Gosod systemau draenio

URN: COSVR639
Sectorau Busnes (Suites): Galwedigaethau Trywel (Adeiladu),Gweithrediadau Cynnal a Chadw Adeiladau (Aml-grefft),Atgyweirio ac Adnewyddu,Gweithrediadau Adeiladu a Pheirianneg Sifil (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 31 Rhag 2020

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â phrofi draeniau newydd a/neu a ddraeniau a ddisodlir, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol a dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, a pharatoi ar gyfer gosod peipiau

Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol Gweithrediadau Adeiladu a Pheirianneg Sifil a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

 
P1   dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd

P2   cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach

P3   dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio

P4   cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas

P5   cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â’r gofynion

P6   cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1

Dehongli gwybodaeth

K1   pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu

K2   pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli

K3   beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn

Meini Prawf Perfformiad 2
Arferion gwaith diogel

K4   deddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut cânt eu cymhwyso

K5   pa fathau o ddiffoddwyr tân sydd ar gael a phryd i'w defnyddio

K6   sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb

K7   beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol

K8   beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K9   pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

K10   sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol

Meini Prawf Perfformiad 3
Dewis adnoddau

K11   beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion

K12   sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw

K13   beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio

K14   pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain

Meini Prawf Perfformiad 4
Lleihau'r risg o ddifrod

K15   sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu

K16   pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Meini Prawf Perfformiad 5
Bodloni gofynion y contract

K17   sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau

K18   sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 6
Amser a neilltuwyd

K19   beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Meini Prawf Perfformiad 1

1   dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, asesiadau risg, datganiadau dull a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

Meini Prawf Perfformiad 2

2   osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am o leiaf bump o'r canlynol

        2.1   dulliau gweithio

        2.2   defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel

        2.3   gweithio gyda gwasanaethau cyfleustodau ac o'u cwmpas, gan gynnwys treiddio'r tir

        2.4   defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel

        2.5   defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel

        2.6   risgiau penodol i iechyd

Meini Prawf Perfformiad 3

3   dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun

        3.1   deunyddiau, cydrannau a gosodiadau

        3.2   offer a chyfarpar 

Meini Prawf Perfformiad 4

4   diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod

5   cynnal lle gweithio clir a thaclus

6   gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Meini Prawf Perfformiad 5

7   dangos sgiliau gwirio, mesur, marcio allan, torri, gosod, lleoli, ffitio, uno, lefelu, plymio, alinio, sicrhau a phrofi

8   defnyddio a chynnal a chadw offer llaw a phŵer

9   gosod deunyddiau gwelyo a gosod a phrofi peipiau newydd a strwythurau draenio ar gyfer draeniau dŵr wyneb neu ddŵr budr newydd a/neu rai a ddisodlir, ar gyfer o leiaf un o'r dilynol yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir

        9.1   siambrau archwilio 

        9.2   systemau dŵr wyneb 

        9.3   systemau dŵr budr 

        9.4   amgylchynu'r peipiau â'r deunyddiau a nodwyd

        9.5   ôl-lenwi ffosydd sy'n cynnwys deunyddiau system ddraenio cywasgedig a rhydd yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir

Meini Prawf Perfformiad 6

10   cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient


Gwybodaeth Cwmpas

Gwaredu gwastraff

1   cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

*
*

Argyfyngau

2   ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol

        2.1   tanau, gollyngiadau ac anafiadau

        2.2   argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

*
*

Diffoddwyr tân

3   dŵr, CO2, ewyn a phowdr a'u defnyddiau

*
*

Peryglon

4   y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr, ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

*
*

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

5   y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol

        5.1   mesurau diogelu ar y cyd

        5.2   system awyru a gwacáu leol

        5.3   cyfarpar diogelu personol

        5.4   cyfarpar diogelu anadlol

*
*

Gwybodaeth

6   lluniadau, gofynion, amserlenni, asesiadau risg, datganiadau dull, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, cyfarwyddiadau ysgrifenedig ac ar lafar, brasluniau, data electronig, trwyddedau, rheoliadau a chanllawiau swyddogol sy'n gysylltiedig â gosod draeniau

*
*

*
*

*
*

*
*

*
*

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol

7   cyfrifoldebau gweithiwr o ran damweiniau posibl, peryglon iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

*
*

Cynnal a chadw

8   gofal y gweithiwr am offer llaw a phŵer

*
*

Dulliau gweithio

9   cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i

        9.1   cloddio ffosydd a'u cynnal

        9.2   cadarnhau bod cyflwr y tir, y safle a'r ffosydd a gloddiwyd yn addas ar gyfer gosod y system ddraenio

        9.3   nodi peryglon llwythi a strwythurau wrth ymyl ffosydd a gloddiwyd

        9.4   delio â dŵr daear

        9.5   gweithio o gwmpas gwasanaethau cyfleustodau eraill 

        9.6   gosod deunyddiau geodecstil

        9.7   paratoi gwahanol ddeunyddiau gwelyo gronynnog a smentaidd

        9.8   nodi tir gwastad a llethrog

        9.9   nodi'r gwahaniaeth rhwng systemau draenio dŵr budr a systemau draenio dŵr wyneb

        9.10   mesur, marcio a thorri deunyddiau systemau draenio

        9.11   gosod, lleoli, lefelu, plymio, alinio, ffitio, uno a sicrhau systemau draenio newydd

        9.12   codi a chludo systemau draenio wedi'u cydosod

        9.13   adeiladu strwythurau system ddraenio (systemau lliniaru llifogydd, cwlfertau, siambrau archwilio, draeniau ochrol, gorlifoedd, bigau, draeniau hidlo, ffosydd cerrig, carthbyllau, gwelyau cors neu offer trin)

        9.14   gosod cydrannau wedi'u rhag-gastio (metel, concrit, clai a phlastig) strwythur system ddraenio (siambrau archwilio, tanciau septig a gwaith haearn ar strydoedd)

        9.15   cysylltu systemau newydd â systemau presennol a'u selio

        9.16   paratoi i gynnal profion ar systemau draenio

        9.17   gweithio gyda pheiriannau, gan gynnwys peiriannau codi, yn ogystal â gweithio o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt

        9.18   storio a gwaredu cydrannau a symudwyd

        9.19   dilyn gweithdrefnau hylendid a nodwyd, yn enwedig wrth ddelio â systemau draenio dŵr budr

        9.20   nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol

        9.21  nodi gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol (cyn 1919) ac arwyddocâd hanesyddol

        9.22   defnyddio offer llaw a phŵer

        9.23   gweithio ar uchder ac o dan lefel y tir

        9.24   defnyddio cyfarpar mynediad

10   gwaith tîm a chyfathrebu

11   anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod systemau draenio

*
*

Problemau

12   y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio

        12.1   eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa

        12.2   gweithdrefnau adrodd y sefydliad

*
*

Rhaglen

13   mathau o siartiau cynnydd, amserlenni a thargedau cynhyrchiant

14   y ffordd y mae amseroedd yn cael eu hamcangyfrif

15   gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

*
*

Diogelu gwaith

16   diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

*
*

*
*

*
*

*
*

Adnoddau

17   deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac arbenigol o'r canlynol

        17.1   peipiau, ffitiadau a chydrannau ategol

        17.2   cydrannau (metel, concrit, clai neu blastig) wedi'u rhag-gastio

        17.3   briciau, blociau a bagiau tywod

        17.4   deunyddiau gronynnog, agregau, sment, concrit, morterau a thywod

        17.5   deunyddiau selio (adlynion, cyfansoddion a hydoddyddion)

        17.6   offer llaw a phŵer

18   ffyrdd o gadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n bodloni'r gofynion

19   dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, symiau, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer gosod systemau draenio

*
*

Gweithdrefnau diogelwch

20   safle, gweithle, cwmni, gweithiwr a cherbydau


Gwerthoedd


Ymddygiadau

​1   Gweithio'n ddiogel: ystyried eich diogelwch eich hun a'r bobl o'ch cwmpas, herio ymddygiad anniogel

2 *  Cyfathrebu'n effeithiol:* ar lafar, yn ysgrifenedig, yn electronig, gwrando, iaith y corff, cyflwyno

3 *  Parch:* cymhwyso egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth ddelio ag eraill

4 *  Gweithio fel tîm:* gweithio'n effeithiol ac yn ddiogel gydag eraill heb lawer o oruchwyliaeth

5 *  Gweithio'n annibynnol:* cymryd cyfrifoldeb am gwblhau'ch gwaith eich hun yn ddiogel

6 *  Meddwl yn rhesymegol:* meddwl mewn ffordd glir a dilys wrth wneud penderfyniadau er mwyn dilyn y cyfarwyddiadau gwaith yn ddiogel

7 *  Gweithio'n effeithiol:* gwneud y gwaith mewn ffordd ddibynadwy, diogel a chynhyrchiol

8 *  Rheoli amser:* defnyddio'ch amser eich hun yn effeithiol er mwyn cwblhau'r gwaith mewn pryd, cymryd yr amser i fod yn ddiogel

9 *  Bod â'r gallu i addasu:* gallu addasu i newidiadau i'r cyfarwyddiadau gweithio, rhoi diogelwch yn gyntaf


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Rhag 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR639

Galwedigaethau Perthnasol

Adeiladu

Cod SOC

8149

Geiriau Allweddol

Peipiau; Siambrau archwilio; Cwlfertau; Ffosydd cerrig; Carthbyllau; Tanciau septig; Corsleoedd; Gorlifoedd; Offer trin; Rhwystrwyr; Mandrel