Gosod draeniad

URN: COSVR639W
Sectorau Busnes (Cyfresi): Galwedigaethau Trywel (Adeiladu),Gweithrediadau Adeiladu a Gwasanaethau Peirianneg Sifil (Adeiladu),Gweithrediadau Cynnal-a-chadw (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 2012

Trosolwg

Mae'r safon hon ynglŷn â dehongli gwybodaeth, defnyddio arferion gwaith iach a diogel, dethol deunyddiau, cydrannau a chyfarpar a pharatoi ar gyfer gosod a phrofi draeniad newydd a/neu amnewid


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​P1   Dehongli'r wybodaeth a roddwyd yn ymwneud â'r gwaith ac adnoddau i gadarnhau ei bod yn berthnasol
P2   Cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol a chanllawiau swyddogol a roddwyd i wneud eich gwaith a chadw arferion gwaith iach a diogel
P3   Dethol faint o adnoddau ac ansawdd yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y dulliau gwaith
P4   Cydymffurfio gyda gweithdrefnau i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o amgylch
P5   Cydymffurfio â'r wybodaeth gontract a roddwyd i wneud y gwaith yn effeithlon i'r fanyleb ofynnol
P6   Cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a glustnodwyd, yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Maen Prawf Perfformiad 1

Dehongli gwybodaeth

G1   Y gweithdrefnau sefydliadol a ddatblygwyd i wneud adroddiad am a chywiro gwybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, a sut i'w gweithredu
G2   Y mathau o wybodaeth, eu ffynhonnell a sut i'w dehongli
G3   Y gweithdrefnau sefydliadol i ddatrys problemau gyda'r wybodaeth a pham ei bod yn bwysig eu dilyn

Maen Prawf Perfformiad 2

Arferion gwaith diogel

G4   Lefel y ddealltwriaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei chael o wybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol, cyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w defnyddio
G5   Sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
G6   Y gweithdrefnau diogelu sefydliadol ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
G7   Y drefn ar gyfer gwneud adroddiad am ddamwain a phwy sy'n gyfrifol am wneud yr adroddiad
G8   Pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

Maen Prawf Perfformiad 3

Dethol adnoddau

G9   Nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yn gysylltiedig gyda'r adnoddau a sut y dylid unioni diffygion
G10   Sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i wneud adroddiad am unrhyw broblemau yn gysylltiedig gyda'r adnoddau
G11   Y gweithdrefnau sefydliadol i ddewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio
G12   Y peryglon yn gysylltiedig gyda'r adnoddau a'r dulliau gwaith a sut i'w goresgyn

Maen Prawf Perfformiad 4
*
*
Lleihau'r risg o ddifrod

G13   Sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a diben diogelu
G14   Pam y dylid cael gwared â gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hynny

Maen Prawf Perfformiad 5
*
*
Cyflawni manyleb y contract

G15   Sut i wneud dulliau gwaith i gyflawni'r fanyleb, a gwneud adroddiad am broblemau
G16   Sut i gynnal-a-chadw offer a chyfarpar

Maen Prawf Perfformiad 6
*
*
Amser a glustnodwyd

G17   Beth yw'r rhaglen ar gyfer y gwaith i gael ei wneud, yr amser a amcangyfrifwyd ac a glustnodwyd a pham y dylid cadw at amserlenni


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

​Maen Prawf Perfformiad 1

1   Dehongli darluniadau, manylebion, rhestri, asesiadau risg, datganiadau dull a gwybodaeth gwneuthurwyr yn cyfeirio at y gwaith i gael ei wneud

Maen Prawf Perfformiad 2

2   Osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddwyd yn ymwneud ag o leiaf pedwar o'r dilynol:
2.1   dulliau gwaith
2.2   defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
2.3   defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
2.4   defnyddio a storio deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5   risgiau penodol i iechyd

Maen Prawf Perfformiad 3

3   Dethol adnoddau yn gysylltiedig â'ch gwaith eich hun:
3.1   deunyddiau, cydrannau a gosodion
3.2   offer a chyfarpar

Maen Prawf Perfformiad 4

4   Diogelu'r gwaith a'r ardal o amgylch rhag difrod
5   Lleihau difrod a chadw gofod gwaith glân
6   Cael gwared â gwastraff yn unol â deddfwriaeth gyfredol

Maen Prawf Perfformiad 5

7   Arddangos sgiliau gwaith i fesur, marcio allan, gosod, lleoli, ffitio, lefelu, plymio, alinio, diogelu a phrofi
8   Defnyddio a chynnal-a-chadw offer llaw, offer llaw cludadwy a chyfarpar ategol
9   Gosod a phrofi draeniad newydd a/neu amnewid, draeniad dŵr baeddu a/neu dŵr  wyneb ar gyfer o leiaf dau o'r dilynol i gyfarwyddiadau gwaith a roddwyd:
9.1   pibwaith (e.e. clai, concrit, metel, neu blastig)
9.2   siambrau archwilio (e.e. bric, concrid, metel neu blastig)
9.3   systemau dŵr wyneb (e.e. celloedd, cylfatiau, cynnwys uchel, llinellol, pyllau mantoli, rhyng-gipwyr, cyfarpar ailgylchu, suddfannau, systemau draenio trefol cynaliadwy)
9.4   systemau dŵr baeddu (e.e. carthbyllau, tanciau septig, gwelyau cyrs, gweithfeydd trin)

Maen Prawf Perfformiad 6

10   Cwblhau eich gwaith eich hun o fewn yr amcangyfrif o amser a glustnodwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cwsmer


Gwybodaeth Cwmpas

Cael gwared â gwastraff

1   Cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau sefydliadol, gwybodaeth gwneuthurwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

*Argyfyngau
*

2   Ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol â chaniatâd sefydliadol a sgiliau personol wrth ymwneud â:
2.1   tanau, arllwysiadau, anafiadau
2.2   argyfyngau'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Peryglon

3   Y peryglon a ddynodir gan asesiad risg, dull gwaith, gwybodaeth dechnegol gwneuthurwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

4   Dynodir gan egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau a diben pob math, sefyllfaoedd gwaith ac amgylchedd gwaith cyffredinol:
4.1   mesurau diogelu torfol
4.2   cyfarpar diogelu personol (PPE)
4.3   cyfarpar diogelu anadlol (RPE)
4.4   awyriad ecsôst lleol (LEV)

Gwybodaeth

5   Darluniadau, manylebion, rhestri, asesiadau risg, datganiadau dull, gwybodaeth gwneuthurwyr a rheoliadau'n ymwneud â llywodraethau gosod ac adeiladu systemau draenio

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol

6   Mae hyn yn cyfeirio at gyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau a pheryglon iechyd posibl wrth weithio yn y gweithle, dan lefel y ddaear, mewn gofod cyfyng, ar uchder, gydag offer a chyfarpar, gyda deunyddiau a sylweddau, wrth symud/storio deunyddiau ac wrth godi a chario â llaw ac yn fecanyddol

Cynnal-a-chadw

7   Gofal y gweithiwr o offer llaw a/neu offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol

Dulliau gwaith

8   Defnyddio gwybodaeth ar gyfer arferion gwaith iach a diogel, gweithdrefnau a sgiliau yn ymwneud â'r dull/ardal waith a'r deunyddiau a ddefnyddir i:
8.1   cloddio ffosydd a darparu cymorth ffosydd
8.2   cadarnhau bod amodau'r ddaear, safle a chloddiadau'n addas ar gyfer y gwaith gosod draeniad
8.3   paratoi haenau ar gyfer pibwaith
8.4   pennu lefelau a graddiannau
8.5   adnabod y gwahaniaethau rhwng draeniad dŵr wyneb a baeddu
8.6   gosod, lleoli, lefelu, plymio, alinio, ffitio, cyweirio a diogelu systemau draenio newydd ac amnewid
8.7   adeiladu strwythurau system ddraenio (esmwythyd stormydd, cylfatiau, siambrau archwilio, draeniau ystlysol, gorlifoedd, swmpau, draeniau ffiltro, systemau draenio trefol cynaliadwy)
8.8   cydosod cydrannau strwythur system ddraenio (siambrau archwilio, gwaith haearn stryd) a gastiwyd ymlaen llaw (metel, concrid, clai a phlastig)
8.9   cysylltu a selio systemau newydd â systemau presennol
8.10   cynnal profion mwg, dŵr, pêl, mandrel awyr a theledu cylch-caeedig ar systemau draenio
8.11   gweithio ag offer a pheiriannau
8.12   defnyddio offer llaw, offer pŵer a chyfarpar
8.13   gweithio ar uchder a dan lefel y ddaear
8.14   defnyddio cyfarpar mynediad
9   Gwaith tîm a chyfathrebu
10   Anghenion galwedigaethau eraill yn gysylltiedig â gosod draeniad

Problemau

11   Problemau'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gwaith:
11.1   eich awdurdod eich hun i unioni
11.2   gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen

12   Mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amcangyfrif o amser
13   Gweithdrefnau ar gyfer gwneud adroddiadau am amgylchiadau fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith

14   Diogelu gwaith rhag difrod o weithgareddau cyffredinol y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd anffafriol

Adnoddau

15   Deunyddiau, cydrannau a chyfarpar yn ymwneud â mathau, swm, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu arbenigol y dilynol:
15.1   pibellau, gosodion a chydrannau ategol
15.2   cydrannau a gastiwyd ymlaen llaw (metel, concrid, clai neu blastig)
15.3   briciau, blociau a bagiau tywod
15.4   deunyddiau gronynnog, agregau, sment, concrid, morter a thywod
15.5   deunyddiau selio (adlynion, cyfansoddion, hydoddyddion)
15.6   offer llaw a/neu bŵer a chyfarpar ategol
16   dulliau o gyfrif swm, hyd, arwynebedd a gwastraff yn gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn i osod draeniad

Trefniadau diogelwch

17   Safle, gweithle, cwmni a gweithiwr


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2017

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ConstructionSkills / SgiliauAdeiladu

URN gwreiddiol

VR639

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithredwyr Adeiladu

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Pibwaith; Tyllau archwilio; Siambrau archwilio; Cylfatiau; Suddfannau; Carthbyllau; Tanciau septig; Gwelyau cyrs; Gorlifoedd; Gweithfeydd trin; Rhyng-gipwyr