Gosod a datgysylltu sgaffaldiau to dros dro
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi, gosod a datgysylltu sgaffaldiau to dros dro, sgaffaldiau sy’n ymgorffori tyrau, sgaffaldiau annibynnol a thrawstiau, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, a dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar.
Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym meysydd galwedigaethol Sgaffaldiau, Llwyfannau a Rigiau, a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Meini Prawf Perfformiad 1 Dehongli gwybodaeth * * K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn |
* Meini Prawf Perfformiad 2* Arferion gwaith diogel * * K4 deddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut cânt eu cymhwyso K5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb K6 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol K7 y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch K9 sut i gydymffurfio ag arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol |
* Meini Prawf Perfformiad 3 ** K10 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion |
* Meini Prawf Perfformiad 4 K14 sut i **ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu |
*Meini Prawf Perfformiad 5 Bodloni gofynion y contract* * K16 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau |
Meini Prawf Perfformiad 6 K18 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser |
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
**Meini Prawf Perfformiad 1** 1 dehongli cynlluniau, lluniadau a brasluniau, datganiadau dull, asesiadau risg, gofynion, amserlenni a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud ** ** **Meini Prawf Perfformiad 2** 2 osgoi risg drwy ddilyn yr wybodaeth a roddir am y canlynol: 2.1 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel: 2.2 defnyddio cyfarpar mynediad ac offer stopio cwymp yn ddiogel i wneud y gweithgaredd 2.3 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel 2.4 risgiau penodol i iechyd ** ** **Meini Prawf Perfformiad 3** 3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun: 3.1 deunyddiau, cydrannau, gosodiadau, angorau a chlymau 3.2 offer a chyfarpar 3.3 ategolion codi 3.4 cyfarpar mynediad **Meini Prawf Perfformiad 4 **4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod 5 cynnal man gwaith clir a thaclus 6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol ** ** **Meini Prawf Perfformiad 5** 7 dangos sgiliau mesur, gosod allan, cydosod, trwsio, gosod, sicrhau a symud 8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, cyfarpar ategol, ategolion codi a chyfarpar mynediad 9 gosod a datgysylltu tiwbiau a ffitiadau neu sgaffaldiau systemau yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir er mwyn ffurfio'r canlynol: 9.1 toeau dros dro symudol 9.2 sgaffaldiau toeau parod 9.3 trawstiau ** ** **Meini Prawf Perfformiad 6** 10 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient |
Gwybodaeth Cwmpas
Gwaredu gwastraff
1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
*
*
Argyfyngau
2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol pan mae'n ymwneud â'r canlynol:
2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau
2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
*
*
Peryglon
3 y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
*
*
Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
4 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau a
phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith ac amgylchedd gwaith cyffredinol:
4.1 mesurau diogelu ar y cyd
4.2 system awyru a gwacáu leol
4.3 cyfarpar diogelu personol
4.4 cyfarpar diogelu anadlol
*
*
Gwybodaeth
5 cynlluniau, lluniadau a brasluniau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, safonau, rheoliadau a chanllawiau swyddogol sy'n ymwneud â gwaith sgaffaldiau
*
*
Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
6 cyfrifoldebau y gweithiwr o ran damweiniau posibl, peryglon iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
*
*
Cynnal a chadw
7 gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer cludadwy, cyfarpar ategol a chyfarpar mynediad
* Dulliau gweithio 8 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i wneud y canlynol: * Problemau 11 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio * * * * * Rhaglen 12 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig * Diogelu gwaith 14 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw |
* Adnoddau 15 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac arbenigol o'r canlynol: * Gweithdrefnau diogelwch 18 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr, cerbydau |