Dewis, paratoi a rhoi gorffeniadau ar strwythurau

URN: COSVR550
Sectorau Busnes (Suites): Sgiliau Treftadaeth (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 30 Meh 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â dewis, paratoi a rhoi gorffeniad ar strwythurau, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, yn unol â gofynion y sefydliad sy’n cyfateb i’r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu’n rhagori arnynt

Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol sgiliau treftadaeth a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Dehongli gwybodaeth**
P1  dehongli’r wybodaeth am y gwaith a’r adnoddau fel sy’n berthnasol i leoliad daearyddol a’r amodau hinsawdd i gadarnhau ei bod yn berthnasol ar gyfer y canlynol:

  • lluniadau
  • manylebau
  • rhestrau
  • datganiadau dull
  • asesiadau risg
  • gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr
  • cyfarwyddiadau llafar, ysgrifenedig neu electronig
  • rheoliadau, deddfwriaeth, canllawiau swyddogol a thrwyddedau cyfredol

Arferion gwaith diogel**
P2  cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol berthnasol a chanllawiau swyddogol i wneud y gwaith a chynnal arferion gwaith diogel am y canlynol:

  • dulliau gweithio
  • defnyddio cyfarpar diogelu personol priodol yn ddiogel 
  • defnyddio cyfarpar mynediad neu godi yn ddiogel
  • defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
  • defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
  • risgiau penodol i iechyd a diogelwch galwedigaethol gan gynnwys ymwybyddiaeth o iechyd meddwl
  • risgiau penodol sy’n gysylltiedig â deunyddiau peryglus neu rai sy’n cynnwys asbestos
  • risgiau penodol sy’n gysylltiedig â gwres, gronynnau, nwy a thrydan sy’n gysylltiedig â phrosesau, cyfarpar a deunyddiau

Dewis adnoddau**
P3  dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio ar gyfer y canlynol:

  • deunyddiau a chydrannau
  • offer a chyfarpar

Lleihau'r risg o ddifrod**
P4  cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas drwy:

  • gymryd camau perthnasol i ddiogelu’r mannau gwaith rhag difrod damweiniol neu anfwriadol
  • gweithio gydag ymwybyddiaeth o’r amgylchedd mewn cysylltiad â galwedigaethau eraill
  • cadw'r man gwaith yn lân ac yn daclus
  • gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Bodloni gofynion y contract**
P5  cydymffurfio â'r wybodaeth yn y contract i ddewis, paratoi a rhoi gorffeniad yn effeithlon yn unol â’r gofynion drwy:

  • ddangos sgiliau gwaith i wneud y canlynol:

    • asesu
    • samplu
    • marcio allan
    • tynnu
    • mesur neu ddogni
    • swp neu gymysgedd
    • codi
    • rhoi:

    • â llaw

    • yn fecanyddol

    • amddiffyn

    • ôl-ofal
    • diogelu
  • defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol

  • samplu, asesu a chofnodi gorffeniadau a deunyddiau presennol ar strwythurau
  • cael gwared â deunyddiau diffygiol a hefyd lleihau’r risg o ddifrod i’r gorffeniadau arwyneb sy’n cael eu cadw
  • dewis, paratoi, rhoi ar waith a gofalu am y defnydd o orffeniadau arwyneb newydd, wedi’u hatgyweirio, eu newid neu eu hadnewyddu ar strwythurau yn unol â chyfarwyddiadau gweithio:

    • pwyntio, ailbwyntio, llenwi bylchau
    • gorffeniadau wedi’u taflu â llaw
    • gorffeniadau fflôt
    • gwyngalch
  • dogni, cymysgu a rhoi gorffeniadau arwyneb yn unol â chyfarwyddiadau gweithio, gan gynnwys o leiaf un o’r canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny:

    • cotiau cysgodi
    • golchyddion lliw
    • gorffeniadau wedi’u marcio (pensil, llinell allanol a tycbwynt)
    • gweadedd neu blastr
    • araenu’n fecanyddol
  • cysylltu gorffeniadau arwyneb i strwythurau a gofalu amdanynt:

    • gwarchodaeth rhag amodau hinsoddol
    • creu a chynnal amgylcheddau ar gyfer caledu morterau
  • ystyried amodau daearyddol a hinsawdd wrth ddewis, paratoi a rhoi gorffeniadau arwyneb ar strwythurau


Amser a neilltuwyd**
P6  cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd, gan ystyried yr amodau hinsawdd, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad, y rhaglen waith ac i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


P1 Dehongli gwybodaeth**
K1  pam mae gweithdrefnau’r sefydliad wedi cael eu datblygu a sut maent yn cael eu rhoi ar waith

K2  mathau o wybodaeth, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli mewn perthynas â:

  • lluniadau
  • manylebau
  • rhestrau
  • datganiadau dull
  • asesiadau risg
  • gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr
  • gwybodaeth gytundebol
  • deddfwriaeth, rheoliadau, canllawiau swyddogol a thrwyddedau cyfredol, gan gynnwys adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt
  • cynlluniau ac adroddiadau cadwraeth
  • cyfarwyddiadau llafar, ysgrifenedig neu electronig

K3  pwysigrwydd gweithdrefnau sefydliadol o ran datrys problemau â gwybodaeth a pham mae’n bwysig eu dilyn

K4  gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol, gyfredol, canllawiau swyddogol a gofynion penodol i safle a sut mae’n cael ei rhoi ar waith

P2 Arferion gwaith diogel**
K5  sut dylid ymateb i argyfyngau yn unol ag awdurdodiad y sefydliad a sgiliau personol o ran y canlynol:

  • tanau a’r mathau o gyfarpar diffodd tân a sut a phryd y cânt eu defnyddio o ran dŵr, CO2, ewyn a phowdr
  • gollyngiadau ac anafiadau
  • argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
  • nodi ac adrodd am sylweddau peryglus gan gynnwys deunyddiau sy’n cynnwys asbestos a charbonad plwm, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny

K6  y gweithdrefnau diogelwch sefydliadol a phenodol i safle ar gyfer offer, peiriannau a chyfarpar mewn perthynas â’r canlynol:

  • safle
  • gweithle
  • cerbydau
  • cwmni
  • gweithwyr
  • cleientiaid
  • y cyhoedd

K7  yn gwybod sut mae rhoi gwybod am risgiau a pheryglon a nodwyd gan y canlynol:

  • dulliau gweithio
  • asesiadau risg
  • asesiad personol
  • gwybodaeth dechnegol gwneuthurwyr
  • rheoliadau statudol
  • canllawiau swyddogol
  • Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

K8  y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K9  pam, pryd a sut y dylid defnyddio’r cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch a nodir gan egwyddorion atal mewn perthynas â’r canlynol:

  • mesurau diogelu ar y cyd
  • cyfarpar diogelu personol (PPE)
  • cyfarpar diogelu anadlol (RPE)
  • awyru lleol sy'n gwacáu mygdarth (LEV)

K10  sut mae cydymffurfio ag arferion gwaith sy’n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni’r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol wrth ddelio â damweiniau posibl, peryglon i iechyd a’r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle mewn perthynas â’r canlynol:

  • dan lefel y ddaear
  • lleoedd cyfyng
  • gweithio mewn mannau uchel
  • offer, peiriannau a chyfarpar
  • deunyddiau a sylweddau
  • symud a storio deunyddiau drwy eu codi a’u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

P3 Dewis adnoddau**
K11  pam mae nodweddion, ansawdd, defnydd, cynaliadwyedd, addasrwydd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau yn bwysig, a sut dylid rhoi gwybod am ddiffygion

K12  pam y dylid mabwysiadu arferion gwaith a deunyddiau cynaliadwy a moesegol

K13  y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer dewis adnoddau, pam maen nhw wedi cael eu datblygu a sut mae eu defnyddio

K14  sut mae cadarnhau bod yr adnoddau a’r deunyddiau’n cydymffurfio â’r fanyleb

K15  sut dylid defnyddio’r adnoddau a sut mae rhoi gwybod am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau ynglŷn â’r canlynol:

  • is-haenau, cotiau sengl a chynhyrchion gorffeniad,
  • rendradau un gôt
  • gorchuddion amddiffynnol
  • agregau
  • calchoedd
  • smentiau
  • ffibrau
  • clai a phridd
  • ychwanegion
  • gleiniau a thrimiau
  • cyfarpar mesur a dogni
  • offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
  • cyfarpar digidol a chofnodi
  • dogfennau cofnodi

K16  sut mae nodi ac adrodd ar y peryglon sy'n gysylltiedig â’r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut maent yn cael eu rheoli mewn perthynas â datganiadau dull ac asesiadau risg

K17  dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a’r weithdrefn ar gyfer dewis, paratoi a rhoi gorffeniadau ar strwythurau

P4 Lleihau'r risg o ddifrod**
K18  sut mae diogelu gwaith a’r ardal o’i gwmpas rhag difrod a phwrpas diogelu rhag gweithgareddau cyffredinol yn y gweithle, gweithrediadau eraill a thywydd garw a sut mae lleihau difrod

K19  pa mor bwysig yw gwaredu gwastraff yn ddiogel, a sut mae gwneud hynny, yn unol â’r canlynol:

  • cyfrifoldebau amgylcheddol
  • gweithdrefnau’r sefydliad
  • gwybodaeth gwneuthurwyr
  • gwybodaeth cyflenwyr
  • rheoliadau statudol
  • canllawiau swyddogol

K20  pam mae’n bwysig cynnal ardal waith ddiogel, glir a thaclus

P5 Bodloni manyleb y contract**
K21  sut mae’r dulliau gweithio i fodloni’r fanyleb yn cael eu cyflawni a sut mae problemau’n cael eu nodi a’u hadrodd drwy ddefnyddio gwybodaeth ar gyfer arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel, iach ac amgylcheddol sy’n ymwneud â’r canlynol:

  • pam ei bod yn bwysig cynnal asesiadau, cymryd samplau a chofnodi, addasu a chyfateb gorffeniadau arwynebau â rhai presennol
  • sut mae cynnal asesiadau, cymryd samplau a chofnodi, addasu a chyfateb gorffeniadau arwyneb â rhai presennol
  • pam ei bod yn bwysig cael gwared â deunyddiau diffygiol oddi ar arwynebau sy’n cael eu cadw
  • sut mae symud deunyddiau diffygiol oddi ar arwynebau sy’n cael eu cadw
  • sut i fesur, dogni a dewis agregau, powdrau mân, pigmentau, morterau, anhydrolig, calch hydrolig, pwti calch, rendrad calch wedi’i addasu, morterau calch poeth ac ychwanegion i fodloni manylebau’r dasg
  • sut i deilwra cymarebau lle nad yw manylebau safonol yn ddigon i gyfateb â’r gorffeniadau arwyneb presennol
  • sut mae creu sypiau, cymysgu a defnyddio cynhwysion gorffeniadau arwyneb, gan gynnwys ychwanegion penodol
  • sut mae rhoi gorffeniadau arwyneb newydd, wedi’u hatgyweirio, eu newid neu eu hadnewyddu, y tu mewn a’r tu allan, a gofalu amdanynt:

    • sefydlogi arwynebau (llenwi bylchau)
    • pwyntio ac ailbwyntio
    • morterau a deunyddiau cotio calch
    • gorffeniadau wedi’u taflu â llaw (harl neu blastr garw) wedi’u chwistrellu a’u castio
    • gorffeniadau fflôt
    • gwyngalch
  • sut mae creu a chynnal amgylcheddau ar gyfer caledu a diogelu morterau

  • pam ei bod yn bwysig creu a chynnal amgylcheddau ar gyfer caledu a diogelu morterau
  • perfformiad gorffeniadau arwyneb o ran dŵr yn dod i mewn a’r posibilrwydd o ran cynyddu’r gallu i adeiladau sychu
  • manylion nodweddion i wneud i orffeniadau arwyneb bara’n hirach
  • defnydd hanesyddol o orffeniadau arwyneb
  • y rhesymau dros gael gwared â gorffeniadau yn y gorffennol fel rhan o newidiadau o ran arddull
  • pam mae canfyddiad y cyhoedd o ymddangosiad adeiladau hanesyddol yn bwysig
  • rheoliadau statudol a gofynion ar gyfer cydsyniadau cyfreithiol
  • pwysigrwydd dyluniad sgaffaldiau mynediad
  • y dulliau sy’n gysylltiedig â rheolaeth dŵr glaw dros dro
  • pam mae angen trefnu gwaith i atal difrod i orffeniadau sydd newydd gael eu rhoi
  • sut i roi deunyddiau cotio drwy ddulliau mecanyddol
  • sut mae plastro
  • pam ei bod yn bwysig diogelu a chaledu gorffeniadau, gan gynnwys ehangu a chywasgu ac osgoi cwympiadau, craciau mân a chrebachu
  • y dulliau o roi gorffeniadau a pha bryd yw’r amser gorau i’w ddefnyddio:

    • cotiau cysgodi
    • golchyddion lliw
    • gorffeniadau wedi’u marcio (pensil, llinell allanol a tycbwynt)
    • gweadedd neu blastro
    • rhoi araenu’n fecanyddol
  • adnabod morterau pridd

  • pam fod angen ystyried amodau daearyddol a hinsawdd wrth ddewis, paratoi a rhoi gorffeniadau arwyneb
  • sut i ddefnyddio pob math o offer llaw ac offer wedi'i bweru a chyfarpar cysylltiol
  • sut a pham mae angen i'r gweithiwr sicrhau bod yr holl offer llaw a phŵer a chyfarpar ategol yn cael eu cynnal a’u cadw
  • sut mae gweithio mewn mannau uchel gan ddefnyddio cyfarpar mynediad
  • perthnasedd asesiad o arwyddocâd
  • sut mae nodi gofynion penodol ar gyfer y canlynol:

    • strwythurau o ddiddordeb arbennig
    • adeiladwaith traddodiadol
    • adeiladau anodd eu trin
    • arwyddocâd hanesyddol
  • sut mae gweithio gyda pheiriannau ac offer, o’u cwmpas ac yn agos iawn atynt

K22  gweithdrefnau’r sefydliad o ran ymddygiad ar y safle, a chydnabod a sicrhau tegwch, cynhwysiant a pharch o fewn yr amgylchedd gwaith, a sut i roi sylw i ymddygiad amhriodol ar y safle a rhoi gwybod amdano

K23  pwysigrwydd dulliau gweithio, cysylltiadau rhyngbersonol a chyfathrebu ac anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â dewis, paratoi a rhoi gorffeniadau ar strwythurau

P6 Amser a neilltuwyd**
K24  y rhaglen ar gyfer gwneud y gwaith, gan gynnwys yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd, a pham y dylid cadw at derfynau amser neu roi gwybod os ydych yn debygol o fethu cadw atynt

K25  y mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd a amcangyfrifiwyd, a gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Meh 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR550

Galwedigaethau Perthnasol

Crefftau Adeiladu, Gweithwyr Adeiladu

Cod SOC

1234

Geiriau Allweddol

Gwyngalch; Llenwi craciau; Pwyntio; Ailbwyntio; Plastro; Pigmentau