Rhoi rendrad solet ar arwynebau cefndir a chynhyrchu gorffeniadau
Trosolwg
Mae'r safon hon ynglŷn â dehongli gwybodaeth, defnyddio arferion gwaith iach, diogel ac sy'n gyfrifol o ran yr amgylchedd, dethol a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, paratoi deunyddiau, rhoi rendrad solet ar gefndiroedd allanol a chynhyrchu gorffeniadau
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol plastro a gall gweithwyr adeiladu, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 Dehongli'r wybodaeth a roddwyd yn ymwneud â'r gwaith ac adnoddau i gadarnhau ei bod yn berthnasol
P2 Cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol a chanllawiau swyddogol a roddwyd i wneud eich gwaith a chadw arferion gwaith yn iach a diogel
P3 Dethol faint o adnoddau ac ansawdd yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y dulliau gwaith
P4 Cydymffurfio gyda gweithdrefnau i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o amgylch
P5 Cydymffurfio â'r cyfarwyddiadau contract a roddwyd i wneud y gwaith yn effeithlon i'r fanyleb ofynnol
P6 Cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a glustnodwyd, yn unol â'r rhaglen waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Maen Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth
G1 Y gweithdrefnau a ddatblygwyd i wneud adroddiad am a chywiro gwybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, a sut i'w gweithredu
G2 Y mathau o wybodaeth, eu ffynhonnell a sut i'w dehongli
G3 Y gweithdrefnau i ddatrys problemau gyda'r wybodaeth a pham ei bod yn bwysig eu dilyn
Maen Prawf Perfformiad 2
Arferion gwaith diogel
G4 Lefel y ddealltwriaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei chael o wybodaeth am ddeddfwriaeth a chanllawiau swyddogol cyfredol a pherthnasol a chanllawiau swyddogol a sut i'w defnyddio
G5 Sut y dylid ymateb i argyfyngua a phwy ddylai ymateb
G6 Y gweithdrefnau ar gyfer diogelwch offer, cyfarpar ac eiddo personol
G7 Y drefn ar gyfer gwneud adroddiad am ddamwain a phwy sy'n gyfrifol am wneud yr adroddiad
G8 Pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
G9 Sut i gydymffurfio ag arferion gwaith sydd yn gyfrifol o safbwynt yr amgylchedd er mwyn cwrdd â deddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol
Maen Prawf Perfformiad 3
Dethol adnoddau
G10 Nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cyfyngiadau, cynaliadwyedd a diffygion yn gysylltiedig gyda'r adnoddau a sut y dylid unioni diffygion
G11 Sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i wneud adroddiad am unrhyw broblemau yn gysylltiedig gyda'r adnoddau
G12 Y gweithdrefnau i ddewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio
G13 Y peryglon yn gysylltiedig gyda'r adnoddau a'r dulliau gwaith a sut i'w goresgyn
Maen Prawf Perfformiad 4
Lleihau'r risg o ddifrod
G14 Sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a diben diogelu
G15 Pam y dylid cael gwared â gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hynny
Maen Prawf Perfformiad 5
Cyflawni manyleb y contract
G16 Sut i wneud dulliau gwaith i gyflawni'r fanyleb, a gwneud adroddiad am broblemau
G17 Sut i gynnal-a-chadw offer a chyfarpar
Maen Prawf Perfformiad 6
Amser a glustnodwyd
G18 Beth yw'r rhaglen ar gyfer y gwaith i gael ei wneud, yr amser a glustnodwyd a pham y dylid cadw at amserlenni
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Maen Prawf Perfformiad 1
1 dehongli darluniadau, manylebion, rhestri, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gwneuthurwyr yn ymwneud â'r gwaith i gael ei wneud
Maen Prawf Perfformiad 2
2 Osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddwyd yn ymwneud â'r dilynol
2.1 dulliau gwaith
2.2 defnydd diogel o gyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
2.3 defnydd diogel o gyfarpar mynediad/llwyfannau gweithio
2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd
Maen Prawf Perfformiad 3
3 Dethol adnoddau yn gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
3.1 deunyddiau, ffitiadau a gosodion
3.2 offer a chyfarpar
Maen Prawf Perfformiad 4
4 Diogelu'r gwaith a'r ardal o amgylch rhag difrod
5 Lleihau difrod a chadw gofod gwaith glân
6 Cael gwared â gwastraff yn unol â deddfwriaeth gyfredol
Maen Prawf Perfformiad 5
7 Arddangos sgiliau gwaith i fesur, marcio allan, cymysgu, rhoi a gorffen
8 Defnyddio a chynnal-a-chadw offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol
9 rhoi cotiau sail, rhwyll atgyfnerthu a darnau straen
10 paratoi arwynebau cefndir, cymysgu a rhoi rendrad solet ar ffurf gloch, onglau mewnol ac allanol, waliau, darnau trwch a soffitiau, ac ar o leiaf un o'r arwynebau cefndir canlynol i gyfarwyddiadau gwaith a roddwyd
10.1 bric
10.2 bloc
10.3 concrit
10.4 gwaith maen rhwbel
10.5 dellten fetel ehangedig
10.6 inswleiddiad allanol
11 cynhyrchu côt orffen wedi'i hwynebu'n blaen ar waliau allanol a/neu inswleiddiad allanol yn ogystal ag o leiaf un o'r gorffeniadau canlynol i gyfarwyddiadau gwaith a roddwyd
11.1 gro chwipio
11.2 côt arw (sgrafellu, gro chwipio gwlyb)
11.3 rendrad synthetig ac nad yw'n synthetig
11.4 gorffeniadau patent a gastiwyd yn flaenorol
Maen Prawf Perfformiad 6
12 Yr unigolyn i gwblhau ei waith ei hun o fewn yr amcangyfrif o amser a glustnodwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient
Gwybodaeth Cwmpas
Cael gwared â gwastraff
1 Cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau, gwybodaeth gwneuthurwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Argyfyngau
2 Ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol â gweithdrefnau caniatâd a sgiliau personol wrth ymwneud â
2.1 tanau, arllwysiadau, anafiadau
2.2 argyfyngau'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
Peryglon
3 Y peryglon a ddynodir gan asesiad risg, dull gwaith, gwybodaeth dechnegol gwneuthurwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
4 Dynodir gan egwyddorion atal ar gyfer pob math galwedigaeth, mathau a diben pob math, sefyllfa waith ac amgylchedd gwaith cyffredinol
4.1 mesurau diogelu torfol
4.2 cyfarpar diogelu personol (PPE)
4.3 cyfarpar diogelu anadlol (RPE)
4.4 awyriad ecsôst lleol (LEV)
Gwybodaeth
5 darluniadau, manylebion, rhestri, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gwneuthurwyr a rheoliadau cyfredol sy'n llywodraethu adeiladau
Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
6 mae hyn yn cyfeirio at gyfrifoldebau'r gweithiwr o ddamweiniau posibl, peryglon iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, dan lefel y ddaear, mewn gofodau cyfyng, ar uchder, gydag offer a chyfarpar, gyda deunyddiau a sylweddau, wrth symud/storio deunyddiau ac wrth godi a chario â llaw a chodi mecanyddol
Cynnal-a-chadw
7 gofal y gweithiwr o offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol
Dulliau gwaith
8 Defnyddio gwybodaeth ar gyfer arferion gwaith diogel ac iach, gweithdrefnau a sgiliau yn ymwneud â'r dull/ardal waith a'r deunyddiau a ddefnyddir i:
8.1 wneud gwiriadau cyn gosod i gynnwys integriti strwythurol, lleithder, awyrellau, gwasanaethau (nwy, trydan, dŵr, ceblau cyfryngau)
8.2 cymysgu rendrad i'r cryfder gofynnol ar gyfer arwynebau cefndir a gosodion cynhaliol
8.3 paratoi arwynebau cefndir
8.4 adnabod y gweithdrefnau i wirio simneiau ac awyriad aer hylosgi
8.5 deall goblygiadau gwarantau a warantïau presennol
8.6 rhoi cotiau sail, rhwyll atgyfnerthu a darnau straen
8.7 rhoi rendrau aml-gôt ar waliau allanol ac inswleiddiad allanol
8.8 ffurfio onglau mewnol ac allanol, darnau trwch, soffitiau, chwyddgymalau a gorffen ar ffurf gloch
8.9 lleoli, diogelu a rhoi rendrau ar ddellt metel ehangedig (EML)
8.10 rhoi gro chwipio, côt sydd wedi'i hwynebu'n blaen, côt arw (sgrafellu, gro chwipio gwlyb), rendrad synthetig ac nad yw'n synthetig a gorffeniadau patent a gastiwyd yn flaenorol a seliau ar arwynebau allanol ac inswleiddiad allanol gan gynnwys darnau trwch drws a ffenestr
8.11 cwblhau gwiriadau ôl gosod: cydymffurfiad gyda manylebion, gallu i wrthsefyll dŵr, angorfa/gosodiad, awyrellau, gwasanaethau (nwy, trydan, dŵr, ceblau cyfryngau)
8.12 adnabod a phenderfynu pan fo gofyn am sgiliau a gwybodaeth arbenigol ac adrodd yn unol â hynny
8.13 deall gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladu traddodiadol (cyn 1919) ac arwyddocâd hanesyddol
8.14 defnyddio offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol
8.15 gweithio ar uchder
8.16 defnyddio cyfarpar mynediad/llwyfannau gweithio
8 Gwaith tîm a chyfathrebu
9 Anghenion galwedigaethau eraill cysylltiedig â phlastro
Problemau
10 Problemau'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gwaith
10.14 eich awdurdod eich hun i unioni
10.15 gweithdrefnau ar gyfer gwneud adroddiadau
Rhaglen
11 Mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amcangyfrif o amser
12 Gweithdrefnau ar gyfer gwneud adroddiadau am amgylchiadau fydd yn effeithio ar y rhaglen waith
Diogelu gwaith
13 Diogelu gwaith rhag difrod o weithgareddau cyffredinol y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd anffafriol
Adnoddau
14 Deunyddiau, cydrannau a chyfarpar yn ymwneud â mathau safonol a/neu arbenigol, swm, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd:
15.1 rendrad, tywod, calch, sment ac ychwanegion
15.2 gorffen ar ffurf gloch a gleiniau, dellten fetel ehangedig (EML)
15.3 gro chwipio, côt arw (sgrafellu, gro chwipio gwlyb), gorffeniad patent a gastiwyd yn flaenorol, rendrad synthetig ac nad yw'n synthetig
15.4 atgyfnerthu, darnau straen, seliau, gosodion a ffitiadau
15.5 offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol
16 Dulliau o gyfrif swm, hyd ac arwynebedd a gwastraff yn ymwneud â'r dull/trefn i roi rendrad solet allanol ar arwynebau cefndir a chynhyrchu gorffeniadau
Trefniadau diogelwch eiddo
17 Safle, gweithle, cwmni a gweithiwr