Taenu haenau i gynhyrchu gorffeniadau gweadog safonol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â thaenu haenau i gynhyrchu gorffeniadau gweadog safonol trwy gymysgu ac yna rhoi haenau gan ddefnyddio brwsh neu roler.
Bydd y safon hon hefyd yn cynnwys dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, lleihau difrod, a gweithio o fewn yr amser a neilltuwyd, yn unol â gofynion sefydliadol sy'n hafal i neu'n rhagori ar y gofynion statudol a deddfwriaethol cyfredol.
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol Paentio ac Addurno a gellir ei defnyddio gan weithredwyr, goruchwylwyr a rheolwyr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Dehongli gwybodaeth
P1 dehongli a defnyddio'r wybodaeth sy'n ymwneud â'r gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd ar gyfer y canlynol:
• lluniadau
• manylebau
• amserlenni
• datganiadau dull
• asesiadau risg
• gwybodaeth y gweithgynhyrchwyr
• taflenni data technegol
• taflenni data diogelwch
• deddfwriaeth a rheoliadau cyfredol sy'n llywodraethu adeiladau
Arferion gwaith diogel
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth a chanllawiau swyddogol i gyflawni'r gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach sy'n ymwneud â'r canlynol:
• dulliau gwaith
• defnydd diogel o offer rheoli iechyd a diogelwch
• defnydd diogel o offer mynediad
• defnydd, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
• risgiau penodol i iechyd gan gynnwys iechyd meddwl
• risgiau penodol sy'n gysylltiedig â deunyddiau sy'n cynnwys asbestos
• risgiau penodol sy'n gysylltiedig â haenau arwyneb sy'n cynnwys plwm
Dewis adnoddau
P3 cyfrifo a dewis swm ac ansawdd yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y dulliau gwaith ar gyfer:
• deunyddiau
• offer a chyfarpar
Lleihau’r risgo o ddifrod
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal gyfagos drwy:
• amddiffyn y gwaith a'i ardal gyfagos a gorffeniadau neu arwynebau cyfagos rhag difrod
• cynnal ardal waith ddiogel, glir a thaclus
• gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
Dull o weithio
P5 cwblhau’r gwaith o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol, y rhaglen waith ac i ddiwallu anghenion galwedigaethol eraill a’r cleient
Bodloni manyleb y contract
P6 cydymffurfio â gwybodaeth y contract i daenu haenau i gynhyrchu gorffeniadau gweadog safonol i'r fanyleb ofynnol drwy:
• dangos sgiliau gwaith i
- gymysgu
- taenu yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
- glanhau
• cymysgu a thaenu haenau yn ôl cyfarwyddiadau gwaith a chynhyrchu effaith dotiog (stippled) a ffin gyda brwsh neu rholer
• defnyddio a chynnal offer llaw a phŵer a chyfarpar cysylltiedig
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
P1 Dehongli gwybodaeth
K1 pam y datblygwyd gweithdrefnau sefydliadol a sut y cânt eu gweithredu
K2 mathau o wybodaeth, eu ffynhonnell a sut y cânt eu dehongli mewn perthynas â:
• lluniadau
• manylebau
• amserlenni
• datganiadau dull
• asesiadau risg
• gwybodaeth y gweithgynhyrchwyr
• taflenni data technegol
• taflenni data diogelwch
• deddfwriaeth a rheoliadau cyfredol sy'n llywodraethu adeiladau
K3 pwysigrwydd gwybodaeth gywir, ac adrodd ar ac unioni unrhyw bryderon
K4 yr ystod o wasanaethau, offer a systemau digidol perthnasol, a sut maen nhw'n cael eu defnyddio
P2 Arferion gwaith diogel
K5 gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol, gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut y cânt eu cymhwyso
K6 y mathau o ddiffoddwyr tân a sut a phryd y cânt eu defnyddio mewn perthynas â:
• dŵr
• CO2
• ewyn
• powdr
K7 sut y dylid ymateb i argyfyngau yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol mewn perthynas â:
• tanau, gollyngiadau, anafiadau
• argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
• nodi ac adrodd am ddeunyddiau sy'n cynnwys asbestos
• nodi ac adrodd am ddeunyddiau sy'n cynnwys plwm
K8 y gweithdrefnau diogelwch sefydliadol ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol mewn perthynas â:
• gweithredwr
• safle
• gweithle
• cerbydau
• cwmni
• cwsmer
• y cyhoedd cyffredinol
K9 sut i adrodd am risgiau a pheryglon a nodwyd gan y canlynol:
• dulliau gwaith
• asesiad risg
• asesiad personol
• gwybodaeth dechnegol y gweithgynhyrchwyr
• rheoliadau statudol
• canllawiau swyddogol
• Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
K10 y gweithdrefnau adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud yr adroddiad
K11 pam, pryd a sut y dylid defnyddio offer rheoli iechyd a diogelwch a nodwyd gan egwyddorion atal mewn perthynas â:
• mesurau amddiffynnol ar y cyd
• cyfarpar amddiffynnol personol (PPE)
• offer amddiffynnol anadlol (RPE)
• system awyru gwacáu lleol (LEV)
• atal llwch
K12 sut i gydymffurfio ag arferion gwaith sy'n gyfrifol am yr amgylchedd er mwyn bodloni deddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol
K13 y gweithdrefnau sefydliadol wrth ddelio â damweiniau posibl, peryglon iechyd a'r effaith amgylcheddol wrth weithio yn y gweithle:
• islaw lefel y ddaear
• mewn mannau cyfyng
• ar uchder
• gydag offer a chyfarpar
• gyda deunyddiau a sylweddau
• symud a storio deunyddiau trwy drin â llaw a chodi'n fecanyddol
• gweithio'n agos at aelodau'r cyhoedd
P3 Dewis adnoddau
K14 pam mae'r nodweddion, yr ansawdd, y defnyddiau, y cynaliadwyedd, y cyfyngiadau a'r diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau yn bwysig a sut y dylid cywiro diffygion
K15 y gweithdrefnau sefydliadol i ddewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut y cânt eu defnyddio
K16 sut i gadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n cydymffurfio â'r fanyleb
K17 pam, ble a sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut y caiff unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau eu hadrodd mewn perthynas â:
• deunyddiau gweadu powdr a deunyddiau parod
• paent preimio a selwyr
• offer mynediad priodol
• deunyddiau amddiffynnol a masgio
• cynwysyddion gwastraff
• offer a chyfarpar gweadu
• offer digidol gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i lefelau laser
K18 sut i adnabod y peryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gwaith a sut y cânt eu datrys
K19 dulliau o gyfrifo swm, hyd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dulliau a'r gweithdrefnau i daenu haenau i gynhyrchu gorffeniadau gweadog safonol
P4 Lleihau’r risg o ddifrod
K20 sut i amddiffyn gwaith a'i ardaloedd cyfagos a gorffeniadau neu arwynebau cyfagos rhag difrod a phwrpas amddiffyn rhag gweithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill, aelodau'r cyhoedd ac amodau tywydd garw
K21 sut i leihau'r difrod i ffabrig adeiladu presennol
K22 pam a sut y mae'n rhaid gwaredu gwastraff yn ddiogel yn unol â'r canlynol
• cyfrifoldebau amgylcheddol
• gweithdrefnau sefydliadol
• gwybodaeth y gweithgynhyrchwyr
• rheoliadau statudol
• canllawiau swyddogol
K23 pam ei bod hi'n bwysig cynnal ardal waith ddiogel, clir a thaclus
P5 Dull o weithio
K24 y rhaglen waith i'w chyflawni gan gynnwys yr amser amcangyfrifedig a'r amser a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser
K25 y mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig a'r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith
P6 Bodloni manyleb y contract
K26 pwysigrwydd gwaith tîm a chyfathrebu
K27 pwysigrwydd ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a lles
K28 pwysigrwydd cymhwyso Tegwch, Cynhwysiant a Pharch (FIR) wrth ddelio ag eraill
K29 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â thaenu haenau i gynhyrchu gorffeniadau gweadog safonol
K30 sut i sefydlu gofynion mynediad i'r safle
K31 sut i adnabod a phenderfynu pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol ac adrodd yn unol â hynny
K32 sut i adnabod a dilyn cyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchwyr
K33 perthnasedd asesiad o arwyddocâd hanesyddol
K34 sut i adnabod gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladu traddodiadol, adeiladau anodd eu trin ac arwyddocâd hanesyddol
K35 sut i weithio gyda, o amgylch ac yn agos at beiriannau a pheirianwaith
K36 sut i weithio ar uchder gan ddefnyddio offer mynediad
K37 sut i ddefnyddio'r holl offer llaw a phŵer a chyfarpar cysylltiedig
K38 sut a pham y cynhelir gofal a chynnal a chadw gweithredol ar gyfer yr holl offer llaw a phŵer a'r cyfarpar cysylltiedig
K39 sut i baratoi arwynebau ar gyfer gweadu (newydd a rhai â gwead blaenorol)
K40 sut i gynhyrchu amrywiaeth o orffeniadau gwead brwsh, dotiwr (stippler) a rholer cydnabyddedig gan weithgynhyrchwyr
K41 sut i baratoi haenau gweadog
K42 sut i daenu haenau gweadog ar arwynebau sych
K43 sut i weithio o amgylch ffitiadau trydanol a phibellau
K44 sut i nodi sut mae amodau atmosfferig yn effeithio ar haenau a'u proses taenu
K45 sut i nodi oes waith deunyddiau wedi'u paratoi
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Mae ymddygiadau'n ceisio mynd i'r afael â'r ffaith NOS yn canolbwyntio'n bennaf ar ganlyniadau. Mewn rhai diwydiannau, nid yw canlyniadau yn unig yn cael eu hystyried yn ddigonol. Mae cyflogwyr hefyd yn teimlo ei bod yn bwysig disgrifio'r ffyrdd cyffredinol y mae unigolion yn mynd ati i gyflawni'r canlyniadau.
Mae'r ymddygiadau canlynol wedi'u nodi ar gyfer y NOS hon a dylid eu nodi ond nid oes angen eu hasesu.
B1 Canolbwyntio ar ansawdd:
Rhoi sylw i fanylion i gyflawni gwaith o ansawdd uchel i safonau cyfredol y diwydiant. Ymwybyddiaeth ac ystyriaeth o grefftau eraill. Darparu amddiffyniad i orffeniadau cyfagos i osgoi difrod posibl.
B2 Agwedd gadarnhaol ac aeddfed:
Cydwybodol a phroffesiynol gan gynnwys ymddangosiad. Cymryd cyfrifoldeb am farnau a gweithredoedd personol. Bod yn ymwybodol o derfynau cymhwysedd personol. Cynnal safonau moesegol, gan gynnwys gonestrwydd, uniondeb, tegwch, cynhwysiant, parch a thryloywder ym mhob agwedd ar y rôl.
B3 Gwaith tîm:
Gweithio fel rhan o dîm adeiladu mwy. Cydweithio'n effeithiol â chrefftwyr eraill a chyfathrebu'n dda i gyflawni nodau'r prosiect. Dangos gwasanaeth cwsmeriaid da. Bod yn gwrtais, yn agos-atoch, ac yn ymatebol i anghenion cleientiaid.
B4 Sylw i Gynaliadwyedd
Yn ymwybodol o gynaliadwyedd ac ystyriaethau amgylcheddol wrth ddefnyddio adnoddau a chynnal prosesau.
B5 Dysgu parhaus:
Nodi anghenion datblygu personol a chymryd camau i ddiwallu'r anghenion hynny trwy gyfleoedd dysgu a datblygu. Cadw ar y blaen ag arfer gorau, technoleg, technegau a deunyddiau newydd.