Cynhyrchu gorffeniadau plastr solet mewnol
Trosolwg
Mae’r safon hon ynglŷn â dehongli gwybodaeth, defnyddio arferion gwaith iach, diogel ac sy’n gyfrifol o ran yr amgylchedd, dethol a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar a pharatoi a rhoi plastrau i gefndiroedd mewnol
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol plastro a gall gweithwyr adeiladu, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1   Dehongli'r wybodaeth a roddwyd yn ymwneud â'r gwaith ac adnoddau i gadarnhau ei bod yn berthnasol  
P2   Cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol a chanllawiau swyddogol a roddwyd i wneud eich gwaith a chadw arferion gwaith yn iach a diogel   
P3   Dethol faint o adnoddau ac ansawdd yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y dulliau gwaith  
P4   Cydymffurfio gyda gweithdrefnau i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o amgylch  
P5   Cydymffurfio â'r cyfarwyddiadau contract a roddwyd i wneud y gwaith yn effeithlon i'r fanyleb ofynnol  
P6   Cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a glustnodwyd, yn unol â'r rhaglen waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Maen Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth
G1   Y gweithdrefnau a ddatblygwyd i wneud adroddiad am a chywiro gwybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, a sut i'w gweithredu  
G2   Y mathau o wybodaeth, eu ffynhonnell a sut i'w dehongli  
G3   Y gweithdrefnau i ddatrys problemau gyda'r wybodaeth a pham ei bod yn bwysig eu dilyn  
Maen Prawf Perfformiad 2
Arferion gwaith diogel
G4   Lefel y ddealltwriaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei chael o wybodaeth am ddeddfwriaeth a chanllawiau swyddogol cyfredol a pherthnasol a chanllawiau swyddogol a sut i'w defnyddio  
G5   Sut y dylid ymateb i argyfyngua a phwy ddylai ymateb  
G6   Y gweithdrefnau ar gyfer diogelwch offer, cyfarpar ac eiddo personol  
G7   Y drefn ar gyfer gwneud adroddiad am ddamwain a phwy sy'n gyfrifol am wneud yr adroddiad  
G8   Pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch  
G9   Sut i gydymffurfio ag arferion gwaith sydd yn gyfrifol o safbwynt yr amgylchedd er mwyn cwrdd â deddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol   
Maen Prawf Perfformiad 3   
*  
*Dethol adnoddau  
G10   Nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cyfyngiadau, cynaliadwyedd a diffygion yn gysylltiedig gyda'r adnoddau a sut y dylid unioni diffygion  
G11   Sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i wneud adroddiad am unrhyw broblemau yn gysylltiedig gyda'r adnoddau  
G12   Y gweithdrefnau i ddewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio  
G13   Y peryglon yn gysylltiedig gyda'r adnoddau a'r dulliau gwaith a sut i'w goresgyn  
Maen Prawf Perfformiad 4
Lleihau'r risg o ddifrod
G14 Sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a diben diogelu  
G15 Pam y dylid cael gwared â gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hynny  
Maen Prawf Perfformiad 5  
*  
*Cyflawni manyleb y contract  
G16   Sut i wneud dulliau gwaith i gyflawni'r fanyleb, a gwneud adroddiad am broblemau  
G17   Sut i gynnal-a-chadw offer a chyfarpar  
Maen Prawf Perfformiad 6
Amser a glustnodwyd
G18 Beth yw'r rhaglen ar gyfer y gwaith i gael ei wneud, yr amser a glustnodwyd a pham y dylid cadw at amserlenni
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Maen Prawf Perfformiad 1
1 dehongli darluniadau, manylebion, rhestri, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gwneuthurwyr yn ymwneud â'r gwaith i gael ei wneud
Maen Prawf Perfformiad 2
2   Osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddwyd yn ymwneud â'r dilynol   
2.1   dulliau gwaith  
2.2   defnydd diogel o gyfarpar rheoli iechyd a diogelwch  
2.3   defnydd diogel o gyfarpar mynediad/llwyfannau gweithio  
2.4   defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel  
2.5   risgiau penodol i iechyd  
Maen Prawf Perfformiad 3
3   Dethol adnoddau yn gysylltiedig â'ch gwaith eich hun  
3.1   deunyddiau  
3.2   offer a chyfarpar ategol  
Maen Prawf Perfformiad 4
4   Diogelu'r gwaith a'r ardal o amgylch rhag difrod  
5   Lleihau difrod a chadw gofod gwaith glân  
6   Cael gwared â gwastraff yn unol â deddfwriaeth gyfredol  
Maen Prawf Perfformiad 5
7   Arddangos sgiliau gwaith i fesur, marcio allan, paratoi, cymysgu, rhoi a gorffen  
8   Defnyddio a chynnal-a-chadw offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol  
9   Paratoi arwynebau cefndir, cymysgu a rhoi plastr mewnol i gyfarwyddiadau gwaith a roddwyd yn ymwneud â'r canlynol  
9.1   gwaith un-gôt  
9.2   gwaith dwy-gôt  
9.3   onglau 90° mewnol ac allanol  
9.4   darnau trwch, siliau a soffitiau (drws a/neu ffenestri)  
9.5   waliau a nenfydau  
Maen Prawf Perfformiad 6
10 Yr unigolyn i gwblhau ei waith ei hun o fewn yr amcangyfrif o amser a glustnodwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient
Gwybodaeth Cwmpas
Cael gwared â gwastraff
1 Cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau, gwybodaeth gwneuthurwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Argyfyngau
2   Ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol â gweithdrefnau caniatâd a sgiliau personol wrth ymwneud â  
2.1   tanau, arllwysiadau, anafiadau  
2.2   argyfyngau'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol  
Peryglon
3 Y peryglon a ddynodir gan asesiad risg, dull gwaith, gwybodaeth dechnegol gwneuthurwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
4   Dynodir gan egwyddorion atal ar gyfer pob math galwedigaeth, mathau a diben pob math, sefyllfa waith ac amgylchedd gwaith cyffredinol  
4.1   mesurau diogelu torfol  
4.2   cyfarpar diogelu personol (PPE)  
4.3   cyfarpar diogelu anadlol (RPE)  
4.4   awyriad ecsôst lleol (LEV)  
Gwybodaeth
5 Darluniadau, manylebion, rhestri, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gwneuthurwyr a rheoliadau cyfredol sy'n llywodraethu adeiladau
Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
6 mae hyn yn cyfeirio at gyfrifoldebau'r gweithredydd o ddamweiniau posibl, peryglon iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, dan lefel y ddaear, mewn gofodau cyfyng, ar uchder, gydag offer a chyfarpar, gyda deunyddiau a sylweddau, wrth symud/storio deunyddiau ac wrth godi a chario â llaw a chodi mecanyddol
Cynnal-a-chadw
7 Gofal y gweithiwr o offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol
Dulliau gwaith
8   Defnyddio gwybodaeth ar gyfer arferion gwaith diogel ac iach, gweithdrefnau a sgiliau yn ymwneud â'r dull/ardal waith a'r deunyddiau a ddefnyddir i:  
8.1   gymysgu plastr  
8.2   paratoi arwynebau cefndir   
8.3   gosod dellten fetel ehangedig (EML) a dellten bren  
8.4   rhoi a gorffen gwaith plastr un a dwy-gôt ar gefndiroedd solet mewnol, EML, cefndiroedd dellten bren a byrddau parod i waliau a nenfydau  
8.5   ffurfio onglau mewnol ac allanol, darnau trwch a chwyddgymalau   
8.6   adnabod a phenderfynu pan fo gofyn am sgiliau a gwybodaeth arbenigol ac adrodd yn unol â hynny   
8.7   deall gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladu traddodiadol (cyn 1919) ac arwyddocâd hanesyddol   
8.8   defnyddio offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol  
8.9 gweithio ar uchder  
8.10   defnyddio cyfarpar mynediad/llwyfannau gweithio  
9   Gwaith tîm a chyfathrebu  
10  Anghenion galwedigaethau eraill cysylltiedig â phlastro  
Problemau
11   Problemau'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gwaith  
11.1   eich awdurdod eich hun i unioni  
11.2    gweithdrefnau ar gyfer gwneud adroddiadau  
Rhaglen
12   Mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amcangyfrif o amser  
13   Gweithdrefnau ar gyfer gwneud adroddiadau am amgylchiadau fydd yn effeithio ar y rhaglen waith  
Diogelu gwaith
14 Diogelu gwaith rhag difrod o weithgareddau cyffredinol y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd anffafriol
Adnoddau
15   deunyddiau, cydrannau a chyfarpar yn ymwneud â mathau, swm, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd safonol a/neu arbenigol yn nhermau:  
15.1   côt gefnu a phlastrau gorffen, tywod, calch, sment ac ychwanegion  
15.2   gleiniau, trimiau, a thapiau ffibr/papur  
15.3   byrddau parod, dellten fetel ehangedig (EML) a dellten bren  
15.4   offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol  
16   Dulliau cyfrif ansawdd, hyd, arwynebedd a gwastraff cysylltiedig â'r dull/gweithdrefn i gynhyrchu gorffeniadau plastr solet mewnol  
Trefniadau diogelwch eiddo
17 Safle, gweithle, cwmni a gweithiwr