Paratoi a gosod cladin a deunyddiau toi addurniadol wedi’u gwneud o blwm a metel caled sy’n cael eu cynnal yn llawn

URN: COSVR687
Sectorau Busnes (Suites): Sgiliau Treftadaeth (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi a gosod cladin a deunyddiau toi addurniadol wedi’u gwneud o blwm a metel sy’n cael eu cynnal yn llawn, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, yn unol â gofynion y sefydliad sy’n cyfateb i’r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu’n rhagori arnynt
 
Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol sgiliau treftadaeth a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


Dehongli gwybodaeth**
P1  dehongli’r wybodaeth am y gwaith a’r adnoddau fel sy’n berthnasol i leoliad daearyddol a’r amodau hinsawdd i gadarnhau ei bod yn berthnasol ar gyfer y canlynol:

  • lluniadau
  • manylebau
  • rhestrau
  • datganiadau dull
  • asesiadau risg
  • gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr
  • cyfarwyddiadau llafar, ysgrifenedig neu electronig
  •  rheoliadau, deddfwriaeth, canllawiau swyddogol a thrwyddedau cyfredol

Arferion gwaith diogel**
P2  cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol berthnasol a chanllawiau swyddogol i wneud y gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach am y canlynol:

  • dulliau gweithio
  • defnyddio cyfarpar diogelu personol priodol yn ddiogel 
  • defnyddio cyfarpar mynediad neu godi yn ddiogel
  • defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
  • defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
  • risgiau penodol i iechyd a diogelwch galwedigaethol gan gynnwys ymwybyddiaeth o iechyd meddwl
  • risgiau penodol sy’n gysylltiedig â deunyddiau peryglus neu rai sy’n cynnwys asbestos
  • risgiau penodol sy’n gysylltiedig â gwres, gronynnau, nwy a thrydan sy’n gysylltiedig â phrosesau, cyfarpar a deunyddiau

Dewis adnoddau**
P3  dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio ar gyfer y canlynol:

  • deunyddiau a chydrannau
  • offer a chyfarpar

Lleihau'r risg o ddifrod**
P4  cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas drwy:

  • gymryd camau perthnasol i ddiogelu’r mannau gwaith rhag difrod damweiniol neu anfwriadol
  • gweithio gydag ymwybyddiaeth o’r amgylchedd mewn cysylltiad â galwedigaethau eraill
  • cadw'r man gwaith yn lân ac yn daclus
  • gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Bodloni gofynion y contract**
P5  cydymffurfio â gwybodaeth y contract i baratoi a gosod cladin a deunyddiau toi addurniadol wedi’u gwneud o blwm neu fetel caled sy’n cael eu cynnal yn llawn yn effeithlon yn unol â’r fanyleb ofynnol drwy wneud y canlynol:

  • dangos sgiliau gwaith i wneud y canlynol:

    • tirfesur
    • mesur
    • gosod allan
    • marcio allan
    • torri
    • saernïo
    • uniadu
    • lleoli
    • diogelu
    • gorffeniad
  • defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer, offer weldio a sodro a chyfarpar ategol

  • cynnal arolygon cychwynnol i benderfynu ar y canlynol:

    • deunyddiau presennol
    • cyflwr presennol:

    • dirywiad neu ddifrod ac achosion hynny

    • gwaith atgyweirio blaenorol

    • dulliau gweithio

    • nifer ac ansawdd yr adnoddau
  • paratoi a gosod cladin neu ddeunyddiau toi addurniadol wedi’u gwneud o blwm neu fetel caled sy’n cael eu cefnogi’n llawn, gan gynnwys gorchuddion a deunyddiau atal hindreuliad, yn unol â’r cyfarwyddiadau gweithio a roddir ar gyfer y canlynol:

    • taprog
    • ceugrwm
    • amgrwm
    • segmentiedig
  •  paratoi a gosod gorchuddion a deunyddiau atal hindreuliad plwm neu fetel caled wedi’u cynnal yn llawn yn unol â’r cyfarwyddiadau gweithio ar arwynebau to ac ategweithiau ar gyfer y canlynol:

    • ffasgiau
    • soffitiau
    • cornisiau
    • parapetau
    • gwteri
  • cyfathrebu’r asesiad o’r problemau, y diffygion a’r gwaith atgyweirio sy’n ofynnol, er mwyn i grefftwyr, cleientiaid a rhanddeiliaid eraill ei ddeall yn hawdd

Amser a neilltuwyd**
P6  cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd, gan ystyried yr amodau hinsawdd, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad, y rhaglen waith ac i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


P1 Dehongli gwybodaeth**
K1  pam mae gweithdrefnau’r sefydliad wedi cael eu datblygu a sut maent yn cael eu rhoi ar waith

K2  mathau o wybodaeth, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli mewn perthynas â:

  • lluniadau
  • manylebau
  • rhestrau
  • datganiadau dull
  • asesiadau risg
  • gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr
  • gwybodaeth gytundebol
  • deddfwriaeth, rheoliadau, canllawiau swyddogol a thrwyddedau cyfredol, gan gynnwys adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt
  • cynlluniau ac adroddiadau cadwraeth
  • cyfarwyddiadau llafar, ysgrifenedig neu electronig


K3  pwysigrwydd gweithdrefnau sefydliadol o ran datrys problemau â gwybodaeth a pham mae’n bwysig eu dilyn

K4  gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol, gyfredol, canllawiau swyddogol a gofynion penodol i safle a sut mae’n cael ei rhoi ar waith

P2 Arferion gwaith diogel

K5  sut dylid ymateb i argyfyngau yn unol ag awdurdodiad y sefydliad a sgiliau personol o ran y canlynol:

  • tanau a’r mathau o gyfarpar diffodd tân a sut a phryd y cânt eu defnyddio o ran dŵr, CO2, ewyn a phowdr
  • gollyngiadau ac anafiadau
  • argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
  • nodi ac adrodd am sylweddau peryglus gan gynnwys deunyddiau sy’n cynnwys asbestos a charbonad plwm, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny


K6  y gweithdrefnau diogelwch sefydliadol a phenodol i safle ar gyfer offer, peiriannau a chyfarpar mewn perthynas â’r canlynol:

  • safle
  • gweithle
  • cerbydau
  • cwmni
  • gweithwyr
  • cleientiaid
  • y cyhoedd

K7  yn gwybod sut mae rhoi gwybod am risgiau a pheryglon a nodwyd gan y canlynol:

  • dulliau gweithio
  • asesiadau risg
  • asesiad personol
  • gwybodaeth dechnegol gwneuthurwyr
  • rheoliadau statudol
  • canllawiau swyddogol
  • Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

K8  y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K9  pam, pryd a sut y dylid defnyddio’r cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch a nodir gan egwyddorion atal mewn perthynas â’r canlynol:

  • mesurau diogelu ar y cyd
  • cyfarpar diogelu personol (PPE)
  • cyfarpar diogelu anadlol (RPE)
  • awyru lleol sy'n gwacáu mygdarth (LEV)

K10  sut mae cydymffurfio ag arferion gwaith sy’n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni’r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol wrth ddelio â damweiniau posibl, peryglon i iechyd a’r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle mewn perthynas â’r canlynol:

  • lleoedd cyfyng
  • gweithio mewn mannau uchel
  • offer, peiriannau a chyfarpar
  • deunyddiau a sylweddau
  • symud a storio deunyddiau drwy eu codi a’u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol


P3 Dewis adnoddau
K11  pam mae nodweddion, ansawdd, defnydd, cynaliadwyedd, addasrwydd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau yn bwysig, a sut dylid rhoi gwybod am ddiffygion

K12  pam y dylid mabwysiadu arferion gwaith a deunyddiau cynaliadwy a moesegol

K13  y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer dewis adnoddau, pam maen nhw wedi cael eu datblygu a sut mae eu defnyddio

K14  sut mae cadarnhau bod yr adnoddau a’r deunyddiau’n cydymffurfio â’r fanyleb

K15  sut dylid defnyddio’r adnoddau a sut mae rhoi gwybod am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau ynglŷn â’r canlynol:

  • plwm, metel caled, haenau gwaelodol, fentiau, gosodiadau, ffitiadau ac eitemau ategol
  • offer llaw, offer pŵer, offer weldio a sodro a chyfarpar ategol
  • cyfarpar syrfeo:

    • tâp mesur
    • pren mesurydd graddfa
  • offer digidol ar gyfer cofnodi ac adrodd:

    • camera
    • labeli

K16  sut mae nodi ac adrodd ar y peryglon sy'n gysylltiedig â’r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut maent yn cael eu rheoli mewn perthynas â datganiadau dull ac asesiadau risg

K17  dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a’r weithdrefn ar gyfer paratoi a gosod cladin a deunyddiau toi addurniadol wedi’u gwneud o blwm neu fetel caled sy’n cael eu cynnal yn llawn

P4 Lleihau'r risg o ddifrod
K18  sut mae diogelu gwaith a’r ardal o’i gwmpas rhag difrod a phwrpas diogelu rhag gweithgareddau cyffredinol yn y gweithle, gweithrediadau eraill a thywydd garw a sut mae lleihau difrod


K19  pa mor bwysig yw gwaredu gwastraff yn ddiogel, a sut mae gwneud hynny, yn unol â’r canlynol:

  • cyfrifoldebau amgylcheddol
  • gweithdrefnau’r sefydliad
  • gwybodaeth gwneuthurwyr
  • gwybodaeth cyflenwyr
  • rheoliadau statudol
  • canllawiau swyddogol

K20  pam mae’n bwysig cynnal ardal waith ddiogel, glir a thaclus

P5 Bodloni manyleb y contract
K21  sut mae’r dulliau gweithio i fodloni’r fanyleb yn cael eu cyflawni a sut mae problemau’n cael eu nodi a’u hadrodd drwy ddefnyddio gwybodaeth ar gyfer arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel, iach ac amgylcheddol sy’n ymwneud â’r canlynol:

  • pam fod angen cynnal arolygon cychwynnol i benderfynu ar y canlynol:

    • deunyddiau presennol
    • cyflwr presennol:

    • dirywiad neu ddifrod ac achosion hynny

    • gwaith atgyweirio blaenorol

    • dulliau gweithio

    • nifer ac ansawdd yr adnoddau
  • pam ei bod yn bwysig cyfathrebu’n glir â chrefftwyr, cleientiaid a rhanddeiliaid eraill 

  • pam ei bod yn bwysig nodi difrod a dirywiad a’r achosion dros hynny
  • pam ei bod yn bwysig nodi a chyfrifo pwysau metelau amrywiol mewn perthynas â’r canlynnol:

    • trwch y deunydd o’i gymharu â’i gapasiti i gynnal llwyth
    • trwch a dulliau uniadu
  • sut mae nodi a chyfrifo pwysau metelau amrywiol a rhoi gwybod am unrhyw broblemau, gan gynnig awgrymiadau ar ddatrysiadau lle bo hynny’n berthnasol

  • pam ei bod yn bwysig paratoi a gosod metelau’n ddiogel, gan gyfeirio’n benodol at y canlynol:

    • gronynnau
    • mygdarth
    • plwm 
  • pam ei bod yn bwysig cydnabod priodweddau cynaliadwy plwm a metelau caled eraill, fel:

    • copr
    • sinc
    • alwminiwm
    • dur gwrthstaen
    • dur galfanedig
  • sut mae nodi ac adrodd am unrhyw beth sydd o’i le ar yr isadeiledd a chysylltau’r to

  • sut mae nodi a gosod systemau awyru
  • sut mae gosod is-haen os oes angen
  • sut mae paratoi a gosod cladin a deunyddiau toi addurniadol wedi’u gwneud o blwm neu fetel caled sy’n cael eu cynnal yn llawn i fod yn:

    • taprog
    • ceugrwm
    • amgrwm
    • proffiliau wedi'u segmentu: 

    • meindyrau

    • cromenni
    • cwpola
    • strwythurau pontydd baril
  • sut mae gosod gorchuddion a deunyddiau atal hindreuliad plwm neu fetel caled wedi’u cynnal yn llawn ar arwynebau to ac ategweithiau ar gyfer y canlynol:

    • ffasgiau
    • soffitiau,
    • cornisiau
    • parapetau
    • gwteri
  • sut mae gosod allan a marcio allan toeau a chladin

  • sut mae paratoi a saernïo plwm neu fetel caled (torri i’r hyd a’r proffil iawn)
  • sut mae uno plwm neu fetel caled a gorffen eu hyd a’u lled
  • pam ei bod yn bwysig sicrhau cyfanrwydd uniadau, gosodiadau ac awyru
  • sut mae dilysu ffyrdd priodol o wneud y gwaith
  • pam ei bod yn bwysig nodi arwynebeddau sensitif, megis:

    • toeau gwellt
    • ffenestri:

    • dormer

    • plwm

    • organau eglwysi

  • pam ei bod yn bwysig cynnal treftadaeth a chyfanrwydd archaeolegol

  • pam ei bod yn bwysig cynnal egwyddorion ymyrraeth sylfaenol a newidiadau gwrthdroadwy
  • pam ei bod yn bwysig rhoi’r gorau i weithio pan fyddwch chi’n dechrau dyfalu a rhoi gwybod am eich canfyddiadau
  • pam fod angen cofnodi gwaith a wneir (mewn fformat ysgrifenedig a digidol)
  • pam mae’n bwysig adnabod a rhoi gwybod am blanhigion ac anifeiliaid sydd mewn perygl ac wedi’u gwarchod
  • pam mae’n bwysig symud deunyddiau sydd wedi dirywio a deunyddiau amhriodol
  • pam mae angen cynnal strwythurau presennol a chanlyniadau diffyg gwaith cynnal a chadw
  • pam mae angen integreiddio cydrannau neu orffeniadau adeiladol sy’n bodoli eisoes a rhai newydd
  • graddau’r adeilad rhestredig a pha ganiatâd sydd ei angen, a’r cyfyngiadau o ran y gwaith a ganiateir
  • sut i storio ffabrigau, deunyddiau a chydrannau strwythurol y gellir eu hachub
  • sut i ddefnyddio pob math o offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
  • sut a pham mae angen i'r gweithiwr sicrhau bod yr holl offer llaw, offer pŵer, offer weldio a sodro plwm a chyfarpar ategol yn cael eu cynnal a’u cadw
  • sut mae defnyddio offer weldio a sodro plwm yn ddiogel a deall gweithdrefnau gwaith poeth
  • sut mae gweithio mewn mannau uchel gan ddefnyddio cyfarpar mynediad
  • perthnasedd asesiad o arwyddocâd

    • sut mae nodi gofynion penodol ar gyfer y canlynol:
    • strwythurau o ddiddordeb arbennig
    • adeiladwaith traddodiadol
    • adeiladau anodd eu trin
    • arwyddocâd hanesyddol
  • sut mae gweithio gyda pheiriannau ac offer, o’u cwmpas ac yn agos iawn atynt

K22  gweithdrefnau’r sefydliad o ran ymddygiad ar y safle, a chydnabod a sicrhau tegwch, cynhwysiant a pharch o fewn yr amgylchedd gwaith, a sut i roi sylw i ymddygiad amhriodol ar y safle a rhoi gwybod amdano

K23  pwysigrwydd dulliau gweithio, cysylltiadau rhyngbersonol a chyfathrebu ac anghenion galwedigaethau eraill sy’n gysylltiedig â pharatoi a gosod cladin a deunyddiau toi addurniadol wedi’u gwneud o blwm neu fetel caled sy’n cael eu cefnogi’n llawn

P6 Amser a neilltuwyd
K24  y rhaglen ar gyfer gwneud y gwaith, gan gynnwys yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd, a pham y dylid cadw at derfynau amser neu roi gwybod os ydych yn debygol o fethu cadw atynt

K25  y mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd a amcangyfrifwyd, a gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR687

Galwedigaethau Perthnasol

Toi, Toi gyda Llechi a Theils

Cod SOC

1234

Geiriau Allweddol

Sgiliau Treftadaeth; Meindyrau; Cromenni; Cwpola; Pont faril; Plwm; Metel caled