Cydymffurfio â gofynion iechyd, diogelwch a lles cyffredinol yn y gweithle
Trosolwg
Mae'r safon hon, yng nghyd-destun eich galwedigaeth a'ch amgylchedd gwaith, yn ymwneud ag ymwybyddiaeth o ofynion statudol a chanllawiau swyddogol perthnasol a chyfredol, cyfrifoldebau am iechyd, diogelwch a lles chi'ch hunan ac eraill yn y gweithle, ymddygiad personol a diogelwch yn y gweithle
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 cydymffurfio â holl ofynion deddfwriaeth iechyd, diogelwch a lles yn y gweithle bob amser
P2 nodi peryglon yn y gweithle nad ydynt wedi'u rheoli'n flaenorol ac adrodd amdanynt yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
P3 derbyn cyfrifoldeb am bolisïau a gweithdrefnau'r sefydliad, a chydymffurfio â nhw, er mwyn cyfrannu at iechyd, diogelwch a lles
P4 cydymffurfio â holl drefniadau diogelwch a gweithdrefnau cymeradwy'r sefydliad a'u cefnogi
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Meini Prawf Perfformiad 1
Iechyd, diogelwch a lles yn y gweithle
K1 beth yw deddfwriaeth iechyd, diogelwch a lles a pham mae'n berthnasol i'r maes galwedigaethol
K2 pa hysbysiadau ac arwyddion rhybudd sy'n ymwneud ag iechyd, diogelwch a lles sy'n berthnasol i'r maes galwedigaethol a'r cyfarpar cysylltiedig
K3 sut i gydymffurfio â mesurau rheoli a nodir mewn asesiadau risg a systemau gwaith diogel
K4 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
Meini Prawf Perfformiad 2
Nodi peryglon
K5 beth yw'r peryglon yn yr amgylchedd gwaith
K6 sut y gall amgylchiadau sy'n newid greu peryglon
K7 sut i adrodd am beryglon yn y gweithle
Meini Prawf Perfformiad 3
Polisïau a gweithdrefnau'r sefydliad
K8 beth yw polisïau a gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer iechyd, diogelwch a lles
K9 sut i gymryd cyfrifoldeb gweithredol am iechyd, diogelwch a lles
K10 sut y gall yr hyn y mae unigolion yn ei wneud, a'u hymddygiad, effeithio ar eraill
K11 pa fathau o ddiffoddwyr tân sydd ar gael a sut a phryd i'w defnyddio
Meini Prawf Perfformiad 4
Trefniadau diogelwch
K12 sut mae trefniadau diogelwch yn cael eu rhoi ar waith yn y gweithle
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Meini Prawf Perfformiad 1
1 osgoi risg trwy gydymffurfio â’r wybodaeth a roddir am y dilynol
1.1 cynefino
1.2 briffiau
1.3 cymhwyso hyfforddiant blaenorol (defnydd diogel o gyfarpar rheoli iechyd a diogelwch)
2 cydymffurfio â gofynion statudol a/neu hysbysiadau diogelwch ac arwyddion rhybudd sy’n cael eu harddangos yn y gweithle neu ar gyfarpar
Meini Prawf Perfformiad 2
3 adrodd am beryglon sy’n cael eu creu oherwydd amgylchiadau sy’n newid
Meini Prawf Perfformiad 3
4 ymddwyn mewn ffordd sy’n dangos cyfrifoldeb gweithredol am iechyd, diogelwch a lles cyffredinol yn y gweithle
5 cydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad sy’n ymwneud â’r dilynol
5.1 ystyried eraill
5.2 dehongli cyfarwyddiadau a roddir i gynnal systemau gwaith diogel
5.3 cyfrannu at drafodaethau (cynnig a rhoi adborth)
5.4 cynnal arferion gwaith o ansawdd
5.5 cyfrannu at y gwaith o gynnal a chadw cyfleusterau lles yn y gweithle
5.6 storio a defnyddio cyfarpar i gadw pobl yn ddiogel
5.7 gwaredu gwastraff a/neu ddefnyddiau traul
Meini Prawf Perfformiad 4
6 cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer cynnal diogelwch y gweithle
6.1 yn ystod y diwrnod gwaith
6.2 ar ôl cwblhau gwaith y diwrnod
6.3 rhag personél heb awdurdod (gweithwyr eraill a/neu’r cyhoedd)
6.4 rhag dwyn
Gwybodaeth Cwmpas
Diffoddwyr tân
1 dŵr, CO2, ewyn, powdr, hylif sy’n anweddu a’u defnyddiau
Peryglon
2 peryglon sy’n gysylltiedig â’r maes galwedigaethol
2.1. adnoddau, gweithle, amgylchedd, sylweddau, asbestos, cyfarpar, rhwystrau, storfeydd, gwasanaethau a gweithgareddau gwaith
2.2. risgiau cyffredin presennol i ddiogelwch
2.3. risgiau cyffredin presennol i iechyd
Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
3 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion diogelu ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a’r amgylchedd gwaith cyffredinol
3.1 mesurau diogelu ar y cyd
3.2 system awyru a gwacáu leol
3.3 cyfarpar diogelu personol
3.4 cyfarpar diogelu anadlol
Hysbysiadau ac arwyddion rhybudd
4 gofynion statudol a/neu ganllawiau swyddogol ar gyfer yr alwedigaeth a’r maes gwaith
Polisïau a gweithdrefnau
5 yn unol â gofynion y sefydliad
5.1. delio â damweiniau ac argyfyngau sy’n gysylltiedig â’r math o waith sy’n cael ei wneud a’r amgylchedd gwaith
5.2. dulliau o gael neu ddod o hyd i wybodaeth
5.3. adrodd
5.4. rhoi’r gorau i weithio
5.5. gwacáu
5.6. risgiau tân a gweithdrefnau gadael yn ddiogel
5.7. ymgynghori a rhoi adborth
Adrodd
6 gweithdrefnau adrodd y sefydliad a gofynion statudol
Cyfrifoldeb
7 ymddygiad sy’n effeithio ar iechyd, diogelwch a lles
7.1 cydnabod pryd i roi’r gorau i weithio yn wyneb perygl difrifol a pherygl sydd ar fin codi
7.2 cyfrannu at drafodaethau a rhoi adborth
7.3 adrodd am amgylchiadau sydd wedi newid a digwyddiadau yn y gweithle
7.4 cydymffurfio â gofynion amgylcheddol y gweithle
Diogelwch
8 gweithdrefnau’r sefydliad sy’n ymwneud â’r gweithle, y cyhoedd, personél y safle ac adnoddau