Symud, defnyddio neu storio adnoddau

URN: COSVR643
Sectorau Busnes (Suites): Galwedigaethau Trywel (Adeiladu),Plastro (Adeiladu),Peirianneg Simneiau (Adeiladu),Gweithrediadau Deifio Adeiladu,Gweithrediadau Adeiladu a Gwasanaethau Peirianneg Sifil,Rheoli Gweithrediadau Codi (Adeiladu),Ffurfwaith (Adeiladu),Sgiliau Treftadaeth (Adeiladu),Dulliau Adeiladu Arloesol/Modern ,Systemau Mewnol (Adeiladu),Gosodiadau Gwrthsafol (Adeiladu),Galwedigaethau Toi (Adeiladu),Gosod Dur (Adeiladu),Gwaith Saer Maen (Adeiladu),Teilsio Waliau a Lloriau (Adeiladu),Dymchwel,Galwedigaethau Coed (Adeiladu),Gweithrediadau Cynnal a Chadw Adeiladau (Aml-grefft),Gweithrediadau Cyrraedd a Rigio (Adeiladu),Galwedigaethau Gwasanaethau Diwydiannol Cysylltiedig (Adeiladu),Galwedigaethau Cladio (Adeiladu),Galwedigaethau Gorffen Addurniadol a Phaentio Diwydiannol (Adeiladu),Gosod Concrit a Rag-gastiwyd (Adeiladu),Ffitiadau Mewnol (Adeiladu),Galwedigaethau Gorchuddion Lloriau (Adeiladu),Triniaethau Inswleiddio ac Adeiladu (Adeiladu),Asffalt Mastig (Adeiladu),Gweithrediadau Pyst Sylfaen (Adeiladu),Gosod Peiriannau (Adeiladu),Gweithrediadau Peiriannau (Adeiladu),Gweithrediadau Tyniannu Pyst (Adeiladu),Logisteg Safleoedd (Adeiladu),Galwedigaethau Concrit Arbenigol (Adeiladu),Galwedigaethau Gosod Arbenigol (Adeiladu),Galwedigaethau Gwaith Isadeiledd (Adeiladu),Galwedigaethau Gwaith Uwchadeiledd (Adeiladu),Inswleiddio Thermol (Adeiladu),Gweithrediadau Twnnel (Adeiladu) ,Saernïo Coed â Pheiriannau (Adeiladu/Allwthiadau Melin Lifio/Dodrefn),Cadw Coed – Rhag-driniaeth Ddiwydiannol (Adeiladu),Rheoli Traffig Dros Dro (Adeiladu),Galwedigaethau Cerfio (Adeiladu),Cynnal Peiriannau neu Beirianwaith (Adeiladu),Systemau Toi Pilenni Gwrth-ddŵr (Adeiladu),Gwaredu Gwastraff Peryglus a Gwastraff nad yw’n Beryglus (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 29 Ebr 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon, yng nghyd-destun eich galwedigaeth a'ch amgylchedd gwaith, yn ymwneud â

  1. dehongli gwybodaeth
  2. mabwysiadu arferion gwaith diogel ac iach
  3. dethol cymhorthion neu gyfarpar ar gyfer symud, defnyddio neu storio adnoddau galwedigaethol
  4. symud, defnyddio a storio adnoddau galwedigaethol i gynnal eu cyflwr defnyddiol

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1    cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir i symud, defnyddio neu storio adnoddau P2    cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau swyddogol penodol i symud, defnyddio neu storio adnoddau galwedigaethol a chynnal arferion gwaith diogel P3    dethol nifer yr adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dull o symud, defnyddio neu storio adnoddau galwedigaethol P4    atal difrod i'r adnoddau galwedigaethol a'r amgylchedd o'u cwmpas P5    cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am yr adnoddau galwedigaethol i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r cyfarwyddyd a roddwyd P6    cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd, yn unol â'r rhaglen waith

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

**Meini Prawf Perfformiad 1** **Dehongli gwybodaeth** K1  pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am **wybodaeth** amhriodol ac **adnoddau** anaddas, a'u cywiro, a sut i'w gweithredu K2   pa fathau o **wybodaeth** sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli K3  beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys **problemau** â'r **wybodaeth** a pham mae'n bwysig eu dilyn K4   sut i gael gwybodaeth er mwyn defnyddio a storio cymhorthion a chyfarpar codi
**Meini Prawf Perfformiad 2** **Arferion gwaith diogel** K5   faint o **wybodaeth** y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r **ddeddfwriaeth a'r canllawiau swyddogol** cyfredol a pherthnasol a sut i'w chymhwyso K6   pa fathau o **ddiffoddwyr tân** sydd ar gael a sut a phryd i'w defnyddio K7   sut y dylid ymateb i **argyfyngau** a phwy ddylai ymateb K8    beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol K9     beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny K10   pam, pryd a sut y dylid defnyddio **cyfarpar rheoli** **iechyd a diogelwch **
**Meini Prawf Perfformiad 3** **Dethol adnoddau** K11  beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr **adnoddau** a sut y dylid cywiro diffygion K12  sut y dylid defnyddio'r **adnoddau** a sut i adrodd am unrhyw **broblemau** sy'n gysylltiedig â'r **adnoddau** K13  beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dethol **adnoddau**, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio K14  pa **beryglon** sy'n gysylltiedig â'r **adnoddau** a'r **dulliau gweithio** a sut i ddelio â'r rhain
** **

* *

Meini Prawf Perfformiad 4

Atal difrod

K15   sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu

K16   pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Meini Prawf Perfformiad 5

Cydymffurfio â gwybodaeth am adnoddau galwedigaethol

K17   sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau

Meini Prawf Perfformiad 6

Amser a neilltuwyd

K18    beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

 

Meini Prawf Perfformiad 1

1   dehongli'r wybodaeth a roddir i symud, defnyddio neu storio adnoddau galwedigaethol a defnyddio a storio cymhorthion a chyfarpar codi

Meini Prawf Perfformiad 2

2   osgoi risg trwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am o leiaf ddau o'r dilynol

    1. dulliau gweithio
    2. defnydd diogel o gyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
    3. defnydd diogel o gymhorthion codi
    4. diogelu'r amgylchedd

Meini Prawf Perfformiad 3

3   dethol adnoddau ar gyfer symud, defnyddio neu storio

    1. cymhorthion codi a defnyddio
    2. cynhwysydd/cynwysyddion
    3. systemau gosod, dal a sicrhau

Meini Prawf Perfformiad 4

4  diogelu'r adnoddau galwedigaethol a'r ardal o'u cwmpas rhag difrod

5  gwaredu gwastraff a deunydd pecynnu yn unol â'r ddeddfwriaeth

6  cynnal lle gweithio glân

Meini Prawf Perfformiad 5

7   dangos sgiliau symud, lleoli, storio, sicrhau a/neu ddefnyddio cymhorthion codi a thechnegau codi cinetig

8   symud, defnyddio neu storio adnoddau galwedigaethol i fodloni gofynion y cynnyrch a'r sefydliad sy'n ymwneud ag o leiaf dri o'r dilynol

    1. deunydd dalennog
    2. deunydd rhydd
    3. deunydd mewn bag neu wedi'i lapio
    4. deunydd bregus
    5. offer a chyfarpar
    6. cydrannau
    7. hylifau

Meini Prawf Perfformiad 6

9   cwblhau eich gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cwsmer






Gwybodaeth Cwmpas

Gwaredu gwastraff

1  cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau

2  ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol wrth ymwneud â

    1. tanau, gollyngiadau, anafiadau ac ati
    2. argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Diffoddwyr tân

3   dŵr, CO2, ewyn, powdr a'u defnyddiau

Peryglon

4   y rhai hynny a nodir fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

5  y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion diogelu ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol

    1. mesurau diogelu ar y cyd
    2. cyfarpar diogelu personol
    3. cyfarpar diogelu anadlol
    4. system awyru a gwacáu leol

Gwybodaeth

6  gwybodaeth dechnegol, gwybodaeth am y cynnyrch a gwybodaeth reoleiddio: ar lafar, ysgrifenedig, cyflwyniadau graffigol

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol

7   mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl a pheryglon i iechyd wrth weithio yn y gweithle, mewn lleoedd cyfyng, o dan lefel y tir, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud/storio deunyddiau, codi a chario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

Dulliau gweithio

8  cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel mewn perthynas â'r dull gweithio/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i symud, defnyddio a storio adnoddau galwedigaethol

9   anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â'r adnoddau

Problemau

10   y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio

    1. eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
    2. gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen

11   mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig

12   gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith

13   diogelu gwaith rhag gweithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau

14   niferoedd, ansawdd, meintiau, cynaliadwyedd a mathau safonol a/neu arbenigol o

    1. adnoddau galwedigaethol
    2. cymhorthion codi a defnyddio
    3. cynwysyddion
    4. systemau gosod, dal a sicrhau

Gweithdrefnau diogelwch

15   safle, gweithle, cwmni a gweithiwr



 



 



 

 


 
 
 


 


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2019

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR643

Galwedigaethau Perthnasol

Crefftau Adeiladu, Goruchwylwyr y Crefftau Adeiladu

Cod SOC

5319

Geiriau Allweddol

Storio; Defnyddio; Codi cinetig; Cymhorthion codi