Defnyddio offer neu beiriannau ar gyfer gweithgareddau anweithredol

URN: COSVR659
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peiriannau (Adeiladu),Cynnal Offer neu Beiriannau Adeiladu (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 01 Rhag 2012

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â

1   dehongli gwybodaeth

2   mabwysiadu arferion gwaith diogel ac iach

3   dewis deunyddiau, cydrannau, deunyddiau traul a chyfarpar 

4   gweithredu offer neu beiriannau ar gyfer gweithgareddau anweithredol fel archwilio, atgyweirio, cynnal a chadw, profi neu deithio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1   dehongli'r wybodaeth a roddir am ddefnyddio peiriannau a chadarnhau ei pherthnasedd

P2   trefnu gydag eraill ym mha drefn y dylid gwneud y gwaith

P3   cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol, dogfennau statws cyfreithiol arbennig, canllawiau swyddogol a gweithdrefnau'r sefydliad i gynnal arferion gwaith diogel ac iach

P4   gofyn am adnoddau i gynnal gweithrediadau peiriannau neu offer er mwyn cwblhau'r rhaglen waith

P5   dewis adnoddau peirianyddol ar gyfer y dulliau gweithio a'r gweithrediadau i'w cyflawni

P6   cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas

P7   cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion

P8   cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth

K1   pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu

K2   pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli

K3   beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn


Meini Prawf Perfformiad 2
Trefnu gydag eraill

K4   sut mae aelodau'r tîm yn cyfleu syniadau i'w gilydd

K5   sut mae adnoddau'n cael eu trefnu i gyd-fynd â'r cynnydd a wnaed yn y gwaith

K6   pa sgiliau sydd eu hangen i wneud y gwaith

*
*

Meini Prawf Perfformiad 3
Arferion gwaith diogel

K7   faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol, Codau Ymarfer cymeradwy a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso

K8   sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb

K9   beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer peiriannau, offer, cyfarpar ac eiddo personol

K10  beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K11  pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

Meini Prawf Perfformiad 4
Gwneud cais am adnoddau

K12   gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer gwneud cais am nwyddau traul ac adnoddau eraill

Meini Prawf Perfformiad 5
Dewis adnoddau

K13   beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion

K14   sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw

K15   beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio

K16   pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain

Meini Prawf Perfformiad 6
Lleihau'r risg o ddifrod

K17  sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu

K18  pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Meini Prawf Perfformiad 7
Bodloni gofynion y contract

K19  sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau

K20  sut i gynnal a chadw peiriannau, offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 8
Amser a neilltuwyd

K21  beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser



Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Meini Prawf Perfformiad 1

1   dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, llawlyfrau i ddefnyddwyr a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n ymwneud â gweithrediadau offer neu beiriannau a'r gwaith sydd i'w wneud

Meini Prawf Perfformiad 2

2   trefnu'ch gwaith eich hun

3   cyfleu'r gweithrediadau peirianyddol a'r gwaith sydd i'w wneud i aelodau'r tîm a galwedigaethau cysylltiedig eraill

Meini Prawf Perfformiad 3

4   osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am ddiogelwch sy'n ymwneud ag o leiaf bedwar o'r canlynol

4.1   dulliau gweithio

4.2   defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel

4.3   defnyddio a storio offer, peiriannau a chyfarpar yn ddiogel

4.4   defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel

4.5   risgiau penodol i iechyd

Meini Prawf Perfformiad 4

5   dilyn gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer gwneud cais am nwyddau traul, deunyddiau ac adnoddau eraill

Meini Prawf Perfformiad 5

6   dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun

6.1   offer llaw a chyfarpar ategol a/neu ategolion

6.2   deunyddiau traul

Meini Prawf Perfformiad 6

7   diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod

8   lleihau difrod a chynnal man gweithio glân

9   gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Meini Prawf Perfformiad 7

10   dangos sgiliau paratoi, gosod, ffurfweddu, dechrau, symud, rhedeg, cefnogi, parcio, stopio a sicrhau

11   defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, cyfarpar ategol a/neu ategolion

12   paratoi, ffurfweddu a gweithredu offer neu beiriannau ar gyfer gweithgareddau anweithredol (e.e. archwilio, atgyweirio, cynnal a chadw, profi neu deithio), yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir ar gyfer o leiaf ddau o'r canlynol:

12.1   offer pŵer a weithredir â llaw

12.2   peiriannau sefydlog

12.3   offer cyffredin a reolir

12.4   offer ar draciau

12.5   offer ar olwynion

12.6   rholeri

13   diffodd a diogelu offer neu beiriannau

14   cofnodi ac adrodd ar ganfyddiadau

*
*

Meini Prawf Perfformiad 8

15  cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient


Gwybodaeth Cwmpas

Cyfathrebu

1   trafodaethau, brasluniau a briffio

Gwaredu gwastraff

2   cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau’r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau

3   ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol

3.1   tanau, gollyngiadau ac anafiadau

3.2   argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Peryglon

4   y rhai hynny a nodir fel rhan o ddull gweithio, mewn asesiadau risg/Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

5   y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion diogelu ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol

5.1  mesurau diogelu ar y cyd

5.2   cyfarpar diogelu personol

5.3   cyfarpar diogelu anadlol

5.4   system awyru a gwacáu leol

Gwybodaeth

6   lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, llawlyfrau i ddefnyddwyr, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a rheoliadau cyfredol sy'n ymwneud â gweithredu offer a pheiriannau

Deddfwriaeth, Codau Ymarfer cymeradwy a chanllawiau swyddogol

7   mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl a pheryglon i iechyd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud/storio deunyddiau, codi a chario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

Cynnal a chadw

8   gofal y gweithiwr am offer a pheiriannau, offer llaw, cyfarpar ategol a/neu ategolion

Dulliau gweithio

9 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i

9.1   nodi galluoedd, nodweddion a chyfyngiadau offer a pheiriannau (sy'n cael eu reidio a'u rheoli o bell) gan gynnwys offer pŵer a weithredir â llaw, peiriannau sefydlog, offer cyffredin a reolir, offer ar olwynion ac offer ar draciau, rholeri

9.2   ystyried yr ardal sydd ar gael ar gyfer y symudiadau gofynnol (cyfyngiadau ar uchder, rhwystrau, rhwystrau uwchben / dan y ddaear, gwasanaethau, awyru a phwyntiau llwytho)

9.3   cwblhau gwiriadau cyn defnyddio, cyn dechrau a chyn symud

9.4   paratoi'r offer a'r peiriant i'w defnyddio

9.5   symud a lleoli offer a pheiriannau

9.6   symud offer a pheiriannau ar oleddf a gogwydd, tir anwastad, tir garw, tir heb ei gywasgu, ardaloedd â chliriadau cyfyngedig, mewn tywydd garw a thywydd eithafol, ac ardaloedd lle ceir traffig cerbydau eraill a cherddwyr

9.7   gweithredu offer a pheiriannau ac offer o fewn cyfyngiadau gweithredol

9.8   cefnogi offer a pheiriannau ar gyfer y gweithgaredd (archwilio, atgyweirio, cynnal a chadw, profi neu deithio)

9.9   dilyn arwyddion a chyfarwyddiadau

9.10  diffodd, parcio a diogelu offer a pheiriannau

9.11  diffodd offer a pheiriannau

9.12  paratoi offer a pheiriannau i'w cludo

9.13  adrodd ar ganfyddiadau a diffygion

9.14  defnyddio offer llaw, cyfarpar ategol ac ategolion

9.15  gweithio ar uchder

9.16  defnyddio cyfarpar mynediad

9.17  gwneud cofnodion a'u cynnal

10   gwaith tîm a chyfathrebu

11   anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gweithredu offer a pheiriannau ar gyfer gweithgareddau anweithredol

Problemau

12  y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio

12.1  eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa

12.2  gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen

13  mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig

14  gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

*
*

Diogelu gwaith

15  diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau

16   deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu arbenigol o

16.1   deunyddiau traul

16.2   offer llaw, cyfarpar ategol a/neu ategolion

17   dulliau o gyfrifo pwysau, cynhaliad, gwasgedd, swm, hyd ac arwynebedd sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn ar gyfer gweithredu offer a pheiriannau a ddefnyddir ar gyfer gweithgareddau anweithredol 

Gweithdrefnau diogelwch

18  safle, gweithle, cwmni a gweithiwr

Sgiliau

19  eich galwedigaeth eich hun a galwedigaethau sy'n gysylltiedig â'r gwaith


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Rhag 2017

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

VR659

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithredwyr Offer a Pheiriannau, Gweithredwyr a Gyrwyr Peiriannau Symudol

Cod SOC

5223

Geiriau Allweddol

Offer; Peiriannau; Offer pŵer a weithredir â llaw; Peiriannau sefydlog; Offer cyffredin a reolir; Offer ar olwynion; Offer ar draciau; Rholeri; Gweithgareddau anweithredol; Cynnal a chadw