Gwneud gwaith brwsh rhydd

URN: COSVR552
Sectorau Busnes (Suites): Sgiliau Treftadaeth (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 30 Meh 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â gwneud gwaith brwsh rhydd, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, yn unol â gofynion y sefydliad sy’n cyfateb i’r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu’n rhagori arnynt
 
Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol sgiliau treftadaeth a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Dehongli gwybodaeth

**P1  dehongli’r wybodaeth am y gwaith a’r adnoddau fel sy’n berthnasol i leoliad daearyddol a’r amodau hinsawdd i gadarnhau ei bod yn berthnasol ar gyfer y canlynol:

  • lluniadau
  • manylebau
  • rhestrau
  • datganiadau dull
  • asesiadau risg
  • gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr
  • cyfarwyddiadau llafar, ysgrifenedig neu electronig
  • rheoliadau, deddfwriaeth, canllawiau swyddogol a thrwyddedau cyfredol

Arferion gwaith diogel
P2  cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol berthnasol a chanllawiau swyddogol i wneud y gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach am y canlynol:

  • dulliau gweithio
  • defnyddio cyfarpar diogelu personol priodol yn ddiogel 
  • defnyddio cyfarpar mynediad neu godi yn ddiogel
  • defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
  • defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
  • risgiau penodol i iechyd a diogelwch galwedigaethol gan gynnwys ymwybyddiaeth o iechyd meddwl
  • risgiau penodol sy’n gysylltiedig â deunyddiau peryglus neu rai sy’n cynnwys asbestos
  • risgiau penodol sy’n gysylltiedig â gwres, gronynnau, nwy a thrydan sy’n gysylltiedig â phrosesau, cyfarpar a deunyddiau

Dewis adnoddau

P3  dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio ar gyfer y canlynol:

  • deunyddiau a chydrannau
  • offer a chyfarpar


Lleihau'r risg o ddifrod
P4  cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas drwy:

  • gymryd camau perthnasol i ddiogelu’r mannau gwaith rhag difrod damweiniol neu anfwriadol
  • gweithio gydag ymwybyddiaeth o’r amgylchedd mewn cysylltiad â galwedigaethau eraill
  • cadw'r man gwaith yn lân ac yn daclus
  • gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol


Bodloni gofynion y contract
P5  cydymffurfio â'r wybodaeth yn y contract i wneud gwaith brwsh rhydd yn effeithlon yn unol â’r gofynion drwy’r canlynol:

  • ddangos sgiliau gwaith i wneud y canlynol:

    • asesu
    • samplu
    • archwilio
    • graddfa
    • lluniadu
    • gosod allan
    • lleoli
    • diogelu a throsglwyddo
    • cyfateb:
    • dyluniad
    • patrwm
    • lliwiau
    • cyfansoddiad paent
    • addasu gludedd a phaentio
  • defnyddio a chynnal a chadw offer llaw ac offer wedi'i bweru a chyfarpar ategol

  • gosod allan o luniad a defnyddio dyluniad addurnol, gan gynnwys amlinellu a gwella nodweddion pensaernïol, yn unol â chyfarwyddiadau gweithio gan ddefnyddio o leiaf bedwar o’r canlynol:

    • offer leinio mecanyddol
    • gosod llinellau ffitshis
    • ymylon syth
    • pensiliau ysgrifennu arwyddion
    • ffon peintiwr
  • rhoi araen ddiogelu dros effeithiau addurnol lle bo angen

Amser a neilltuwyd**
P6  cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd, gan ystyried yr amodau hinsawdd, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad, y rhaglen waith ac i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

P1 Dehongli gwybodaeth

K1  pam mae gweithdrefnau’r sefydliad wedi cael eu datblygu a sut maent yn cael eu rhoi ar waith


K2  mathau o wybodaeth, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli mewn perthynas â:

  • lluniadau
  • manylebau
  • rhestrau
  • datganiadau dull
  • asesiadau risg
  • gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr
  • gwybodaeth gytundebol
  • deddfwriaeth, rheoliadau, canllawiau swyddogol a thrwyddedau c yfredol, gan gynnwys adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt
  • cynlluniau ac adroddiadau cadwraeth
  • cyfarwyddiadau llafar, ysgrifenedig neu electronig


K3  pwysigrwydd gweithdrefnau sefydliadol o ran datrys problemau â gwybodaeth a pham mae’n bwysig eu dilyn

K4  gwybodaeth am deddfwriaeth berthnasol, gyfredol, canllawiau swyddogol a gofynion penodol i safle a sut mae’n cael ei rhoi ar waith


P2
Arferion gwaith diogel
K5  sut dylid ymateb i argyfyngau yn unol ag awdurdodiad y sefydliad a sgiliau personol o ran y canlynol:

  • tanau a’r mathau o gyfarpar diffodd tân a sut a phryd y cânt eu defnyddio o ran dŵr, CO2, ewyn a phowdr
  • gollyngiadau ac anafiadau
  • argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
  • nodi ac adrodd am sylweddau peryglus gan gynnwys deunyddiau sy’n cynnwys asbestos a charbonad plwm, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny


K6  y gweithdrefnau diogelwch sefydliadol a phenodol i safle ar gyfer offer, peiriannau a chyfarpar mewn perthynas â’r canlynol:

  • safle
  • gweithle
  • cerbydau
  • cwmni
  • gweithwyr
  • cleientiaid
  • y cyhoedd


K7  sut mae rhoi gwybod am risgiau a pheryglon a nodwyd gan y canlynol:

  • dulliau gweithio
  • asesiadau risg
  • asesiad personol
  • gwybodaeth dechnegol gwneuthurwyr
  • rheoliadau statudol
  • canllawiau swyddogol
  • Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)


K8  y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K9  pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch a nodir gan egwyddorion atal mewn perthynas â’r canlynol:

  • mesurau diogelu ar y cyd
  • cyfarpar diogelu personol (PPE)
  • cyfarpar diogelu anadlol (RPE)
  • awyru lleol sy'n gwacáu mygdarth (LEV)


K10  sut mae cydymffurfio ag arferion gwaith sy’n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni’r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol wrth ddelio â damweiniau posibl, peryglon i iechyd a’r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle mewn perthynas â’r canlynol:

  • mewn mannau cyfyng
  • gweithio mewn mannau uchel
  • offer, peiriannau a chyfarpar
  • deunyddiau a sylweddau
  • symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol


P3
Dewis adnoddau


K11  pam mae nodweddion, ansawdd, defnydd, cynaliadwyedd, addasrwydd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau yn bwysig, a sut dylid rhoi gwybod am ddiffygion

K12  pam y dylid mabwysiadu arferion gwaith a deunyddiau cynaliadwy a moesegol

K13  y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer dewis
adnoddau, pam maen nhw wedi cael eu datblygu a sut mae eu defnyddio

K14  sut mae cadarnhau bod yr adnoddau a’r deunyddiau’n cydymffurfio â’r fanyleb

K15  sut dylid defnyddio’r adnoddau a sut mae rhoi gwybod am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau ynglŷn â’r canlynol:

  • cyfarpar paratoi arwynebau
  • gorchuddion gwarchodol
  • systemau paent
  • systemau chwistrellu
  • offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
  • cyfarpar digidol


K16  sut mae nodi ac adrodd ar y peryglon sy'n gysylltiedig â’r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut maent yn cael eu rheoli mewn perthynas â datganiadau dull ac asesiadau risg

K17  dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a’r weithdrefn ar gyfer gwneud gwaith brwsh rhydd


P4
Lleihau'r risg o ddifrod

K18  sut mae diogelu gwaith a’r ardal o’i gwmpas rhag difrod a phwrpas diogelu rhag gweithgareddau cyffredinol yn y gweithle, gweithrediadau eraill a thywydd garw a sut mae lleihau difrod

K19  pa mor bwysig yw gwaredu gwastraff yn ddiogel, a sut mae gwneud hynny, yn unol â’r canlynol:

  • cyfrifoldebau amgylcheddol
  • gweithdrefnau’r sefydliad
  • gwybodaeth gwneuthurwyr
  • gwybodaeth cyflenwyr
  • rheoliadau statudol
  • canllawiau swyddogol

K20  pam mae’n bwysig cynnal ardal waith ddiogel, glir a thaclus


P5 Bodloni manyleb y contract

K21  sut mae’r dulliau gweithio i fodloni’r fanyleb yn cael eu cyflawni a sut mae problemau’n cael eu nodi a’u hadrodd drwy ddefnyddio gwybodaeth ar gyfer arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel, iach ac amgylcheddol sy’n ymwneud â’r canlynol:

  • sut i asesu a rhoi trosolwg o dasgau
  • sut i greu sampl i gyfateb i’r rhai presennol
  • sut mae dilyn canllawiau penodol i wneud gwaith brwsh rhydd sy’n cyd-fynd â gwaith presennol
  • sut i sefydlu gofynion mynediad
  • sut mae archwilio arwynebau i weld a ydynt yn addas, canfod beth sy’n achosi namau a chynnig atebion
  • pam ei bod yn bwysig defnyddio tystiolaeth ffotograffig i gyfateb a chofnodi:

    • dyluniad
    • patrwm
    • lliwiau
  • cyfansoddiad paent

  • sut mae graddio a lluniadu yn unol â’r fanyleb
  • sut i lanhau arwynebau i’w paentio
  • sut mae paratoi i ddefnyddio paent dyfrsail a phaent olew
  • pam ei bod yn bwysig addasu’r gwanhad i’r gludedd priodol
  • sut mae gosod allan o luniad a defnyddio’r dyluniad drwy wneud gwaith brwsh rhydd mewn ardaloedd eang wedi’u panelu (i gynnwys amlinellu a gwella) gan ddefnyddio’r canlynol:

    • offer leinio mecanyddol
    • gosod ffitshis
    • ymylon syth
    • pensiliau ysgrifennu arwyddion
    • ffon peintiwr
  • pam ei bod yn bwysig nodi nodweddion pensaernïol

  • pam mae angen rhoi araen ddiogelu dros effeithiau addurnol
  • pam mae angen nodi amodau atmosfferig a fydd yn dylanwadu ar y broses
  • sut i ddefnyddio pob math o offer llaw ac offer wedi'i bweru a chyfarpar ategol
  • sut a pham mae angen i'r gweithiwr sicrhau bod yr holl offer llaw a phŵer a chyfarpar ategol yn cael eu cynnal a’u cadw
  • sut mae gweithio mewn mannau uchel gan ddefnyddio cyfarpar mynediad
  • perthnasedd asesiad o arwyddocâd
  • sut mae nodi gofynion penodol ar gyfer y canlynol:

    • strwythurau o ddiddordeb arbennig
    • adeiladwaith traddodiadol
    • adeiladau anodd eu trin
    • arwyddocâd hanesyddol
  • sut mae gweithio gyda pheiriannau ac offer, o’u cwmpas ac yn agos iawn atynt

K22  gweithdrefnau’r sefydliad o ran ymddygiad ar y safle, a chydnabod a sicrhau tegwch, cynhwysiant a pharch o fewn yr amgylchedd gwaith, a sut i roi sylw i ymddygiad amhriodol ar y safle a rhoi gwybod amdano

K23  pwysigrwydd dulliau gweithio, cysylltiadau rhyngbersonol a chyfathrebu ac anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â pharatoi a phaentio arwynebau ar brosiectau cadwraeth neu adfer


P6
Amser a neilltuwyd

K24  y rhaglen ar gyfer gwneud y gwaith, gan gynnwys yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd, a pham y dylid cadw at derfynau amser neu roi gwybod os ydych yn debygol o fethu cadw atynt

K25  y mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd a amcangyfrifwyd, a gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith




Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Meh 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR552

Galwedigaethau Perthnasol

Paentio ac Addurno

Cod SOC

1234

Geiriau Allweddol

Brwsio; Lluniadau; Dyluniadau; Leinin; Ffitiadau; Arwyddion; Ffon Peintiwr; Trosglwyddo