Gosod cydrannau carcasu strwythur to

URN: COSVR631
Sectorau Busnes (Suites): Galwedigaethau Coed (Adeiladu),Adeiladu gan Ddefnyddio Cydosodiadau wedi’u Gweithgynhyrchu oddi ar y Safle
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2019

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar a pharatoi a gosod carcasau toeau â thalcennau, simneiau ffug, arisiau, cafnau a dormerau

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol gosod strwythurau ffrâm bren (ac eithrio pyst a thrawstiau strwythurol) a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr adeiladu ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
P3 dewis nifer yr adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr
adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â’r gofynion
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Maen Prawf Perfformiad 1

Dehongli gwybodaeth
K1  pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu

K2  pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli

K3  beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r    wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn

Maen Prawf Perfformiad 2

Arferion gwaith diogel
K4  faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso

K5  pa fathau o ddiffoddwyr tân sydd ar gael a sut a phryd i'w defnyddio

K6  sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb

K7  beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol

K8   beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K9   pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

K10  sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol

Maen Prawf Perfformiad 3

Dewis adnoddau
K11  beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion

K12  sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw

K13  beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio

K14  pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain

Maen Prawf Perfformiad 4

Lleihau'r risg o ddifrod
K15  sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu

K16  pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Maen Prawf Perfformiad 5


Bodloni gofynion y contract
K17  sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau

K18  sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar

Maen Prawf Perfformiad 6

Amser a *neilltuwyd*
K19  beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

​Maen Prawf Perfformiad 1
1  dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, gwybodaeth ddigidol, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

Maen Prawf Perfformiad 2
2  osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am y dilynol

2.1  dulliau gweithio 

2.2  defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel 

2.3  defnyddio cyfarpar mynediad a/neu blatfformau gweithio'n ddiogel 

2.4  defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel

2.5  risgiau penodol i iechyd

Maen Prawf Perfformiad 3
3  dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun

3.1  deunyddiau, cydrannau a gosodiadau

3.2  offer a chyfarpar

Maen Prawf Perfformiad 4
​4  diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod

5  cynnal lle gweithio clir a thaclus

6  gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Maen Prawf Perfformiad 5

7  dangos sgiliau mesur, marcio allan, ffitio, alinio, gorffen, lleoli a sicrhau

8  defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol

9  ymgorffori o leiaf ddau o'r dilynol mewn toeau ffrâm bren yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir

9.1  arisiau a/neu gafnau

9.2  ymylon a bondoeau

9.3  gorffeniadau parapet

9.4  simneiau ffug

9.5  agoriadau (e.e. ffenestri, hatshis, dormerau, goleuadau to a fentiau)

10  nodi befelau a hydoedd gofynnol cydrannau toeau a godir ar y safle

*

Maen Prawf Perfformiad 6

11  cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient



Gwybodaeth Cwmpas

Gwaredu gwastraff
1  cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau
2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol

2.1  tanau, gollyngiadau ac anafiadau

2.2  argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Diffoddwyr tân
3  Dŵr, CO2, ewyn, powdr a'u defnyddiau

Peryglon
4  y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
5  y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol

5.1  mesurau diogelu ar y cyd

5.2  cyfarpar diogelu personol

5.3  cyfarpar diogelu anadlol

Gwybodaeth
6  lluniadau, gofynion, amserlenni, gwybodaeth ddigidol a modelu 3D, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, canllawiau swyddogol a rheoliadau adeiladu cyfredol sy'n ymwneud â gosod cydrannau carcasu strwythur to

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
7  mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
**

Cynnal-a-chadw**
8  gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol

Dulliau gweithio
cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i

9.1  tynnu a throsglwyddo data o luniadau ar gyfer gosod carcas strwythur to

9.2  rhoi gwybodaeth ar gyfer modelu gwybodaeth am adeiladu

9.3  nodi cydrannau carcasu strwythur to

9.4  edrych ar lefelau a llinellau gosod allan presennol

9.5  paratoi a gosod ceibrennau cypledig

9.6  cymhwyso geometreg i nodi befelau a hydoedd ar gyfer toeau talcen a thalcendoeau cyfartal ac anghyfartal â chafnau a dormerau a godir ar y safle

9.7  ffurfio uniadau sy'n gysylltiedig â charcasu

9.8  codi a chydosod toeau ar y safle

9.9  gosod arisiau, cafnau, ymylon a bondoeau pren a phlastig, gorffeniadau parapet, simneiau ffug ac agoriadau (e.e. ffenestri, hatshis, dormerau, goleuadau to a fentiau) ar doeau ffrâm bren

9.10  gweithio gyda pheiriannau i godi a throsglwyddo llwythi

9.11  gosod deunydd inswleiddio i sicrhau'r perfformiad a nodwyd o ran ynni a charbon

9.12  osgoi colli gwres a chyddwysiad oherwydd pontydd thermol

9.13  cymhwyso egwyddorion aerglosrwydd ac awyru

9.14  nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol

9.15  nodi a bodloni gofynion ansawdd ar gyfer gosod

9.16  gweithio gyda pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt

9.17  cyfarwyddo ac arwain peiriannau wrth iddynt symud a chael eu gweithredu

9.18  defnyddio offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar

9.19  gweithio ar uchder

9.20  defnyddio cyfarpar mynediad a phlatfformau gweithio

9.21  arbed dŵr, adrodd am ollyngiadau dŵr a chau tapiau

9.22  ailgylchu deunyddiau a lleihau gwastraff

10  gwaith tîm a chyfathrebu

11  anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod cydrannau carcasu strwythur to

Problemau

12  y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio

12.1  eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa

12.2  gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen

13  mathau o dargedau cynhyrchiant ac amserlenni

14  y ffordd y mae amseroedd yn cael eu hamcangyfrif

15  gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith

16  diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau

17  deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu arbenigol o

17.1  pren, cynhyrchion pren, deunyddiau dalennog, metelau, ceibrennau cypledig, fframiau parod, adlynion, deunyddiau selio, ffitiadau, gosodiadau ac eitemau ategol cysylltiedig

17.2  offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar

18  cadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n bodloni'r gofynion

19  dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer gosod cydrannau carcasu strwythur to

Gweithdrefnau diogelwch

20  safle, gweithle, cwmni, gweithiwr a cherbydau


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2023

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ConstructionSkills / SgiliauAdeiladu

URN gwreiddiol

COSVR631

Galwedigaethau Perthnasol

Gwaith Coed a Saernïaeth

Cod SOC

5315

Geiriau Allweddol

Toeau ar oleddf; Ceibrennau cypledig; Ffasgiâu, Soffitiau; Talcennau; Arisiau; Cafnau; Bondoeau; Ymylon; Dormerau; Befelau