Saernïo cydrannau pyst a thrawstiau

URN: COSVR636
Sectorau Busnes (Cyfresi): Galwedigaethau Coed (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi a saernïo cydrannau pyst a thrawstiau fframiau pren strwythurol trwm, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol a dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol  Coed a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
P3 dewis nifer yr adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr
adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â’r gofynion
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Maen Prawf Perfformiad 1

Dehongli gwybodaeth
K1  pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu

K2  pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli

K3  beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r    wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn

Maen Prawf Perfformiad 2

Arferion gwaith diogel
K4  faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso

K5  pa fathau o ddiffoddwyr tân sydd ar gael a sut a phryd i'w defnyddio

K6  sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb

K7  beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol

K8   beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K9   pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

K10  sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol

Maen Prawf Perfformiad 3

Dewis adnoddau
K11  beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion

K12  sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw

K13  beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio

K14  pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain

Maen Prawf Perfformiad 4

Lleihau'r risg o ddifrod
K15  sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu

K16  pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Maen Prawf Perfformiad 5


Bodloni gofynion y contract
K17  sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau

K18  sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar

Maen Prawf Perfformiad 6

Amser a *neilltuwyd*
K19  beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

​Maen Prawf Perfformiad 1
1  dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

Maen Prawf Perfformiad 2
2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am o leiaf bedwar o'r dilynol

2.1 dulliau gweithio

2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel

2.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel

2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel

2.5 risgiau penodol i iechyd

Maen Prawf Perfformiad 3
3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun

3.1 deunyddiau, cydrannau a gosodiadau

3.2 offer a chyfarpar

Maen Prawf Perfformiad 4
​4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod

5 cynnal lle gweithio clir a thaclus

6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Maen Prawf Perfformiad 5

7 dangos sgiliau lefelu, plymio, mesur, marcio allan, torri, siapio, ffitio, gorffen, lleoli a sicrhau

8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw a phŵer

9 saernïo a gwneud marciau saer coed ar gydrannau pyst a thrawstiau'r cydosodiadau dilynol yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir

9.1 fframiau waliau â phlatwadnau, pyst neu byst ymledol, stydiau, rheiliau, cleddau a gwarblatiau uchaf

9.2 cyplau agored neu gaeedig gan gynnwys cyplau brenhinbost â thynlathau, brenhinbyst, cynheiliaid a phrif geibrennau a chyplau agored â thynlathau, prif geibrennau a rhannau mewnol crwm (coleri neu gynheiliaid)

9.3 cyplau sy'n cynnwys o leiaf ddau o'r dilynol: tynlath uwch, cleddau sling crwm, trawstiau a chleddau gordd, coleri a chleddau bwaog, cleddau siswrn, cleddau tyniant crwm a nenffyrch

9.4 arisiau a chafnau gan gynnwys trawstiau neu geibrennau talcen, trawstiau draig, tynlathau draig, trawstiau neu geibrennau cafn a cheibrennau byr

9.5 toeau gan gynnwys ategion gwynt ac o leiaf ddau o'r dilynol: trawslathau wedi'u sgarffio, trawslathau wedi'u rhigoli a'u danheddu, trawslathau wedi'u sicrhau ag uniadau tyno neu sblein rhydd a/neu slip, trawslathau wedi'u plethu, platiau gwarchod a/neu drawslathau coler

Maen Prawf Perfformiad 6

10 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient



Gwybodaeth Cwmpas

Gwaredu gwastraff
1  cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau
2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol

2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau

2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Diffoddwyr tân
3  Dŵr, CO2, ewyn, powdr a'u defnyddiau

Peryglon
4 y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
5 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol

5.1 mesurau diogelu ar y cyd

5.2 cyfarpar diogelu personol

5.3 cyfarpar diogelu anadlol

5.4 system awyru a gwacáu leol

Gwybodaeth
6 lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, cyfarwyddiadau ar lafar ac yn ysgrifenedig, brasluniau, data electronig, canllawiau swyddogol a rheoliadau adeiladu cyfredol sy'n gysylltiedig â saernïo cydrannau pyst a thrawstiau

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
7 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
**

Cynnal-a-chadw**
8 gofal y gweithiwr am offer llaw a phŵer

Dulliau gweithio
9 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i

9.1 gosod fframiau allan

9.2 marcio cydrannau allan i'w saernïo, plymio, ysgrifellu, sgwario a mapio

9.3 cymhwyso theorem Pythagoras

9.4 nodi onglau geometregol

9.5 nodi anatomi coed pren wedi'i raddio a chyfraddau twf, lwfansau culhad a diffygion

9.6 saernïo cydrannau pyst a thrawstiau fframiau toeau, waliau a lloriau a fframiau croes

9.7 ffurfio uniadau arbenigol sy'n gysylltiedig â fframiau pren strwythurol trwm

9.8 nodi'r prif gydrannau strwythurol a llwybrau llwyth

9.9 gweithio gyda chyfarpar codi (ymwybyddiaeth o'r angen i ardystio defnyddwyr)

9.10 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol

9.11 nodi gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol (cyn 1919) ac arwyddocâd hanesyddol

9.12 nodi a bodloni gofynion ansawdd ar gyfer gosod

9.13 gweithio gyda pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt

9.14 defnyddio offer llaw a phŵer

9.15 gweithio ar uchder

9.16 defnyddio cyfarpar mynediad

10 gwaith tîm a chyfathrebu

11 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â saernïo cydrannau pyst a thrawstiau

Problemau

12 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio

12.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa

12.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen

13 mathau o dargedau cynhyrchiant ac amserlenni

14 y ffordd y mae amseroedd yn cael eu hamcangyfrif

15 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith

16 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau

17 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu arbenigol o

17.1 offer mesur a marcio

17.2 pinnau darforio neu drosolfarrau, lletemau, clampiau a threstlau

17.3 cyfarpar codi a chyfarpar ategol

17.4 ffitiadau a gosodiadau

17.5 offer llaw a phŵer

18 cadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n cydymffurfio â'r gofynion gan gynnwys gofynion sy'n ymwneud ag addasrwydd, lleithder a pharhad

19 dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer saernïo cydrannau pyst a thrawstiau

Gweithdrefnau diogelwch

20 safle, gweithle, cwmni, gweithiwr a cherbydau


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ConstructionSkills / SgiliauAdeiladu

URN gwreiddiol

COSVR636

Galwedigaethau Perthnasol

Gwaith Coed a Saernïaeth

Cod SOC

5315

Geiriau Allweddol

Fframiau waliau; Cyplau; Arisiau; Cafnau; Toeau; Trawslathau