Creu gwaith plastro ffibrog ar brosiectau cadwraeth neu adfer
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynhyrchu gwaith plastro ffibrog ar brosiectau cadwraeth neu adfer, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, yn unol â gofynion y sefydliad sy’n cyfateb i’r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu’n rhagori arnynt
Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol sgiliau treftadaeth a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Dehongli gwybodaeth**
P1 dehongli’r wybodaeth am y gwaith a’r adnoddau fel sy’n berthnasol i leoliad daearyddol a’r amodau hinsawdd i gadarnhau ei bod yn berthnasol ar gyfer y canlynol:
- lluniadau
- manylebau
- rhestrau
- datganiadau dull
- asesiadau risg
- gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr
- cyfarwyddiadau llafar, ysgrifenedig neu electronig
- rheoliadau, deddfwriaeth, canllawiau swyddogol a thrwyddedau cyfredol
Arferion gwaith diogel**
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol berthnasol a chanllawiau swyddogol i wneud y gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach am y canlynol:
- dulliau gweithio
- defnyddio cyfarpar diogelu personol priodol yn ddiogel
- defnyddio cyfarpar mynediad neu godi yn ddiogel
- defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
- defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
- risgiau penodol i iechyd a diogelwch galwedigaethol gan gynnwys ymwybyddiaeth o iechyd meddwl
- risgiau penodol sy’n gysylltiedig â deunyddiau peryglus neu rai sy’n cynnwys asbestos
- risgiau penodol sy’n gysylltiedig â gwres, gronynnau, nwy a thrydan sy’n gysylltiedig â phrosesau, cyfarpar a deunyddiau
Dewis adnoddau**
P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio ar gyfer y canlynol:
- deunyddiau a chydrannau
- offer a chyfarpar
Lleihau'r risg o ddifrod**
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas drwy:
- gymryd camau perthnasol i ddiogelu’r mannau gwaith rhag difrod damweiniol neu anfwriadol
- gweithio gydag ymwybyddiaeth o’r amgylchedd mewn cysylltiad â galwedigaethau eraill
- cadw'r man gwaith yn lân ac yn daclus
- gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
Bodloni gofynion y contract asesu, cynllunio a pharatoi’r ardal waith ar gyfer cynhyrchu gwaith plastr ffibrog treftadaeth gan ddefnyddio’r cyfeiriadau canlynol: phedwar o’r argraffiadau gwasgu canlynol: gwasgiad plastr cynhyrchu proffiliau metel: creu a pharatoi mowldiau ar gyfer gwaith plastr ffibrog treftadaeth gan ddefnyddio’r canlynol: mowld arwyneb crwm ar gyfer un o’r canlynol: cromen colofn mowld silicôn wedi’i gyfoethogi, syth a chrwm: cynhyrchu model plastr a’i ymgorffori mewn gwely wedi’i gyfoethogi cynhyrchu castiau ar gyfer gwaith plastr ffibrog treftadaeth o’r canlynol: mowldiau plastr tu chwith: mowld darniog nenfwd hanner cylch mowldiau silicôn wedi’u gyfoethogi, syth a chrwm cyfathrebu fel arweinydd tîm ar gyfer y canlynol: paratoi deunyddiau castio fel tîm dadfowldio castiau ar gyfer pob un o’r uchod castiau rhediad dros gefndir: ffurfio cefndir cornis cast rhediad caledu a storio gwaith plastr a gastiwyd yn flaenorol: storio’n ddiogel *
*
Amser a neilltuwyd**
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd, gan ystyried yr amodau hinsawdd, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad, y rhaglen waith ac i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
P1 Dehongli gwybodaeth**
K1 pam mae gweithdrefnau’r sefydliad wedi cael eu datblygu a sut maent yn cael eu rhoi ar waith
K2 mathau o wybodaeth, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli mewn perthynas â:
- lluniadau
- manylebau
- rhestrau
- datganiadau dull
- asesiadau risg
- gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr
- gwybodaeth gytundebol
- deddfwriaeth, rheoliadau, canllawiau swyddogol a thrwyddedau cyfredol, gan gynnwys adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt
- cynlluniau ac adroddiadau cadwraeth
- cyfarwyddiadau llafar, ysgrifenedig neu electronig
K3 pwysigrwydd gweithdrefnau sefydliadol o ran datrys problemau â gwybodaeth a pham mae’n bwysig eu dilyn
K4 gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol, gyfredol, canllawiau swyddogol a gofynion penodol i safle a sut mae’n cael ei rhoi ar waith
P2 Arferion gwaith diogel
K5 sut dylid ymateb i argyfyngau yn unol ag awdurdodiad y sefydliad a sgiliau personol o ran y canlynol:
- tanau a’r mathau o gyfarpar diffodd tân a sut a phryd y cânt eu defnyddio o ran dŵr, CO2, ewyn a phowdr
- gollyngiadau ac anafiadau
- argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
- nodi ac adrodd am sylweddau peryglus gan gynnwys deunyddiau sy’n cynnwys asbestos a charbonad plwm, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny
- safle
- gweithle
- cerbydau
- cwmni
- gweithwyr
- cleientiaid
- y cyhoedd
K7 sut mae rhoi gwybod am risgiau a pheryglon a nodwyd gan y canlynol:
- dulliau gweithio
- asesiadau risg
- asesiad personol
- gwybodaeth dechnegol gwneuthurwyr
- rheoliadau statudol
- canllawiau swyddogol
- Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
K8 y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K9 pam, pryd a sut y dylid defnyddio’r cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch a nodir gan egwyddorion atal mewn perthynas â’r canlynol:
- mesurau diogelu ar y cyd
- cyfarpar diogelu personol
- cyfarpar diogelu anadlol (RPE)
- awyru lleol sy'n gwacáu mygdarth (LEV)
K10 sut mae cydymffurfio ag arferion gwaith sy’n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni’r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol wrth ddelio â damweiniau posibl, peryglon i iechyd a’r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle mewn perthynas â’r canlynol:
- dan lefel y ddaear
- lleoedd cyfyng
- gweithio mewn mannau uchel
- offer, peiriannau a chyfarpar
- deunyddiau a sylweddau
- symud a storio deunyddiau drwy eu codi a’u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
K11 pam mae nodweddion, ansawdd, defnydd, cynaliadwyedd, addasrwydd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau yn bwysig, a sut dylid rhoi gwybod am ddiffygion
K12 pam y dylid mabwysiadu arferion gwaith a deunyddiau cynaliadwy a moesegol
K13 y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer dewis adnoddau, pam maen nhw wedi cael eu datblygu a sut mae eu defnyddio
K14 sut mae cadarnhau bod yr adnoddau a’r deunyddiau’n cydymffurfio â’r fanyleb
K15
sut dylid defnyddio’r adnoddau a sut mae rhoi gwybod am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau ynglŷn â’r canlynol:- plastrau
- clai
atgyfnerthiad:
- hesian
- deunyddiau gwydr
pren
- metel
- cyfryngau rhyddhau
- arafwyr
- cyflymwyr
- ychwanegion polymer
- cyfnerthwyr
- deunydd mowldio hyblyg
- deunyddiau i’w defnyddio ar gyfer gwasgiadau
- ffitiadau
- eitemau ategol cysylltiol
- offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
- cyfarpar mynediad
- cyfarpar digidol
K17 dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a’r weithdrefn ar gyfer cadw, adfer a gosod gwaith plastr ffibrog ar brosiectau cadwraeth neu adfer
K18 sut mae diogelu gwaith a’r ardal o’i gwmpas rhag difrod a phwrpas diogelu rhag gweithgareddau cyffredinol yn y gweithle, gweithrediadau eraill a thywydd garw a sut mae lleihau difrod
K19 pa mor bwysig yw gwaredu gwastraff yn ddiogel, a sut mae gwneud hynny, yn unol â’r canlynol:
- cyfrifoldebau amgylcheddol
- gweithdrefnau’r sefydliad
- gwybodaeth gwneuthurwyr
- gwybodaeth cyflenwyr
- rheoliadau statudol
- canllawiau swyddogol
K20 pam mae’n bwysig cynnal ardal waith ddiogel, glir a thaclus
P5 Bodloni manyleb y contract
K21
sut mae asesu, cynllunio a pharatoi’r ardal waith ar gyfer cynhyrchu gwaith plastr ffibrog treftadaeth gan ddefnyddio’r cyfeiriadau canlynol:
- lluniadau
- templedi
argraffiadau gwasgu:
gwasgiad plastr
gwasgiad silicôn (thicsotropig)
model clai:
darn rhydd o blastr
print 3D
pam ei bod yn bwysig asesu, cynllunio a pharatoi’r ardal waith ar gyfer cynhyrchu gwaith plastr ffibrog treftadaeth gan ddefnyddio’r cyfeiriadau canlynol:
- lluniadu
- templedi
argraffiadau gwasgu:
gwasgiad plastr
gwasgiad silicôn (thicsotropig)
model clai:
darn rhydd o blastr
print 3D
sut i gynhyrchu proffiliau metel a:
- tynnu paent lle bo hynny’n briodol
- trosglwyddo proffil o argraff gwasgu neu blastrwaith gwreiddiol
- nodi proffil mowld darn rhydd
- defnyddio dulliau gwahanol ar gyfer torri fel Rheolaeth Rhifol Cyfrifiadurol (CNC) a laser
pam fod angen cynhyrchu proffiliau metel a:
- tynnu paent lle bo hynny’n briodol
- trosglwyddo proffil o argraff gwasgu neu blastrwaith gwreiddiol
- nodi proffil mowld darn rhydd
- defnyddio dulliau gwahanol ar gyfer torri fel Rheolaeth Rhifol Cyfrifiadurol (CNC) a laser
sut mae creu a pharatoi mowldiau ar gyfer gwaith plastr ffibrog treftadaeth gan ddefnyddio’r canlynol:
- mowld plastr tu chwith
mowld darniog
mowld crwm:
cromen
- baril
- fowt
- nenfwd hanner cylch
colofn
mowld silicôn wedi’i gyfoethogi, syth a chrwm:
cynhyrchu model plastr a’i ymgorffori mewn gwely wedi’i gyfoethogi
- echdynnu cyfoethiad o argraff gwasgu a'i ymgorffori mewn plât cyfoethogi
- castio cyfoethogiad, ei osod i lawr a’i stopio i mewn
- cynhyrchu dymi (plaster neu glai)
- llunio, paratoi a diogelu’r casyn
- mesur, cymysgu a thywallt silicôn
- dadfowldio a’i baratoi ar gyfer castio
pam a phryd y byddai’r mowldiau a’r casys canlynol yn cael eu defnyddio ar gyfer gwaith plastr ffibrog treftadaeth:
- mowld plastr
mowld gwasgiad:
plastr
silicôn
clai
- silicôn
- darn rhydd
- Plastig wedi'i Atgyfnerthu â Gwydr (GRP)
sut mae adnabod a pharatoi meinciau addas ar gyfer castio gwaith plastr ffibrog
sut mae cynhyrchu castiau gwaith plastr ffibrog treftadaeth o’r canlynol:
mowldiau plastr tu chwith:
mowld darniog
- mowld crwm:
- baril
colofn
mowldiau silicôn wedi’u cyfoethogi
- castiau mwy o faint:
cyfathrebu fel arweinydd tîm ar gyfer y canlynol:
paratoi deunyddiau
- fframio a chryfhau pwyntiau
- cynllunio ar gyfer codi’r cast
castio fel tîm
dadfowldio castiau ar gyfer pob un o’r uchod
castiau rhediad dros gefndir:
ffurfio cefndir
- paratoi deunyddiau
cornis cast rhediad
technegau uniadu a gosod:
uniad gostyngiad
- uniad sy'n gorgyffwrdd
pwyntiau gosod
cryfhau’r cast:
dellt ar yr ymyl o’i gymharu â delltiau fflat
rhaffau a wadin
pam y byddai’r technegau uniadu a gosod canlynol yn cael eu defnyddio:
uniad gostyngiad
- uniad sy'n gorgyffwrdd
- pwyntiau gosod
- cryfhau’r cast:
- dellt ar yr ymyl o’i gymharu â delltiau fflat
- rhaffau a wadin
sut i galedu a storio gwaith plastr a gastiwyd yn flaenorol:
- storio’n ddiogel
- atal rhag cwympo
- amgylchedd diogel a sych
- crudio strwythurau cynnal yn ôl yr angen
pam mae angen caledu a storio gwaith plastr sydd wedi’i gastio o’r blaen:
- storio’n ddiogel
- clymu'n ôl
- cynnal strwythurau yn ôl yr angen
- gwahanol blasteri ac ychwanegion, a’u nodweddion, eu priodweddau a’u defnyddiau
- sut mae dewis deunyddiau i gyfateb neu i fod yn gydnaws â gwaith plastr ffibrog treftadaeth gwreiddiol a samplau newydd, lle bo hynny’n berthnasol
- dulliau ar gyfer cyfrifo pwysau a meintiau’r deunyddiau i’w defnyddio i gynhyrchu mowldiau a chastiau ar gyfer gwaith plastr ffibrog treftadaeth
y risgiau iechyd a diogelwch penodol o ran cynhyrchu plastr ffibrog:
- asbestos cudd mewn eitemau a ddaethpwyd yn ôl o'r safle
- plwm cudd mewn paent ar eitemau a ddaethpwyd yn ôl o'r safle
- gweithio mewn mannau uchel gan ddefnyddio cyfarpar mynediad
- defnyddio llifiau pren mecanyddol
- toriadau a thyllau
- dermatitis a llid ar y croen
- anafiadau i'r llygaid o ganlyniad i dasgu
pam ei bod yn bwysig dilysu ffyrdd priodol y dylid gwneud y gwaith
- pam ei bod yn bwysig cynnal treftadaeth a chyfanrwydd archaeolegol
- pam ei bod yn bwysig cynnal egwyddorion ymyrraeth sylfaenol a newidiadau gwrthdroadwy
- pam fod angen rhoi’r gorau i weithio pan fyddwch chi’n dechrau dyfalu a rhoi gwybod am eich canfyddiadau
- pam ei bod yn bwysig integreiddio cydrannau neu orffeniadau adeiladol sy’n bodoli eisoes a rhai newydd
- sut i storio ffabrigau, deunyddiau a chydrannau strwythurol y gellir eu hachub
- sut i ddefnyddio pob math o offer llaw ac offer pŵer a chyfarpar cysylltiol
- sut a pham mae angen i'r gweithiwr sicrhau bod yr holl offer llaw a phŵer a chyfarpar ategol yn cael eu cynnal a’u cadw
- perthnasedd asesiad o arwyddocâd
sut mae nodi gofynion penodol ar gyfer y canlynol:
- strwythurau o ddiddordeb arbennig
- adeiladwaith traddodiadol
- adeiladau anodd eu trin
- arwyddocâd hanesyddol
sut mae gweithio gyda pheiriannau ac offer, o’u cwmpas ac yn agos iawn atynt
K22 gweithdrefnau’r sefydliad o ran ymddygiad ar y safle, a chydnabod a sicrhau tegwch, cynhwysiant a pharch o fewn yr amgylchedd gwaith, a sut i roi sylw i ymddygiad amhriodol ar y safle a rhoi gwybod amdano
K23 pwysigrwydd dulliau gweithio, cysylltiadau rhyngbersonol a chyfathrebu ac anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â chynhyrchu gwaith plastr ffibrog ar brosiectau cadwraeth neu adfer
K24 y rhaglen ar gyfer gwneud y gwaith, gan gynnwys yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd, a pham y dylid cadw at derfynau amser neu roi gwybod os ydych yn debygol o fethu cadw atynt
K25 y mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd a amcangyfrifwyd, a gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith