Defnyddio prosesau gof i gadw gwaith metel treftadaeth

URN: COSVR621
Sectorau Busnes (Suites): Sgiliau Treftadaeth (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â phrosesau gof wrth gadw gwaith metel treftadaeth gyredig, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, yn unol â gofynion y sefydliad sy’n cyfateb i’r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu’n rhagori arnynt
 
Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol sgiliau treftadaeth a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


Dehongli gwybodaeth**
P1  dehongli’r wybodaeth am y gwaith a’r adnoddau fel sy’n berthnasol i leoliad daearyddol a’r amodau tymhorol a hinsawdd i gadarnhau ei bod yn berthnasol ar gyfer y canlynol:

  • lluniadau
  • manylebau
  • rhestrau
  • datganiadau dull
  • asesiadau risg
  • gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr
  • cyfarwyddiadau llafar, ysgrifenedig neu electronig
  • rheoliadau, deddfwriaeth, canllawiau swyddogol a thrwyddedau cyfredol

Arferion gwaith diogel**
P2  cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol berthnasol a chanllawiau swyddogol i wneud y gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach am y canlynol:

  • dulliau gweithio
  • defnyddio cyfarpar diogelu personol priodol yn ddiogel 
  • defnyddio cyfarpar mynediad neu godi yn ddiogel
  • defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
  • defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
  • risgiau penodol i iechyd a diogelwch galwedigaethol gan gynnwys ymwybyddiaeth o iechyd meddwl
  • risgiau penodol sy’n gysylltiedig â deunyddiau peryglus neu rai sy’n cynnwys asbestos
  • risgiau penodol sy’n gysylltiedig â gwres, gronynnau, nwy a thrydan sy’n gysylltiedig â phrosesau, cyfarpar a deunyddiau

Dewis adnoddau**
P3  dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio ar gyfer y canlynol:

  • deunyddiau a chydrannau
  •  offer a chyfarpar

Lleihau'r risg o ddifrod**
P4  cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas drwy:

  • gymryd camau perthnasol i ddiogelu’r mannau gwaith rhag difrod damweiniol neu anfwriadol
  • gweithio gydag ymwybyddiaeth o’r amgylchedd gwaith mewn cysylltiad â galwedigaethau eraill
  • cadw'r man gwaith yn lân ac yn daclus
  • rheoli a  gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Bodloni gofynion y contract**
P5  cydymffurfio â’r contract a’r wybodaeth ar y fanyleb i ddefnyddio prosesau i gadw gwaith metel treftadaeth yn ddiogel ac yn effeithlon drwy:

  • dangos sgiliau gwaith i ymgymryd â phrosesau gof:

    • mesur a chofnodi
    • datgymalu mewn gweithdy
    • paratoi lluniadau neu dempledi gweithdy
    • glanhau
    • torri
    • siapio
    • uniadu
    • ffitio a chydosod
  • defnyddio a chynnal a chadw offer gofaint:

    • offer llaw
    • offer pŵer cludadwy
    • cyfarpar ategol
  • defnyddio prosesau gof i gadw gwaith metel treftadaeth gyredig drwy ddefnyddio’r technegau canlynol:

    • gyrru metel yn boeth:

    • tynnu i lawr

    • taenu
    • uwchsetio
    • mowldio
    • llenwad
    • caledu

    • ffurf boeth neu oer:

    • plygu

    • cordeddu
    • dysglu
    • codi

    • torri poeth neu oer:

    • dyrnu

    • cŷn

    • uno:

    • weldio gyredig

    • tynhau’n fecanyddol (sefydlog a symudol)
    • tynhau ac atgyweirio gan ddefnyddio resinau

Amser a neilltuwyd**
P6  cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd, gan ystyried yr amodau hinsawdd, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad, y rhaglen waith ac i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


P1 Dehongli gwybodaeth**
K1  pam mae gweithdrefnau’r sefydliad wedi cael eu datblygu a sut maent yn cael eu rhoi ar waith

K2  mathau o wybodaeth, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli mewn perthynas â:

  • lluniadau
  • manylebau
  • rhestrau
  • datganiadau dull
  • asesiadau risg
  • gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr
  • gwybodaeth gytundebol
  • deddfwriaeth, rheoliadau, canllawiau swyddogol a thrwyddedau cyfredol, gan gynnwys adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt
  • cynlluniau ac adroddiadau cadwraeth
  • cyfarwyddiadau llafar, ysgrifenedig neu electronig

K3  pwysigrwydd gweithdrefnau sefydliadol o ran datrys problemau â gwybodaeth a pham mae’n bwysig eu dilyn

K4  ffynhonellau gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol, gyfredol, canllawiau swyddogol a gofynion penodol i safle a sut maent yn cael eu rhoi ar waith

P2 Arferion gwaith diogel**
K5  sut dylid ymateb i argyfyngau yn unol ag awdurdodiad y sefydliad a sgiliau personol o ran y canlynol:

  • tanau a’r mathau o gyfarpar diffodd tân a sut a phryd y cânt eu defnyddio o ran dŵr, CO2, ewyn a phowdr, ond heb fod wedi eu cyfyngu i hynny
  • gollyngiadau ac anafiadau
  • argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
  • nodi ac adrodd am sylweddau peryglus gan gynnwys deunyddiau sy’n cynnwys asbestos a charbonad plwm, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny

K6  y gweithdrefnau diogelwch sefydliadol a phenodol i safle ar gyfer offer, peiriannau a chyfarpar mewn perthynas â’r canlynol:

  • safle
  • gweithle
  • cerbydau
  • cwmni
  • gweithwyr
  • cleientiaid
  • y cyhoedd ac ymwelwyr

K7  sut mae rhoi gwybod am risgiau a pheryglon a nodwyd gan y canlynol:

  • dulliau gweithio
  • asesiadau risg
  • asesiad personol
  • gwybodaeth dechnegol gwneuthurwyr
  • rheoliadau statudol
  • canllawiau swyddogol
  • Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

K8  y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K9  pam, pryd a sut y dylid defnyddio’r cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch a nodir gan egwyddorion atal mewn perthynas â’r canlynol:

  • mesurau diogelu ar y cyd
  • cyfarpar diogelu personol (PPE)
  • cyfarpar diogelu anadlol (RPE)
  •  awyru lleol sy'n gwacáu mygdarth (LEV)

K10  sut mae cydymffurfio ag arferion gwaith sy’n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni’r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol wrth ddelio â damweiniau posibl, peryglon i iechyd a’r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle mewn perthynas â’r canlynol:

  • dan lefel y ddaear
  • lleoedd cyfyng
  • gweithio mewn mannau uchel
  • gweithio poeth
  • offer, peiriannau a chyfarpar
  • deunyddiau a sylweddau
  • symud a storio deunyddiau drwy eu codi a’u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

P3 Dewis adnoddau**
K11  pam mae nodweddion, ansawdd, defnydd, cynaliadwyedd, addasrwydd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau yn bwysig, a sut dylid rhoi gwybod am ddiffygion

K12  pam y dylid ystyried arferion gwaith a deunyddiau cynaliadwy a moesegol

K13  y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer dewis adnoddau, pam maen nhw wedi cael eu datblygu a sut mae eu defnyddio

K14  sut mae cadarnhau bod yr adnoddau a’r deunyddiau’n cydymffurfio â’r fanyleb

K15  sut dylid defnyddio’r adnoddau a sut mae rhoi gwybod am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau ynglŷn â’r canlynol:

  • deunyddiau
  • cydrannau, gosodiadau, deunyddiau traul
  • offer gof:

    • offer llaw
    • offer pŵer cludadwy
    • cyfarpar ategol
  • cyfarpar digidol

K16  sut mae nodi ac adrodd ar y peryglon sy'n gysylltiedig â’r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut maent yn cael eu rheoli mewn perthynas â datganiadau dull ac asesiadau risg

K17  dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dulliau a’r gweithdrefnau ar gyfer gwneud gwaith ar brosesau gof i gadw gwaith metel treftadaeth

P4 Lleihau'r risg o ddifrod**
K18  sut mae diogelu gwaith a’r ardal o’i gwmpas rhag difrod a phwrpas diogelu rhag gweithgareddau cyffredinol yn y gweithle, gweithrediadau eraill a thywydd garw a sut mae lleihau difrod 

K19  pa mor bwysig yw gwaredu gwastraff yn ddiogel, a sut mae gwneud hynny, yn unol â’r canlynol:

  • cyfrifoldebau amgylcheddol
  • gweithdrefnau’r sefydliad
  • gwybodaeth gwneuthurwyr
  • gwybodaeth cyflenwyr
  • rheoliadau statudol
  • canllawiau swyddogol

K20  pam mae’n bwysig cynnal ardal waith ddiogel, glir a thaclus

P5 Bodloni manyleb y contract**
K21  sut mae’r dulliau gweithio i fodloni’r fanyleb yn cael eu cyflawni a sut mae problemau’n cael eu nodi a’u hadrodd drwy ddefnyddio gwybodaeth ar gyfer arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel, iach ac amgylcheddol sy’n ymwneud â’r canlynol:

  • perthnasedd asesiad o arwyddocâd
  • sut mae nodi gofynion penodol ar gyfer y canlynol:

    • strwythurau o ddiddordeb arbennig
    • adeiladwaith traddodiadol
    • adeiladau anodd eu trin
    • cydnabod arwyddocâd hanesyddol
    • gweithio yn ôl canllawiau swyddogol a rheoliadau ar gyfer fflora a ffawna sydd mewn perygl ac wedi’u gwarchod
  • pam mae’n bwysig adnabod a rhoi gwybod am blanhigion ac anifeiliaid sydd mewn perygl ac wedi’u gwarchod

  • pam ei bod yn bwysig cynnal egwyddorion ymyrraeth sylfaenol a newidiadau gwrthdroadwy
  • pam fod angen arolygu, labelu a chofnodi cydrannau
  • pam ei bod yn bwysig cofnodi’r gwaith a wneir (mewn fformat ysgrifenedig a digidol)
  • pam ei bod yn bwysig dilysu ffyrdd priodol y dylid gwneud y gwaith
  • pam ei bod yn bwysig nodi arwynebeddau sensitif
  • pam ei bod yn bwysig cynnal cyfanrwydd hanesyddol
  • pam fod angen rhoi’r gorau i weithio pan fyddwch chi’n dechrau dyfalu a rhoi gwybod am eich canfyddiadau
  • sut mae asesu’r gofynion ar gyfer cadw gwaith metel treftadaeth gyredig
  • pam ei bod yn bwysig nodi difrod a dirywiad a’r achosion dros hynny
  • pam ei bod yn bwysig nodi effeithiau llwythi, trefniadau straen wedi’u newid, technegau cryfhau ac atgyfnerthu i waith metel treftadaeth gyredig
  • pam ei bod yn bwysig cydnabod peryglon a risgiau prosesau gof i eraill, y gwead a’r amgylchedd presennol, gan gynnwys dulliau rheoli tân
  • sut mae cysylltu strwythur mewnol a chyfansoddiad haearn a dur â’u priodweddau
  • sut mae nodi priodweddau metel gan gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:

    • haearn gyr
    • haearn pur
    • haearn bwrw
    • dur carbon plaen
    • dur aloi
    • pres
    • copr
    • efydd
    • plwm
    • alwminiwm
  • sut mae trin metelau â gwres

  • sut i adnabod a gwneud offer gofaint
  • sut mae ffitio a chydosod cydrannau
  • sut i yrru metalau’n boeth:

    • tynnu i lawr
    • taenu
    • uwchsetio
    • carthffosiaeth
    • caledu
    • llenwad
  • sut i ffurfio yn boeth ac yn oer:

    • plygu
    • cordeddu
    • dysglu
    • codi
  • sut i dorri yn boeth ac yn oer:

    • dyrnu
    • cŷn
  • sut i uniadu:

    • weldio gyredig
    • tynhau’n fecanyddol (sefydlog a symudol)
    • tynhau ac atgyweirio gan ddefnyddio resinau
  • sut mae glanhau a pharatoi metel yn ddiogel, gan gyfeirio’n benodol at y canlynol:

    • nwy a gronynnau
    • plwm
  • sut i adnabod a defnyddio offer gofaint:

    • offer llaw
    • offer pŵer cludadwy
    • cyfarpar ategol
  • sut mae gweithio gyda pheiriannau ac offer, ac yn agos iawn atynt

  • sut mae'r gweithiwr yn mynd ati i ofalu am offer gof a’u cynnal a’u cadw:

    • offer llaw
    • offer pŵer cludadwy
    • cyfarpar ategol

K22  gweithdrefnau’r sefydliad o ran ymddygiad ar y safle, a chydnabod a sicrhau tegwch, cynhwysiant a pharch o fewn yr amgylchedd gwaith, a sut i roi sylw i ymddygiad amhriodol ar y safle a rhoi gwybod amdano

K23  pwysigrwydd dulliau gweithio, cysylltiadau rhyngbersonol a chyfathrebu ac anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â phrosesau gofaint mewn gwaith metel treftadaeth

P6 Amser a neilltuwyd**
K24  y rhaglen ar gyfer gwneud y gwaith, gan gynnwys yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd, a pham y dylid cadw at derfynau amser neu roi gwybod os ydych yn debygol o fethu cadw atynt

K25  y mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd a amcangyfrifwyd, a gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR621

Galwedigaethau Perthnasol

Gofaint a Gweithwyr Gefail

Cod SOC

1234

Geiriau Allweddol

Gof; Gwaith metel; Gwaith Haearn; Treftadaeth; Gyredig; Poeth; Taenu; Uwchsetio; Mowldio; Llenwad; Ffurfio; Plygu; Cordeddu; Dysglu; Codi; Dyrnu; Hollti