfarpar ategol

9.4    cynnal gwiriadau swyddogaethol

9.5    nodi'r ardal i'w sgubo, ei glanhau a'i chlirio

9.6    gwirio i osgoi difrod i strwythurau, offer gwasanaeth 
         cyfleustodau, cerbydau, pobl ac anifeiliaid

9.7   paratoi, gosod ac addasu ar gyfer gofynion gweithredol, 
         diogelwch a sicrwydd

9.8   defnyddio offer, peiriannau a chyfarpar; gêrs, cydiwr, brêc, 

        llyw, cymhorthion bacio, cyflymder a lleoliad ar gyfer 
        patrymau, dilyniannau a gweithrediadau sgubo, glanhau 
        a chlirio

9.9   monitro gweithrediadau gan ddefnyddio cymhorthion sain a
        gweledol

9.10  canfod ffrydiau gwastraff a delio â nhw

9.11  gwagio a rhyddhau hoprannau a chael gwared ar

          ddeunyddiau sydd wedi cael eu codi

9.12  adnabod ac osgoi tipio anghyfreithlon

9.13  ffurfio cylenwadau

9.14  ailgyflenwi, ail-lenwi dŵr o hydrantau o bell

9.15  monitro traul ar y brws

9.16  nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a
         gwybodaeth arbenigol

9.17  teithio ar briffyrdd cyhoeddus

9.18  delio ag olew, disel, petrol a chemegau sydd wedi gollwng

9.19  golchi hoprannau

9.20  gweithredu mewn gwahanol amgylchiadau, yn ystod y dydd,
         yn y nos, lefel golau isel, gwelededd cyfyngedig a newid yn
         y tywydd

9.21  diffodd a diogelu offer neu beiriannau

9.22  defnyddio offer llaw, cyfarpar ategol ac ategolion

10      gwaith tîm a chyfathrebu 11      anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gweithredu            offer a pheiriannau ar gyfer sgubo, glanhau a chlirio
**Problemau** 12      y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio 12.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa 12.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad
** ** **Rhaglen** 13      mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd           amcangyfrifedig 14      gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau           a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith
**Diogelu gwaith** 15      diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau            cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw
** ** ** ** **Adnoddau** 16    deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd,          ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac         arbenigol o 16.1 deunyddiau traul 16.2 brwsys, pibellau a chwistrellau 16.3 offer llaw, cyfarpar ategol ac ategolion 17     nodi pwysau, cynhaliad, gwasgedd, swm, hyd ac arwynebedd          sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn ar gyfer gweithredu offer           neu beiriannau ar gyfer sgubo, glanhau a chlirio
**Gweithdrefnau diogelwch** 18   safle, gweithle, cwmni a gweithiwr
**Sgiliau** 19   eich galwedigaeth eich hun a galwedigaethau sy'n gysylltiedig        â'r gwaith

Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ConstructionSkills [SgiliauAdeiladu]

URN gwreiddiol

VR761

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithredwyr Offer a Pheiriannau, Gweithredwyr a Gyrwyr Peiriannau Symudol

Cod SOC

8229

Geiriau Allweddol

Sgubo; Sgrwbio’n lân; Glanhau â phibell ddŵr; Glanhau â golchwr gwasgedd; Sugno’n wag neu’n glir; Chwythu’n glir; Sgubo gwlyb