Rheoli, cyfarwyddo ac arwain gweithrediad offer neu beiriannau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar ategol i reoli, cyfarwyddo ac arwain gweithrediad offer neu beiriannau nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer gweithrediadau codi ond gan gynnwys offer a pheiriannau sy'n cael eu defnyddio fel llwyfannau gwaith
Mae'r safon hon ar gyfer pobl y mae'n ofynnol iddynt reoli, cyfarwyddo ac arwain gweithrediad peiriannau neu beirianwaith; nid yw ar gyfer cyfarwyddo symudiadau rhwng lleoliadau neu slingio a signalu offer neu beiriannau ar gyfer codi a throsglwyddo llwythi mewn gweithrediadau codi. Mae'n cynnwys pobl sy'n cyfarwyddo ac yn arwain offer neu beiriannau a ddefnyddir fel llwyfannau gwaith. Gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith, yr adnoddau, a defnyddio offer neu beiriannau a chadarnhau ei pherthnasedd
P2 trefnu gydag eraill ym mha drefn y dylid gwneud y gwaith
P3 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol, dogfennau statws cyfreithiol arbennig, canllawiau swyddogol a gweithdrefnau'r sefydliad i gynnal arferion gwaith diogel ac iach
P4 dewis adnoddau peirianyddol ar gyfer y dulliau gweithio a'r gweithrediadau i'w cyflawni
P5 cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas
P6 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion
P7 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth
K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu
K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli
K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn
Meini Prawf Perfformiad 2
Trefnu gydag eraill
K4 sut mae aelodau'r tîm yn cyfleu syniadau i'w gilydd
K5 sut mae adnoddau'n cael eu trefnu i gyd-fynd â'r cynnydd a wnaed yn y gwaith
K6 pa sgiliau sydd eu hangen i wneud y gwaith
Meini Prawf Perfformiad 3
Arferion gwaith diogel **
K7 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol, Codau Ymarfer cymeradwy a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso
K8 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K9 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer peiriannau, offer, cyfarpar ac eiddo personol
K10 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K11 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
K12 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth gyfredol **a chanllawiau swyddogol
**
*
*
*
*
*
*
Meini Prawf Perfformiad 4
Dewis adnoddau
K13 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K14 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw
K15 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio
K16 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain
Meini Prawf Perfformiad 5
Lleihau'r risg o ddifrod
K17 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K18 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn
Meini Prawf Perfformiad 6
Bodloni gofynion y contract
K19 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau
K20 sut i gynnal a chadw peiriannau, offer a chyfarpar
Meini Prawf Perfformiad 7
Amser a neilltuwyd
K21 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Meini Prawf Perfformiad 1
1 dehongli gofynion, amserlenni, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â rheoli, cyfarwyddo ac arwain gweithrediad offer neu beiriannau nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer gweithrediadau codi ond gan gynnwys offer neu beiriannau sy'n cael eu defnyddio fel llwyfannau gwaith
Meini Prawf Perfformiad 2
2 trefnu’ch gwaith eich hun
3 cyfleu'r gweithrediadau peirianyddol a'r gwaith sydd i'w wneud i aelodau'r tîm a galwedigaethau cysylltiedig eraill
Meini Prawf Perfformiad 3
4 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am ddiogelwch sy’n ymwneud ag o leiaf bedwar o'r canlynol
4.1 dulliau gweithio
4.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
4.3 defnyddio a storio offer yn ddiogel
4.4 defnyddio a storio cyfarpar yn ddiogel
4.5 risgiau penodol i iechyd
Meini Prawf Perfformiad 4
5 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
5.1 offer llaw a chyfarpar ategol
5.2 cyfarpar signalu a chyfathrebu
Meini Prawf Perfformiad 5
6 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod
7 atal difrod a chynnal lle gweithio glân
8 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
*
*
*
*
*
*
*
*
*
*
*
*
*
*
*
*
*
*
Meini Prawf Perfformiad 6
9 dangos sgiliau mesur, dogni, amcangyfrif, dehongli, beirniadu, esbonio, paratoi, gorchymyn, cyfarwyddo, arwain, dangos, rhoi cyfarwyddyd, arwyddo, lleoli, symud, sicrhau, signalu a throsglwyddo
10 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, cyfarpar ategol, signalu a chyfarpar mynediad
11 rheoli, cyfarwyddo ac arwain yr offer neu'r peiriannau nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer gweithrediadau codi ond gan gynnwys offer neu beiriannau sy'n cael eu defnyddio fel llwyfannau gwaith yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir, sy'n ymwneud â'r canlynol
11.1 arwyddion llaw
11.2 cyfarpar signalu â llaw
11.3 offer cyfathrebu llafar ac electronig
Meini Prawf Perfformiad 7
12 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient
Gwybodaeth Cwmpas
Cyfathrebu
1 trafodaethau, brasluniau, data electronig, sesiynau briffio, signalu a chyfathrebu ar radio
**
Gwaredu gwastraff
2 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau’r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Argyfyngau
3 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol
3.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau
3.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
Peryglon
4 y rhai hynny a nodir fel rhan o ddull gweithio, mewn asesiadau risg/Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
5 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion diogelu ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol
5.1 mesurau diogelu ar y cyd
5.2 system awyru a gwacáu leol
5.3 cyfarpar diogelu personol
5.4 cyfarpar diogelu anadlol
Gwybodaeth
6 lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, cyfarwyddiadau gwaith, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chanllawiau swyddogol sy'n ymwneud â rheoli, cyfarwyddo ac arwain gweithrediadau offer a pheiriannau
*
*
*
*
*
*
Deddfwriaeth, Codau Ymarfer cymeradwy a chanllawiau swyddogol
7 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud/storio deunyddiau, codi a chario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
Cynnal a chadw
8 gofal y gweithiwr am offer llaw, cyfarpar ategol, cyfarpar signalu a chyfathrebu
**
Dulliau gweithio
9 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i
9.1 nodi'r gwahaniaethau rhwng gweithrediadau cyfarwyddo ac arwain, symudiad cyfarwyddo ac arwain a slingio a signalau
9.2 dehongli cynlluniau gwaith
9.3 asesu a phennu gweithrediad peiriannau ac offer nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer gweithrediadau codi, ond gan gynnwys offer neu beiriannau sy'n cael eu defnyddio fel llwyfannau gwaith, i gynnwys eu safle eu hunain, eu gwelededd, cyflwr a nodweddion y tir, peryglon agosrwydd a chyfyngiadau pwysau
9.4 adnabod nodweddion gweithredol a chyfyngiadau offer a pheiriannau, lled, hyd, uchder, radiws, cyrhaeddiad, capasiti
9.5 nodi mannau dall, parthau mathru posibl a phethau eraill sy'n cyfyngu ar allu'r gweithredwr i weld
9.6 rheoli, cyfarwyddo ac arwain gweithrediad peiriannau nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer gweithrediadau codi i echdynnu, cloddio, adeiladu, ffurfio, derbyn, cludo, cael mynediad, gosod, dosbarthu, cywasgu a phrosesu, sgubo, glanhau a chlirio
9.7 asesu a phennu symudiad deunyddiau neu nwyddau sydd wedi cael eu cloddio a'u hechdynnu, gan gynnwys ffurfio a symud cyflenwadau, dadlwytho, gollwng a llwytho
9.8 rheoli, cyfarwyddo ac arwain offer a pheiriannau nad ydynt yn cael eu defnyddio mewn gweithrediadau codi ar dir garw, anwastad ac mewn mannau lle mae cyfyngiadau ar symudiad
9.9 sicrhau cadernid cyfarpar, strwythurau, deunyddiau a chydrannau sy'n agos at weithrediadau wrth gyfarwyddo ac arwain
9.10 adnabod a defnyddio cymhorthion monitro gweithrediadau a mesur, pegiau, tapiau, llinynnau, llinellau a lefelau, cyfarpar arwain electronig, systemau lleoli byd-eang a dyfeisiau marcio laser
9.11 gwirio mesuriadau
9.12 arwyddo a chyfathrebu gan ddilyn trefniadau gweithredol cydnabyddedig a chytunedig
9.13 adnabod y gofynion ar gyfer gweithio ar briffyrdd cyhoeddus
9.14 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth benodol
9.15 defnyddio offer llaw a chyfarpar ategol
10 gwaith tîm a chyfathrebu
11 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â rheoli, cyfarwyddo ac arwain peiriannau nad ydynt yn cael eu defnyddio mewn gweithrediadau codi ond gan gynnwys offer a pheiriannau sy'n cael eu defnyddio fel llwyfannau gwaith
*
Problemau*
12 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
12.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
12.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad
Rhaglen
13 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig
14 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith
Diogelu gwaith
15 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw
*
*
*
*
*
*
*
*
*
*
Adnoddau
16 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac arbenigol o
16.1 cyfarpar signalu a chyfathrebu
16.2 offer llaw a chyfarpar ategol
16.3 cyfarpar arwain electronig, systemau lleoli byd-eang a dyfeisiau marcio laser
16.4 cyfarpar mesur (pegiau, tapiau, llinynnau, llinellau a lefelau)
17 nodi gwasgeddau cynnal a phwysau, niferoedd, hyd, arwynebedd a chyfaint sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn ar gyfer cyfarwyddo ac arwain gweithrediad offer a pheiriannau
**
Gweithdrefnau diogelwch
18 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr
Sgiliau
19 eich galwedigaeth eich hun a galwedigaethau sy'n gysylltiedig â'r gwaith