Cadw neu adfer cynhyrchion pren
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chadw neu adfer cynhyrchion pren, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, yn unol â gofynion y sefydliad sy'n cyfateb i'r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu'n rhagori arnynt
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol sgiliau treftadaeth a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Dehongli gwybodaeth
P1 dehongli'r wybodaeth am y gwaith a'r adnoddau fel sy'n berthnasol i leoliad daearyddol a'r amodau hinsawdd i gadarnhau ei bod yn berthnasol ar gyfer y canlynol:
- lluniadau
- manylebau
- rhestrau
- datganiadau dull
- asesiadau risg
- gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr
- cyfarwyddiadau llafar, ysgrifenedig neu electronig
- rheoliadau, deddfwriaeth, canllawiau swyddogol a thrwyddedau cyfredol
Arferion gwaith diogel
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol berthnasol a chanllawiau swyddogol i wneud y gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach am y canlynol:
- dulliau gweithio
- defnyddio cyfarpar diogelu personol priodol yn ddiogel
- defnyddio cyfarpar mynediad neu godi yn ddiogel
- defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
- defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
- risgiau penodol i iechyd a diogelwch galwedigaethol gan gynnwys ymwybyddiaeth o iechyd meddwl
- risgiau penodol sy'n gysylltiedig â deunyddiau peryglus neu rai sy'n cynnwys asbestos
- risgiau penodol sy'n gysylltiedig â gwres, gronynnau, nwy a thrydan sy'n gysylltiedig â phrosesau, cyfarpar a deunyddiau
Dewis
adnoddau
P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio ar gyfer y canlynol:
- deunyddiau a chydrannau
- offer a chyfarpar
Lleihau'r
risg o ddifrod
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas drwy:
- gymryd camau perthnasol i ddiogelu'r mannau gwaith rhag difrod damweiniol neu anfwriadol
- gweithio gydag ymwybyddiaeth o'r amgylchedd mewn cysylltiad â galwedigaethau eraill
- cadw'r man gwaith yn lân ac yn daclus
- gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
Bodloni
gofynion y contract
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth gontract i warchod, adfer neu gynnal a chadw cynhyrchion pren yn effeithlon yn unol â'r fanyleb ofynnol drwy:
- ddangos sgiliau gwaith i wneud y canlynol:
- mesur
- marcio allan
- torri
- siapio
- ffitio
- lleoli
- diogelu
- gorffen
- defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
- cadw neu adfer cynhyrchion pren strwythurol yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio ar gyfer y canlynol:
- cydrannau sy'n cynnal llwythi
- cydrannau nad ydynt yn cynnal llwyth
- waliau
- toeau:
- ar oleddf
- fflat neu
- toriad traddodiadol
- distiau
- cadw neu adfer cynhyrchion pren anstrwythurol yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio ar gyfer o leiaf chwech o'r canlynol:
- gorchuddion waliau:
- paneli neu
- cladin
- lloriau:
- gorchuddion distiau llawr
- fframiau (gan gynnwys ffenestri)
- unedau a ffitiadau
- drysau
- mowldinau
- grisiau
Amser
a neilltuwyd
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a
amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd, gan ystyried yr amodau hinsawdd, yn unol â
gweithdrefnau'r sefydliad, y rhaglen waith ac i ddiwallu anghenion
galwedigaethau eraill a/neu'r cleient
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
P1 Dehongli gwybodaeth
K1 pam mae gweithdrefnau’r sefydliad wedi cael eu datblygu a sut maent yn cael eu rhoi ar waith
K2 mathau o wybodaeth, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli mewn perthynas â:
- lluniadau
- manylebau
- rhestrau
- datganiadau dull
- asesiadau risg
- gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr
- gwybodaeth gytundebol
- deddfwriaeth, rheoliadau, canllawiau swyddogol a thrwyddedau cyfredol, gan gynnwys adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt
- cynlluniau ac adroddiadau cadwraeth
- cyfarwyddiadau llafar, ysgrifenedig neu electronig
K3 pwysigrwydd gweithdrefnau sefydliadol o ran datrys problemau â gwybodaeth a pham mae’n bwysig eu dilyn
K4 gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol, gyfredol, canllawiau swyddogol a gofynion penodol i safle a sut mae’n cael ei rhoi ar waith
P2 Arferion gwaith diogel
K5 sut dylid ymateb i argyfyngau yn unol ag awdurdodiad y sefydliad a sgiliau personol o ran y canlynol:
- tanau a'r mathau o gyfarpar diffodd tân a sut a phryd y cânt eu defnyddio o ran dŵr, CO2, ewyn a phowdr
- gollyngiadau ac anafiadau
- argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
- nodi ac adrodd am sylweddau peryglus gan gynnwys deunyddiau sy'n cynnwys asbestos a charbonad plwm, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny
K6 y gweithdrefnau diogelwch sefydliadol a phenodol i safle ar gyfer offer, peiriannau a chyfarpar mewn perthynas â'r canlynol:
- safle
- gweithle
- cerbydau
- cwmni
- gweithwyr
- cleientiaid
- y cyhoedd
K7 sut mae rhoi gwybod am risgiau a pheryglon a nodwyd gan y canlynol:
- dulliau gweithio
- asesiadau risg
- asesiad personol
- gwybodaeth dechnegol gwneuthurwyr
- rheoliadau statudol
- canllawiau swyddogol
- Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
K8 y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K9 pam, pryd a sut y dylid defnyddio'r cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch a nodir gan egwyddorion atal mewn perthynas â'r canlynol:
- mesurau diogelu ar y cyd
- cyfarpar diogelu personol (PPE)
- cyfarpar diogelu anadlol (RPE)
- awyru lleol sy'n gwacáu mygdarth (LEV)
K10 sut mae cydymffurfio ag arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol wrth ddelio â damweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle mewn perthynas â'r canlynol:
- dan lefel y ddaear
- lleoedd cyfyng
- gweithio mewn mannau uchel
- offer, peiriannau a chyfarpar
deunyddiau a sylweddau
symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
P3 Dewis adnoddau
K11 pam mae nodweddion, ansawdd, defnydd, cynaliadwyedd, addasrwydd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau yn bwysig, a sut dylid rhoi gwybod am ddiffygion
K12 pam y dylid mabwysiadu arferion gwaith a deunyddiau cynaliadwy a moesegol
K13 y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer dewis adnoddau, pam maen nhw wedi cael eu datblygu a sut mae eu defnyddio
K14 sut mae cadarnhau bod yr adnoddau a’r deunyddiau’n cydymffurfio â’r fanyleb
K15 sut dylid defnyddio'r adnoddau a sut mae rhoi gwybod am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau ynglŷn â'r canlynol:
- pren
- gosodiadau ac eitemau ategol
- offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
- cyfarpar codi mecanyddol
- cyfarpar digidol
K16 sut mae nodi ac adrodd ar y peryglon sy'n gysylltiedig â’r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut maent yn cael eu rheoli mewn perthynas â datganiadau dull ac asesiadau risg
K17 dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a’r weithdrefn ar gyfer cadw neu adfer cynhyrchion pren
P4 Lleihau'r risg o ddifrod
K18 sut mae diogelu gwaith a’r ardal o’i gwmpas rhag difrod a phwrpas diogelu rhag gweithgareddau cyffredinol yn y gweithle, gweithrediadau eraill a thywydd garw a sut mae lleihau difrod
K19 pa mor bwysig yw gwaredu gwastraff yn ddiogel, a sut mae gwneud hynny, yn unol â'r canlynol:
- cyfrifoldebau amgylcheddol
- gweithdrefnau'r sefydliad
- gwybodaeth gwneuthurwyr
- gwybodaeth cyflenwyr
- rheoliadau statudol
- canllawiau swyddogol
K20 pam mae’n bwysig cynnal ardal waith ddiogel, glir a thaclus
P5 Bodloni manyleb y contract
K21 sut mae'r dulliau gweithio i fodloni'r fanyleb yn cael eu cyflawni a sut mae problemau'n cael eu nodi a'u hadrodd drwy ddefnyddio gwybodaeth ar gyfer arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel, iach ac amgylcheddol sy'n ymwneud â'r canlynol:
pam ei bod yn bwysig gwneud y canlynol:
- mesur
- marcio allan
- torri
- siapio
- ffitio
- lleoli
- diogelu
- gorffen
pam ei bod yn beysig cadw ac adfer cynhyrchion pren a chynhyrchion cysylitiedig, ar ôl eu tynnu ac yn y fan a'r lle
- sut mae cadw ac adfer cynhyrchion pren a'u cydrannau cysylltiedig ar ôl eu symud ac yn y fan a'r lle
- sut mae adnabod y rhywogaethau priodol o bren, eu priodweddau a'u defnyddiau, i gyd-fynd â'r rhai presennol
- manteision ac anfanteision defnyddio pren caled a phren meddal mewn gwahanol brosiectau cadwraeth ac adfer
- sut i newid cynhyrchion pren am rai sy'n cyfateb â'r rhai presennol o ran proffil a chyfansoddiad
- sut mae pennu befelau wrth gynnal llinell syth gan ddefnyddio offer llaw ac offer pŵer priodol
- pam ei bod yn bwysig ffurfio uniadau sy'n briodol i'r dull adeiladu gwreiddiol
- sut mae ffurfio uniadau sy'n briodol i'r dull adeiladu gwreiddiol
- pam ei bod yn bwysig penderfynu ar gydrannau sy'n cynnal llwyth (strwythurol) a rhai nad ydynt yn cynnal llwyth er mwyn gallu gwneud gwaith cysylltiedig yn unol â'r cwmpas a'r fanyleb
- sut mae nodi beth yw cydrannau sy'n cynnal llwythi (strwythurol) a rhai nad ydynt yn cynnal llwyth
- pam ei bod yn bwysig nodi strwythur waliau er mwyn penderfynu ar y dull o gadw ac adfer paneli a chladin
- sut mae nodi'r dulliau adeiladu a'r deunyddiau presennol sy'n cael eu defnyddio i gadw ac adfer cynhyrchion pren anstrwythurol
- sut mae datblygu'r dull gweithredu ar gyfer newid cydrannau i ffitio i baneli a chladin presennol
- pam ei bod yn bwysig dilysu ffyrdd priodol y dylid gwneud gwaith
- pam ei bod yn bwysig nodi arwynebeddau sensitif
- pam fod angen cynnal treftadaeth a chyfanrwydd archaeolegol
- pam ei bod yn bwysig cynnal egwyddorion ymyrraeth sylfaenol a newidiadau gwrthdroadwy
pam fod angen rhoi'r gorau i weithio pan fyddwch chi'n dechrau dyfalu a rhoi gwybod am eich canfyddiadau
pam fod angen cofnodi gwaith a wneir (mewn fformat ysgrifenedig a digidol)
- pam mae angen adnabod a rhoi gwybod am blanhigion ac anifeiliaid sydd mewn perygl ac wedi'u gwarchod
- symud deunyddiau sydd wedi dirywio ac sy'n amhriodol
- pam fod angen cynnal y strwythur presennol
- pam ei bod yn bwysig integreiddio cydrannau neu orffeniadau adeiladol sy'n bodoli eisoes a rhai newydd
- sut i storio deunyddiau a chydrannau y gellir eu hachub
- sut i ddefnyddio pob math o offer llaw ac offer pŵer a chyfarpar cysylltiol
- sut a pham mae angen i'r gweithiwr sicrhau bod yr holl offer llaw ac offer pŵer a chyfarpar ategol yn cael eu cynnal a'u cadw
- sut mae gweithio mewn mannau uchel gan ddefnyddio cyfarpar mynediad
- perthnasedd asesiad o arwyddocâd
sut mae nodi gofynion penodol ar gyfer y canlynol:
- strwythurau o ddiddordeb arbennig
- adeiladwaith traddodiadol
- adeiladau anodd eu trin
- arwyddocâd hanesyddol
sut mae gweithio gyda pheiriannau ac offer, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt
K22 gweithdrefnau’r sefydliad o ran ymddygiad ar y safle, a chydnabod a sicrhau tegwch, cynhwysiant a pharch o fewn yr amgylchedd gwaith, a sut i roi sylw i ymddygiad amhriodol ar y safle a rhoi gwybod amdano
K23 pwysigrwydd dulliau gweithio, cysylltiadau rhyngbersonol a chyfathrebu ac anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â chadw neu adfer cynhyrchion pren
P6 Amser a neilltuwyd
K24 y rhaglen ar gyfer gwneud y gwaith, gan gynnwys yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd, a pham y dylid cadw at derfynau amser neu roi gwybod os ydych yn debygol o fethu cadw atynt
K24 y mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd a amcangyfrifiwyd, a gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith