Gorffen gwaith leinio sych (waliau a nenfydau)

URN: COSVR618
Sectorau Busnes (Suites): Systemau Mewnol (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 01 Tach 2015

Trosolwg

​​Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, paratoi waliau a nenfydau a gorffen gwaith leinio sych

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol systemau mewnol a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
  2. cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
  3. dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio
  4. cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas
  5. cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion
  6. cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​​​​​

Meini Prawf Perfformiad 1

Dehongli gwybodaeth

K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu

K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli

K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn

**

Meini Prawf Perfformiad 2**

Arferion gwaith diogel

K4 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso

K5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb

K6 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol

K7 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

K9 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r *ddeddfwriaeth* gyfredol a chanllawiau swyddogol

Meini Prawf Perfformiad 3

Dewis adnoddau

K10 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion

K11 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw

K12 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio

K13 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain

Meini Prawf Perfformiad 4

Lleihau'r risg o ddifrod

K14 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu

K15 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Meini Prawf Perfformiad 5

Bodloni gofynion y contract

K16 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau

K17 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 6

Amser a neilltuwyd

K18 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

**Meini Prawf Perfformiad 1** 1  dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud 
** Meini Prawf Perfformiad 2** 2   osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am y dilynol 2.1  dulliau gweithio 2.2  defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel 2.3  defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel 2.4  defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel 2.5  risgiau penodol i iechyd
** Meini Prawf Perfformiad 3** 3  dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun 3.1  deunyddiau, cydrannau a gosodiadau 3.2  offer a chyfarpar 
** Meini Prawf Perfformiad 4** 4  diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod 5  cynnal lle gweithio glân 6  gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
** Meini Prawf Perfformiad 5** 7  dangos sgiliau mesur, ffitio, rhoi, gorffen, gosod a sicrhau 8  defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol 9  gwneud o leiaf dri o'r pethau dilynol yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir 9.1  tapio ac uniadu â llaw a/neu'n fecanyddol 9.2  ffurfio onglau mewnol ac allanol 9.3  rhoi paentiau preimio/cotiau diogelu/cotiau uchaf ar arwynebau 9.4  gorffen â haen denau o blastr
** Meini Prawf Perfformiad 6** 10   cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient

Gwybodaeth Cwmpas

​​​Gwaredu gwastraff**

1  cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

**

Argyfyngau**

2  ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol

2.1  tanau, gollyngiadau ac anafiadau

2.2  argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Peryglon

3  y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

4  y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol

4.1  mesurau diogelu ar y cyd

4.2  cyfarpar diogelu personol

4.3  cyfarpar diogelu anadlol

4.4  system awyru a gwacáu leol

Gwybodaeth

5  lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chanllawiau/rheoliadau cyfredol sy'n gysylltiedig â gorffen gwaith leinio sych (waliau a nenfydau)

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol

6  mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud/storio deunyddiau, codi a chario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

Cynnal a chadw

7  gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol

Dulliau gweithio

8  cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i

8.1  nodi a bodloni gofynion ansawdd ar gyfer rhoi

8.2  nodi lleoliad gwasanaethau mecanyddol a thrydanol a gweithio o'u cwmpas

8.3  tapio ac uniadu â llaw ac yn fecanyddol

8.4  ffurfio onglau mewnol ac allanol

8.5  rhoi paentiau preimio, cotiau diogelu a chotiau uchaf ar arwynebau

8.6  gorffen â haen denau o blastr

8.7  nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol

8.8  gweithio gyda pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt

8.9  defnyddio offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar

8.10  gweithio ar uchder

8.11  defnyddio cyfarpar mynediad

9  gwaith tîm a chyfathrebu

10  anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gorffen gwaith leinio sych (waliau a nenfydau)

Problemau

11  y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio

11.1  eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa

11.2  gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen

12  mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig

13  gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith

14  diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau

15  deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu arbenigol o

15.1  tapiau, sgrim, gleiniau ongl, cyfansoddion uniadu a gorffen, paentiau preimio a chotiau uchaf

15.2  plastrau sgimio

15.3  dŵr glân a pholythen

15.4  offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar

16  dewis yr adnoddau a'r deunyddiau cywir i fodloni'r gofynion

17  dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn ar gyfer gorffen gwaith leinio sych (waliau a nenfydau)

Gweithdrefnau diogelwch

18  safle, gweithle, cwmni a gweithiwr

 
 
 
 
 
 

Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Tach 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR618

Galwedigaethau Perthnasol

Adeiladu

Cod SOC

8149

Geiriau Allweddol

Tapio; Plastrau sgimio; Paentiau preimio; Cotiau diogelu; Cotiau uchaf; Gleiniau ongl; Tapiau; Sgrim