Cadw neu adfer gwaith maen, gwaith brics neu strwythurau pridd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chadw neu adfer gwaith maen, gwaith brics neu strwythurau pridd, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, yn unol â gofynion y sefydliad sy'n cyfateb i'r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu'n rhagori arnynt  
Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol sgiliau treftadaeth a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio  
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Dehongli gwybodaeth  
P1 dehongli’r wybodaeth am y gwaith a’r adnoddau fel sy’n berthnasol i leoliad daearyddol a’r amodau hinsawdd i gadarnhau ei bod yn berthnasol ar gyfer y canlynol:  
- lluniadau
 - manylebau
 - rhestrau
 - datganiadau dull
 - asesiadau risg
 - gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr
 - cyfarwyddiadau llafar, ysgrifenedig neu electronig
 - rheoliadau, deddfwriaeth, canllawiau swyddogol a thrwyddedau cyfredol
 
  
Arferion gwaith diogel  
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol berthnasol a chanllawiau swyddogol i wneud y gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach am y canlynol:  
- dulliau gweithio
 - defnyddio cyfarpar diogelu personol priodol yn ddiogel
 - defnyddio cyfarpar mynediad neu godi yn ddiogel
 - defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
 - defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
 - risgiau penodol i iechyd a diogelwch galwedigaethol gan gynnwys ymwybyddiaeth o iechyd meddwl
 - risgiau penodol sy’n gysylltiedig â deunyddiau peryglus neu rai sy’n cynnwys asbestos
 - risgiau penodol sy’n gysylltiedig â gwres, gronynnau, nwy a thrydan sy’n gysylltiedig â phrosesau, cyfarpar a deunyddiau
 
  
Dewis adnoddau  
P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio ar gyfer y canlynol:  
- deunyddiau a chydrannau
 - offer a chyfarpar
 
  
Lleihau'r risg o ddifrod  
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas drwy:  
- gymryd camau perthnasol i ddiogelu’r mannau gwaith rhag difrod damweiniol neu anfwriadol
 - gweithio gydag ymwybyddiaeth o’r amgylchedd mewn cysylltiad â galwedigaethau eraill
 - cadw'r man gwaith yn lân ac yn daclus
 - gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
 
  
Bodloni gofynion y contract  
P5 cydymffurfio â’r wybodaeth gontract i warchod neu adfer gwaith maen, gwaith brics neu strwythurau pridd yn effeithlon yn unol â’r fanyleb ofynnol drwy:  
ddangos sgiliau gwaith i wneud y canlynol:
- mesur
 - marcio allan
 - tynnu
 - glanhau allan
 - adnewyddu
 - siapio
 - cynnal
 - propio
 - pwyslathu
 - sythu
 - lefelu
 - ffitio
 - gorffeniad
 - lleoli a diogelu
 
defnyddio a chynnal a chadw offer llaw ac offer pŵer a chyfarpar ategol
paratoi, cadw, atgyweirio neu adnewyddu gwaith maen, gwaith brics neu strwythurau pridd presennol yn unol â’r cyfarwyddiadau gweithio a roddir, mewn perthynas â’r canlynol:
- atgynhyrchu strwythurau presennol
 - sefydlogi’r strwythurau presennol
 - paratoi morterau sy’n briodol i’r
 - gorffeniad uniadau
 - gorffeniadau arwyneb
 
  
Amser a neilltuwyd  
P6 wblhau'r gwaith o fewn yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd, gan ystyried yr amodau hinsawdd, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad, y rhaglen waith ac i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient  
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
P1 Dehongli gwybodaeth  
K1 pam mae gweithdrefnau’r sefydliad wedi cael eu datblygu a sut maent yn cael eu rhoi ar waith  
K2 mathau o wybodaeth, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli mewn perthynas â:  
- lluniadau
 - manylebau
 - rhestrau
 - datganiadau dull
 - asesiadau risg
 - gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr
 - gwybodaeth gytundebol
 - deddfwriaeth, rheoliadau, canllawiau swyddogol a thrwyddedau cyfredol, gan gynnwys adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt
 - cynlluniau ac adroddiadau cadwraeth
 - cyfarwyddiadau llafar, ysgrifenedig neu electronig
 
K3 pwysigrwydd gweithdrefnau sefydliadol o ran datrys problemau â gwybodaeth a pham mae’n bwysig eu dilyn  
  
P2 Arferion gwaith diogel  
K4 gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol, gyfredol, canllawiau swyddogol a gofynion penodol i safle a sut mae’n cael ei rhoi ar waith  
K5 sut dylid ymateb i argyfyngau yn unol ag awdurdodiad y sefydliad a sgiliau personol o ran y canlynol:  
- tanau a’r mathau o gyfarpar diffodd tân a sut a phryd y cânt eu defnyddio o ran dŵr, CO2, ewyn a phowdr
 - gollyngiadau ac anafiadau
 - argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
 
nodi ac adrodd am sylweddau peryglus gan gynnwys deunyddiau sy’n cynnwys asbestos a charbonad plwm, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny
K6 y gweithdrefnau diogelwch sefydliadol a phenodol i safle ar gyfer offer, peiriannau a chyfarpar mewn perthynas â’r canlynol:
- safle
 - gweithle
 - cerbydau
 - cwmni
 - gweithwyr
 - cleientiaid
 - y cyhoedd
 
- dulliau gweithio
 - asesiadau risg
 - asesiad personol
 - gwybodaeth dechnegol gwneuthurwyr
 - rheoliadau statudol
 - canllawiau swyddogol
 - Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
 
K8 y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny  
K9 pam, pryd a sut y dylid defnyddio’r cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch a nodir gan egwyddorion atal mewn perthynas â’r canlynol:  
- mesurau diogelu ar y cyd
 - cyfarpar diogelu personol (PPE)
 - cyfarpar diogelu anadlol (RPE)
 - awyru lleol sy'n gwacáu mygdarth (LEV)
 
K10 sut mae cydymffurfio ag arferion gwaith sy’n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni’r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol wrth ddelio â damweiniau posibl, peryglon i iechyd a’r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle mewn perthynas â’r canlynol:  
- dan lefel y ddaear
 - lleoedd cyfyng
 - gweithio mewn mannau uchel
 - offer, peiriannau a chyfarpar
 - deunyddiau a sylweddau
 - symud a storio deunyddiau drwy eu codi a’u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
 
  
P3 Dewis adnoddau  
K11 pam mae nodweddion, ansawdd, defnydd, cynaliadwyedd, addasrwydd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau yn bwysig, a sut dylid rhoi gwybod am ddiffygion  
K12 pam y dylid mabwysiadu arferion gwaith a deunyddiau cynaliadwy a moesegol  
K13 y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer dewis adnoddau, pam maen nhw wedi cael eu datblygu a sut mae eu defnyddio  
K14 sut mae cadarnhau bod yr adnoddau a’r deunyddiau’n cydymffurfio â’r fanyleb  
K15 sut dylid defnyddio’r adnoddau a sut mae rhoi gwybod am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau ynglŷn â’r canlynol:  
- pren, propiau, brics, meini, agregau, smentiau, calch, morter (calch a smentiau), pridd, rhwystrau atal lleithder (llechi), deunydd inswleiddio, gosodiadau, cyfarpar ôl-ofal ac eitemau ategol cysylltiedig
 - offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
 - cyfarpar digidol
 
K16 sut mae nodi ac adrodd ar y peryglon sy'n gysylltiedig â’r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut maent yn cael eu rheoli mewn perthynas â datganiadau dull ac asesiadau risg  
K17 dulliau o gyfrifo’r niferoedd, yr hyd, yr arwynebedd a’r gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a’r weithdrefn ar gyfer cadw neu adfer gwaith maen, gwaith brics, neu strwythurau pridd  
  
P4 Lleihau'r risg o ddifrod  
K18 sut mae diogelu gwaith a’r ardal o’i gwmpas rhag difrod a phwrpas diogelu rhag gweithgareddau cyffredinol yn y gweithle, gweithrediadau eraill a thywydd garw a sut mae lleihau difrod  
K19 pa mor bwysig yw gwaredu gwastraff yn ddiogel, a sut mae gwneud hynny, yn unol â’r canlynol:  
- cyfrifoldebau amgylcheddol
 - gweithdrefnau’r sefydliad
 - gwybodaeth gwneuthurwyr
 - gwybodaeth cyflenwyr
 - rheoliadau statudol
 - canllawiau swyddogol
 
K20 pam mae'n bwysig cynnal ardal waith ddiogel, glir a thaclus  
P5 Bodloni manyleb y contract**  
K21 sut mae’r dulliau gweithio i fodloni’r fanyleb yn cael eu cyflawni a sut mae problemau’n cael eu nodi a’u hadrodd drwy ddefnyddio gwybodaeth ar gyfer arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel, iach ac amgylcheddol sy’n ymwneud â’r canlynol:  
- sut mae codi a datgymalu cynhaliad dros dro i strwythurau
 - sut mae atgynhyrchu strwythurau presennol yn unol â’r fanyleb y cytunwyd arni (atgyweiriad gonest)
 - sut i sefydlogi strwythurau
 - pam ei bod yn bwysig gorffen uniadau yn unol â’r fanyleb y cytunwyd arni
 - pam ei bod yn bwysig paratoi morterau yn unol â’r fanyleb y cytunwyd arni
 - sut i rendro arwynebau
 - pam fod angen dilysu ffyrdd priodol y dylid gwneud y gwaith
 - sut i adnabod meysydd sensitif
 - pam ei bod yn bwysig cynnal treftadaeth a chyfanrwydd archaeolegol
 - pam ei bod yn bwysig cynnal egwyddorion ymyrraeth sylfaenol a newidiadau gwrthdroadwy
 - pam fod angen rhoi’r gorau i weithio pan fyddwch chi’n dechrau dyfalu a rhoi gwybod am eich canfyddiadau
 - pam fod angen cofnodi gwaith a wneir (mewn fformat ysgrifenedig a digidol)
 - pam mae angen adnabod a rhoi gwybod am blanhigion ac anifeiliaid sydd mewn perygl ac wedi’u gwarchod
 - sut i symud deunyddiau sydd wedi dirywio a rhai amhriodol
 - pam fod angen cynnal y strwythur presennol
 - sut mae integreiddio cydrannau neu orffeniadau adeiladol presennol a newydd
 - sut i storio deunyddiau a chydrannau strwythurol y gellir eu hachub
 - sut i ddefnyddio pob math o offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
 - sut mae gweithio mewn mannau uchel gan ddefnyddio cyfarpar mynediad
 - perthnasedd asesiad o arwyddocâd
 sut mae nodi gofynion penodol ar gyfer y canlynol:
- strwythurau o ddiddordeb arbennig
 - adeiladwaith traddodiadol
 - adeiladau anodd eu trin
 - arwyddocâd hanesyddol
 
sut mae gweithio gyda pheiriannau ac offer, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt
- sut a pham mae angen i'r gweithiwr sicrhau bod yr holl offer llaw a phŵer a chyfarpar ategol yn cael eu cynnal a’u cadw
 
K22 gweithdrefnau’r sefydliad o ran ymddygiad ar y safle, a chydnabod a sicrhau tegwch, cynhwysiant a pharch o fewn yr amgylchedd gwaith, a sut i roi sylw i ymddygiad amhriodol ar y safle a rhoi gwybod amdano  
K23 pwysigrwydd dulliau gweithio, cysylltiadau rhyngbersonol a chyfathrebu ac anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â chadw neu adfer gwaith maen, gwaith brics neu strwythurau pridd  
  
P6 Amser a neilltuwyd  
K24 y rhaglen ar gyfer gwneud y gwaith, gan gynnwys yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd, a pham y dylid cadw at derfynau amser neu roi gwybod os ydych yn debygol o fethu cadw atynt  
K25 y mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd a amcangyfrifwyd, a gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith