Glanhau, paratoi a diogelu gwaith metel treftadaeth
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â glanhau, paratoi a diogelu gwaith metel treftadaeth, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, yn unol â gofynion y sefydliad sy’n cyfateb i’r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu’n rhagori arnynt
Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol sgiliau treftadaeth a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Dehongli gwybodaeth**
P1 dehongli’r wybodaeth am y gwaith a’r adnoddau fel sy’n berthnasol i leoliad daearyddol a’r amodau tymhorol a hinsawdd i gadarnhau ei bod yn berthnasol ar gyfer y canlynol:
- lluniadau
- manylebau
- rhestrau
- datganiadau dull
- asesiadau risg
- gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr
- cyfarwyddiadau llafar, ysgrifenedig neu electronig
- rheoliadau, deddfwriaeth, canllawiau swyddogol a thrwyddedau cyfredol
Arferion gwaith diogel**
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol berthnasol a chanllawiau swyddogol i wneud y gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach am y canlynol:
- dulliau gweithio
- defnyddio cyfarpar diogelu personol priodol yn ddiogel
- defnyddio cyfarpar mynediad neu godi yn ddiogel
- defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
- defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
- risgiau penodol i iechyd a diogelwch galwedigaethol gan gynnwys ymwybyddiaeth o iechyd meddwl
- risgiau penodol sy’n gysylltiedig â deunyddiau peryglus neu rai sy’n cynnwys asbestos
- risgiau penodol sy’n gysylltiedig â gwres, gronynnau, nwy a thrydan sy’n gysylltiedig â phrosesau, cyfarpar a deunyddiau
Dewis adnoddau**
P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio ar gyfer y canlynol:
- deunyddiau a chydrannau
- offer a chyfarpar
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas drwy:
- gymryd camau perthnasol i ddiogelu’r mannau gwaith rhag difrod damweiniol neu anfwriadol
- gweithio gydag ymwybyddiaeth o’r amgylchedd gwaith mewn cysylltiad â galwedigaethau eraill
- cadw'r man gwaith yn lân ac yn daclus
- rheoli a gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
Bodloni gofynion y contract
ddangos sgiliau i baratoi gwaith metel treftadaeth:
- glanhau
- llenwi
- amddiffyn
- datgymalu
- cydosod
- gorffeniad
- diogelu a sicrhau ar gyfer trafnidiaeth
defnyddio a chynnal a chadw offer glanhau a gorffen:
- offer llaw
- offer pŵer cludadwy
- cyfarpar ategol
glanhau a pharatoi gwaith metel treftadaeth gan ddefnyddio tri o’r canlynol:
- glanhau â fflam
- defnyddio brws gwifrau â llaw neu beiriant
- sgrafellu â llaw neu beiriant
- system sgrafellu
- system glanhau â chemegau
- ffetlo
- diseimio
diogelu gwaith metel treftadaeth gan ddefnyddio tri o’r canlynol:
- llenwi
- araenau â llaw
- araenau â pheiriant
- caboli
- euradu (sefydlog a symudol)
Amser a neilltuwyd**
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd, gan ystyried yr amodau hinsawdd, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad, y rhaglen waith ac i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
P1 Dehongli gwybodaeth**
K1 pam mae gweithdrefnau’r sefydliad wedi cael eu datblygu a sut maent yn cael eu rhoi ar waith
K2 mathau o wybodaeth, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli mewn perthynas â:
- lluniadau
- manylebau
- rhestrau
- datganiadau dull
- asesiadau risg
- gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr
- gwybodaeth gytundebol
- deddfwriaeth, rheoliadau, canllawiau swyddogol a thrwyddedau cyfredol, gan gynnwys adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt
- cynlluniau ac adroddiadau cadwraeth
- cyfarwyddiadau llafar, ysgrifenedig neu electronig
K3 pwysigrwydd gweithdrefnau sefydliadol o ran datrys problemau â gwybodaeth a pham mae’n bwysig eu dilyn
K4 ffynhonellau gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol, gyfredol, canllawiau swyddogol a gofynion penodol i safle a sut maent yn cael eu rhoi ar waith
P2 Arferion gwaith diogel**
K5 sut dylid ymateb i argyfyngau yn unol ag awdurdodiad y sefydliad a sgiliau personol o ran y canlynol:
- tanau a’r mathau o gyfarpar diffodd tân a sut a phryd y cânt eu defnyddio o ran dŵr, CO2, ewyn a phowdr, ond heb fod wedi eu cyfyngu i hynny
- gollyngiadau ac anafiadau
- argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
- nodi ac adrodd am sylweddau peryglus gan gynnwys deunyddiau sy’n cynnwys asbestos a charbonad plwm, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny
K6 y gweithdrefnau diogelwch sefydliadol a phenodol i safle ar gyfer offer, peiriannau a chyfarpar mewn perthynas â’r canlynol:
- safle
- gweithle
- cerbydau
- cwmni
- gweithwyr
- cleientiaid
- y cyhoedd ac ymwelwyr
K7 sut mae rhoi gwybod am risgiau a pheryglon a nodwyd gan y canlynol:
- dulliau gweithio
- asesiadau risg
- asesiad personol
- gwybodaeth dechnegol gwneuthurwyr
- rheoliadau statudol
- canllawiau swyddogol
- Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
K8 y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K9 pam, pryd a sut y dylid defnyddio’r cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch a nodir gan egwyddorion atal mewn perthynas â’r canlynol:
- mesurau diogelu ar y cyd
- cyfarpar diogelu personol (PPE)
- cyfarpar diogelu anadlol (RPE)
- awyru lleol sy'n gwacáu mygdarth (LEV)
K10 sut mae cydymffurfio ag arferion gwaith sy’n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni’r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol wrth ddelio â damweiniau posibl, peryglon i iechyd a’r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle mewn perthynas â’r canlynol:
- dan lefel y ddaear
- lleoedd cyfyng
- gweithio mewn mannau uchel
- gweithio poeth
- offer, peiriannau a chyfarpar
- deunyddiau a sylweddau
- symud a storio deunyddiau drwy eu codi a’u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
P3 Dewis adnoddau**
K11 pam mae nodweddion, ansawdd, defnydd, cynaliadwyedd, addasrwydd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau yn bwysig, a sut dylid rhoi gwybod am ddiffygion
K12 pam y dylid ystyried arferion gwaith a deunyddiau cynaliadwy a moesegol
K13 y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer dewis adnoddau, pam maen nhw wedi cael eu datblygu a sut mae eu defnyddio
K14 sut mae cadarnhau bod yr adnoddau a’r deunyddiau’n cydymffurfio â’r fanyleb
- deunyddiau araenu amddiffynnol cyfoes
araenau hanesyddol:
- cyfarpar glanhau a gorffen:
- offer llaw
- offer pŵer cludadwy
- cyfarpar ategol
deunyddiau traul gorffeniad, gan gynnwys:
- deunyddiau glanhau
- llenwadau
- deunydd sgraffiniol
- deunyddiau diogelu’r ardal waith
cyfarpar digidol
K16 sut mae nodi ac adrodd ar y peryglon sy'n gysylltiedig â’r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut maent yn cael eu rheoli mewn perthynas â datganiadau dull ac asesiadau risg
K17 dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dulliau a’r gweithdrefnau ar gyfer gwneud gwaith ar lanhau, paratoi a diogelu gwaith metel treftadaeth
P4 Lleihau'r risg o ddifrod**
K18 sut mae diogelu gwaith a’r ardal o’i gwmpas rhag difrod a phwrpas diogelu rhag gweithgareddau cyffredinol yn y gweithle, gweithrediadau eraill a thywydd garw a sut mae lleihau difrod
K19 pa mor bwysig yw gwaredu gwastraff yn ddiogel, a sut mae gwneud hynny, yn unol â’r canlynol:
- cyfrifoldebau amgylcheddol
- gweithdrefnau’r sefydliad
- gwybodaeth gwneuthurwyr
- gwybodaeth cyflenwyr
- rheoliadau statudol
- canllawiau swyddogol
K20 pam mae’n bwysig cynnal ardal waith ddiogel, glir a thaclus
P5 Bodloni manyleb y contract**
- perthnasedd asesiad o arwyddocâd
sut mae nodi gofynion penodol ar gyfer y canlynol:
- strwythurau o ddiddordeb arbennig
- adeiladwaith traddodiadol
- adeiladau anodd eu trin
- cydnabod arwyddocâd hanesyddol
- gweithio yn ôl canllawiau swyddogol a rheoliadau ar gyfer fflora a ffawna sydd mewn perygl ac wedi’u gwarchod
pam mae’n bwysig adnabod a rhoi gwybod am blanhigion ac anifeiliaid sydd mewn perygl ac wedi’u gwarchod
- pam ei bod yn bwysig cynnal egwyddorion ymyrraeth sylfaenol a newidiadau gwrthdroadwy
- pam fod angen arolygu, labelu a chofnodi cydrannau
- pam ei bod yn bwysig cofnodi’r gwaith a wneir (mewn fformat ysgrifenedig a digidol)
- pam ei bod yn bwysig dilysu ffyrdd priodol y dylid gwneud y gwaith
- pam ei bod yn bwysig nodi arwynebeddau sensitif
- pam ei bod yn bwysig cynnal cyfanrwydd hanesyddol
- pam fod angen rhoi’r gorau i weithio pan fyddwch chi’n dechrau dyfalu a rhoi gwybod am eich canfyddiadau
- sut mae asesu’r gofynion ar gyfer cadw gorffeniadau ac araenau gwaith metel
- pam ei bod yn bwysig asesu cyflwr y gwaith metel er mwyn dod o hyd i brosesau glanhau a diogelu addas
- pam mae angen diogelu gwaith metel treftadaeth ar gyfer trafnidiaeth
- pam ei bod yn bwysig cydnabod peryglon a risgiau glanhau a pharatoi prosesau gorffen i eraill, y gwead a’r amgylchedd presennol, gan gynnwys dulliau rheoli tân
- pam ei bod yn bwysig nodi difrod a dirywiad araenau diogelu a’r achosion dros hynny
- sut mae nodi gwahanol ddeunyddiau araenu, priodweddau a dulliau gwahanol o’u defnyddio
pam mae angen gweithredu egwyddorion a dulliau rheoli cyrydiad mewn metelau fferrus ac anfferrus, gan gynnwys:
- araenu aberthol
- cyrydiad electrolytig
- cyrydiad cemegol uniongyrchol
pam ei bod yn bwysig nodi effeithiau amodau atmosfferig ar araenau a gwaith
sut i lanhau a pharatoi metel:
- glanhau â fflam
- sgrafellu: brwsh gwifrau, papur tywod, sgrafellu a chrafu
- ffetlo
- glanhau â chemegau
sut mae adnabod llenwadau, priodweddau a defnyddiau penodol
- sut mae defnyddio llenwadau penodedig
- pam ei bod yn bwysig rheoli halogiad (y gwaith a’r amgylchedd)
sut mae adnabod a rhoi gorffeniadau hanesyddol gwahanol gan gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:
- euradu
- paentio
- electroblatio
- caboli
pam mae angen gwerthuso technegau a deunyddiau gorffeniad priodol
sut mae defnyddio deunyddiau araenau addurnol ac amddiffynnol:
- â llaw
- â pheiriant
pam ei bod yn bwysig cydnabod effeithiau deunyddiau a sylweddau annhebyg
sut mae defnyddio’r holl offer glanhau a pharatoi:
- offer llaw
- offer pŵer cludadwy
- cyfarpar ategol
sut mae gweithio mewn mannau uchel gan ddefnyddio cyfarpar mynediad
- sut mae gweithio gyda pheiriannau ac offer, ac yn agos iawn atynt
sut mae'r gweithiwr yn mynd ati i ofalu am offer gof a’u cynnal a’u cadw:
- offer llaw
- offer pŵer cludadwy
- cyfarpar ategol
P6 Amser a neilltuwyd**
K24 y rhaglen ar gyfer gwneud y gwaith, gan gynnwys yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd, a pham y dylid cadw at derfynau amser neu roi gwybod os ydych yn debygol o fethu cadw atynt