Creu gorffeniadau o ansawdd sy’n atgynhyrchu graen pren
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chreu gorffeniadau sy'n atgynhyrchu graen naturiol pren meddal neu bren caled, diogelu'r man gweithio, paratoi grwnd, paratoi a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar cysylltiedig, dehongli gwybodaeth a mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol.
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes Galwedigaethau Gorffen Addurniadol a Phaentio Diwydiannol a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddwyd yn ymwneud â'r gwaith ac adnoddau i gadarnhau ei bod yn berthnasol
P2 cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol a chanllawiau swyddogol a roddwyd i wneud eich gwaith a chadw arferion gwaith diogel ac iach
P3 dethol faint o adnoddau ac ansawdd yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y dulliau gwaith
P4 cydymffurfio gyda gweithdrefnau i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o amgylch
P5 cydymffurfio â'r cyfarwyddiadau contract a roddwyd i wneud y gwaith yn effeithlon i'r fanyleb ofynnol
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a glustnodwyd, yn unol â'r rhaglen waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
**Meini Prawf Perfformiad 1
**
Dehongli gwybodaeth
K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu
K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli
K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn
**Meini Prawf Perfformiad 2
Arferion gwaith diogel**
K4 lefel y ddealltwriaeth y mae'n rhaid i weithredwyr ei chael o wybodaeth ar gyfer deddfwriaeth berthnasol, gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut y caiff ei gweithredu
K5 y mathau o ddiffoddwyr tân a sut a phryd y cânt eu defnyddio
K6 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb K7 y gweithdrefnau diogelwch sefydliadol ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
K8 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud yr adroddiad
K9 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarparrheoli iechyd a diogelwch
K10 sut i gydymffurfio ag arferion gweithio sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn diwallu deddfwriaeth gyfredol a **chanllawiau swyddogol
**Meini Prawf Perfformiad 3
Dethol adnoddau**
K11 y nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K12 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut mae unrhyw broblemau
sy'n gysylltiedig â'r adnoddau'n cael eu riportio
K13 y gweithdrefnau sefydliadol i ddethol adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut y cânt eu defnyddio
K14 y peryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio
a sut y cânt eu goresgyn
**Meini Prawf Perfformiad 4
Lleihau'r risg o ddifrod**
K15 sut i amddiffyn gwaith rhag difrod a phwrpas amddiffyn K16 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut y caiff ei gyflawni
**Meini Prawf Perfformiad 5
Diwallu manyleb y contract**
K17 sut mae dulliau gweithio, i ddiwallu'r fanyleb, yn cael eu cyflawni a sut y dylid adrodd am broblemau
K18 sut mae gwaith cynnal a chadw offer a chyfarpar yn cael ei wneud
**Meini Prawf Perfformiad 6
Amser wedi'i ddyrannu**
K19 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud yn yr amser amcangyfrifedig, dyranedig a pham y dylid cadw at derfynau amser
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Maen Prawf Perfformiad 1
*
1 dehongli manylebion, rheoliadau cyfredol, asesiadau risg, datganiadau dull a gwybodaeth gwneuthurwyr yn cyfeirio at y gwaith i gael ei wneud
*
Maen Prawf Perfformiad 2
2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddwyd yn ymwneud â'r dilynol
2.1 dulliau gwaith
2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
2.3 defnyddio offer mynediad yn ddiogel
2.4 defnyddio a storio deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd
*
Maen Prawf Perfformiad 3*
3 dethol adnoddau yn gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
3.1 deunyddiau
3.2 offer a chyfarpar
*
Maen Prawf Perfformiad 4*
4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod
5 cynnal man gweithio clir a thaclus
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
Meini Prawf Perfformiad 5
7 dangos sgiliau cymysgu, blendio, arllwys, gwanedu, masgio, rhag-baentio, llusgo, meddalu, graenio drosodd, fflogio, cribo a rhwbio
8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw a chyfarpar cysylltiedig
9 paratoi grwnd o ansawdd uchel a chreu gorffeniadau sy'n atgynhyrchu graen y prennau dilynol ar waliau llydan a gwaith llinellog drwy wneud y gwaith fesul dau gam gwahanol o leiaf a defnyddio sgymblau a gludir gan ddŵr a/neu sgymblau a gludir gan hydoddydd neu ddeunyddiau priodol eraill yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir
9.1 derw (unrhyw ddau o'r dilynol): llifiad rheiddiol, rhuddin a graen syth
9.2 mahogani (unrhyw ddau o'r dilynol): rhuddin, graen syth a phluen
10 defnyddio deunyddiau cotio sy'n diogelu ac sy'n briodol
Meini Prawf Perfformiad 6
11 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient
*
*
Gwybodaeth Cwmpas
Gwaredu gwastraff
1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau, gwybodaeth gwneuthurwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
*
Argyfyngau*
2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol â gweithdrefnau caniatâd a sgiliau personol wrth ymwneud â
2.1 thanau, arllwysiadau, anafiadau
2.2 argyfyngau’n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
Diffoddwyr tân**
3 dŵr, CO2, ewyn a phowdr
*
Peryglon*
4 nodi trwy asesiadau risg, datganiadau dull, gwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
*Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch*
5 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol
5.1 mesurau diogelu ar y cyd
5.2 cyfarpar diogelu personol
5.3 cyfarpar diogelu anadlol
5.4 system awyru a gwacáu leol
Gwybodaeth
6 lluniadau, gofynion, deddfwriaeth gyfredol, amserlenni, asesiadau risg, datganiadau dull, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, canllawiau swyddogol a rheoliadau cyfredol sy'n ymwneud ag adeiladau ac yn gysylltiedig â gofynion galwedigaethol
*
Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol*
7 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd, pobl a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
Cynnal a chadw
8 gofal y gweithiwr am offer llaw a chyfarpar cysylltiedig
Dulliau gweithio
9 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i
9.1 cadarnhau gofynion mynediad
9.2 sicrhau bod arwynebau a baratowyd yn flaenorol yn addas, paratoi grwnd priodol a chreu gorffeniad priodol ar arwynebau o'r fath
9.3 nodi deunyddiau i'w cynnwys mewn sgymblau neu ddeunyddiau priodol
9.4 paratoi paentiau a/neu gynhyrchion sgwmblo (rhai perchnogol a rhai wedi'u hunan-gynhyrchu)
9.5 paratoi brwshys, offer arbenigol a chyfarpar
9.6 creu gorffeniadau o ansawdd sy'n atgynhyrchu graen pren meddal a phren caled
9.7 cotio drysau, paneli a gwaith llinellog a/neu drimiau
9.8 gwneud y gwaith fesul cam
9.9 nodi sut mae amodau atmosfferig yn effeithio ar y deunyddiau cotio a'u defnydd
9.10 rhoi gwybodaeth ar gyfer modelu gwybodaeth am adeiladu
9.11 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol
9.12 nodi gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol (cyn 1919) ac arwyddocâd hanesyddol
9.13 nodi a dilyn cyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchwyr
9.14 gweithio o gwmpas peiriannau ac yn agos iawn atynt
9.15 cyfarwyddo ac arwain peiriannau wrth iddynt symud a chael eu gweithredu
9.16 archwilio a defnyddio cyfarpar mynediad
9.17 gweithio ar uchder
9.18 defnyddio offer llaw a chyfarpar cysylltiedig
10 gwaith tîm a chyfathrebu
11 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â chreu gorffeniadau o ansawdd sy'n atgynhyrchu graen pren
Problemau
12 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
12.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
12.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad
Rhaglen
13 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig
14 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith
Diogelu gwaith
15 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill, y cyhoedd a thywydd garw
Adnoddau
16 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu
arbenigol o
16.1 sgymblau a gludir gan ddŵr, sgymblau a gludir gan hydoddydd, gwydreddau a gludir gan ddŵr, gwydreddau a gludir gan hydoddydd a deunyddiau priodol eraill sy'n rhai perchnogol
16.2 paentiau, staenwyr, rhwymwyr, hydoddyddion, pigmentau a sychwyr deunyddiau cotio sy'n diogelu
16.3 gorchuddion diogelu a deunyddiau masgio
16.4 cynwysyddion a/neu fagiau gwastraff
16.5 peiriannau a chyfarpar mynediad
16.6 offer llaw a chyfarpar ategol
17 dulliau o gyfrifo faint o ddeunyddiau sydd eu hangen, gan gynnwys faint o'r deunyddiau hynny a fydd yn cael eu gwastraffu, mewn cysylltiad â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer creu gorffeniadau o ansawdd sy'n atgynhyrchu graen pren
18 cadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n bodloni'r gofynion
G*weithdrefnau diogelwch*
19 safle, gweithle, cwmni, gweithiwr a cherbydau