Gosod a defnyddio peiriannau torri a siapio cludadwy
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi a defnyddio peiriannau torri a siapio, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol a dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol
Coed a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
P3 dewis nifer yr adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr
adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Meini Prawf Perfformiad 1
*Dehongli gwybodaeth*
K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu
K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli
K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r
wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn
**
Meini Prawf Perfformiad 2**
Arferion gwaith diogel
K4 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso
K5 pa fathau o ddiffoddwyr tân sydd ar gael a sut a phryd i'w defnyddio
K6 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K7 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
K8 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K9 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
K10 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r d*deddfwriaeth* gyfredol a chanllawiau swyddogol
Meini Prawf Perfformiad 3
Dewis adnoddau
K11 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K12 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw
K13 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio
K14 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain
Meini Prawf Perfformiad 4
Lleihau'r risg o ddifrod
K15 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K16 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn
Meini Prawf Perfformiad 5
Bodloni gofynion y contract
K17 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau
K18 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar
**
Meini Prawf Perfformiad 6**
Amser a neilltuwyd
K19 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Meini Prawf Perfformiad 1
1 dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud
Meini Prawf Perfformiad 2
2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am o leiaf bedwar o'r dilynol
2.1 dulliau gweithio
2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
2.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd
Meini Prawf Perfformiad 3
3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
3.1 deunyddiau, cydrannau a gosodiadau
3.2 offer a chyfarpar
3.3 ategolion
Meini Prawf Perfformiad 4
4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod
5 cynnal lle gweithio clir a thaclus
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
Meini Prawf Perfformiad 5
7 dangos sgiliau mesur, marcio allan, ffitio, gosod, lleoli, sicrhau a gweithredu
8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw a phŵer
9 gosod a defnyddio o leiaf dri o'r peiriannau torri pŵer dilynol yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir
9.1 llif (o leiaf dri o'r dilynol: llif gron, llif dorri, llif feitro, llif mainc neu fwrdd, herclif, llif gilyddol a llif osgiliadol)
9.2 dril
9.3 plaeniwr
9.4 plaen uniadu bisgedi
9.5 torrwr disg
9.6 peiriant morteisio
10 gosod a defnyddio o leiaf ddau o'r peiriannau siapio pŵer dilynol yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir
10.1 tewychydd
10.2 sandiwr (orbitol, belt a disg)
10.3 plaen cafnu
10.4 trimiwr laminiad
10.5 plaeniwr
**
Meini Prawf Perfformiad 6**
10 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient
Gwybodaeth Cwmpas
Gwaredu gwastraff
1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Argyfyngau
2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol
2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau
2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
Diffoddwyr tân
3 dŵr, CO2, ewyn a phowdr a'u defnyddiau
Peryglon
4 y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
5 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol
5.1 mesurau diogelu ar y cyd
5.2 system awyru a gwacáu leol
5.3 cyfarpar diogelu personol
5.4 cyfarpar diogelu anadlol
Gwybodaeth
6 lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, cyfarwyddiadau ar lafar ac yn ysgrifenedig, brasluniau, data electronig, canllawiau swyddogol a rheoliadau adeiladu cyfredol sy'n gysylltiedig â gosod a defnyddio peiriannau torri a siapio cludadwy
Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
7 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
*
Cynnal a chadw*
8 gofal y gweithiwr am offer llaw a phŵer a pheiriannau
Dulliau gweithio
9 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i
9.1 sicrhau bod modd defnyddio peiriannau torri a siapio pŵer cludadwy (tanwydd, trydan, prif gyflenwad a batri)
9.2 gosod peiriannau'n barod ar gyfer eu defnyddio
9.3 bwrw golwg ar ofynion foltedd, torwyr diogelwch trydanol a thorwyr cylchedau
9.4 cadarnhau'r math o danwydd, cymysgedd y tanwydd a'r ychwanegion tanwydd
9.5 gosod a sicrhau'r gwaith
9.6 dewis gardiau diogelwch a sicrhau eu bod yn eu lle'n unol â chyfarwyddiadau'r peiriant
9.7 dewis ategolion ar gyfer y peiriant a'r gwaith
9.8 nodi gofynion cynnal a chadw ategolion miniogi ac alinio
9.9 torri a siapio deunyddiau i oddefiannau y cytunwyd arnynt
9.10 newid ategolion: ebillion dril, ebillion plaen cafnu, disgiau, llafnau plaeniwr, llafnau llif, llafnau, offer a sgraffinyddion
9.11 defnyddio templedi, proffiliau a jigiau
9.12 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol
9.13 defnyddio offer llaw a phŵer
9.14 gweithio ar uchder
9.15 defnyddio cyfarpar mynediad
10 gwaith tîm a chyfathrebu
11 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod a defnyddio peiriannau torri a siapio cludadwy
*
Problemau*
12 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
12.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
12.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad
Rhaglen
13 mathau o dargedau cynhyrchiant ac amserlenni
14 y ffordd y mae amseroedd yn cael eu hamcangyfrif
15 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith
Diogelu gwaith
16 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw
Adnoddau
17 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu arbenigol o
17.1 ategolion
17.2 atodion
17.3 offer llaw a phŵer
18 cadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n cydymffurfio â'r gofynion gan gynnwys gofynion sy'n ymwneud ag addasrwydd, lleithder a pharhad
19 dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer prosesu deunyddiau wrth osod a defnyddio peiriannau torri a siapio cludadwy
*
Gweithdrefnau diogelwch*
20 safle, gweithle, cwmni, gweithiwr a cherbydau