Cadw, adfer a gosod gwaith plastr ffibrog ar brosiectau cadwraeth neu adfer

URN: COSVR558
Sectorau Busnes (Suites): Sgiliau Treftadaeth (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 30 Meh 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â chadw, adfer a gosod gwaith plastr ffibrog ar brosiectau cadwraeth neu adfer, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, yn unol â gofynion y sefydliad sy’n cyfateb i’r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu’n rhagori arnynt
 
Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol sgiliau treftadaeth a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


Dehongli gwybodaeth
P1  dehongli’r wybodaeth am y gwaith a’r adnoddau fel sy’n berthnasol i leoliad daearyddol a’r amodau hinsawdd i gadarnhau ei bod yn berthnasol ar gyfer y canlynol:

  • lluniadau
  • manylebau
  • rhestrau
  • datganiadau dull
  • asesiadau risg
  • gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr
  • cyfarwyddiadau llafar, ysgrifenedig neu electronig
  • rheoliadau, deddfwriaeth, canllawiau swyddogol a thrwyddedau cyfredol

Arferion gwaith diogel
P2  cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol berthnasol a chanllawiau swyddogol i wneud y gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach am y canlynol:

  • dulliau gweithio
  • defnyddio cyfarpar diogelu personol priodol yn ddiogel 
  • defnyddio cyfarpar mynediad neu godi yn ddiogel
  • defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
  • defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
  • risgiau penodol i iechyd a diogelwch galwedigaethol gan gynnwys ymwybyddiaeth o iechyd meddwl
  • risgiau penodol sy’n gysylltiedig â deunyddiau peryglus neu rai sy’n cynnwys asbestos
  • risgiau penodol sy’n gysylltiedig â gwres, gronynnau, nwy a thrydan sy’n gysylltiedig â phrosesau, cyfarpar a deunyddiau

Dewis adnoddau
P3  dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio ar gyfer y canlynol:

  • deunyddiau a chydrannau
  • offer a chyfarpar

Lleihau'r risg o ddifrod
P4  cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas drwy:

  • gymryd camau perthnasol i ddiogelu’r mannau gwaith rhag difrod damweiniol neu anfwriadol
  • gweithio gydag ymwybyddiaeth o’r amgylchedd mewn cysylltiad â galwedigaethau eraill
  • cadw'r man gwaith yn lân ac yn daclus
  • gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Bodloni gofynion y contract
P5  cydymffurfio â'r wybodaeth yn y contract i baratoi a phaentio arwynebau yn effeithlon yn unol â’r gofynion drwy:

  • ddangos sgiliau gwaith i wneud y canlynol:

    • asesu
    • mesur
    • marcio allan
    • cyfnerthu
    • laminiad
    • argraffiad gwasgu
    • tynnu
    • cymysgu
    • bwrw o'r argraffiad gwasgu
    • lleoli
    • diogelu neu osod
    • gorffeniad
  • defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol

  • asesu’r amgylchedd presennol gan gynnwys:

    • sefydlogrwydd
    • cefndir
    • mowldinau wedi’u hatodi
    • gosodiad gwreiddiol
  • cydweddu â gwaith plastr ffibrog treftadaeth presennol gan ddefnyddio’r canlynol:

    • templed a
    • phedwar o’r argraffiadau gwasgu canlynol:

    • gwasgiad plastr

    • gwasgiad silicôn (thicsotropig)
    • clai
    • darn rhydd o blastr
    • sganio 3D
  • cyfnerthu:

    • paratoi arwyneb i’w gyfnerthu
    • clymu’n ôl gan ddefnyddio gwifren a wad ar gyfer gwaith plastr treftadaeth
    • cryfhau yn y fan a’r lle gan ddefnyddio technegau lamineiddio a phwyntiau cryfder
    • creu, atgyfnerthu ac adfer twll mynediad i’r corff (neu agoriad maint tebyg)
  • castio ar y safle o wasgiad i wneud gwaith atgyweirio

  • cadw, adfer a gosod cydrannau plastr ffibrog yn unol â’r cyfarwyddiadau ymarferol ar gyfer y canlynol:

    • mowldinau rhediad plaen
    • mowldinau addurniadol: cornis
    • mowldinau addurniadol: panel
    • arwynebau crwm: cromen, baril, fowtiau, nenfwd hanner cylch neu golofn
  • cwblhau’r gwaith fel bod gorffeniad di-dor sy’n cyfateb â’r gorffeniad presennol ar gyfer y canlynol:

    • agor a chau tyllau mynediad
    • ategwaith i’r mowldin presennol
    • cerfiad
    • cydbwyso
    • gosod cyfoethogiadau

Amser a neilltuwyd
P6  cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd, gan ystyried yr amodau hinsawdd, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad, y rhaglen waith ac i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


P1 Dehongli gwybodaeth**
K1  pam mae gweithdrefnau’r sefydliad wedi cael eu datblygu a sut maent yn cael eu rhoi ar waith

K2  mathau o wybodaeth, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli mewn perthynas â:

  • lluniadau
  • manylebau
  • rhestrau
  • datganiadau dull
  • asesiadau risg
  • gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr
  • gwybodaeth gytundebol
  • deddfwriaeth, rheoliadau, canllawiau swyddogol a thrwyddedau cyfredol, gan gynnwys adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt
  • cynlluniau ac adroddiadau cadwraeth
  • cyfarwyddiadau llafar, ysgrifenedig neu electronig

K3  pwysigrwydd gweithdrefnau sefydliadol o ran datrys problemau â gwybodaeth a pham mae’n bwysig eu dilyn

K4  gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol, gyfredol, canllawiau swyddogol a gofynion penodol i safle a sut mae’n cael ei rhoi ar waith

P2 Arferion gwaith diogel
K5  sut dylid ymateb i argyfyngau yn unol ag awdurdodiad y sefydliad a sgiliau personol o ran y canlynol:

  • tanau a’r mathau o gyfarpar diffodd tân a sut a phryd y cânt eu defnyddio o ran dŵr, CO2, ewyn a phowdr
  • gollyngiadau ac anafiadau
  • argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
  • nodi ac adrodd am sylweddau peryglus gan gynnwys deunyddiau sy’n cynnwys asbestos a charbonad plwm, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny


K6  y gweithdrefnau diogelwch sefydliadol a phenodol i safle ar gyfer offer, peiriannau a chyfarpar mewn perthynas â’r canlynol:

  • safle
  • gweithle
  • cerbydau
  • cwmni
  • gweithwyr
  • cleientiaid
  • y cyhoedd

K7  sut mae rhoi gwybod am risgiau a pheryglon a nodwyd gan y canlynol:

  • dulliau gweithio
  • asesiadau risg
  • asesiad personol
  • gwybodaeth dechnegol gwneuthurwyr
  • rheoliadau statudol
  • canllawiau swyddogol
  • Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

K8  y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K9  pam, pryd a sut y dylid defnyddio’r cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch a nodir gan egwyddorion atal mewn perthynas â’r canlynol:

  • mesurau diogelu ar y cyd
  • cyfarpar diogelu personol
  • cyfarpar diogelu anadlol (RPE)
  • awyru lleol sy'n gwacáu mygdarth (LEV)

K10  sut mae cydymffurfio ag arferion gwaith sy’n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni’r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol wrth ddelio â damweiniau posibl, peryglon i iechyd a’r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle mewn perthynas â’r canlynol:

  • dan lefel y ddaear
  • lleoedd cyfyng
  • gweithio mewn mannau uchel
  • offer, peiriannau a chyfarpar
  • deunyddiau a sylweddau
  • symud a storio deunyddiau drwy eu codi a’u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol


P3 Dewis adnoddau
K11  pam mae nodweddion, ansawdd, defnydd, cynaliadwyedd, addasrwydd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau yn bwysig, a sut dylid rhoi gwybod am ddiffygion

K12  pam y dylid mabwysiadu arferion gwaith a deunyddiau cynaliadwy a moesegol

K13  y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer dewis adnoddau, pam maen nhw wedi cael eu datblygu a sut mae eu defnyddio

K14  sut mae cadarnhau bod yr adnoddau a’r deunyddiau’n cydymffurfio â’r fanyleb

K15  sut dylid defnyddio’r adnoddau a sut mae rhoi gwybod am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau ynglŷn â’r canlynol:

  • gwaith dellt a chyrs
  • plastrau
  • clai
  • atgyfnerthiadau
  • pren
  • sinc
  • cyfryngau rhyddhau
  • arafwyr
  • cyflymwyr
  • deunydd mowldio hyblyg
  • ffitiadau
  • eitemau ategol cysylltiol
  • deunyddiau cyfuno, fel:

    • sgrim hesian
    • asetad polyfinyl
    • cwlwm gwifren
  • offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol

  • cyfarpar mynediad
  • cyfarpar digidol

K16  sut mae nodi ac adrodd ar y peryglon sy'n gysylltiedig â’r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut maent yn cael eu rheoli mewn perthynas â datganiadau dull ac asesiadau risg

K17  dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a’r weithdrefn ar gyfer cadw, adfer a gosod gwaith plastr ffibrog ar brosiectau cadwraeth neu adfer



P4 Lleihau'r risg o ddifrod
K18  sut mae diogelu gwaith a’r ardal o’i gwmpas rhag difrod a phwrpas diogelu rhag gweithgareddau cyffredinol yn y gweithle, gweithrediadau eraill a thywydd garw a sut mae lleihau difrod

K19  pa mor bwysig yw gwaredu gwastraff yn ddiogel, a sut mae gwneud hynny, yn unol â’r canlynol:

  • cyfrifoldebau amgylcheddol
  • gweithdrefnau’r sefydliad
  • gwybodaeth gwneuthurwyr
  • gwybodaeth cyflenwyr
  • rheoliadau statudol
  • canllawiau swyddogol

K20  pam mae’n bwysig cynnal ardal waith ddiogel, glir a thaclus

P5 Bodloni manyleb y contract
K21  sut mae’r dulliau gweithio i fodloni’r fanyleb yn cael eu cyflawni a sut mae problemau’n cael eu nodi a’u hadrodd drwy ddefnyddio gwybodaeth ar gyfer arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel, iach ac amgylcheddol sy’n ymwneud â’r canlynol:

  • sut mae asesu, cofnodi ac adrodd am waith a wnaed yn flaenorol mewn fformatau ysgrifenedig a digidol, gan gynnwys:

    • cefndir:

    • distiau

    • gwaith stydiau
    • gwaith metel

    • strategaeth ar gyfer gosod:

    • mecanyddol

    • gwifren a wad
    • gwifren yn unig

    • mowldinau wedi’u hatodi

  • canllawiau treftadaeth cyfredol y llywodraeth ar gyfer cyfnerthu a laminiad

  • effaith laminiad, gan gynnwys ymwybyddiaeth o lwytho strwythurol
  • pam ei bod yn bwysig bod argraffiadau gwasgu yn cael eu cymryd ar ôl tynnu paent
  • beth yw manteision ac anfanteision defnyddio’r canlynol wrth gymryd argraffiadau o waith plastr treftadaeth presennol:

    • creu templed
    • gwasgiad plastr
    • gwasgiad silicôn (thicsotropig)
    • clai
    • darn rhydd o blastr
    • sganio 3D
  • y dulliau o dynnu paent o blastr ffibrog:

    • dŵr cynnes
    • stêm
    • cemegol
  • pam mae angen symud a sefydlogi gwaith plastr ffibrog diffygiol

  • sut mae adnabod a pharatoi meinciau addas ar gyfer castio ar y safle
  • castio ar y safle i gynnwys y canlynol:

    • dewis deunyddiau
    • atgyfnerthiadau
    • pwyntiau gosodion
  • pwyntiau crogi arwynebau cefndir, gan gynnwys ymwybyddiaeth o’r canlynol:

    • cyflwr cyfredol
    • ansawdd
    • safle a chanoli
  • sut mae paratoi arwynebau cefndir:

    • paratoi arwyneb i’w gyfnerthu
    • clymu’n ôl gan ddefnyddio gwifren a wad ar gyfer gwaith plastr treftadaeth
    • cryfhau yn y fan a’r lle gan ddefnyddio technegau lamineiddio a phwyntiau cryfder
    • creu, atgyfnerthu ac adfer twll mynediad y corff (neu agoriad maint tebyg)
  • sut mae diogelu a gosod plastr ffibrog:

    • mowldinau rhediad plaen
    • mowldinau addurniadol: cornis
    • mowldinau addurniadol: panel
    • arwynebau crwm: cromen, baril, fowtiau, nenfwd hanner cylch neu golofn
  • sut mae nodi’r cynhyrchion, y deunyddiau a’r offer sydd eu hangen i greu uniad, uniad meitrog a chwblhau i greu gorffeniad di-dor sy’n cyfateb â’r hyn sydd eisoes yn bodoli ar gyfer y canlynol:

    • ategwaith i fowldinau rhediad plaen
    • ategwaith i’r mowldin addurnol
    • ategwaith i’r arwynebau gwastad
  • pam ei bod yn bwysig dilysu ffyrdd priodol y dylid gwneud y gwaith

  • pam fod angen nodi arwynebeddau sensitif
  • pam ei bod yn bwysig cynnal treftadaeth a chyfanrwydd archaeolegol
  • pam ei bod yn bwysig cynnal egwyddorion ymyrraeth sylfaenol a newidiadau gwrthdroadwy
  • pam fod angen rhoi’r gorau i weithio pan fyddwch chi’n dechrau dyfalu a rhoi gwybod am eich canfyddiadau
  • pam mae angen adnabod a rhoi gwybod am blanhigion ac anifeiliaid sydd mewn perygl ac wedi’u gwarchod
  • pam fod angen symud deunyddiau sydd wedi dirywio a deunyddiau amhriodol
  • pam ei bod yn bwysig cynnal y strwythur presennol
  • sut i storio ffabrigau, deunyddiau a chydrannau strwythurol y gellir eu hachub
  • sut i ddefnyddio pob math o offer llaw ac offer wedi'i bweru a chyfarpar cysylltiol
  • sut a pham mae angen i'r gweithiwr sicrhau bod yr holl offer llaw a phŵer a chyfarpar ategol yn cael eu cynnal a’u cadw
  • y risgiau iechyd a diogelwch penodol o ran cadw, adfer a gosod plastr ffibrog:

    • asbestos cudd
    • gweithio mewn mannau uchel gan ddefnyddio cyfarpar mynediad
    • mynediad diogel ar draws strwythurau bregus mewn mannau cyfyng
    • mynediad â rhaff, harneisiau, abseilio
  • perthnasedd asesiad o arwyddocâd

  • sut mae nodi gofynion penodol ar gyfer y canlynol:

    • strwythurau o ddiddordeb arbennig
    • adeiladwaith traddodiadol
    • adeiladau anodd eu trin
    • arwyddocâd hanesyddol
  • sut mae gweithio gyda pheiriannau ac offer, o’u cwmpas ac yn agos iawn atynt

K22  gweithdrefnau’r sefydliad o ran ymddygiad ar y safle, a chydnabod a sicrhau tegwch, cynhwysiant a pharch o fewn yr amgylchedd gwaith, a sut i roi sylw i ymddygiad amhriodol ar y safle a rhoi gwybod amdano

K23  pwysigrwydd dulliau gweithio, cysylltiadau rhyngbersonol a chyfathrebu ac anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â chadw, adfer a gosod gwaith plastr ffibrog ar brosiectau cadwraeth neu adfer


P6 Amser a neilltuwyd
K24  y rhaglen ar gyfer gwneud y gwaith, gan gynnwys yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd, a pham y dylid cadw at derfynau amser neu roi gwybod os ydych yn debygol o fethu cadw atynt

K25  y mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd a amcangyfrifwyd, a gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Meh 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR558

Galwedigaethau Perthnasol

Plastrwyr

Cod SOC

1234

Geiriau Allweddol

Wyneb gwastad; Panel; Cornis; Crwm; Cast; Mowldinau cast wedi’i gyfoethogi; Mowldinau; Cromen; Baril; Fowt; Nenfwd hanner cylch; Clai