Dyrannu gwaith a gwirio perfformiad pobl

URN: COSVR713
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Gweithrediadau Codi (Adeiladu),Rheoli Safle Adeiladu,Goruchwylio Safle Adeiladu
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Hyd 2007

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â

  1. sicrhau bod y gwaith gofynnol wedi ei gynllunio, a'i ddyrannu'n effeithiol
  2. gwirio cynnydd ac ansawdd y gwaith
  3. sicrhau bod aelodau'r tîm, y bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt, yn bodloni'r safon ofynnol

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1.  cadarnhau’r rhaglenni a’r amserlenni, nodi blaenoriaethau a gweithgareddau hanfodol, a chynllunio sut bydd y gwaith yn cael ei wneud

  2. dyrannu gwaith i aelodau’r tîm, gan ystyried eu hamgylchiadau presennol, a rhoi cyfarwyddyd iddynt ar y safonau ansawdd neu'r lefel a ddisgwylir

  3. monitro cynnydd ac ansawdd y gwaith a rhoi adborth prydlon ac adeiladol

  4. ysgogi aelodau o’r tîm i gwblhau’r gwaith a ddyrannwyd iddynt a darparu unrhyw gymorth a/neu adnoddau ychwanegol, os gwneir cais am hynny ac os yw hynny’n bosibl

  5. nodi perfformiad annerbyniol neu wael, trafod yr achos(ion) a chytuno ar ffyrdd o wella perfformiad gydag aelodau’r tîm

  6. cydnabod cwblhau darnau arwyddocaol o waith, neu weithgareddau, gan y tîm/aelodau o’r tîm a hysbysu’r bobl gyfrifol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1
Cadarnhau'r gwaith sy'n ofynnol a chynllunio

  1. sut i gadarnhau rhaglenni ac amserlenni
  2. sut i nodi blaenoriaethau a gweithgareddau hanfodol mewn rhaglenni ac amserlenni
  3. sut i gynllunio'r ffordd y caiff gwaith ei wneud

Meini Prawf Perfformiad 2 Dyrannu gwaith
4. sut i ddyrannu gwaith yn deg i aelodau'r tîm
5. sut i ystyried amgylchiadau presennol aelodau o'r tîm
6. sut i roi cyfarwyddyd i aelodau'r tîm ynghylch safonau ansawdd neu'r lefel a ddisgwylir

Meini Prawf Perfformiad 3 Gwirio cynnydd ac ansawdd
7. sut i wirio cynnydd gwaith yn erbyn rhaglenni ac amserlenni
8. sut i wirio gwaith yn erbyn safonau ansawdd gofynnol
9. sut i roi adborth adeiladol

Meini Prawf Perfformiad 4
Ysgogi aelodau o'r tîm i gwblhau gwaith
10. sut i ysgogi aelodau o'r tîm
11. sut i roi cymorth a/neu adnoddau ychwanegol, os gwneir cais am hynny ac os ydynt ar gael
12. sut i gael adborth ar gymorth ychwanegol a ddarperir gan aelodau o'r tîm

Meini Prawf Perfformiad 5
Nodi perfformiad annerbyniol neu wael
13. sut i nodi perfformiad annerbyniol neu wael
14. sut i drafod achosion perfformiad gwael gydag aelodau o'r tîm
15. sut i gytuno ar ffyrdd o wella perfformiad gydag aelodau o'r tîm

Meini Prawf Perfformiad 6 Cydnabod llwyddiant
16. sut i gydnabod cwblhau darnau arwyddocaol o waith, neu weithgareddau, yn llwyddiannus
17. sut i hysbysu'r bobl gyfrifol ynghylch llwyddiannau'r tîm/aelod o'r tîm


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Meini Prawf Perfformiad 1

  1. cofnodion o flaenoriaethau a gweithgareddau hanfodol a nodir mewn rhaglenni ac amserlenni, a chynllun o'r ffordd y caiff y gwaith ei wneud

Meini Prawf Perfformiad 2
2. cofnodion o'r gwaith a ddyrannwyd a'r cyfarwyddyd a roddwyd i aelodau'r tîm, gan ystyried yr amgylchiadau presennol canlynol

1.  sgiliau
2.  gwybodaeth
3.  profiad
4.  llwyth gwaith  

Meini Prawf Perfformiad 3

  1. cofnodion o wiriadau cynnydd a gynhaliwyd
  2. cofnodion o wiriadau ansawdd a gynhaliwyd
  3. cofnodion o'r adborth a roddwyd i aelodau'r tîm

Meini Prawf Perfformiad 4
6. cofnodion o geisiadau am gymorth a/neu adnoddau ychwanegol
7. cofnodion o adborth gan aelodau'r tîm

Meini Prawf Perfformiad 5
8. cofnodion o berfformiad annerbyniol neu wael
9. cofnodion o ffyrdd a gytunwyd o wella perfformiad

Meini Prawf Perfformiad 6
10. cofnodion o ganmoliaeth a chydnabyddiaeth o lwyddiant
11. cofnodion o gyngor ar lwyddiant a roddwyd i bobl gyfrifol


Gwybodaeth Cwmpas

Achosion perfformiad gwael

  1. ffactorau allanol
  2. ffactorau mewnol
  3. ffactorau cymdeithasol
  4. amgylchiadau personol
  5. diffyg sgiliau a gwybodaeth
  6. prinder cymorth
  7. prinder adnoddau

Amgylchiadau presennol
8. sgiliau
9. gwybodaeth
10. profiad
11. llwyth gwaith

Adborth
12. arfarniad ffurfiol
13. arfarniad interim
14. adroddiad llafar
15. adroddiad ysgrifenedig
16. cyfeiriad
17. adroddiad

Ysgogi
18. ysbrydoli
19. symbylu
20. procio
21. annog
22. cychwyn
23. achos
24. ennyn

Pobl gyfrifol
25. y cleient, y cwsmer neu eu cynrychiolydd
26. contractwyr
27. ymgynghorwyr
28. is-gontractwyr
29. cyflenwyr
30. gweithlu
31. rheolaeth fewnol

Rhaglenni ac amserlenni
32. siartiau bar
33. gweithgareddau hanfodol
34. rhestrau gweithredu
35. datganiadau dull

Safonau ansawdd
36. gofynion statudol
37. manylebau prosiect
38. Safonau Prydeinig
39. Safonau Rhyngwladol
40. Codau Ymarfer
41. safonau sefydliadol
42. canllawiau cyngor masnach ac arfer gorau
43. meincnodau neu ddangosyddion perfformiad allweddol

Adnoddau
44. pobl
45. cyfarpar, offer neu beiriannau
46. deunyddiau a chydrannau
47. is-gontractwyr
48. gwybodaeth
49. ardal waith a chyfleusterau
50. rheoli gwastraff
51. darparwyr cyfleustodau


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Gorff 2015

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ConstructionSkills

URN gwreiddiol

VR713

Galwedigaethau Perthnasol

Goruchwylwyr Adeiladwaith a Chrefftau Adeiladu

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

Cynlluniwyd; Dyrannu; Tîm; Gwirio; Perfformiad; Safonau; Gweithgareddau