Dylunio a saernïo cysylltiadau pren strwythurol

URN: COSVR635
Sectorau Busnes (Suites): Galwedigaethau Coed (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dylunio, paratoi a saernïo cysylltiadau pren strwythurol ac wedi'u pegio, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol a dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol  Coed a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
P3 dewis nifer yr adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr
adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â’r gofynion
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Maen Prawf Perfformiad 1

Dehongli gwybodaeth
K1  pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu

K2  pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli

K3  beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r    wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn

Maen Prawf Perfformiad 2

Arferion gwaith diogel
K4  faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso

K5  pa fathau o ddiffoddwyr tân sydd ar gael a sut a phryd i'w defnyddio

K6  sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb

K7  beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol

K8   beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K9   pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

K10  sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol

Maen Prawf Perfformiad 3

Dewis adnoddau
K11  beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion

K12  sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw

K13  beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio

K14  pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain

Maen Prawf Perfformiad 4

Lleihau'r risg o ddifrod
K15  sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu

K16  pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Maen Prawf Perfformiad 5


Bodloni gofynion y contract
K17  sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau

K18  sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar

Maen Prawf Perfformiad 6

Amser a *neilltuwyd*
K19  beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

​Maen Prawf Perfformiad 1
1  dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

Maen Prawf Perfformiad 2
2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am o leiaf bedwar o'r dilynol

2.1 dulliau gweithio

2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel

2.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel

2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel

2.5 risgiau penodol i iechyd

Maen Prawf Perfformiad 3
3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun

3.1 deunyddiau, cydrannau a gosodiadau

3.2 offer a chyfarpar

Maen Prawf Perfformiad 4
​4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod

5 cynnal lle gweithio clir a thaclus

6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Maen Prawf Perfformiad 5

7 dangos sgiliau dylunio, mesur, marcio allan, torri, ffitio, gorffen, lleoli a sicrhau

8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw a phŵer

9 dylunio a saernïo'r cysylltiadau pren strwythurol ac wedi'u pegio dilynol ar gyfer fframiau pyst a thrawstiau lloriau, toeau a waliau neu fframiau croes yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir

9.1 uniadau mortais a thyno

9.2 tynoau unysgwyddog

9.3 tynoau cau

9.4 tynoau ag ysgwydd befel

9.5 tynoau cynffonnog

9.6 uniadau bagl

9.7 tynoau ysgithr

9.8 uniadau sgarff wedi'u pegio ar gyfer gwarblatiau uchaf, platwadnau, trawslathau a thynlathau

9.9 goruniadau cynffonnog, goruniadau cynffonnog cudd neu oruniadau cocsen

9.10 uniadau tyno neu sblein rhydd a/neu slip

Maen Prawf Perfformiad 6

10 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient



Gwybodaeth Cwmpas

Gwaredu gwastraff
1  cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau
2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol

2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau

2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Diffoddwyr tân
3  Dŵr, CO2, ewyn, powdr a'u defnyddiau

Peryglon
4 y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
5 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol

5.1 mesurau diogelu ar y cyd

5.2 cyfarpar diogelu personol

5.3 cyfarpar diogelu anadlol

5.4 system awyru a gwacáu leol

Gwybodaeth
6 lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, cyfarwyddiadau ar lafar ac yn ysgrifenedig, brasluniau, data electronig, canllawiau swyddogol a rheoliadau adeiladu cyfredol sy'n gysylltiedig â dylunio a saernïo cysylltiadau pren strwythurol

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
7 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
**

Cynnal-a-chadw**
8 gofal y gweithiwr am offer llaw a phŵer

Dulliau gweithio
9 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i

9.1 dylunio cysylltiadau pyst a thrawstiau wedi'u pegio sy'n addas ar

gyfer fframiau

9.2 nodi'r llwythi y bydd ffrâm yn eu cynnal (marw, byw a gwynt)

9.3 nodi effeithiau llwythi ar ffrâm (llwythi cyson, hyd llwythi, llwyth trawslathau, llwyth distiau llawr, cleddau, llwyth gwynt a maint trawstiau)

9.4 nodi'r mathau o ddiriant y bydd ffrâm yn ymdrin ag ef (cywasgiant, diriant tyniant, diriant croesrym a diriant plygu)

9.5 nodi'r meini prawf ar gyfer penderfynu maint a lleoliad tyllau peg

9.6 nodi sut y bydd cysylltiadau'n newid wrth i'r pren gulhau

9.7 cymhwyso theorem Pythagoras

9.8 nodi onglau geometregol

9.9 nodi anatomi coed pren wedi'i raddio a chyfraddau twf, lwfansau culhad a diffygion

9.10 sicrhau bod cydrannau'n cael eu gosod yn ddiogel ac yn ymarferol

9.11 gweithio gyda chyfarpar codi (ymwybyddiaeth o'r angen i ardystio defnyddwyr)

9.12 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol

9.13 nodi gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol (cyn 1919) ac arwyddocâd hanesyddol

9.14 nodi a bodloni gofynion ansawdd ar gyfer gosod

9.15 gweithio gyda pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt

9.16 defnyddio offer llaw a phŵer

9.17 gweithio ar uchder

9.18 defnyddio cyfarpar mynediad

10 gwaith tîm a chyfathrebu

11 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â saernïo cydrannau pyst a thrawstiau

Problemau

12 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio

12.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa

12.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen

13 mathau o dargedau cynhyrchiant ac amserlenni

14 y ffordd y mae amseroedd yn cael eu hamcangyfrif

15 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith

16 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau

17 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu arbenigol o

17.1 offer mesur a marcio

17.2 pinnau darforio neu drosolfarrau, lletemau, clampiau a threstlau

17.3 cyfarpar codi a chyfarpar ategol

17.4 ffitiadau a gosodiadau

17.5 offer llaw a phŵer

18 cadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n cydymffurfio â'r gofynion gan gynnwys gofynion sy'n ymwneud ag addasrwydd, lleithder a pharhad

19 dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer dylunio a saernïo cysylltiadau pren strwythurol

Gweithdrefnau diogelwch

20 safle, gweithle, cwmni, gweithiwr a cherbydau


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ConstructionSkills / SgiliauAdeiladu

URN gwreiddiol

COSVR635

Galwedigaethau Perthnasol

Gwaith Coed a Saernïaeth

Cod SOC

5315

Geiriau Allweddol

Fframiau croes; Wedi’u pegio; Pyst; Trawstiau; Mortais; Tynoau; Cynffonnog; Uniadau sgarff