Codi a gostwng ffurfwaith perchnogol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chodi a gostwng ffurfwaith, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, a dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar.
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol Gweithrediadau Adeiladu a Pheirianneg Sifil a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Meini Prawf Perfformiad 1 Dehongli gwybodaeth K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn |
Meini Prawf Perfformiad 2 K4 deddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut cânt eu cymhwyso K5 pa fathau o ddiffoddwyr tân sydd ar gael a phryd i'w defnyddio K6 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb K7 beth yw gweithdrefnau diogelwc*h* y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol K8 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny K9 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch K10 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol |
Meini Prawf Perfformiad 3 K11 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion K12 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw K13 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio K14 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain |
Meini Prawf Perfformiad 4 K15 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu K16 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn |
Meini Prawf Perfformiad 5 K17 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau K18 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar |
Meini Prawf Perfformiad 6 K19 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser |
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
**Meini Prawf Perfformiad 1** 1 dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, asesiadau risg, datganiadau dull a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud |
** ** **Meini Prawf Perfformiad 2** 2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am o leiaf bedwar o'r canlynol 2.1 dulliau gweithio 2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel 2.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel 2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel 2.5 risgiau penodol i iechyd |
** ** **Meini Prawf Perfformiad 3** 3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun 3.1 deunyddiau, cydrannau a gosodiadau 3.2 offer a chyfarpar |
** ** **Meini Prawf Perfformiad 4** 4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod 5 cynnal lle gweithio clir a thaclus 6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol |
** ** **Meini Prawf Perfformiad 5** 7 dangos sgiliau mesur, marcio allan, alinio, lleoli, lefelu, plymio, sicrhau, tynnu a storio 8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw a phŵer 9 codi a gostwng ffurfwaith perchnogol yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir |
** ** **Meini Prawf Perfformiad 6** 10 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient |
Gwybodaeth Cwmpas
Gwaredu gwastraff 1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol |
* Argyfyngau 2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol 2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau 2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol |
* Diffoddwyr tân 3 dŵr, CO2, ewyn a phowdr a'u defnyddiau |
* Peryglon 4 y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr, ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol |
* Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch 5 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol 5.1 mesurau diogelu ar y cyd 5.2 system awyru a gwacáu leol 5.3 cyfarpar diogelu personol 5.4 cyfarpar diogelu anadlol |
* Gwybodaeth 6 lluniadau, gofynion, amserlenni, asesiadau risg, datganiadau dull, trwyddedau, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, cyfarwyddiadau ysgrifenedig ac ar lafar, brasluniau, data electronig, rheoliadau a chanllawiau swyddogol sy'n gysylltiedig â chodi a gostwng ffurfwaith perchnogol |
* * * * Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol 7 cyfrifoldebau gweithiwr o ran damweiniau posibl, peryglon iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol |
* Cynnal a chadw 8 gofal y gweithiwr am offer llaw a phŵer |
* Dulliau gweithio 9 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i 9.1 gosod allan, codi a gostwng ffurfwaith perchnogol ar gyfer sianeli, slabiau gwaelod a seiliau 9.2 bodloni gofynion y cytunwyd arnynt 9.3 gosod a thynnu darpariaeth codi diogel 9.4 gosod, sicrhau a thynnu systemau clymu a phropio 9.5 monitro a sicrhau cywirdeb wrth i'r gwaith gael ei wneud ac ar ôl iddo gael ei gwblhau 9.6 defnyddio cyfryngau rhyddhau 9.7 symud, glanhau, stacio a storio ffurfiau perchnogol 9.8 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol 9.9 gweithio gyda pheiriannau, gan gynnwys cyfarpar codi, yn ogystal â gweithio o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt 9.10 defnyddio offer llaw a phŵer 9.11 gweithio ar uchder 9.12 defnyddio cyfarpar mynediad 10 gwaith tîm a chyfathrebu 11 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â chodi a gostwng ffurfwaith perchnogol |
* * * * Problemau 12 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio 12.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa 12.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad |
* Rhaglen 13 mathau o dargedau cynhyrchiant ac amserlenni 14 y ffordd y mae amseroedd yn cael eu hamcangyfrif 15 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith |
* Diogelu gwaith 16 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw |
* Adnoddau 17 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac arbenigol o'r canlynol 17.1 ffurfwaith perchnogol ac eitemau cysylltiedig 17.2 systemau clymu 17.3 systemau propio 17.4 deunyddiau cotio amddiffynnol 17.5 gosodiadau a ffitiadau 17.6 cyfarpar mynediad 17.7 offer llaw a phŵer 18 ffyrdd o gadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n bodloni'r gofynion 19 dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer codi a gostwng ffurfwaith perchnogol |
* Gweithdrefnau diogelwch 20 safle, gweithle, cwmni, gweithiwr a cherbydau |
Gwerthoedd
Ymddygiadau
1 Gweithio’n ddiogel: ystyried eich diogelwch eich hun a’r bobl o’ch cwmpas, herio ymddygiad anniogel