Gosod a defnyddio peiriannau sefydlog
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gosod peiriannau sefydlog a gweithio pren a/neu gynhyrchion pren a/neu ddeunyddiau cyfansawdd a/neu fetel, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol a dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol Coed a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
P3 dewis nifer yr adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr
adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â’r gofynion
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Maen Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth
K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu
K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli
K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn
Maen Prawf Perfformiad 2
Arferion gwaith diogel
K4 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso
K5 pa fathau o ddiffoddwyr tân sydd ar gael a sut a phryd i'w defnyddio
K6 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K7 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
K8 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K9 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
K10 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol
Maen Prawf Perfformiad 3
Dewis adnoddau
K11 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K12 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw
K13 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio
K14 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain
Maen Prawf Perfformiad 4
Lleihau'r risg o ddifrod
K15 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K16 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn
Maen Prawf Perfformiad 5
Bodloni gofynion y contract
K17 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau
K18 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar
Maen Prawf Perfformiad 6
Amser a *neilltuwyd*
K19 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Maen Prawf Perfformiad 1
1 dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, rhestrau deunyddiau a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud
Maen Prawf Perfformiad 2
2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am o leiaf bedwar o'r dilynol
2.1 dulliau gweithio
2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
2.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd
Maen Prawf Perfformiad 3
3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
3.1 deunyddiau, cydrannau a gosodiadau
3.2 offer a chyfarpar
Maen Prawf Perfformiad 4
4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod
5 cynnal lle gweithio clir a thaclus
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
Maen Prawf Perfformiad 5
7 dangos sgiliau mesur, marcio allan, ffitio, gorffen, lleoli a sicrhau
8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw a phŵer a chymhorthion diogelwch
9 gosod a gweithio o leiaf chwech o'r peiriannau dilynol
9.1 llif gron
9.2 plaeniwr
9.3 tewychydd
9.4 cylchlif
9.5 peiriant morteisio
9.6 tenonwr
9.7 mowldiwr gwerthyd
9.8 dril
9.9 peiriant llifanu
9.10 sandiwr
9.11 uwchblaen cafnu
*
*Maen Prawf Perfformiad 6
10 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient
Gwybodaeth Cwmpas
Gwaredu gwastraff
1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Argyfyngau
2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol
2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau
2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
Diffoddwyr tân
3 Dŵr, CO2, ewyn, powdr a'u defnyddiau
Peryglon
4 y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
5 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol
5.1 mesurau diogelu ar y cyd
5.2 cyfarpar diogelu personol
5.3 cyfarpar diogelu anadlol
5.4 system awyru a gwacáu leol
Gwybodaeth
6 lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, cyfarwyddiadau ar lafar ac yn ysgrifenedig, brasluniau, data electronig, canllawiau swyddogol a rheoliadau cyfredol sy'n gysylltiedig â gosod a defnyddio peiriannau sefydlog
Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
7 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
**
Cynnal-a-chadw**
8 gofal y gweithiwr am offer llaw a phŵer
Dulliau gweithio
9 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i
9.1 gosod peiriannau: llif gron, plaeniwr, tewychydd, cylchlif, peiriant morteisio, tenonwr, mowldiwr gwerthyd, uwchblaen cafnu, dril, peiriant llifanu a sandiwr
9.2 gweld sut mae peiriannau'n gweithio
9.3 torri deunyddiau i'r maint a'r siâp iawn
9.4 plaenio deunyddiau i'r maint iawn
9.5 newid llafnau llifiau (llifiau crwn a chylchlifiau), cyllyll plaenwyr, offer peiriannau morteisio a blociau torri tenonwyr a mowldwyr gwerthyd
9.6 morteisio deunyddiau
9.7 newid olwynion a disgiau sgraffinio
9.8 torri rhannau'n syth ac i'r siâp iawn
9.9 llifanu, sandio a gweadu arwynebau
9.10 drilio a thapio deunyddiau
9.11 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol
9.12 nodi a bodloni gofynion ansawdd
9.13 defnyddio offer llaw a phŵer a chyfarpar
9.14 archebu deunyddiau
9.15 gweithio ar uchder
9.16 defnyddio cyfarpar mynediad
10 gwaith tîm a chyfathrebu
11 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod a defnyddio peiriannau sefydlog
Problemau
12 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
12.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
12.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad
Rhaglen
13 mathau o dargedau cynhyrchiant ac amserlenni
14 y ffordd y mae amseroedd yn cael eu hamcangyfrif
15 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith
Diogelu gwaith
16 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw
Adnoddau
17 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu arbenigol o
17.1 ategolion
17.2 offer llaw a phŵer
18 cadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n cydymffurfio â'r gofynion gan gynnwys gofynion sy'n ymwneud ag addasrwydd, lleithder a pharhad
19 dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer gosod a defnyddio peiriannau sefydlog
Gweithdrefnau diogelwch
20 safle, gweithle, cwmni, gweithiwr a cherbydau