Creu gorffeniadau o ansawdd sy’n atgynhyrchu marmor

URN: COSVR653
Sectorau Busnes (Suites): Galwedigaethau Gorffen Addurnol a Pheintio Diwydiannol (Adeiladu),Uwch-grefftau (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 29 Ebr 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chreu gorffeniadau sy'n atgynhyrchu mathau o farmor y gwyddys amdanynt, paratoi grwnd, diogelu'r man gweithio, dewis, paratoi a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar cysylltiedig, dehongli gwybodaeth a mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes Galwedigaethau Gorffen Addurniadol a Phaentio Diwydiannol a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd

P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach

P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio

P4 cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas

P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion

P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

*Meini Prawf Perfformiad 1
*

**Dehongli gwybodaeth

K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am **wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu

K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli

K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn
*
Meini Prawf Perfformiad 2
*

**Arferion gwaith diogel

K4 faint o **wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso

K5 pa fathau o ddiffoddwyr tân sydd ar gael a sut a phryd i'w defnyddio

K6 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb

K7 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol

K8 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K9 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

K10 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol **a chanllawiau swyddogol


Meini Prawf Perfformiad 3
*
*
Dewis adnoddau

K11 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr **adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion

K12 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw

K13 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio

K14 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain

Meini Prawf Perfformiad 4

Lleihau'r risg o ddifrod

K15 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu

K16 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

*Meini Prawf Perfformiad 5
*

**Bodloni gofynion y contract

K17 sut i ymgymryd â **dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau

K18 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar

**Meini Prawf Perfformiad 6


Amser a neilltuwyd
**
K19 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod

**

**


Cwmpas Perfformiad

Meini Prawf Perfformiad 1

1 dehongli lluniadau, gofynion, rheoliadau cyfredol, amserlenni, asesiadau risg, datganiadau dull a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

Meini Prawf Perfformiad 2

2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am y dilynol

2.1 dulliau gweithio

2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel

2.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel

2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel

2.5 risgiau penodol i iechyd

Meini Prawf Perfformiad 3

3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun

3.1 deunyddiau

3.2 offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 4

4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod

5 cynnal man gweithio clir a thaclus

6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Meini Prawf Perfformiad 5

7 dangos sgiliau cymysgu, blendio, arllwys, gwanedu, masgio, rhag-baentio, dotweithio, meddalu, pluo, agor a rhwbio

8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw a chyfarpar cysylltiedig

9 paratoi grwnd o ansawdd uchel a chreu gorffeniadau sy'n atgynhyrchu o leiaf ddau o'r mathau dilynol o farmor ar waliau llydan a gwaith llinellog drwy wneud y gwaith fesul dau gam gwahanol o leiaf a defnyddio sgymblau a gludir gan ddŵr a/neu sgymblau a gludir gan hydoddydd yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir

9.1 Carrara

9.2 Vert de Mer

9.3 Sienna

10 defnyddio deunyddiau cotio sy'n diogelu ac sy'n briodol

Meini Prawf Perfformiad 6

11 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient


Gwybodaeth Cwmpas

Gwaredu gwastraff

1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau

2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol

2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau

2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Diffoddwyr tân

3 dŵr, CO₂, ewyn a phowdr

Peryglon

4 y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

5 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol

5.1 mesurau diogelu ar y cyd

5.2 cyfarpar diogelu personol

5.3 cyfarpar diogelu anadlol

5.4 system awyru a gwacáu leol

Gwybodaeth

6 lluniadau, gofynion, deddfwriaeth gyfredol, amserlenni, asesiadau risg, datganiadau dull, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, canllawiau swyddogol a rheoliadau cyfredol sy'n ymwneud ag adeiladau ac yn gysylltiedig â gofynion galwedigaethol

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol

7 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd, pobl a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

Cynnal a chadw

8 gofal y gweithiwr am offer llaw a chyfarpar cysylltiedig

Dulliau gweithio

9 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i

9.1 cadarnhau gofynion mynediad

9.2 sicrhau bod arwynebau a baratowyd yn flaenorol yn addas, paratoi grwnd priodol a chreu gorffeniad priodol ar arwynebau o'r fath

9.3 nodi deunyddiau i'w cynnwys mewn sgymblau

9.4 paratoi paentiau a/neu gynhyrchion sgwmblo (rhai perchnogol a rhai wedi'u hunan-gynhyrchu)

9.5 paratoi brwshys, offer arbenigol a chyfarpar

9.6 creu gorffeniadau o ansawdd uchel sy'n atgynhyrchu marmor

9.7 creu gorffeniadau marmor ar waliau llydan a gwaith llinellog

9.8 gwneud y gwaith fesul cam

9.9 nodi sut mae amodau atmosfferig yn effeithio ar ddeunyddiau cotio a'u defnydd

9.10 rhoi gwybodaeth ar gyfer modelu gwybodaeth am adeiladu

9.11 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol

9.12 nodi gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol (cyn 1919) ac arwyddocâd hanesyddol

9.13 nodi a dilyn cyfarwyddiadau gweithgynhyrchwyr

9.14 gweithio o gwmpas peiriannau ac yn agos iawn atynt

9.15 cyfarwyddo ac arwain peiriannau wrth iddynt symud a chael eu gweithredu

9.16 archwilio a defnyddio cyfarpar mynediad

9.17 gweithio ar uchder

9.18 defnyddio offer llaw a chyfarpar cysylltiedig

10 gwaith tîm a chyfathrebu

11 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â chreu gorffeniadau o ansawdd sy'n atgynhyrchu marmor

Problemau

12 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio

12.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa

12.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen

13 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig

14 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith

15 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill, y cyhoedd ac amodau atmosfferig

Adnoddau

16 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu

arbenigol o

16.1 sgymblau a gludir gan ddŵr, sgymblau a gludir gan hydoddydd, gwydreddau a gludir gan ddŵr a gwydreddau a gludir gan hydoddydd sy'n rhai perchnogol

16.2 paentiau, staenwyr, rhwymwyr, hydoddyddion, pigmentau deunyddiau cotio sy'n diogelu ac sy'n briodol a sychwyr

16.3 gorchuddion diogelu a deunyddiau masgio

16.4 cynwysyddion a/neu fagiau gwastraff

16.5 cyfarpar mynediad

16.6 offer llaw a chyfarpar ategol

17 dulliau o gyfrifo faint o ddeunyddiau sydd eu hangen, gan gynnwys faint o'r deunyddiau hynny a fydd yn cael eu gwastraffu, mewn cysylltiad â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer creu gorffeniadau o ansawdd sy'n atgynhyrchu marmor

18 cadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n bodloni'r gofynion

Gweithdrefnau diogelwch

19 safle, gweithle, cwmni, gweithiwr a cherbydau

**

**


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ConstructionSkills [SgiliauAdeiladu]

URN gwreiddiol

VR653

Galwedigaethau Perthnasol

Paentio ac Addurno

Cod SOC

5323

Geiriau Allweddol

Pigmentau; Dyfrlliw; Sgymblau; Pluo; Dotweithio; Paentiau; Carrara; Vert de Mer; Sienna