Creu ac atgyweirio gorffeniadau plastr a rendrad ar brosiectau cadwraeth neu adfer

URN: COSVR556
Sectorau Busnes (Cyfresi): Sgiliau Treftadaeth (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

​Mae’r safon hon yn ymwneud â chynhyrchu ac atgyweirio gorffeniadau plastr a rendrad ar brosiectau cadwraeth neu adfer neu strwythurau pridd, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, yn unol â gofynion y sefydliad sy’n cyfateb i’r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu’n rhagori arnynt

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol sgiliau treftadaeth a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Dehongli gwybodaeth

P1 dehongli’r wybodaeth am y gwaith a’r adnoddau fel sy’n berthnasol i leoliad daearyddol a’r amodau hinsawdd i gadarnhau ei bod yn berthnasol ar gyfer y canlynol:

  • lluniadau
  • manylebau
  • rhestrau
  • datganiadau dull
  • asesiadau risg
  • gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr
  • cyfarwyddiadau llafar, ysgrifenedig neu electronig
  • rheoliadau, deddfwriaeth, canllawiau swyddogol a thrwyddedau cyfredol 


Arferion gwaith diogel

P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol berthnasol a chanllawiau swyddogol i wneud y gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach am y canlynol:

  • dulliau gweithio
  • defnyddio cyfarpar diogelu personol priodol yn ddiogel 
  • defnyddio cyfarpar mynediad neu godi yn ddiogel
  • defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
  • defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
  • risgiau penodol i iechyd a diogelwch galwedigaethol gan gynnwys ymwybyddiaeth o iechyd meddwl
  • risgiau penodol sy'n gysylltiedig â deunyddiau peryglus neu rai sy'n cynnwys asbestos


Dewis adnoddau

P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio ar gyfer y canlynol:

  • deunyddiau a chydrannau
  • offer a chyfarpar


Lleihau'r risg o ddifrod

P4 cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas drwy:

  • gymryd camau perthnasol i ddiogelu’r mannau gwaith rhag difrod damweiniol neu anfwriadol
  • gweithio gydag ymwybyddiaeth o’r amgylchedd mewn cysylltiad â galwedigaethau eraill
  • cadw'r man gwaith yn lân ac yn daclus
  • gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol


Bodloni gofynion y contract

P5 cydymffurfio â'r wybodaeth yn y contract i gynhyrchu ac atgyweirio gorffeniadau plastr a rendrad yn effeithlon yn unol â’r gofynion drwy:

  • dangos sgiliau gwaith i wneud y canlynol:

    • mesur
    • marcio allan
    • gosod arwynebau gwastad
    • sgridau syth a lefel
    • tynnu
    • rhoi
    • taenu
    • mesur
    • gorffeniad
    • lleoli onglau a chyffyrdd â gorffeniadau eraill
    • diogel
  • defnyddio a chynnal a chadw offer llaw ac offer pŵer, peiriannau cymysgu a chyfarpar ategol

  • cynhyrchu mowld rhedeg, gan gynnwys cymryd argraffiadau (gwasgiad) o fowldin sy’n bodoli eisoes
  • castio ar y safle o wasgiad i gyfateb â’r un presennol
  • paratoi haenau cefndir cyn derbyn haenau ychwanegol o blastr neu rendrad, gan gynnwys:

    • lefelu pantiau
    • côt grafu
    • côt bigog
    • côt fflotiog
    • côt orffen
  • creu gorffeniadau plastr mewnol a rendrad allanol yn unol â’r cyfarwyddiadau gwaith sy’n ymwneud â’r canlynol:

    • tynnu plastr a rendrad diffygiol
    • tynnu delltennau neu gyrs diffygiol
    • paratoi arwynebau cefndir:

    • dellt neu gyred

    • solet

    • gwaith un, dau a thri haen

    • arwynebau fertigol, ar oleddf, crwm a nenfydau
    • gosod allan a ffurfio onglau mewnol ac allanol i gyfateb i’r rhai presennol:

    • cornel solet

    • rhimyn hir pren
    • rhimyn hir o blastr

    • atgynhyrchu gorffeniadau presennol

    • adrannau wedi’u mowldio
  • atgyweirio arwynebau plastr neu rendrad yn unol â’r cyfarwyddiadau gweithio ar gyfer pedwar o’r canlynol:

    • fertigol

    • nenfwd

    • goleddfol

    • mowld rhedeg yn y fan a’r lle

    • wedi’i fowldio gyda chyfoethogiad i’r cast

    • crwm:

    • cromen

    • baril
    • fowt
    • nenfwd hanner cylch

    • wedi’i fodelu â llaw yn y fan a’r lle

    • lloriau
  • atgyweirio neu ailosod a gorffen i gyd-fynd â’r arwynebau presennol o gypswm a phlastr calch neu rendrad calch gan ddefnyddio gorffeniad trywel ar gyfer dau o’r canlynol:

    • gorffeniad fflôt
    • gorffeniad sbwng
    • cerrig nadd
    • plastr garw
    • plastr parget
**Amser a neilltuwyd** P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd, gan ystyried yr amodau hinsawdd, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad, y rhaglen waith ac i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

P1 Dehongli gwybodaeth

K1 pam mae gweithdrefnau’r sefydliad wedi cael eu datblygu a sut maent yn cael eu rhoi ar waith

K2 mathau o wybodaeth, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli mewn perthynas â:

  • lluniadau
  • manylebau
  • rhestrau
  • datganiadau dull
  • asesiadau risg
  • gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr
  • gwybodaeth gytundebol
  • deddfwriaeth, rheoliadau, canllawiau swyddogol a thrwyddedau cyfredol, gan gynnwys adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt
  • cynlluniau ac adroddiadau cadwraeth
  • cyfarwyddiadau llafar, ysgrifenedig neu electronig

K3 pwysigrwydd gweithdrefnau sefydliadol o ran datrys problemau â gwybodaeth a pham mae’n bwysig eu dilyn

K4 gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol, gyfredol, canllawiau swyddogol a gofynion penodol i safle a sut mae’n cael ei rhoi ar waith

P2 Arferion gwaith diogel

K5 sut dylid ymateb i argyfyngau yn unol ag awdurdodiad y sefydliad a sgiliau personol o ran y canlynol:

  • tanau a’r mathau o gyfarpar diffodd tân a sut a phryd y cânt eu defnyddio o ran dŵr, CO2, ewyn a phowdr
  • gollyngiadau ac anafiadau
  • argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
  • nodi ac adrodd am sylweddau peryglus gan gynnwys deunyddiau sy’n cynnwys asbestos a charbonad plwm, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny

K6 y gweithdrefnau diogelwch sefydliadol a phenodol i safle ar gyfer offer, peiriannau a chyfarpar mewn perthynas â’r canlynol:

  • safle
  • gweithle
  • cerbydau
  • cwmni
  • gweithwyr
  • cleientiaid
  • y cyhoedd

K7 sut mae rhoi gwybod am risgiau a pheryglon a nodwyd gan y canlynol:

  • dulliau gweithio
  • asesiadau risg
  • asesiad personol
  • gwybodaeth dechnegol gwneuthurwyr
  • rheoliadau statudol
  • canllawiau swyddogol
  • Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

K8 y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K9 pam, pryd a sut y dylid defnyddio’r cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch a nodir gan egwyddorion atal mewn perthynas â’r canlynol:

  • mesurau diogelu ar y cyd
  • cyfarpar diogelu personol (PPE)
  • cyfarpar diogelu anadlol (RPE)
  • awyru lleol sy'n gwacáu mygdarth (LEV)

K10 sut mae cydymffurfio ag arferion gwaith sy’n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni’r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol wrth ddelio â damweiniau posibl, peryglon i iechyd a’r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle mewn perthynas â’r canlynol:

  • dan lefel y ddaear
  • lleoedd cyfyng
  • gweithio mewn mannau uchel
  • offer, peiriannau a chyfarpar
  • deunyddiau a sylweddau
  • symud a storio deunyddiau drwy eu codi a’u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol


P3 Dewis adnoddau

K11 pam mae nodweddion, ansawdd, defnydd, cynaliadwyedd, addasrwydd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau yn bwysig, a sut dylid rhoi gwybod am ddiffygion

K12 pam y dylid mabwysiadu arferion gwaith a deunyddiau cynaliadwy a moesegol

K13 y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer dewis adnoddau, pam maen nhw wedi cael eu datblygu a sut mae eu defnyddio

K14 sut mae cadarnhau bod yr adnoddau a’r deunyddiau’n cydymffurfio â’r fanyleb

K15 sut dylid defnyddio’r adnoddau a sut mae rhoi gwybod am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau ynglŷn â’r canlynol:

  • gwaith dellt a chyrs
  • plastrau gypswm
  • plastrau pridd
  •  rendradau pridd
  • clai
  • powdrau mân
  • agregau
  • ffeibrau naturiol a rhai wedi’u gwneud gan ddyn
  • smentiau naturiol
  • calchoedd:

    • anhydrolig:

    • pwti calch

    • calch cyflym

    • hydrolig

  • rhimyn:

    • pren
    • dur gwrthstaen
  • ychwanegion

  • cyfryngau bondio
  • deunyddiau i’w defnyddio ar gyfer gwasgiadau
  • ffitiadau a gosodiadau
  • offer llaw ac offer pŵer, peiriannau cymysgu a chyfarpar cysylltiedig
  • cyfarpar digidol

K16 sut mae nodi ac adrodd ar y peryglon sy'n gysylltiedig â’r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut maent yn cael eu rheoli mewn perthynas â datganiadau dull ac asesiadau risg

K17 dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a’r weithdrefn ar gyfer cynhyrchu ac atgyweirio gorffeniadau plastr a rendrad ar brosiectau cadwraeth neu adfer


P4 Lleihau'r risg o ddifrod

K18 sut mae diogelu gwaith a’r ardal o’i gwmpas rhag difrod a phwrpas diogelu rhag gweithgareddau cyffredinol yn y gweithle, gweithrediadau eraill a thywydd garw a sut mae lleihau difrod

K19 pa mor bwysig yw gwaredu gwastraff yn ddiogel, a sut mae gwneud hynny, yn unol â’r canlynol:

  • cyfrifoldebau amgylcheddol
  • gweithdrefnau’r sefydliad
  • gwybodaeth gwneuthurwyr
  • gwybodaeth cyflenwyr
  • rheoliadau statudol
  • canllawiau swyddogol

K20 pam mae’n bwysig cynnal ardal waith ddiogel, glir a thaclus

P5 Bodloni manyleb y contract

K21 sut mae’r dulliau gweithio i fodloni’r fanyleb yn cael eu cyflawni a sut mae problemau’n cael eu nodi a’u hadrodd drwy ddefnyddio gwybodaeth ar gyfer arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel, iach ac amgylcheddol sy’n ymwneud â’r canlynol:

  • y gwahaniaeth rhwng gwastad a syth o ran paratoi ac atgyweirio arwynebau gyda phlastr solet ac wedi’u rendro
  • ble a phryd i ddefnyddio gorffeniadau gwastad a syth o ran paratoi ac atgyweirio arwynebau plastr solet ac wedi’u rendro
  • sut mae sefydlogi a pharatoi arwynebau cefndir sy’n briodol i’r gorffeniad plastr a rendrad, gan gynnwys:

    • dellt a chyrs
    • solet
    • rheoli sugnedd â dŵr
    • arwynebau wedi’u plastro a’u rendro sy’n bodoli eisoes
    • glanhau uniadau allan os yw hynny'n briodol
  • sut a phryd i ddefnyddio plastrau calch a gypswm trwm ac ysgafn

  • paratoi haenau cefndir cyn derbyn haenau ychwanegol o blastr neu rendrad, gan gynnwys:

    • lefelu pantiau
    • côt grafu
    • côt bigog
    • côt fflotiog
    • côt orffen
  • sut mae rhoi a gorffen plastr mewnol (un, dwy a thair haen), a gwaith rendro allanol yn y dulliau canlynol:

    • fertigol
    • goleddfol
    • crwm
    • arwynebau nenfwd
  • pam ei bod yn bwysig caniatáu amser ar gyfer carbonadu cychwynnol a sychu rhwng haenau ar gyfer plastr mewnol a rendrad allanol

  • pam ei bod yn bwysig cael gwagle y tu ôl i’r delltennau i helpu gyda charbonadu
  • pam ei bod yn bwysig bod y rendrad allanol yn cael amddiffyniad ac ôl-ofal rhag yr elfennau
  • y tymheredd a’r amodau gorau posibl ar gyfer rhoi plastr a rendrad, yn fewnol ac yn allanol
  • sut mae gosod allan a ffurfio onglau mewnol ac allanol i gyfateb i’r rhai presennol:

    • cornel solet
    • rhimyn hir pren
    • rhimyn hir o blastr
  • sut i wneud gwaith crwm, gan gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny:

    • cromen
    • baril
    • fowt
    • cilgant
    • agoriadau bwaog
  • sut mae atgyweirio neu ailosod a gorffen i gyd-fynd â’r arwynebau presennol o blastr calch neu rendrad gan ddefnyddio gorffeniad trywel ar gyfer dau o’r canlynol:

    • gorffeniad fflôt
    • gorffeniad sbwng
    • cerrig nadd
    • plastr garw
    • plastr parget
  • pam ei bod yn bwysig atgynhyrchu gorffeniadau presennol ar sail tebyg am debyg, gan gynnwys:

    • mowld rhedeg yn y fan a’r lle
    • wedi’i fowldio gyda chyfoethogiad i’r cast
    • crwm:

    • cromen

    • baril
    • fowt
    • nenfwd hanner cylch

    • wedi’i fodelu â llaw yn y fan a’r lle

    • lloriau
  • sut mae atgynhyrchu gorffeniadau presennol ar sail tebyg am debyg, gan gynnwys:

    • mowld rhedeg yn y fan a’r lle
    • wedi’i fowldio gyda chyfoethogiad i’r cast
    • crwm:

    • cromen

    • baril
    • fowt
    • nenfwd hanner cylch

    • wedi’i fodelu â llaw yn y fan a’r lle

    • lloriau
  • beth yw'r gwahanol ddulliau ar gyfer gwneud argraff ar fowldinau presennol cyn cynhyrchu mowldinau a chyfoethogiadau

  • beth yw manteision ac anfanteision cymryd argraffiadau o waith plastr treftadaeth presennol wrth ddefnyddio’r canlynol:

    • creu templed
    • gwasgiad plastr
    • gwasgiad silicôn (thicsotropig)
    • clai
    • darn rhydd o blastr
    • sganio 3D
  • castio ar y safle i gynnwys y canlynol:

    • dewis deunyddiau
    • atgyfnerthiadau
    • pwyntiau gosod
  • sut mae nodi ble a phryd i ddefnyddio gleiniau pren neu ddur gwrthstaen

  • sut i baratoi’r canlynol:

    • clai
    • plastrau pridd
    • rendradau pridd
    • deunydd bras
    • pwti calch
    • plastr
    • smentiau naturiol
    • powdrau mân
    • agregau
  • pam ei bod yn bwysig diogelu deunyddiau wedi’u cymysg a heb eu cymysgu cyn eu defnyddio

  • sut i ddiogelu deunyddiau wedi’u cymysgu a heb eu cymysgu cyn eu defnyddio
  • sut i ddatblygu proffiliau mowldio
  • sut i atgyweirio lloriau calch gan ddefnyddio’r canlynol:

    • dellt
    • calch
    • gypswm
    • onnen
  • pam ei bod yn bwysig dilysu ffyrdd priodol y dylid gwneud y gwaith

  • pam ei bod yn bwysig nodi arwynebeddau sensitif
  • pam ei bod yn bwysig cynnal treftadaeth a chyfanrwydd archaeolegol
  • pam bod angen cynnal egwyddorion ymyrraeth sylfaenol a newidiadau gwrthdroadwy
  • pam fod angen cofnodi gwaith a wneir (mewn fformat ysgrifenedig a digidol)
  • pam mae’n bwysig adnabod a rhoi gwybod am blanhigion ac anifeiliaid sydd mewn perygl ac wedi’u gwarchod (gwenyn morter)
  • pam fod angen symud deunyddiau sydd wedi dirywio a deunyddiau amhriodol
  • pam ei bod yn bwysig cynnal y strwythur presennol
  • pam mae angen integreiddio cydrannau adeiladol sy’n bodoli eisoes a rhai newydd
  • sut i storio ffabrigau, deunyddiau a chydrannau strwythurol y gellir eu hachub
  • pam ei bod yn bwysig nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol, ac adrodd yn briodol ynghylch hyn
  • perthnasedd asesiad o arwyddocâd
  • pam ei bod yn bwysig pennu gofynion penodol ar gyfer y canlynol:

    • strwythurau o ddiddordeb arbennig
    • adeiladu traddodiadol (cyn 1919)
    • arwyddocâd hanesyddol
  • sut mae nodi gofynion penodol ar gyfer y canlynol:

    • strwythurau o ddiddordeb arbennig
    • adeiladwaith traddodiadol
    • adeiladau anodd eu trin
    • arwyddocâd hanesyddol
  • sut i ddefnyddio pob math o offer llaw ac offer pŵer, a chyfarpar cymysgu a chysylltiol

  • sut a pham mae angen i'r gweithiwr sicrhau bod yr holl offer llaw a phŵer a chyfarpar cymysgu ac ategol yn cael eu cynnal a’u cadw
  • sut mae gweithio mewn mannau uchel gan ddefnyddio cyfarpar mynediad
  • sut mae gweithio gyda pheiriannau ac offer, o’u cwmpas ac yn agos iawn atynt

K22 gweithdrefnau’r sefydliad o ran ymddygiad ar y safle, a chydnabod a sicrhau tegwch, cynhwysiant a pharch o fewn yr amgylchedd gwaith, a sut i roi sylw i ymddygiad amhriodol ar y safle a rhoi gwybod amdano

K23 pwysigrwydd dulliau gweithio, cysylltiadau rhyngbersonol a chyfathrebu ac anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â chynhyrchu a pharatoi gorffeniadau plastr a rendrad ar brosiectau cadwraeth neu adfer


P6 Amser a neilltuwyd

K24 y rhaglen ar gyfer gwneud y gwaith, gan gynnwys yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd, a pham y dylid cadw at derfynau amser neu roi gwybod os ydych yn debygol o fethu cadw atynt 

K25 y mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd a amcangyfrifiwyd, a gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR556

Galwedigaethau Perthnasol

Plastrwyr

Cod SOC

1234

Geiriau Allweddol

Clai; Strwythurau pridd; Plastrau pridd; Rendradau pridd; Deunyddiau bras; Pwti calch; Cyfryngau bondio: Calch cyflym: Calch poeth