Llunio gwybodaeth ar gyfer gosod cynhyrchion pwrpasol allan
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynhyrchu darnau gosod allan a marcio cynhyrchion plaen a chrwn pwrpasol un neu fwy o'r grwpiau dilynol allan: cynhyrchion saernïaeth bensaernïol, cynhyrchion saernïaeth olwynion (adeiladu cerbydau) a chynhyrchion dodrefnu siopau (pren, cynhyrchion pren a/neu ddeunyddiau cyfansawdd a/neu fetel), dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol a dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol Coed a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
P3 dewis nifer yr adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr
adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â’r gofynion
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Maen Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth
K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu
K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli
K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn
Maen Prawf Perfformiad 2
Arferion gwaith diogel
K4 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso
K5 pa fathau o ddiffoddwyr tân sydd ar gael a sut a phryd i'w defnyddio
K6 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K7 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
K8 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K9 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
K10 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol
Maen Prawf Perfformiad 3
Dewis adnoddau
K11 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K12 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw
K13 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio
K14 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain
Maen Prawf Perfformiad 4
Lleihau'r risg o ddifrod
K15 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K16 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn
Maen Prawf Perfformiad 5
Bodloni gofynion y contract
K17 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau
K18 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar
Maen Prawf Perfformiad 6
Amser a *neilltuwyd*
K19 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Maen Prawf Perfformiad 1
1 dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, rhestrau deunyddiau a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud
Maen Prawf Perfformiad 2
2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am o leiaf bedwar o'r dilynol
2.1 dulliau gweithio
2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
2.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd
Maen Prawf Perfformiad 3
3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
3.1 deunyddiau, cydrannau a gosodiadau
3.2 offer a chyfarpar
Maen Prawf Perfformiad 4
4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod
5 cynnal lle gweithio clir a thaclus
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
Maen Prawf Perfformiad 5
7 dangos sgiliau mesur, marcio allan a lluniadu
8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw a phŵer ac offer marcio a phrofi
9 llunio gwybodaeth ar gyfer gosod a marcio cynhyrchion pwrpasol un o'r grwpiau dilynol allan a rhestrau deunyddiau ar eu cyfer yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir
9.1 grŵp o gynhyrchion saernïaeth bensaernïol (o leiaf dair o'r eitemau dilynol): setiau drysau, drysau, ffenestri sy'n agor, unedau a/neu ddodrefn, paneli a/neu gladin, grisiau (syth a throellog), canllawiau, balwstradau, cynhyrchion saernïaeth sy'n cynnwys gwydr, metel, ffabrigau, argaen neu laminiad, cynhyrchion saernïaeth sy'n plygu unwaith a chynhyrchion saernïaeth sy'n plygu ddwywaith
9.2 grŵp o gynhyrchion saernïaeth olwynion (adeiladu cerbydau): olwynion (ac o leiaf ddwy o'r eitemau dilynol: drysau, fframiau, cerbydau ffrâm bren, siafftiau, stepiau, cerbydau ffrâm bren sy'n plygu unwaith a cherbydau ffrâm bren sy'n plygu ddwywaith)
9.3 grŵp o gynhyrchion dodrefnu siopau (pren, cynhyrchion pren a/neu ddeunyddiau cyfansawdd a/neu fetel) (o leiaf dair o'r eitemau dilynol): drysau, fframiau, leininau, fframiau blaenau siopau gan gynnwys elfennau cysylltiedig, unedau, dodrefn, paneli a/neu gladin fframiog, cynhyrchion sy'n cynnwys gwydr, ffabrigau, argaen, grisiau (syth a throellog), canllawiau neu falwstradau, cynhyrchion dodrefnu siopau sy'n plygu unwaith, cynhyrchion dodrefnu siopau sy'n plygu ddwywaith, soffitiau a phalisau
Maen Prawf Perfformiad 6
10 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient
Gwybodaeth Cwmpas
Gwaredu gwastraff
1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Argyfyngau
2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol
2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau
2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
Diffoddwyr tân
3 Dŵr, CO2, ewyn, powdr a'u defnyddiau
Peryglon
4 y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
5 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol
5.1 mesurau diogelu ar y cyd
5.2 cyfarpar diogelu personol
5.3 cyfarpar diogelu anadlol
5.4 system awyru a gwacáu leol
Gwybodaeth
6 lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, cyfarwyddiadau ar lafar ac yn ysgrifenedig, brasluniau, data electronig, canllawiau swyddogol (lles anifeiliaid), safonau cydrannau a rheoliadau adeiladu cyfredol sy'n gysylltiedig â llunio gwybodaeth ar gyfer gosod cynhyrchion pwrpasol allan
Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
7 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
**
Cynnal-a-chadw**
8 gofal y gweithiwr am offer llaw a phŵer
Dulliau gweithio
9 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i
9.1 gosod a marcio cynhyrchion pwrpasol allan a llunio rhestrau deunyddiau ar eu cyfer
9.2 cynhyrchu setiau drysau, drysau, ffenestri llithro, unedau, dodrefn, paneli a chladin sy'n syth mewn cynlluniau a gweddluniau
9.3 cynhyrchu cerbydau ffrâm bren, siafftiau ac olwynion (saernïaeth olwynion yn unig)
9.4 cynhyrchu grisiau, canllawiau a balwstradau syth a throellog
9.5 cynhyrchu cynhyrchion sy'n plygu unwaith a dwywaith drwy ddatblygu'r eitemau uchod yn geometregol
9.6 cymryd dimensiynau'r safle a'r gweithle
9.7 mesur uniadau sy'n gysylltiedig â'r cynnyrch a'r dulliau adeiladu
9.8 archebu deunyddiau
9.9 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol
9.10 nodi gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol (cyn 1919) ac arwyddocâd hanesyddol
9.11 nodi a bodloni gofynion ansawdd ar gyfer gosod
9.12 gweithio gyda pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt
9.13 defnyddio offer marcio a phrofi ac offer llaw a phŵer
9.14 archebu deunyddiau
9.15 gweithio ar uchder
9.16 defnyddio cyfarpar mynediad
10 gwaith tîm a chyfathrebu
11 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â llunio gwybodaeth ar gyfer gosod cynhyrchion pwrpasol allan
Problemau
12 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
12.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
12.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad
Rhaglen
13 mathau o dargedau cynhyrchiant ac amserlenni
14 y ffordd y mae amseroedd yn cael eu hamcangyfrif
15 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith
Diogelu gwaith
16 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw
Adnoddau
17 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu arbenigol o
17.1 pren, cynhyrchion pren, deunyddiau cyfansawdd, darnau gosod allan papur, gwydr, plastig, ffabrig, metel, gwaith haearn ac adlynion
17.2 ffitiadau a gosodiadau
17.3 offer marcio a phrofi ac offer llaw a phŵer
18 cadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n cydymffurfio â'r gofynion gan gynnwys gofynion sy'n ymwneud ag addasrwydd, lleithder a pharhad
19 dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer llunio gwybodaeth ar gyfer gosod cynhyrchion pwrpasol allan
Gweithdrefnau diogelwch
20 safle, gweithle, cwmni, gweithiwr a cherbydau