Datgymalu a gosod gwaith metel treftadaeth
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â datgymalu a gosod gwaith metel  treftadaeth, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, yn unol â gofynion y sefydliad sy’n cyfateb i’r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu’n rhagori arnynt  
   
Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol sgiliau treftadaeth a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Dehongli gwybodaeth**  
P1  dehongli’r wybodaeth am y gwaith a’r adnoddau fel sy’n berthnasol i leoliad daearyddol a’r amodau tymhorol a hinsawdd i gadarnhau ei bod yn berthnasol ar gyfer y canlynol:  
- lluniadau
- manylebau
- rhestrau
- datganiadau dull
- asesiadau risg
- gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr
- cyfarwyddiadau llafar, ysgrifenedig neu electronig
- rheoliadau, deddfwriaeth, canllawiau swyddogol a thrwyddedau cyfredol  
 
Arferion gwaith diogel**  
P2  cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol berthnasol a chanllawiau swyddogol i wneud y gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach am y canlynol:  
- dulliau gweithio
- defnyddio cyfarpar diogelu personol priodol yn ddiogel
- defnyddio cyfarpar mynediad neu godi yn ddiogel
- defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
- defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
- risgiau penodol i iechyd a diogelwch galwedigaethol gan gynnwys ymwybyddiaeth o iechyd meddwl
- risgiau penodol sy’n gysylltiedig â deunyddiau peryglus neu rai sy’n cynnwys asbestos
- risgiau penodol sy’n gysylltiedig â gwres, gronynnau, nwy a thrydan sy’n gysylltiedig â phrosesau, cyfarpar a deunyddiau
Dewis adnoddau**  
P3  dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio ar gyfer y canlynol:  
- deunyddiau a chydrannau
-  offer a chyfarpar  
 
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas drwy:
- gymryd camau perthnasol i ddiogelu’r mannau gwaith rhag difrod damweiniol neu anfwriadol
- gweithio gydag ymwybyddiaeth o’r amgylchedd gwaith mewn cysylltiad â galwedigaethau eraill
- cadw'r man gwaith yn lân ac yn daclus
- rheoli a  gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol  
 
Bodloni gofynion y contract**
- ddangos sgiliau gwaith i dynnu a newid gwaith metel treftadaeth ar y safle: - arolwg a map
- label
- adroddias
- datgymalu a thynnu
- diogelu a sicrhau a gyfer trafnidiaeth
 
- defnyddio a chynnal a chadw offer datgymalu a gosod: - offer llaw
- offer pŵer cludadwy
- cyfarpar ategol
 
- labelu gwaith metel treftadaeth 
- datgymalu’r gwaith metel treftadaeth presennol yn unol â’r cyfarwyddiadau gwaith drwy: - drilio
- gwresogi
- trin yn gemegol
- torri (poeth ac oer)
- tynnu ffitiadau
- tynnu cydrannau yn ddarnau
- diwygio’r adroddiad cyflwr yn ôl yr angen
- diogelu a sicrhau trafnidiaeth
 
- gosod y gwaith metel treftadaeth presennol yn unol â’r cyfarwyddiadau gwaith drwy: - paratoi’r safle
- cydosod gwaith metel ar y safle
- rhoi’r gwaith metel yn ei le
- defnyddio gosodion mecanyddol
- gosod yn gemegol (morterau, concrit, adlynion)
- arwain i’w le
- gorffen y gwaith metel
 
- sicrhau bod y safle’n lân, yn ddiogel ar draws yr holl weithrediadau 
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd, gan ystyried yr amodau hinsawdd, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad, y rhaglen waith ac i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
P1 Dehongli gwybodaeth**  
K1  pam mae gweithdrefnau’r sefydliad wedi cael eu datblygu a sut maent yn cael eu rhoi ar waith  
K2 mathau o wybodaeth, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli mewn perthynas â:
- lluniadau
- manylebau
- rhestrau
- datganiadau dull
- asesiadau risg
- gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr
- gwybodaeth gytundebol
- deddfwriaeth, rheoliadau, canllawiau swyddogol a thrwyddedau cyfredol, gan gynnwys adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt
- cynlluniau ac adroddiadau cadwraeth
- cyfarwyddiadau llafar, ysgrifenedig neu electronig
K3 pwysigrwydd gweithdrefnau sefydliadol o ran datrys problemau â gwybodaeth a pham mae’n bwysig eu dilyn
K4 ffynhonellau gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol, gyfredol, canllawiau swyddogol a gofynion penodol i safle a sut maent yn cael eu rhoi ar waith
P2 Arferion gwaith diogel**  
K5  sut dylid ymateb i argyfyngau yn unol ag awdurdodiad y sefydliad a sgiliau personol o ran y canlynol:  
- tanau a’r mathau o gyfarpar diffodd tân a sut a phryd y cânt eu defnyddio o ran dŵr, CO2, ewyn a phowdr, ond heb fod wedi eu cyfyngu i hynny
- gollyngiadau ac anafiadau
- argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
- nodi ac adrodd am sylweddau peryglus gan gynnwys deunyddiau sy’n cynnwys asbestos a charbonad plwm, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny  
 
K6 y gweithdrefnau diogelwch sefydliadol a phenodol i safle ar gyfer offer, peiriannau a chyfarpar mewn perthynas â’r canlynol:
- safle
- gweithle
- cerbydau
- cwmni
- gweithwyr
- cleientiaid
- y cyhoedd ac ymwelwyr
K7 sut mae rhoi gwybod am risgiau a pheryglon a nodwyd gan y canlynol:
- dulliau gweithio
- asesiadau risg
- asesiad personol
- gwybodaeth dechnegol gwneuthurwyr
- rheoliadau statudol
- canllawiau swyddogol
- Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
K8 y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K9 pam, pryd a sut y dylid defnyddio’r cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch a nodir gan egwyddorion atal mewn perthynas â’r canlynol:
- mesurau diogelu ar y cyd
- cyfarpar diogelu personol (PPE)
- cyfarpar diogelu anadlol (RPE)
- awyru lleol sy'n gwacáu mygdarth (LEV)
K10 sut mae cydymffurfio ag arferion gwaith sy’n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni’r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol wrth ddelio â damweiniau posibl, peryglon i iechyd a’r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle mewn perthynas â’r canlynol:
- dan lefel y ddaear
- lleoedd cyfyng
- gweithio mewn mannau uchel
- gweithio poeth
- offer, peiriannau a chyfarpar
- deunyddiau a sylweddau
- symud a storio deunyddiau drwy eu codi a’u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
P3 Dewis adnoddau**  
K11  pam mae nodweddion, ansawdd, defnydd, cynaliadwyedd, addasrwydd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau yn bwysig, a sut dylid rhoi gwybod am ddiffygion  
K12 pam y dylid ystyried arferion gwaith a deunyddiau cynaliadwy a moesegol
K13 y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer dewis adnoddau, pam maen nhw wedi cael eu datblygu a sut mae eu defnyddio
K14 sut mae cadarnhau bod yr adnoddau a’r deunyddiau’n cydymffurfio â’r fanyleb
- metelau a deunyddiau
- ffitiadau
- deunyddiau traul
- datgymalu a gosod cyfarpar. - offer llaw,
- offer pŵer cludadwy
- cyfarpar ategol
 
- deunyddiau a chyfarpar cadw cofnodion 
K17  dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dulliau a’r gweithdrefnau ar gyfer gwneud gwaith ar ddatgymalu a gosod gwaith metel treftadaeth  
  
P4 Lleihau'r risg o ddifrod**  
K18  sut mae diogelu gwaith a’r ardal o’i gwmpas rhag difrod a phwrpas diogelu rhag gweithgareddau cyffredinol yn y gweithle, gweithrediadau eraill a thywydd garw a sut mae lleihau difrod   
K19 pa mor bwysig yw gwaredu gwastraff yn ddiogel, a sut mae gwneud hynny, yn unol â’r canlynol:
- cyfrifoldebau amgylcheddol
- gweithdrefnau’r sefydliad
- gwybodaeth gwneuthurwyr
- gwybodaeth cyflenwyr
- rheoliadau statudol
- canllawiau swyddogol
K20 pam mae’n bwysig cynnal ardal waith ddiogel, glir a thaclus
P5 Bodloni manyleb y contract**
- perthnasedd asesiad o arwyddocâd
- sut mae nodi gofynion penodol ar gyfer y canlynol: - strwythurau o ddiddordeb arbennig
- adeiladwaith traddodiadol
- adeiladau anodd eu trin
- cydnabod arwyddocâd hanesyddol
- gweithio yn ôl canllawiau swyddogol a rheoliadau ar gyfer fflora a ffawna sydd mewn perygl ac wedi’u gwarchod
 
- pam mae’n bwysig adnabod a rhoi gwybod am blanhigion ac anifeiliaid sydd mewn perygl ac wedi’u gwarchod 
- pam ei bod yn bwysig cynnal egwyddorion ymyrraeth sylfaenol a newidiadau gwrthdroadwy
- pam fod angen gwneud arolwg ar y canlynol: - y gwaith metel
- mapio’r safle
- labelu a chofnodi
 
- pam ei bod yn bwysig cofnodi’r gwaith a wneir (mewn fformat ysgrifenedig a digidol) 
- pam ei bod yn bwysig dilysu ffyrdd priodol y dylid gwneud y gwaith
- pam ei bod yn bwysig nodi arwynebeddau sensitif
- pam ei bod yn bwysig cynnal cyfanrwydd hanesyddol
- pam fod angen rhoi’r gorau i weithio pan fyddwch chi’n dechrau dyfalu a rhoi gwybod am eich canfyddiadau
- sut mae rhoi egwyddorion a dulliau datgymalu ar waith a gosod gwaith metel treftadaeth
- pam ei bod yn bwysig cydnabod manteision ac anfanteision gwahanol fethodolegau datgymalu
- sut i ddatgymalu drwy: - drilio
- gwresogi
- trin yn gemegol
- torri (poeth ac oer)
- tynnu ffitiadau
 
- tynnu cydrannau yn ddarnau 
- pam ei bod yn bwysig gwneud y safle’n lân, yn ddiogel ac yn ddiogel ar draws yr holl weithrediadau
- pam mae angen diogelu gwaith metel treftadaeth ar gyfer trafnidiaeth
- sut i bacio a chludo gwaith metel treftadaeth
- pam ei bod yn bwysig nodi priodweddau metel a deunyddiau wrth osod gwaith metel treftadaeth
- pam ei bod yn bwysig cydnabod effeithiau deunyddiau annhebyg o ran arferion cadwraeth
- pam ei bod yn bwysig cydnabod manteision ac anfanteision gwahanol fethodolegau gosod
- pam mae angen cydnabod y gofynion ar gyfer paratoi’r safle cyn gosod gwaith metel treftadaeth
- sut mae gosod gwaith drwy wneud y canlynol: - rhoi’r gwaith metel yn ei le
- defnyddio gosodion mecanyddol
- weldio a phresyddu
- gosod yn gemegol (morterau, concrit, adlynion)
- arwain i’w le
- gorffen y gwaith metel
 
- sut mae defnyddio’r holl offer datgymalu a gosod: - offer llaw
- offer pŵer cludadwy
- cyfarpar ategol
 
- sut mae gweithio mewn mannau uchel gan ddefnyddio cyfarpar mynediad 
- sut mae gweithio gyda pheiriannau ac offer, ac yn agos iawn atynt
- sut a pham mae angen i'r gweithiwr sicrhau bod yr holl gyfarpar datgymalu a gosod yn cael eu cynnal a’u cadw: - offer llaw
- offer pŵer cludadwy
- cyfarpar ategol
 
P6 Amser a neilltuwyd**
K24 y rhaglen ar gyfer gwneud y gwaith, gan gynnwys yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd, a pham y dylid cadw at derfynau amser neu roi gwybod os ydych yn debygol o fethu cadw atynt