Gosod lloriau acwstig

URN: COSVR620
Sectorau Busnes (Suites): Systemau Mewnol (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 01 Tach 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, paratoi arwynebau newydd a phresennol a gosod lloriau acwstig

Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol Systemau Mewnol (llorio a theilsio waliau) a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd

P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach

P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio

P4 cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas

P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â’r gofynion

P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​​​​​
Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth

K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â’u cywiro, a sut i'w gweithredu

K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i’w dehongli

K3 beth yw gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae’n bwysig eu dilyn

Meini Prawf Perfformiad 2
Arferion gwaith diogel

K4 faint o wybodaeth y mae’n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i’w chymhwyso

K5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb

K6 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol

K7 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

K9 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogo

Meini Prawf Perfformiad 3
Dewis adnoddau

K10 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion

K11 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw

K12 beth yw gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i’w defnyddio

K13 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â’r rhain

Meini Prawf Perfformiad 4
Lleihau'r risg o ddifrod


K14 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu

K15 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Meini Prawf Perfformiad 5
Bodloni gofynion y contract

K16 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni’r gofynion a sut i adrodd am broblemau

K17 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 6
Amser a neilltuwyd

K18 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

**** **Meini Prawf Perfformiad 1 ** 1 dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud **** **Meini Prawf Perfformiad 2 ** 2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am o leiaf bedwar o’r dilynol 2.1 dulliau gweithio 2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel 2.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel 2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel 2.5 risgiau penodol i iechyd **** **Meini Prawf Perfformiad 3 ** 3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun 3.1 deunyddiau, cydrannau a gosodiadau 3.2 offer a chyfarpar **Meini Prawf Perfformiad 4 ** 4 diogelu'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas rhag difrod 5 cynnal lle gweithio glân 6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol **Meini Prawf Perfformiad 5 ** 7 dangos sgiliau mesur, marcio allan, gosod, lefelu, ffitio, gorffen a sicrhau 8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol 9 paratoi’r man gosod a gosod llawr acwstig drwy ddefnyddio’r dilynol yn unol â’r cyfarwyddiadau gweithio a roddir 9.1 systemau cynnal neu grud 9.2 stribedi perimedr 9.3 troshaen(au) 9.4 haen waelodol/haenau gwaelodol 9.5 cwiltiau inswleiddio **** **Meini Prawf Perfformiad 6 ** 10 cwblhau’ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu’r cleient
** **
** **
** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** ** **
** **

Gwybodaeth Cwmpas

*Gwaredu gwastraff
*

1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau’r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

*Argyfyngau
*

2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol
2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau
2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

*Peryglon
*

3 y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

*Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
*

4 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a’r amgylchedd gwaith cyffredinol
4.1 mesurau diogelu ar y cyd
4.2 cyfarpar diogelu personol
4.3 cyfarpar diogelu anadlol
4.4 system awyru a gwacáu leol

*Gwybodaeth
*

5 lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chanllawiau/rheoliadau cyfredol sy’n gysylltiedig â gosod lloriau acwstig

*Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
*

6 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud/storio deunyddiau, codi a chario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

*Cynnal a chadw
*

7 gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol 

*Dulliau gweithio
*

8 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i

8.1 nodi a bodloni gofynion ansawdd ar gyfer gosod
8.2 nodi lleoliad gwasanaethau mecanyddol a thrydanol a gweithio o’u cwmpas
8.3 asesu’r man gosod i weld a yw’n wastad
8.4 trefnu’r gwaith gosod â gweithrediadau eraill
8.5 nodi’r math o is-haen
8.6 cadarnhau datwm fertigol a llorweddol a gosod deunyddiau allan
8.7 sicrhau bod lleithder o fewn terfynau a nodwyd
8.8 deall effaith lleithder ar gydrannau lloriau acwstig
8.9 sicrhau bod deunyddiau’n cael eu gosod mewn ffordd addas
8.10 gosod systemau cynnal neu grud
8.11 addasu uchder a gwastadrwydd
8.12 gosod cwiltiau inswleiddio
8.13 gosod stribedi perimedr
8.14 gosod troshaenau a haenau gwaelodol
8.15 defnyddio offer a chyfarpar lefelu
8.16 gosod lloriau acwstig
8.17 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol
8.18 gweithio gyda pheiriannau, o’u cwmpas ac yn agos iawn atynt
8.19 defnyddio offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar
8.20 gweithio ar uchder
8.21 defnyddio cyfarpar mynediad
9 gwaith tîm a chyfathrebu
10 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod lloriau acwstig

*Problemau
*

11 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
11.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
11.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad

*Rhaglen
*

12 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig
13 gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith

14 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

*Adnoddau
*

15 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu arbenigol o
15.1 systemau cynnal neu grud
15.2 estyll
15.3 cwiltiau inswleiddio
15.4 troshaenau, haenau gwaelodol a systemau gosod
15.5 cyfarpar profi lleithder
15.6 offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar
16 dewis yr adnoddau a’r deunyddiau cywir i fodloni’r gofynion
17 dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn ar gyfer gosod lloriau acwstig

*Gweithdrefnau diogelwch
*

18 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr

**

**

*
*

**

**

*
*

*
*

*
*

*
*

*
*

*
*

*
*

*
*

*
*

*
*

**

*
*

*
*

*
*


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Tach 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR620

Galwedigaethau Perthnasol

Llorio a Theilsio Waliau

Cod SOC

5322

Geiriau Allweddol

Systemau crud; Systemau cynnal; Stribedi perimedr; Troshaenau; Haenau gwaelodol; Cwiltiau inswleiddio