Paratoi a phaentio arwynebau ar brosiectau cadwraeth neu adfer

URN: COSVR551
Sectorau Busnes (Suites): Sgiliau Treftadaeth (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 30 Meh 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi a phaentio arwynebau ar brosiectau cadwraeth neu adfer, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, yn unol â gofynion y sefydliad sy’n cyfateb i’r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu’n rhagori arnynt
 
Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol sgiliau treftadaeth a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Dehongli gwybodaeth

**P1  dehongli’r wybodaeth am y gwaith a’r adnoddau fel sy’n berthnasol i leoliad daearyddol a’r amodau hinsawdd i gadarnhau ei bod yn berthnasol ar gyfer y canlynol:

  • lluniadau
  • manylebau
  • rhestrau
  • datganiadau dull
  • asesiadau risg
  • gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr
  • cyfarwyddiadau llafar, ysgrifenedig neu electronig
  • rheoliadau, deddfwriaeth, canllawiau swyddogol a thrwyddedau cyfredol

Arferion gwaith diogel
P2  cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol berthnasol a chanllawiau swyddogol i wneud y gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach am y canlynol:

  • dulliau gweithio
  • defnyddio cyfarpar diogelu personol priodol yn ddiogel 
  • defnyddio cyfarpar mynediad neu godi yn ddiogel
  • defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
  • defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
  • risgiau penodol i iechyd a diogelwch galwedigaethol gan gynnwys ymwybyddiaeth o iechyd meddwl
  • risgiau penodol sy’n gysylltiedig â deunyddiau peryglus neu rai sy’n cynnwys asbestos
  • risgiau penodol sy’n gysylltiedig â gwres, gronynnau, nwy a thrydan sy’n gysylltiedig â phrosesau, cyfarpar a deunyddiau

Dewis adnoddau

P3  dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio ar gyfer y canlynol:

  • deunyddiau a chydrannau
  • offer a chyfarpar

Lleihau'r risg o ddifrod
P4  cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas drwy:

  • gymryd camau perthnasol i ddiogelu’r mannau gwaith rhag difrod damweiniol neu anfwriadol
  • gweithio gydag ymwybyddiaeth o’r amgylchedd mewn cysylltiad â galwedigaethau eraill
  • cadw'r man gwaith yn lân ac yn daclus
  • gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Bodloni gofynion y contract

P5  cydymffurfio â'r wybodaeth yn y contract i baratoi a phaentio arwynebau yn effeithlon yn unol â’r gofynion drwy:

  • ddangos sgiliau gwaith i wneud y canlynol:

    • asesu
    • samplu
    • crafu
    • stripio
    • hacio
    • llenwi
    • sgrafellu
  • brwsio, rholio neu ddefnyddio systemau chwistrellu

  • defnyddio a chynnal a chadw offer llaw ac offer wedi'i bweru a chyfarpar ategol
  • paratoi a phaentio arwynebau mewnol neu allanol a baentiwyd yn flaenorol drwy wneud y canlynol yn unol â’r cyfarwyddiadau gweithio:

    • paratoi arwynebau a baentiwyd yn flaenorol neu arwynebau heb eu paentio cyn eu paentio
    • rhoi paent ar arwynebau llydan drwy ddefnyddio brwsh, rholiwr neu system chwistrellu
    • torri i mewn o gwmpas ymylon
    • tynnu ffitiadau a’u newid
  • cadw arwynebau y tu mewn neu’r tu allan sydd wedi’u paentio’n flaenorol yn unol â’r cyfarwyddiadau gweithio, mewn perthynas â’r canlynol:

    • paratoi arwynebau sydd wedi’u paentio eisoes yn barod ar gyfer paentio
    • paentio arwynebau llydan drwy ddefnyddio brwsh, rholer neu system chwistrellu i ail-greu gorffeniad ac arddull y gwreiddiol neu’r un presennol
    • torri i mewn o gwmpas ymylon
    • tynnu a newid ffitiadau

Amser a neilltuwyd
P6  cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd, gan ystyried yr amodau hinsawdd, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad, y rhaglen waith ac i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

P1 Dehongli gwybodaeth

K1  pam mae gweithdrefnau’r sefydliad wedi cael eu datblygu a sut maent yn cael eu rhoi ar waith


K2  mathau o wybodaeth, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli mewn perthynas â:

  • lluniadau
  • manylebau
  • rhestrau
  • datganiadau dull
  • asesiadau risg
  • gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr
  • briff gwylio archaeolegol
  • cynlluniau a siarteri cadwraeth hanesyddol
  • gwybodaeth gytundebol
  • deddfwriaeth, rheoliadau, canllawiau swyddogol a thrwyddedau cyfredol, gan gynnwys adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt
  • cynlluniau ac adroddiadau cadwraeth
  • cyfarwyddiadau llafar, ysgrifenedig neu electronig


K3  pwysigrwydd gweithdrefnau sefydliadol o ran datrys problemau â gwybodaeth a pham mae’n bwysig eu dilyn

K4  gwybodaeth am deddfwriaeth berthnasol, gyfredol, canllawiau swyddogol a gofynion penodol i safle a sut mae’n cael ei rhoi ar waith


P2
Arferion gwaith diogel
K5  sut dylid ymateb i argyfyngau yn unol ag awdurdodiad y sefydliad a sgiliau personol o ran y canlynol:

  • tanau a’r mathau o gyfarpar diffodd tân a sut a phryd y cânt eu defnyddio o ran dŵr, CO2, ewyn a phowdr
  • gollyngiadau ac anafiadau
  • argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
  • nodi ac adrodd am sylweddau peryglus gan gynnwys deunyddiau sy’n cynnwys asbestos a charbonad plwm, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny


K6  y gweithdrefnau diogelwch sefydliadol a phenodol i safle ar gyfer offer, peiriannau a chyfarpar mewn perthynas â’r canlynol:

  • safle
  • gweithle
  • cerbydau
  • cwmni
  • gweithwyr
  • cleientiaid
  • y cyhoedd


K7  sut mae rhoi gwybod am risgiau a pheryglon a nodwyd gan y canlynol:

  • dulliau gweithio
  • asesiadau risg
  • asesiad personol
  • gwybodaeth dechnegol gwneuthurwyr
  • rheoliadau statudol
  • canllawiau swyddogol
  • Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)


K8  y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K9  pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch a nodir gan egwyddorion atal mewn perthynas â’r canlynol:

  • mesurau diogelu ar y cyd
  • cyfarpar diogelu personol (PPE)
  • cyfarpar diogelu anadlol (RPE)
  • awyru lleol sy'n gwacáu mygdarth (LEV)

K10  sut mae cydymffurfio ag arferion gwaith sy’n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni’r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol wrth ddelio â damweiniau posibl, peryglon i iechyd a’r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle mewn perthynas â’r canlynol:

  • dan lefel y ddaear
  • lleoedd cyfyng
  • gweithio mewn mannau uchel
  • offer, peiriannau a chyfarpar
  • deunyddiau a sylweddau
  • symud a storio deunyddiau drwy eu codi a’u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

P3
Dewis adnoddau


K11  pam mae nodweddion, ansawdd, defnydd, cynaliadwyedd, addasrwydd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau yn bwysig, a sut dylid rhoi gwybod am ddiffygion

K12  pam y dylid mabwysiadu arferion gwaith a deunyddiau cynaliadwy a moesegol

K13  y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer dewis adnoddau, pam maen nhw wedi cael eu datblygu a sut mae eu defnyddio

K14  sut mae cadarnhau bod yr adnoddau a’r deunyddiau’n cydymffurfio â’r fanyleb

K15  sut dylid defnyddio’r adnoddau a sut mae rhoi gwybod am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau ynglŷn â’r canlynol:

  • cyfarpar paratoi arwynebau
  • gorchuddion gwarchodol
  • systemau paent
  • systemau chwistrellu
  • offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
  • cyfarpar digidol


K16  sut mae nodi ac adrodd ar y peryglon sy'n gysylltiedig â’r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut maent yn cael eu rheoli mewn perthynas â datganiadau dull ac asesiadau risg

K17  dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a’r weithdrefn ar gyfer paratoi a phaentio arwynebau ar brosiectau cadwraeth neu adfer


P4
Lleihau'r risg o ddifrod

K18  sut mae diogelu gwaith a’r ardal o’i gwmpas rhag difrod a phwrpas diogelu rhag gweithgareddau cyffredinol yn y gweithle, gweithrediadau eraill a thywydd garw a sut mae lleihau difrod

K19  pa mor bwysig yw gwaredu gwastraff yn ddiogel, a sut mae gwneud hynny, yn unol â’r canlynol:

  • cyfrifoldebau amgylcheddol
  • gweithdrefnau’r sefydliad
  • gwybodaeth gwneuthurwyr
  • gwybodaeth cyflenwyr
  • rheoliadau statudol
  • canllawiau swyddogol

K20  pam mae’n bwysig cynnal ardal waith ddiogel, glir a thaclus


P5 Bodloni manyleb y contract

K21  sut mae'r dulliau gweithio i fodloni'r fanyleb yn cael eu cyflawni a sut mae problemau'n cael eu nodi a'u hadrodd drwy ddefnyddio gwybodaeth ar gyfer arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel, iach ac amgylcheddol sy'n ymwneud â'r canlynol:

  • sut i asesu gan ddefnyddio adroddiad byr ar gyflwr sylfaenol i gynorthwyo'r driniaeth arfaethedig:

    • asesiad gweledol o'r gwrthrych
    • cyflwr cyffredinol
  • sut i gymryd sampl neu ei anfon at arbenigwyr i bennu pa baent, cyfansoddion a deunyddiau sy'n bodoli'n barod i gyd-fynd â'r rhai sydd eisoes yno

  • sut i lenwi a thrwsio arwynebau mewnol ac allanol
  • pam fod angen cadw arwynebau sydd wedi'u peintio'n flaenorol
  • sut i dynnu a newid ffitiadau'n ddiogel
  • pryd i sylwi a rhoi gwybod y dylai arbenigwyr dynnu a newid ffitiadau
  • sut i baratoi, cadw ac adfer drysau, ffenestri, mowldinau pren, waliau, nenfydau a gwaith metel a baentiwyd yn fewnol (i atgynhyrchu'r gorffeniad a'r arddull wreiddiol neu bresennol)
  • sut i baratoi, cadw ac adfer drysau, ffenestri, gorffeniadau pren, waliau a gwaith metel a baentiwyd yn allanol (i atgynhyrchu'r gorffeniad a'r arddull wreiddiol neu bresennol)
  • sut i baentio gyda brwsh a rholiwr, gan gynnwys:

    • paent plwm
    • paent distemper ag olew a meddal
    • emylsiwn olew fflat
    • gwyngalch
  • sut mae gosod systemau chwistrellu i sicrhau diogelwch eich hunan ac eraill gan gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:

    • gwasgedd isel a chyfaint uchel (HVLP)
    • di-aer
    • di-aer wedi'i gynorthwyo ag aer
    • chwistrellu confensiynol
  • sut mae defnyddio amrywiaeth o systemau chwistrellu'n ddiogel gan gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny:

    • gwasgedd isel cyfaint uchel (HVLP)
    • di-aer
    • di-aer wedi'i gynorthwyo ag aer
    • chwistrellu confensiynol
  • pam ei bod yn bwysig dilysu ffyrdd priodol o wneud y gwaith

  • pam ei bod yn bwysig nodi arwynebeddau sensitif
  • pam ei bod yn bwysig cynnal treftadaeth a chyfanrwydd archaeolegol
  • pam ei bod yn bwysig cynnal egwyddorion ymyrraeth sylfaenol a newidiadau gwrthdroadwy
  • pam ei bod yn bwysig rhoi'r gorau i weithio pan fyddwch chi'n dechrau dyfalu a rhoi gwybod am eich canfyddiadau
  • pam fod angen cofnodi gwaith a wneir (mewn fformat ysgrifenedig neu ddigidol)
  • pam mae angen adnabod a rhoi gwybod am blanhigion ac anifeiliaid sydd mewn perygl ac wedi'u gwarchod
  • pam fod angen symud deunyddiau sydd wedi dirywio a deunyddiau amhriodol
  • pam mae angen integreiddio cydrannau neu orffeniadau adeiladol sy'n bodoli eisoes a rhai newydd
  • sut i storio ffabrigau, deunyddiau a chydrannau strwythurol y gellir eu hachub
  • sut i ddefnyddio pob math o offer llaw ac offer wedi'i bweru a chyfarpar ategol
  • sut a pham mae angen i'r gweithiwr sicrhau bod yr holl offer llaw a phŵer a chyfarpar ategol yn cael eu cynnal a'u cadw
  • sut mae gweithio mewn mannau uchel gan ddefnyddio cyfarpar mynediad
  • perthnasedd asesiad o arwyddocâd
  • sut mae nodi gofynion penodol ar gyfer y canlynol:

    • strwythurau o ddiddordeb arbennig
    • adeiladwaith traddodiadol
    • adeiladau anodd eu trin
    • arwyddocâd hanesyddol
  • sut mae gweithio gyda pheiriannau ac offer, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt


K22  gweithdrefnau’r sefydliad o ran ymddygiad ar y safle, a chydnabod a sicrhau tegwch, cynhwysiant a pharch o fewn yr amgylchedd gwaith, a sut i roi sylw i ymddygiad amhriodol ar y safle a rhoi gwybod amdano

K23  pwysigrwydd dulliau gweithio, cysylltiadau rhyngbersonol a chyfathrebu ac anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â pharatoi a phaentio arwynebau ar brosiectau cadwraeth neu adfer


P6
Amser a neilltuwyd

K24  y rhaglen ar gyfer gwneud y gwaith, gan gynnwys yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd, a pham y dylid cadw at derfynau amser neu roi gwybod os ydych yn debygol o fethu cadw atynt

K25  y mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd a amcangyfrifwyd, a gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith





Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Meh 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR551

Galwedigaethau Perthnasol

Paentio ac Addurno

Cod SOC

1234

Geiriau Allweddol

Cadwraeth; Adfer; Addurniadol; Diogelu; Paent; Brwsh; Rholer; Paentio ymylon