Gosod deciau pren uchel

URN: COSVR630
Sectorau Busnes (Suites): Galwedigaethau Coed (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 29 Ebr 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi a gosod deciau, balconïau, rhodfeydd neu lwybrau estyll pren uchel, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol a dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol

Coed a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd

P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach

P3 dewis nifer yr adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr
 adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio

P4 cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas

P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion

P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1

*Dehongli gwybodaeth*

K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu

K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli

K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r
 wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn

**

Meini Prawf Perfformiad 2**

Arferion gwaith diogel

K4 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso

K5 pa fathau o ddiffoddwyr tân sydd ar gael a sut a phryd i'w defnyddio

K6 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb

K7 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol

K8 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K9 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

K10   sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r d*deddfwriaeth* gyfredol a chanllawiau swyddogol

Meini Prawf Perfformiad 3

Dewis adnoddau

K11   beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion

K12   sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw

K13   beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio

K14   pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain

Meini Prawf Perfformiad 4

Lleihau'r risg o ddifrod

K15   sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu

K16   pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Meini Prawf Perfformiad 5

Bodloni gofynion y contract

K17   sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau

K18   sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar

**

Meini Prawf Perfformiad 6**

Amser a neilltuwyd

K19   beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Meini Prawf Perfformiad 1

1 dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

Meini Prawf Perfformiad 2
2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am y dilynol

2.1 dulliau gweithio

2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel

2.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel

2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel

2.5 risgiau penodol i iechyd

Meini Prawf Perfformiad 3

3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun

3.1    deunyddiau, cydrannau a gosodiadau

3.2    offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 4

4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod

5 cynnal lle gweithio clir a thaclus

6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Meini Prawf Perfformiad 5

7 dangos sgiliau mesur, marcio allan, torri, ffitio, lefelu, plymio, gorffen, lleoli a sicrhau

8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw a phŵer 

9 paratoi'r safle, gosod deciau, balconïau, rhodfeydd neu lwybrau estyll pren uchel ac ymgorffori'r dilynol yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir
9.1 sylfeini colofn wedi'u plannu
9.2 sylfeini colofn uchel
9.3 gwarblatiau
9.4 blociau
9.5 cleddau
9.6 parapetau neu falwstradau
9.7 grisiau â phennau grisiau
9.8 rampiau

Meini Prawf Perfformiad 6

10  cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient


Gwybodaeth Cwmpas

Gwaredu gwastraff

1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau

2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol

2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau

2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Diffoddwyr tân

3 dŵr, CO2, ewyn a phowdr a'u defnyddiau

Peryglon

4 y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

5 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol

5.1 mesurau diogelu ar y cyd

5.2 system awyru a gwacáu leol

5.3 cyfarpar diogelu personol

5.4 cyfarpar diogelu anadlol

Gwybodaeth

6 lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, cyfarwyddiadau ar lafar ac yn ysgrifenedig, brasluniau, data electronig, canllawiau swyddogol a rheoliadau adeiladu cyfredol sy'n gysylltiedig â gosod deciau pren uchel

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol

7 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
*
Cynnal a chadw
*

8 gofal y gweithiwr am offer llaw a phŵer 

Dulliau gweithio

9 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i
9.1 cadarnhau gofynion cynnal llwythi
9.2 nodi'r oes gwasanaeth a ddymunir
9.3 nodi rhannau'r dec, y balconi, y rhodfa neu'r llwybr estyll uchel (rheiliau uchaf, parapetau, canllawiau, balwstradau, pyst ystlys, distiau ymyl, pileri, colofnau, cleddau, blociau, distiau, gwarblatiau a decin)
9.4 ffitio gwarblatiau drwy ddefnyddio gosodiadau gwaith maen a gosodiadau eraill sydd wedi'u caledu'n gemegol
9.5 cymysgu concrit a morter
9.6 paratoi sylfeini colofn uchel ac wedi'u plannu
9.7 paratoi a ffurfio pileri
9.8 gwahanu colofnau
9.9 cydosod trawstiau a physt
9.10 mowntio distiau
9.11 ffitio blociau a chleddau gan gynnwys cleddau croeslinol
9.12 macsimeiddio cantilifrau dewisol
9.13 paratoi, ffitio a gosod estyll stribed a decin
9.14 ffitio parapetau gan gynnwys canllawiau, rheiliau uchaf a rheiliau gwaelod
9.15 ffitio grisiau mynediad â phennau grisiau a rampiau
9.16 capio cydrannau fertigol
9.17 rhoi cyngor ar ôl-ofal a chynnal a chadw
9.18 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol
9.19 nodi a bodloni gofynion ansawdd ar gyfer gosod
9.20 gweithio gyda pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt
9.21 defnyddio offer llaw a phŵer
9.22 gweithio ar uchder
9.23 defnyddio cyfarpar mynediad
10 gwaith tîm a chyfathrebu
11 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod deciau pren uchel
*
Problemau
*

12  y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio

12.1  eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa

12.2  gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen

13  mathau o dargedau cynhyrchiant ac amserlenni

14  y ffordd y mae amseroedd yn cael eu hamcangyfrif

15  gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith

16  diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau

17  deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu arbenigol o

17.1 pren wedi'i drin
17.2 morter a chyfryngau gosod cemegol eraill
17.3 ffitiadau a gosodiadau
17.4 offer llaw a phŵer
18 cadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n cydymffurfio â'r gofynion gan gynnwys gofynion sy'n ymwneud ag addasrwydd, lleithder a pharhad
19 dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff
sy'n gysylltiedig â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer gosod deciau pren uchel
*
Gweithdrefnau diogelwch
*

20  safle, gweithle, cwmni, gweithiwr a cherbydau


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

VR630

Galwedigaethau Perthnasol

Gwaith Coed a Saernïaeth

Cod SOC

5315

Geiriau Allweddol

Balconïau; Parapetau; Rhodfeydd; Llwybrau estyll